Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gallu cefnogi a chyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma. Mae prif elfen y ddadl hon, fel y crybwyllodd Lee Waters, yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus fodern i leddfu'r pwysau ar ein rhwydwaith ffyrdd. Nid wyf yn credu bod hyn yn ddadleuol. Wel, yn sicr ni ddylai fod. Mae'n ymddangos mai synnwyr cyffredin ydyw, ond pa mor aml dros y degawdau diwethaf rydym wedi colli golwg ar drafnidiaeth? Bu hon yn broblem ers tro, nid yn unig gydag un Llywodraeth, ond i lawer o Lywodraethau dros nifer o flynyddoedd a nifer o ddegawdau.
Mae'n rhesymol meddwl, os gallwn gael mwy o bobl ar fysiau a threnau—a thramiau, yn wir—y bydd mwy o le ar ein ffyrdd ar gyfer modurwyr sydd wir angen eu defnyddio. Wrth gwrs, ar yr un pryd, dylai creu ceir awtonomaidd, a drafodwyd gennym yn y Siambr hon yn ddiweddar, gynyddu capasiti ffyrdd ymhellach gan fod technoleg gyfrifiadurol yn lleihau'r pellteroedd stopio sydd ei angen ar ein ffyrdd, ac felly gallwn gynyddu'r capasiti yno, ond mae hynny'n rhywbeth ar gyfer dadl arall.
Hoffwn bwysleisio nad wyf yn gweld hyn fel rhywbeth sy'n ymwneud â chosbi'r modurwr, a chredaf fod yna deithiau pan oedd y car yn frenin ac y bydd yn frenin, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, lle mae hi bob amser yn anodd cau rhai o'r bylchau hyn. Ond yn syml iawn, ni wnaed digon i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus dros y blynyddoedd a'r degawdau yn dilyn yr ail ryfel byd hyd heddiw. Felly, rydym yn croesawu'n frwd unrhyw gynlluniau i ddatblygu metro de Cymru, sydd yn y cynnig—cam cyntaf, beth bynnag—a hefyd metro gogledd Cymru, sydd hefyd wedi'i grybwyll yng ngeiriad y cynnig. Ond mae angen inni symud ymlaen o'r cysyniad i brosiectau parod, a bwrw ymlaen gyda'r gwaith.
Yn amlwg, bydd rhannau o fap y metro yn haws i'w cyflawni nag eraill—er enghraifft, cyswllt tram, y siaredir yn aml amdano, o ganol dinas Caerdydd i fae Caerdydd, adfer rheilffyrdd tram eraill ar draws y brifddinas efallai, a defnyddio rheilffyrdd presennol y Cymoedd, gan fod y seilwaith yno eisoes. Mae tramiau'n wych, wrth gwrs, oherwydd gallant redeg ar reilffyrdd a ffyrdd, ac maent yn hollol lân o ran yr allyriadau trefol na chânt eu rhyddhau, yn wahanol i fysiau a mathau eraill o drafnidiaeth.
Wrth gwrs, mae gwir angen gwell seilwaith arnom yn yr ardaloedd gwledig a grybwyllais yn gynharach, lle y ceir gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus anghyson iawn ar hyn o bryd. Gwyddom yn iawn pa mor ddrud y gallai adfer y seilwaith rheilffyrdd fod—llawer drutach yn y tymor byr na gwasanaethau bysiau. Gwn fod rhywfaint o waith wedi'i wneud dros y blynyddoedd ar adfer rheilffordd dyffryn Gwy yn fy ardal i o Gas-gwent i Drefynwy, ond byddai'n afresymol o ddrud, fel y byddai rhai cynlluniau rheilffyrdd eraill.
