Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Efallai y bydd angen i'r car deyrnasu mewn ardaloedd gwledig, ond mewn ardaloedd trefol yng nghanol dinasoedd fel Caerdydd mae'n rhaid i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn opsiwn diofyn i'r rhai sy'n anfodlon neu'n analluog i gerdded neu feicio. Mae pobl yng Nghaerdydd yn dechrau gwisgo mygydau wyneb fel y gwnânt yn Beijing. Dyma ganlyniad yr ymagwedd gwneud dim i 80,000 o bobl yn cymudo i Gaerdydd a Chasnewydd o awdurdodau cyfagos drwy ddefnyddio ceir. Mae tagfeydd ar ffyrdd yr holl ranbarth ar adegau brig. Os yw Llywodraeth Cymru yn methu gweithredu ynghylch y lefelau llygredd aer anghyfreithlon, byddant yn gorfod wynebu'r llysoedd, a bydd hynny'n costio swm enfawr o arian y gallem fod yn ei wario ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae pobl eisiau gwneud y peth iawn. Tyfodd y galw am reilffyrdd o 20 miliwn o deithiau gan deithwyr i 30 miliwn yn ystod y degawd diwethaf. Ar reilffyrdd y Cymoedd yn unig oedd hynny. Mae'n amhosibl ysgogi mwy o bobl allan o'u ceir ac ar wasanaethau trên heb gynyddu'r capasiti, felly un o'r pethau y mae angen i ni ei wybod yw: ar ba bwynt yn y contract ar gyfer darparwr masnachfraint newydd y rheilffyrdd y ceir mwy o gapasiti a thocynnau trosglwyddadwy er mwyn galluogi mwy o bobl i wneud y peth iawn?
Mae'r cynnig hwn yn croesawu'r ymrwymiad i gamau cyntaf metro de Cymru, ond rwyf am ofyn: ble mae'r gweddill? Mae'n bum mlynedd ers adroddiad Mark Barry, 'A Metro for Wales' Capital City Region', a dwy flynedd ers i fwrdd prifddinas-ranbarth Caerdydd nodi y gallai system drafnidiaeth integredig, i gyd-fynd â chynllunio defnydd tir, fod yn gatalydd ar gyfer newid economaidd ar draws y rhanbarth. Ac wrth wraidd y dyhead hwn mae'r weledigaeth fetro am rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus modern amlfodd integredig o ansawdd uchel.
Disgwylir i ardal fenter Canol Caerdydd ddenu miloedd o swyddi i Gymru, ond cysylltiad metro cyflym yn unig a fydd yn galluogi pobl Cymoedd de Cymru i gyrraedd y swyddi hyn. Addawyd mynediad i fewnfuddsoddwyr at 1.5 miliwn o bobl a allai gymudo o fewn 30 munud, ac ni ellir cyflawni hynny heb y metro. Cysylltiad metro cyflym yn unig a all ddarparu ar gyfer y degau o filoedd o deithiau byr rhagweladwy y mae pobl yn eu gwneud bob dydd i ac o'r gwaith a'r ysgol.
Felly, mae'r consensws yno, ond ble mae'r arian? Gwyddom fod £734 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer metro de Cymru, a daw £250 miliwn ohono gan Lywodraeth Cymru a £375 miliwn gan Lywodraeth y DU, sy'n cynnwys £150 miliwn ar gyfer trydaneiddio. Wedyn, ceir oddeutu £120 miliwn a £130 miliwn o arian Ewropeaidd. Felly, yn y £375 miliwn hwn y mae Llywodraeth y DU wedi ei addo, ceir swm amodol o £125 miliwn i drydaneiddio rheilffordd y Cymoedd, os yw Llywodraeth Cymru hefyd yn rhoi o leiaf £325 miliwn tuag at drydaneiddio. Os nad yw'n gwneud hynny, gallai'r £125 miliwn gan Lywodraeth y DU gael ei dynnu'n ôl. Felly, rwy'n pryderu ein bod yn mynd i roi o leiaf £450 miliwn o'r £734 miliwn tuag at drydaneiddio, ac nad yw'n gosteffeithiol.
Mae topograffeg a nifer yr arosfannau ar reilffyrdd y Cymoedd yn golygu na fydd trenau trydan trwm byth yn cyrraedd cyflymder uwch na 50 milltir yr awr a gall tramiau gyflawni hynny. Fel Nick Ramsay, rwy'n frwd o blaid y tram. Mae'n ddewis llawer rhatach. Mae'n golygu, o Bontypridd, yn hytrach na chwech neu saith trên yr awr wedi eu trydaneiddio, y gallwch gael 10 i 12 o dramiau cyflym. O Ferthyr Tudful, gallech gael tri neu bedwar tram yr awr yn lle dau drên yr awr. Ni fyddwch yn gallu lleihau'r amser teithio o Ferthyr Tudful i 40 munud hyd nes y gwnewch hynny—ni allwch wneud hynny â cherbydau trwm—oherwydd gallwch redeg trenau ysgafn yn llawer nes at ei gilydd ac maent yn stopio'n gyflymach o lawer.
Felly, beth os yw cynigydd llwyddiannus y fasnachfraint reilffyrdd yn dweud bod trydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd yn wastraff arian ac mai dull llawer mwy costeffeithiol yw rheilffyrdd ysgafn ar bob un neu bron bob un o reilffyrdd y Cymoedd? A fydd yn rhaid i Lundain ddweud wrthym beth i'w wneud a bwrw ymlaen â dull llai effeithiol, sy'n fwy costus? Beth y mae hynny'n ei ddweud am awydd Llywodraeth Cymru i weld y diwydiant yn darparu'r ateb o ran pa fath o drafnidiaeth a fydd yn gweithio orau drwy brofi'r farchnad a phrosesau cynigion caffael yn y pen draw? Rwyf am sicrhau ein bod yn gallu gwneud y peth iawn fel bod gennym ddigon o arian i gael gweddill y weledigaeth fetro ynghylch rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, gyda system docynnau ganoledig, a'i gwneud yn gosteffeithiol. Er mwyn cael gweddill yr arian, punt am bunt, rydym yn gwybod bod milltir o gostau buddsoddi yn y rheilffyrdd yn costio tua'r un faint â milltir o draffordd ond mae'n sicrhau budd i hyd at 20 gwaith yn fwy o bobl. Rhaid inni roi'r gorau i chwilio am fuddsoddiad car-ganolog a buddsoddi mewn system trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig os ydym am ddarparu dewis amgen ymarferol.
Dyma'r newid—