7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar

– Senedd Cymru ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Julie James, a gwelliant 2 yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:18, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen yn awr at ddadl UKIP ar dai modiwlar a galwaf ar David Rowlands i wneud y cynnig. David.

Cynnig NDM6612 Gareth Bennett

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd eu hunain;

b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd tir llwyd ar sail gwerth eu defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol os oes angen, pan nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair blynedd neu fwy; ac

c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:18, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. O ystyried y sefyllfa sydd ohoni, fe gyflwynaf ran agoriadol y ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod Cynulliad.

Mae'r ddadl heddiw ar yr angen am dai a sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd gennym yn y Cynulliad i ddiwallu'r anghenion hynny. Mae angen amrywiaeth o wahanol fathau o dai i fod o fudd i holl boblogaeth Cymru. Nid ydym ni yn UKIP yn ceisio cynnig unrhyw ateb cyflawn i'r broblem dai—mae'n her gymhleth a fydd yn galw am ateb amlweddog. Mae'r ddadl heddiw yn canolbwyntio ar un agwedd ar dai, sef tai modiwlar.

Yn ein barn ni, mae gan dai modiwlar rôl bwysig i'w chwarae yn darparu ar gyfer anghenion tai presennol a dyfodol Cymru. I fod yn deg, mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod hynny ac maent wedi clustnodi arian ar gyfer darparu'r tai modiwlar hyn. Felly, rydym wedi sefydlu bod hwn yn faes lle y gallwn gytuno â Llywodraeth Cymru i ryw raddau. A heddiw, am unwaith, nid ydynt wedi rhoi gwelliant inni sy'n dweud, 'Dileu popeth a rhoi yn ei le'. Dyna a wnânt fel arfer gyda chynigion UKIP. Yn wir, mae gan Ross, ein hymchwilydd dibynadwy, allbrint ar ei ddesg yn dweud, 'Dileu popeth a rhoi yn ei le'. Felly, heddiw, nid yw'r Blaid Lafur yn dileu popeth sydd gennym i'w ddweud—mae hynny'n destun cryn ddifyrrwch i ni, fel y gallwch ddychmygu.

Mae Llafur wedi anghytuno â phrif gorff ein cynigion penodol. Yn ddealladwy, mae'r Llywodraeth am dynnu sylw at y cynnydd y maent hwy eu hunain wedi ei wneud ym maes tai modiwlar. Roedd ein cynigion penodol yn galw am adolygu'r broses gynllunio i ddileu biwrocratiaeth a'i gwneud yn haws i bobl sy'n dymuno adeiladu eu cartref eu hunain. Roeddem hefyd am annog datblygu safleoedd tir llwyd, ac rydym wedi argymell sefydlu corfforaeth datblygu tai i helpu i gaffael y safleoedd hyn a defnyddio gorchmynion prynu gorfodol, os oes angen, i ysgogi adeiladu tai ar y safleoedd hynny. Yn olaf, rydym am sefydlu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi blaenoriaeth i ddatblygiadau ar raddfa lai.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:20, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr, yn eu gwelliant, yn cytuno â thema gyffredinol ein cynnig, ond maent hefyd wedi dilyn llwybr gwahanol i ni ar rai o'r cynigion penodol, yn benodol ar yr angen am y gorfforaeth datblygu tai. Mae'n well ganddynt gymell cynghorau lleol a chyrff cyhoeddus eraill sydd eisoes yn bodoli, yn hytrach na chreu rhywbeth newydd. Byddaf yn archwilio'r mater penodol hwnnw yn nes ymlaen yn y ddadl.

