Part of the debate – Senedd Cymru am 4:52 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch i'r Aelodau sy'n gyfrifol am gyflwyno'r ddadl hon i'r Siambr, er nad wyf yn siŵr, wrth ddilyn y datganiadau Cabinet ddoe a'r ymatebion a ddilynodd, fod llawer i ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd o'r blaen. Ond yn nhraddodiad gwych gwleidyddion, ni adawaf i hynny fy atal. Derbynnir yn gyffredinol fod taer angen i Gymru gael system drafnidiaeth integredig fodern, a dylai fod yn un sy'n gosod Cymru ar y blaen o ran yr hyn sy'n gwneud rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus blaenllaw. Ni fyddwn yn gallu symud oddi wrth seilwaith ffyrdd a thagfeydd traffig, wedi ei waethygu gan ein gorddibyniaeth ar y car heb weithredu system o'r fath.
Rhaid i ni gydnabod bod topograffeg Cymru yn rhwystr i sicrhau system drafnidiaeth ddi-dor, ond o ystyried y strategaeth gywir a'r ymrwymiad ariannol, wrth gwrs, nid oes unrhyw reswm pam na ellir cyflawni amcanion Llywodraeth Cymru. Nid oes amheuaeth fod system drafnidiaeth wedi'i hintegreiddio'n dda yn creu manteision enfawr, yn economaidd ac yn gymdeithasol, felly mae'n hanfodol fod y system fetro a gynlluniwyd, yng ngogledd a de Cymru yn cael ei gweithredu gydag amserlen bendant ac amserol.
Er bod y defnydd o drenau wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n dal yn wir mai bysiau sy'n cludo 80 y cant o'r bobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae'n hanfodol fod y gwasanaethau hyn yn cael eu rhedeg mewn modd mor integredig ac effeithlon ag sy'n bosibl. Lle y gwelir bod gweithredwyr bysiau a ddadreoleiddiwyd yn canolbwyntio ar elw yn hytrach na boddhad cwsmeriaid, dylid rhoi pwerau i Trafnidiaeth Cymru gynllunio a phennu'r rhwydwaith yn unol ag egwyddorion arweiniol darparu ar gyfer anghenion wedi'u targedu a lleihau tagfeydd.
Mae'r rhan fwyaf o Gymru yn wledig, ac mae llawer o'r rhai sy'n byw yng nghefn gwlad yn gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Felly, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod yna system drafnidiaeth gyhoeddus ddigonol, wedi'i hintegreiddio'n dda gyda chysylltedd da rhwng gwasanaethau trên a bws fel nad yw ein cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl yn y symudiad hwn tuag at wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd gwell. Soniais yn gynharach am ddiffygion posibl diwydiant bysiau wedi ei ddadreoleiddio. Felly, cytunaf â'r cynnig y dylai Trafnidiaeth Cymru gael pwerau i weithredu fel asiantaeth ddatblygu, fel y gall ymyrryd pan nad yw gwasanaethau'n cael eu gweithredu mewn modd integredig neu effeithlon.
Er mwyn cael economi fodern lwyddiannus, rydym i gyd yn cydnabod bod y gallu i warantu bod nwyddau a phobl yn cael eu cludo'n llyfn ac yn effeithlon yn ofyniad sylfaenol. Methiant i gyflawni hyn yw'r bygythiad mwyaf i gystadleurwydd busnesau Cymru. Edrychwn ymlaen at weld Llywodraeth Cymru yn darparu'r system drafnidiaeth y mae Cymru ei hangen mor ddybryd.