Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Fe wnaf hebddo.
Mae'r argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad pwyllgor hwn yn datgan:
'Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, adnewyddu ei strategaeth coetir gyda'r nod o gynyddu'r cyfraddau plannu yn sylweddol.'
A dywed ei argymhelliad olaf:
'rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y drefn ariannu yn y dyfodol yn cael ei seilio ar ganlyniadau cynaliadwy.'
Fodd bynnag, mae'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd yn datgan, er bod coedwigoedd yng Nghymru yn cael eu rheoli yn ôl safon coedwigaeth y DU, sy'n diffinio rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy fel y sail ar gyfer strategaeth 'Coetiroedd i Gymru', yn aml, caiff plannu coed ei ystyried mewn goleuni negyddol, mae asiantaethau Llywodraeth, asiantaethau anllywodraethol a chymdeithas yn gwrthwynebu newid defnydd tir, gan arwain at ragdybiaeth yn erbyn creu coetiroedd a cholli manteision coedwigaeth fodern gymysg i bobl a'r amgylchedd.
Felly maent yn galw am dderbyn newid mewn defnydd tir ar raddfa fawr, Llywodraeth sy'n barod i hyrwyddo coedwigoedd, ac ymgyrch genedlaethol dros goedwigaeth a choed Cymru, gan ddatgan y bydd Cymru'n elwa oherwydd bod coedwigaeth fodern yn gweithredu safon cynaliadwyedd byd-eang sy'n gadael sectorau eraill ymhell ar ei hôl hi ac yn cynhyrchu deunydd naturiol, hyblyg a chwbl adnewyddadwy, gan greu lleoedd bywiog ar gyfer hamdden a bioamrywiaeth yn y broses. Ond dywedant hefyd, yn ogystal â chynhyrchu pren, fod yn rhaid cynllunio coedwigoedd i liniaru llifogydd a gwarchod cynefinoedd a rhywogaethau pwysig.
Fel y dywedais yn fy natganiad 90 eiliad yn gynharach, mae'r gylfinir yn arbennig. Mae'n un o'n rhydyddion mwyaf gyda chân hardd, swynol, ond mae'r rhywogaeth adar hon mewn trafferthion difrifol ar draws rhannau helaeth o Brydain. Rhwng 1994 a 2016, gostyngodd poblogaeth gylfinirod 68 y cant yng Nghymru. Fel y dywedodd hyrwyddwr rhywogaeth Cymru ar ran y gylfinir, aderyn yr effeithiwyd arno'n ddifrifol yn hanesyddol yn sgil plannu coedwigoedd mewn lleoliadau amhriodol yn yr ucheldiroedd, rwy'n awyddus i sicrhau, er bod gan ehangu coetiroedd yng Nghymru botensial i wneud cyfraniad sylweddol tuag at sicrhau ecosystemau coetiroedd gwydn, fod yn rhaid eu lleoli'n briodol. Nodwyd bod ehangu coetiroedd yn amhriodol yn fygythiad allweddol i gynefinoedd yr ucheldir a'r rhywogaethau a welir yno. Mae hyn yn cynnwys y gylfinir, sydd angen ardaloedd mawr o gynefin agored ar gyfer nythu. Mae lleoli coetiroedd newydd ar neu wrth ymyl ardaloedd mynyddig sensitif yn arwain at golli cynefin a newidiadau mewn llystyfiant, gan leihau'r nifer o safleoedd nythu addas sydd ar gael ar gyfer yr adar hyn sy'n nythu ar y ddaear.
Fel y dywed yr RSPB, mae ehangu coetiroedd mewn lleoliadau priodol ac wedi'u cynllunio'n dda yn gallu cyfrannu'n sylweddol at adfer a gwella bioamrywiaeth coetiroedd yng Nghymru. Bydd canolbwyntio ehangu coetiroedd ar glustogi a chysylltu coetiroedd presennol yn gwella gwydnwch ecosystemau coetiroedd, a rhaid cynllunio coetiroedd newydd i ddarparu'r pecyn llawn o ofynion rhywogaethau—lleoedd i nythu, ffynonellau bwyd i gywion ac adar llawndwf yn ystod y tymor nythu a bwyd gaeaf ar gyfer adar llawndwf. Os ydym am ddarparu manteision bioamrywiaeth go iawn yn ogystal â chynyddu arwynebedd coetiroedd ardystiedig, mae angen monitro priodol i sicrhau bod coetiroedd ardystiedig yn cyflawni ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth. Mae methiant i fonitro'r effeithiau yn creu risg y bydd creu coetiroedd yn effeithio'n negyddol ar gynefinoedd a rhywogaethau.
Er mwyn sicrhau bod ehangu coetiroedd yng Nghymru yn darparu'r amrywiaeth lawnaf bosibl o fanteision gan gyfyngu ar yr effeithiau negyddol posibl, rhaid i'r data a ddefnyddir i lywio'r gwaith o ehangu coetiroedd fod yn addas i'r diben. Os ydym am sicrhau bod ehangu coetiroedd yn osgoi effeithiau negyddol ar rywogaethau cynefinoedd agored, rhaid diweddaru'r data sylfaenol a'i adolygu'n rheolaidd, a rhaid iddo gynnwys yr amrywiaeth lawn o rywogaethau yr effeithir arnynt. Rhaid i gynlluniau coedwigoedd fod yn seiliedig ar gyflawni amcanion dymunol, a lle bo'n bosibl, wedi eu cynllunio i sicrhau'r budd mwyaf posibl. Dylai cynlluniau cynhyrchu pren anelu i gyflawni ystod o fanteision gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, llif dŵr ac ansawdd, a chyfleoedd hamdden ochr yn ochr â chynhyrchiant coed cynaliadwy.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae ehangu coetiroedd yng Nghymru wedi'i gyfyngu i greu coetiroedd bach niferus, gyda llawer ohonynt wedi eu lleoli ar ffermydd, drwy gynllun creu coetir Glastir a chynllun grantiau bach Glastir. Mae llawer o'r coetiroedd hyn wedi cynnwys plannu'r ardaloedd diwethaf o gynefin lled-naturiol sydd ar ôl yn y dirwedd, ac mae colli'r llochesi diwethaf hyn yn debygol o effeithio'n sylweddol ar fywyd gwyllt y fferm. Bydd sicrhau bod effeithiau ehangu coetiroedd wedi eu deall yn llawn yn hanfodol er mwyn osgoi problemau yn y dyfodol, ac ni ellir cyflawni hyn heb fonitro priodol. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu'r gwersi o ymarfer coedwigaeth wael yn hanesyddol. Os ydym am ddiogelu ein hadnoddau naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae sicrhau bod y gwaith o ehangu coetiroedd yn osgoi effeithio'n negyddol ar y rhywogaethau a'r cynefinoedd sy'n sylfaen i'n hadnoddau naturiol yn hanfodol.