Un peth y gallwn i gyd gytuno yn ei gylch mae'n debyg yw'r angen i adeiladu mwy o gartrefi yng Nghymru. Ar yr angen go iawn am dai yng Nghymru, gwnaed ymchwil arwyddocaol gan y diweddar Dr Alan Holmans. Ef oedd pennaeth Canolfan Ymchwil Tai a Chynllunio prifysgol Caergrawnt, a chyn-uwch-gynghorydd i Lywodraeth y DU, ac fe'i hystyrid gan lawer fel yr arbenigwr mwyaf blaenllaw ar ragweld yr angen a'r galw am dai yn y dyfodol. Cyhoeddwyd adroddiad gan Dr Holmans ychydig wedi ei farwolaeth yn 2015 yn dweud y gallai Cymru fod angen cynifer â 12,000 o gartrefi newydd fforddiadwy y flwyddyn. Deillia hyn o amryw o ffactorau, gan gynnwys cynnydd annisgwyl yn nifer yr aelwydydd un person. I grynhoi, rydym wedi nodi amryw o ffactorau, ac un ohonynt yn unig yw mewnfudo. Felly, er y byddwn bob amser yn UKIP yn cyfeirio at effaith mewnfudo torfol heb reolaeth ar y farchnad dai, nid ydym ar unrhyw gyfrif yn dweud mai dyna'r unig effaith.

Rwyf wedi defnyddio'r ymadrodd 'tai fforddiadwy', felly mae'n well i mi egluro beth a olygaf wrth hynny. Mae'n cyfeirio at dai cymdeithasol neu dai yn y sector rhentu preifat sy'n fforddiadwy i bobl nad yw eu hanghenion yn cael eu diwallu gan y farchnad dai breifat arferol. Ni ddylai rhent misol cartrefi fforddiadwy gostio mwy na 80 y cant o rent cyfartalog y farchnad leol. Ffigur Dr Holmans oedd 12,000 o gartrefi fforddiadwy newydd y flwyddyn; mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, ond caiff hwn ei wasgaru dros dymor Cynulliad cyfan. I bob pwrpas, bydd hyn yn golygu 4,000 y flwyddyn, ac mae ymhell o gyrraedd ffigur Dr Holmans; mewn gwirionedd, nid yw ond traean yr angen a ragwelwyd.

Yn 2014-15, adeiladwyd ychydig dros 6,000 o gartrefi newydd yng Nghymru, a rhaid i ni roi'r ffigur hwn mewn cyd-destun. Hanner can mlynedd yn ôl, yn y 1960au, roedd y diwydiant adeiladu yn adeiladu tua 20,000 o gartrefi y flwyddyn yng Nghymru. Felly, rydym bellach yn adeiladu niferoedd llai o lawer o dai, ac mae'r cydbwysedd rhwng tai preifat a thai cyngor hefyd wedi newid. Yn 1955, adeiladwyd dros 70 y cant o'r holl gartrefi newydd gan y sector cyhoeddus ar ffurf tai cyngor. Heddiw, mae'r sefyllfa honno wedi ei throi ar ei phen, ac erbyn hyn mae dros 80 y cant o gartrefi newydd yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr preifat.

Mae gan lawer o gynghorau restrau aros mawr, a byddai llawer o bobl yn dweud bod hyn yn golygu ein bod yn wynebu prinder tai, neu argyfwng tai o bosibl hyd yn oed. Wrth gwrs, rydym wedi gweld prinder tai cyn hyn yn y DU, ac rydym wedi dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â'r prinder hwnnw. Cafwyd prinder cartrefi o ansawdd gweddus yn syth ar ôl y rhyfel byd cyntaf ac eto ar ôl yr ail ryfel byd. Y pryd hwnnw, yr ateb oedd tai parod, neu fel y mae pawb ohonom yn eu hadnabod, tai pri-ffab.