Rwy'n aml yn cellwair y gallech deithio yn 1950 o fy mhentref yn Rhaglan i Gaerdydd ar y trên yn rhwydd—cymaint yr hiraethwn am y dyddiau hynny. Rydym yn sôn am gynnydd—mewn rhai ffyrdd, nid yw'n ymddangos ein bod wedi symud ymlaen. Drigain mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'r gwasanaeth hwnnw yno, ac roedd yn haws o lawer i'w wneud. Heddiw, yn fy etholaeth, mewn gwirionedd mae'n hawdd iawn cymudo i Gaerdydd yn y bore o Drefynwy ar fysiau a threnau, ond fel y dywedodd Lee Waters, y broblem yw cyrraedd yn ôl mewn gwirionedd—nid yw hynny mor syml. Credaf fod y bws olaf o Gasnewydd yn mynd tua 5.30 p.m., efallai ychydig ar ôl hynny, a'r un pryd yn y Fenni. Felly, mae ar ben arnoch wedyn; nid yw'n rhoi digon o amser i chi fynd o'ch man gwaith i Heol y Frenhines Caerdydd, i orsaf Caerdydd Canolog, i Gasnewydd mewn pryd ar gyfer y cysylltiad, felly rydych wedyn yn ddibynnol ar dacsis, bodio neu bas gan ffrindiau, felly nid yw hynny'n ddigon da.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen datrys y problemau hyn er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn hyfyw fel y mae pawb ohonom am iddi fod. Nid yw hynny'n golygu nad ydym wedi gweld datblygiadau cadarnhaol dros y blynyddoedd diwethaf, gyda rhai gorsafoedd newydd ac eraill ar y gorwel—gorsaf newydd wedi ei haddo ym Magwyr. Rwyf wedi crybwyll y posibilrwydd wrthych o hyb yn y Celtic Manor ger y ganolfan gynadledda arfaethedig, a pho fwyaf y meddyliaf am hyn, y mwyaf y credaf ei fod yn ateb i nifer o'n problemau yn ne-ddwyrain Cymru. Gwn eich bod yn agored i hyn. Byddai'n fater wedyn o gludo teithwyr o Gasnewydd i'r hyb a phoeni wedyn am ail gam eu taith o'r hyb ymlaen i ardaloedd gwledig a thu hwnt ar ôl hynny. Felly, byddai o bosibl yn chwalu'r rhwystrau presennol sydd yno.
Ac wrth gwrs, mae'n ymwneud â mwy na'r drafnidiaeth yn unig—mae tocynnau'n hollbwysig hefyd, a greal sanctaidd tocynnau integredig a di-dor, syniad gwych yn ymarferol ond peth cythreulig o anodd ei gyflawni, fel y dywedodd yr Athro Stuart Cole yn gofiadwy pan oeddem yn ystyried y mater yn y pwyllgor economi a thrafnidiaeth yn y Cynulliad diwethaf. Gall y dechnoleg ddiweddaraf chwarae rhan bwysig yn helpu i gyflawni'r amcanion hyn. Mae apiau ar ffonau yn fwy tebygol o roi'r wybodaeth ddiweddaraf na'r amserlenni bysiau confensiynol, sydd fel arfer ddyddiau neu wythnosau allan ohoni o ran y dyddiad, os nad yn waeth. A beth fydd yn digwydd os na weithredwn ni? Wel, rydym wedi gweld y problemau ar yr M4. Rwy'n meddwl bod fy nhawedogrwydd ynglŷn â'r M4 newydd yn hysbys. Heb ystyried y materion amgylcheddol, rwy'n credu bod y gorffennol wedi dangos os ydym yn dibynnu ar adeiladu ffyrdd heb ddatblygu trafnidiaeth gyhoeddus ar yr un pryd, byddwn yn wynebu trafferthion difrifol yn y pen draw.
Ddirprwy Lywydd, credaf fod paragraff olaf y cynnig yn hollbwysig. Rhaid i Trafnidiaeth Cymru gael pŵer, rhaid iddo gael dannedd fel y nododd Lee Waters, i lwyddo ac nid i fod yn siop siarad yn unig, a chredaf fod datganoli Comisiynydd Traffig i Gymru yn ddechrau da iawn. Ond gadewch inni fwrw ymlaen â'r gwaith a darparu system drafnidiaeth gyhoeddus yn y dyfodol y gall Cymru fod yn falch ohoni.