Part of the debate – Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.
Cynnig NDM6612 Gareth Bennett
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd eu hunain;
b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd tir llwyd ar sail gwerth eu defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair blynedd neu fwy; ac
c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.