Yn y chwe blynedd ar ôl y rhyfel, adeiladwyd 150,000 o dai parod. Fel ateb dros dro yn unig y cawsant eu cynllunio, gydag oes arfaethedig o 10-15 mlynedd yn unig. Parhaodd llawer o'r tai parod hyn yn llawer hwy na'u hoes arfaethedig; mae rhai yn dal i sefyll a phobl yn dal i fyw ynddynt, a rhaid eu bod yn 65 oed o leiaf. Roedd llawer o'r bobl a oedd yn byw mewn tai parod yn meddwl y byd ohonynt ac yn datgan eu bod lawn cystal ag unrhyw fath arall o dŷ.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:25, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Gyda'r tai parod hyn, gwelwyd troi cefn ar frics, a defnyddio fframiau pren, fframiau dur a fframiau alwminiwm yn lle hynny. Yn wir, mae rhai pethau'n debyg rhwng y tai parod wedi'r rhyfel a'r cartrefi modiwlar sy'n cael eu codi heddiw, er bod y niferoedd yn fach. Adeiladir cartrefi modiwlar mewn rhannau yn y ffatri a'u cludo i'r safle. Yno, cânt eu gosod ar sylfaen a wnaed yn barod, eu cysylltu a'u cwblhau gan yr adeiladwr.

Gyda thai modiwlar, mae canran sylweddol ohonynt wedi'u creu o ffrâm bren ar sylfaen goncrid. Maent yn eithaf unigryw, a gall prynwyr ofyn am ymgorffori nodweddion ychwanegol yn y cynllun, megis cydrannau plastr a gwydr. Y syniad yw y gellir bolltio'r rhannau at ei gilydd. Daw'r cydrannau yng nghefn lori a chânt eu rhoi at ei gilydd ar y safle. Mae'n debyg i dŷ pecyn fflat mawr.

Gellir adeiladu cartrefi modiwlar yn gyflym ac yn effeithlon, a gellir ychwanegu at yr eiddo yn ddiweddarach. Gan fod yr adeiladau yn cynnwys ynni ymgorfforedig, sydd wedi'i gloi yn y gwead o ganlyniad i'r broses adeiladu, maent yn ffurf hynod gynaliadwy o adeiladu. Yn achos adeiladau traddodiadol, caiff yr egni hwn ei golli pan gaiff tŷ ei ddymchwel. Yn achos adeiladau modiwlar, fodd bynnag, caiff yr ynni ymgorfforedig ei gadw pan fydd yr adeilad yn cael ei symud i safle arall, gan leihau effaith tirlenwi.

Ceir gwahanol fathau o gartrefi modiwlar. Gallant gynnwys cartrefi di-garbon, er enghraifft, sef anheddau heb unrhyw allyriadau carbon net o'u defnydd ynni. Gellir cyflawni hyn drwy leihau eu defnydd o ynni gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy, neu gyfuniad o'r ddau. Felly, gallai'r nodweddion gynnwys toeon â phaneli solar a phaneli inswleiddio arbennig. Fel y nodais yn gynharach, mae'r rhan fwyaf o gartrefi modiwlar yn debygol o fod yn defnyddio ynni'n effeithlon beth bynnag, oherwydd y deunyddiau cynaliadwy a ddefnyddir i'w hadeiladu. Ond byddai ymgorffori rhai o'r nodweddion eraill hyn yn golygu y gallech gael cartrefi modiwlar a fyddai hefyd yn gartrefi di-garbon. Yn ddamcaniaethol, gallai rhai o'r rhain gynhyrchu mwy o ynni nag y byddant yn defnyddio mewn gwirionedd, a gallent allforio ynni i'r grid cenedlaethol yn y pen draw. Mae rhai o'r Aelodau sydd yma heddiw wedi gweld hyn ar waith yn rhan o brosiect Tŷ SOLCER, a adeiladwyd gan Ysgol Bensaernïaeth Cymru, sef tŷ ynni clyfar cost isel cyntaf Cymru.

Syniad cymharol newydd arall yw'r cartref a wneir o gynhwysydd llongau. Gellir comisiynu'r rhain yn gyflym iawn gyda gwneuthurwyr yn honni y gellir eu darparu o fewn llai na phedair wythnos i dderbyn yr archeb. Mae'r unedau'n fodiwlar a gellir eu gosod un ar ben y llall neu ochr yn ochr, neu gefn wrth gefn, naill ai i ymestyn y gofod byw neu i greu blociau o unedau. Ym Mryste, mae prosiect wedi bod ar waith ers tua blwyddyn i helpu 40 o bobl ddigartref drwy ddarparu cartrefi o gynwysyddion llongau. Mae Cyngor Dinas Bryste wedi rhoi llain o dir iddynt er mwyn sicrhau dyfodol y prosiect. Mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi eu bod yn teimlo y gallai'r syniad o greu cartrefi o gynwysyddion llongau helpu gyda phroblem ddigartrefedd yn y tymor byr.

Math arall o gartref modiwlar yw'r cartref hunanadeiladu. Awgrymodd arolwg a gynhaliwyd gan Gymdeithas y Cymdeithasau Adeiladu yn 2011 fod 53 y cant o bobl, mwy na hanner y boblogaeth, yn ystyried adeiladu eu cartref eu hunain pe baent yn cael cyfle. Ar un o brif wefannau'r DU ar gyfer dod o hyd i leiniau tir, ceir hysbysebion ar gyfer 60 o gartrefi hunanadeiladu yng Nghymru. Ceir lefelau llawer is o hunanadeiladu yn y DU na'r hyn a welir mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Mae llai na 10 y cant o adeiladau newydd yn y sector hunanadeiladu, er bod tua 80 y cant o dai a gwblhawyd yn Awstria yn gartrefi hunanadeiladu. Yn Ffrainc, mae'r lefel yn agos at 60 y cant, ac mae'r un peth yn wir yn yr Almaen ac Iwerddon. Yn UDA, mae'n 45 y cant. Yr Iseldiroedd sydd agosaf at y DU yng ngorllewin Ewrop, ond hyd yn oed yn yr Iseldiroedd mae'r cyfanswm yn agos at 30 y cant.

Yn Lloegr, o dan Ddeddf Tai a Chynllunio 2016, mae cynghorau lleol yn gorfod ystyried sut y gallant gefnogi hunanadeiladu yn y ffordd orau. Nid oes unrhyw rwymedigaeth o'r fath ar gynghorau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. Yn 2013, nododd adroddiad gan Brifysgol Caerefrog gyfres o heriau i brosiectau hunanadeiladu. Mae'r rhain yn cynnwys cyflenwad tir a chaffael tir, mynediad at gyllid, y broses gynllunio a rheoleiddio cyffredinol a biwrocratiaeth. Ar fater pwysig cyllid, mae benthycwyr yn tueddu'n gyffredinol i weld benthyciadau hunanadeiladu fel risg uwch. Nid oes unrhyw grant ar gael gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i bobl sydd eisiau hunanadeiladu.

Llaciodd Llywodraeth Cymru rai o'r gofynion cynllunio er mwyn galluogi datblygiad Lammas, eco-bentref gwledig yng ngogledd Sir Benfro, felly cafwyd rhywfaint o hyblygrwydd yn y maes hwn.

Rydym yn deall bod Llywodraeth Cymru yn gwneud pethau ym maes tai arloesol. Nid ydym yn ceisio lladd ar eu hymdrechion. Nid dyna yw diben y ddadl heddiw; rydym yn gwyntyllu'r syniad o rai argymhellion penodol a allai helpu i gyflawni'r nodau y mae pawb ohonom yn eu rhannu o ddarparu mwy o dai fforddiadwy gwell yng Nghymru.

Rydym am adolygu'r broses gynllunio fel y gallwn gael gwared ar beth o'r fiwrocratiaeth. Felly, yn ddelfrydol hoffem ymestyn yr hyn a wnaethant yng ngogledd Sir Benfro i Gymru gyfan. Byddem yn gofyn am yr un rhwymedigaeth ar gynghorau lleol i ddyrannu tir ar gyfer prosiectau hunanadeiladu ag sydd ganddynt yn Lloegr, felly byddai dyletswydd ar gynghorau i neilltuo lleiniau o dir ar gyfer hunanadeiladu yn eu cynlluniau datblygu lleol.

Mae bancio tir yn broblem a gafodd ei chydnabod gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyflwyno'r syniad y gellid defnyddio pwerau trethiant i fynd i'r afael â phroblem bancio tir ar ffurf treth ar dir gwag. Nawr, dyna argymhelliad treth a allai'n hawdd ddenu cefnogaeth gan UKIP, oherwydd rydym eisiau sicrhau bod datblygu'n digwydd mewn cyfnod eithaf byr o amser lle y cafodd tir ei brynu. Ond fe arhoswn i weld yr argymhellion treth penodol gan Mark Drakeford ac nid ydym wedi cynnwys unrhyw beth yn y cynnig heddiw ar y mater hwnnw.

Yr hyn rydym wedi galw amdano yw corfforaeth datblygu tai fel y gellir prynu safleoedd tir llwyd yn gyflym ac yn gosteffeithiol. Credwn y gall sefydliad gydag arbenigedd penodol ym maes eiddo helpu i hwyluso adeiladu ar safleoedd tir llwyd. Gellid defnyddio gorchmynion prynu gorfodol i gaffael y safleoedd hyn os na cheir unrhyw ddatblygiad o fewn cyfnod o dair blynedd. Felly, gallai hwnnw fod yn ddewis amgen yn lle'r syniad o drethu safleoedd gwag, neu gallent weithio gyda'i gilydd o bosibl.

Mae angen corff i nodi'r safleoedd hyn yn y lle cyntaf, felly mae ein cynnig olaf yn galw ar y gorfforaeth datblygu tai hefyd i lunio cofrestr o safleoedd tir llwyd perthnasol y gellid eu datblygu yng Nghymru. Felly, dyna ein cynigion ac rydym yn awyddus i glywed beth yw barn yr Aelodau eraill yn eu cylch, felly rydym yn aros yn eiddgar am eich ymatebion.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:32, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol dau welliant i'r cynnig hwn. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.

Gwelliant 1. Julie James

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod:

a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;

b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;

c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;

d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.

Gwelliant 2. Paul Davies

Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt b) a rhoi yn ei le:

'archwilio cymhellion i awdurdodau lleol ac asiantaethau cyhoeddus nodi safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer datblygu'.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of David Melding David Melding Conservative 5:32, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl hon? Credaf ei fod yn bwnc pwysig iawn mewn gwirionedd ac yn ffordd o fynd i'r afael â'r her dai yng Nghymru. Rwy'n gobeithio ein bod yn datblygu lefel o gonsensws y tu hwnt i'n dulliau confensiynol traddodiadol arferol o adeiladu tai.

Roeddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, o sylwi bod hyd yn oed Llywodraeth Cymru i'w gweld yn symud ychydig yn y maes hwn. Yn y datganiad ym mis Hydref a gyflwynai'r rhaglen tai arloesol, un elfen a gafodd ei chynnwys oedd tai modiwlar. Felly, credaf ein bod yn gwthio yn erbyn drws sy'n agored, i ddefnyddio ymadrodd priodol.

Yn fy ymateb i'r datganiad hwnnw, siaradais ynglŷn â sut y gobeithiwn y byddai Llywodraeth Cymru yn adeiladu rhagor o dai modiwlar. Rwy'n falch o weld bod UKIP wedi nodi hyn hefyd ac yn rhannu gweledigaeth ar gyfer ei ddefnyddio'n fwy eang, yn enwedig yn rhai o'r amgylchiadau newidiol a'r cymunedau trefol rydym bellach yn eu gweld yn datblygu, yn rhannol mewn ymateb i'r math newydd o dai sydd eu hangen arnom.

Fel y nodwyd eisoes—. Yn gyffredinol, roeddwn am fod mor adeiladol â phosibl gyda'r cynnig, felly nid wyf ond wedi ei ddiwygio lle rydym yn anghytuno'n bendant, sef yr argymhelliad ynghylch corfforaeth dai, gyda'r nod o gynnwys llawer mwy o safleoedd tir llwyd. Rwy'n rhannu'r amcan yn llwyr, ond rwy'n meddwl bod hon yn ffordd braidd yn fiwrocrataidd o'i wneud a chredaf fod digon o ddulliau ar gael i'r Llywodraeth wneud hyn ac mae angen iddynt fynd ati i sicrhau canlyniadau gwell, rwy'n credu, o ran y cyflenwad tir. Ac nid yw'n ymwneud yn unig â safleoedd tir llwyd, ond maent yn ffynhonnell bwysig.

Mae angen inni adeiladu ar—. Yn amlwg, mae angen inni ryddhau mwy o dir os ydym am weld mwy o adeiladu tai. Mae'n bwysig iawn inni edrych o gwmpas a bod yn greadigol ac edrych ar y sector cyhoeddus. Mae llawer o dir yn weddol segur neu gellid ei ddefnyddio mewn ffordd fwy arloesol ac yn fwy economaidd, gan ryddhau tir ar gyfer datblygu. Felly, dyna pam rydym wedi diwygio'r cynnig.

Fel y dywedodd David, mae gan dai modiwlar, neu'r hyn yr arferem eu galw'n dai parod, hanes ardderchog. Roeddent yn rhan ganolog o ddatrys yr argyfwng ym maes adeiladu tai ar ôl y rhyfel. Roedd yr her a wynebent y tu hwnt i unrhyw beth a brofodd y genedl cyn hynny yn sgil dinistr yr ail ryfel byd. Adeiladwyd niferoedd helaeth, fel y disgrifiodd David. Pan edrychwn ar y cyfleoedd heddiw, credaf y dylem ystyried y rôl a chwaraeent y pryd hwnnw. Roedd llawer o'r unedau tai a adeiladwyd yn arloesol ar y pryd, ac roeddent yn boblogaidd—pwynt a wnaeth David. Rwy'n cofio ymgyrchu, yn erbyn Jane Hutt dylwn ddweud, mewn stryd gyfan o dai parod a oedd wedi goroesi yn y Barri, ac roedd y trigolion yn hapus iawn gyda'r ffordd honno o fyw. Roedd yn gynllun cyfleus iawn. Cefais fy nhywys o amgylch. Nid wyf yn siŵr a bleidleisiodd y person i mi, ond dyna ni. [Chwerthin.] Nid oeddwn yn llwyddiannus yn yr un o'r ddwy etholiad a ymladdais yno. Ond mae'n dangos y gall y dulliau hyn yn sicr fod yn rhai sy'n arwain y sector, a hyd yn oed yn fwy felly heddiw o ran cyflymder adeiladu a chost—oddeutu dwywaith mor gyflym a hanner mor ddrud. Ceir llawer o syniadau arloesol yn ogystal—deunyddiau newydd, sy'n dibynnu llai ar ynni, a gallant hefyd arwain at arbrawf anhygoel SOLCER, lle rydych yn cynhyrchu ynni mewn gwirionedd o'r tŷ yn hytrach na'i ddefnyddio. Felly, mae yna lawer o gyfleoedd yn hynny o beth.

Rwy'n meddwl ei fod hefyd yn caniatáu inni edrych ar y posibilrwydd o ddatblygiadau dwysedd uwch—nid adeiladau uchel iawn—lle y ceir mwy o rannu cyfleusterau, er enghraifft. Nid pawb sydd am ardd i'w chynnal. Rwy'n dweud yn aml wrth bobl pan ewch i ardaloedd crand yn Llundain, fel Belgravia, mae gan bawb allwedd i'r ardd ganolog; nid oes ganddynt ardd eu hunain. Ystyrir bod cael mynediad i'r gerddi hynny'n fantais gymdeithasol fawr. Felly, mae yna ffyrdd o adeiladu tai digon mawr i deulu yn effeithlon iawn a dileu tlodi tanwydd o bosibl oherwydd byddech yn cael arian yn ôl o'ch cartref mewn gwirionedd. 

A gaf fi ddweud i orffen, Ddirprwy Lywydd, fy mod yn credu bod busnesau bach a chanolig mewn sefyllfa dda iawn i fanteisio yn y sector hwn? Hefyd, byddai'r diffyg sydd gennym o ran rhai sgiliau adeiladu yn cael ei ddatrys yn gyflymach yn y sector hwn. Ceir llawer o gyfleoedd yno. Credaf eu bod wedi bod heb eu caru yn rhy hir, a dylem weld ei bod hi'n bryd cael dadeni ym maes adeiladu modiwlar. Unwaith eto, diolch i UKIP.

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:38, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yw un o'r rhesymau allweddol pam y dechreuais ymhél â gwleidyddiaeth. Mor ddiweddar â nos Lun, pan fynychais ddigwyddiad yng Nghaerdydd, deuthum wyneb yn wyneb â sefyllfa drist dau ŵr digartref a oedd angen paned o goffi. Yn yr unfed ganrif ar hugain, mae digartrefedd yn rhywbeth i resynu ato'n foesol. Yn y gwasanaeth carchardai, gwelais lawer o ddynion ifanc a oedd yn cyflawni troseddau er mwyn cael to uwch eu pennau a phrydau poeth wedi eu gweini iddynt, tra oedd trueiniaid eraill wedi cael eu harestio am gardota.

Er bod llawer o bethau'n achosi digartrefedd, diffyg tai yw'r prif gyfrannwr. Yn syml iawn, nid ydym yn adeiladu digon o dai newydd, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol. Mae arbenigwyr yn rhagweld bod angen inni adeiladu tua 12,000 o gartrefi newydd y flwyddyn, eto i gyd, llai na hanner y nifer hwnnw sy'n cael eu hadeiladu. Mae'r diffyg tai wedi arwain at 2,652 o aelwydydd yn mynd yn ddigartref rhwng mis Ebrill a mis Mehefin eleni, a bron 2,000 arall yn wynebu bygythiad o fynd yn ddigartref o fewn wyth wythnos. Ceir oddeutu 2,000 o aelwydydd mewn llety dros dro, ac mae dros 200 o'r rhain mewn llety gwely a brecwast. Roedd 13 y cant o'r rhai mewn llety gwely a brecwast yn deuluoedd â phlant. Mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol neu fforddiadwy i ddiwallu'r angen hwnnw.

Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn, ac eto, tri chwarter y swm hwnnw'n unig a adeiladwyd y llynedd ac maent yn dibynnu ar y sector preifat i adeiladu dros draean o'r tai fforddiadwy yng Nghymru drwy gytundebau adran 106.

Mae datblygwyr preifat yn dweud wrthym eu bod yn cael eu rhwystro rhag adeiladu rhagor o gartrefi oherwydd biwrocratiaeth a system gynllunio sy'n rhy fiwrocrataidd. Maent yn dweud hefyd nad oes cyflenwad digonol o dir, a bod costau ychwanegol yn deillio o'r rheoliadau adeiladu a'r dull o ddarparu tai fforddiadwy ar ddatblygiadau newydd. Yn syml, mae Cymru yn lle llai deniadol ar gyfer adeiladu tai oherwydd hyn. Rhaid i hyn newid os ydym i roi diwedd ar ddigartrefedd; rhaid inni ei gwneud yn haws i adeiladu cartrefi, nid yn anos.

Yn Lloegr, mae'r Llywodraeth wedi dechrau edrych ar ddefnyddio tai parod i ateb y galw. Dyma fu polisi UKIP ers amser hir. Mae tai parod, modiwlar yn ateb cyflym a rhad i fynd i'r afael â phrinder tai. Y defnydd o dai parod a helpodd i fynd i'r afael â phrinder tai yn dilyn yr ail ryfel byd. Roedd llawer o bobl yn feirniadol o'r tai parod ar ôl y rhyfel, ond gallaf eich sicrhau, fel rhywun a oedd yn byw mewn un ohonynt tra oeddwn yn tyfu fyny, roedd pawb a oedd yn eu galw'n gartref yn dwli arnynt.

Mae tai parod modiwlar modern yn llawer mwy datblygedig na thai parod y gorffennol. Gellir eu hadeiladu o ddeunyddiau ecogyfeillgar ac maent yn defnyddio ynni'n effeithlon dros ben, gan arbed arian ar gostau trydan a gwresogi i berchnogion tai. Maent yn hyblyg, gan y gellir eu teilwra'n llwyr yn ôl anghenion y perchennog a gellir ailgyflunio rhai mathau o gartrefi modiwlar i ddiwallu angen yn y dyfodol. Ond yn anad dim, maent yn rhatach ac yn gyflymach nag adeiladu traddodiadol. Gellir adeiladu cartref dwy ystafell wely am oddeutu £50,000 a'i godi mewn dyddiau—ymhell islaw costau adeiladu eiddo traddodiadol a all gymryd hyd at flwyddyn i gael ei adeiladu.

Mae digon o gwmnïau'n cynnig tai parod modiwlar. Y rhwystr yw dod o hyd i dir i adeiladu arno a hyd yr amser y mae'n ei gymryd i gael caniatâd cynllunio. Os ydym i ddatrys prinder tai yng Nghymru, yna rhaid inni edrych ar gartrefi pecyn fflat a'i gwneud yn haws ailddefnyddio safleoedd tir llwyd ar gyfer tai modiwlar.

Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig ger eich bron heddiw ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ddechrau chwyldro tai parod yng Nghymru, lle y gall pobl nid yn unig fod yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ond chwarae rhan hefyd yn y gwaith o'u cynllunio a'u hadeiladu. Mae arnom angen atebion a fydd yn rhoi diwedd ar yr angen i osod teuluoedd mewn llety dros dro; rhoi diwedd ar blant yn treulio'r Nadolig mewn llety gwely a brecwast cyfyng.

Dyma ran o'r ateb hwnnw a gofynnaf i chi ei gefnogi. Diolch. Diolch yn fawr.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:43, 13 Rhagfyr 2017

A gaf i ddweud ar y cychwyn pa mor gwbl wrthun oedd sylwadau UKIP ddoe ynglŷn â hawliau lleiafrifoedd? Mae gan aelodau o grwpiau lleiafrifol hawl digwestiwn i gael eu trin yn gyfartal, waeth beth fo'u hunaniaeth rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, lliw eu croen, crefydd, anabledd neu unrhyw beth arall. Nid oeddwn i erioed yn meddwl—[Torri ar draws.]

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n ddrwg gennyf, a gaf fi—?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Pwynt o drefn—

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Un eiliad, a gaf fi ofyn i chi—? Mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n siarad.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

—y byddwn yn clywed barn mor afiach yn ein Senedd cenedlaethol.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Mae'n flin gennyf. A gaf fi ofyn i chi—? Rhaid i chi aros ar yr hyn sydd ar y papur trefn ar gyfer y ddadl.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae'n berthnasol iawn.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour

(Cyfieithwyd)

Na, mae'n ddrwg gennyf, fi sy'n dyfarnu. Nid oes angen unrhyw help arnaf gan neb, diolch yn fawr iawn. Felly, a gaf fi ofyn i chi aros gyda thai modiwlar a pheidio â chrwydro oddi wrth hynny, neu byddwch yn tramgwyddo yn erbyn y Rheolau Sefydlog?

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru

Rydw i'n symud at y pwnc dan sylw. Mae sut i ddarparu tai fforddiadwy, cost-isel yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Llywodraeth yma. Yn sicr, fe all tai modiwlaidd fod yn erfyn defnyddiol er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai yng Nghymru, ac mae safleoedd tir brown yn addas ar gyfer datblygiadau tai.

Ond, gair o rybudd ynglŷn ag ambell agwedd o hyn: yn hanesyddol, mae tai modiwlaidd wedi cael eu gweld fel tai o ansawdd gwael, efo gwerth cyfyngedig o ran ailwerthu. Fe all hyn, felly, greu problemau i brynwyr tro cyntaf gyda blaendaliadau isel a phroblemau o gael mynediad i gyllid. Mae’r diwydiant y ceisio newid y canfyddiad hwnnw, ond mae’n dangos bod angen rhoi ystyriaeth lawn i sut yr ydym yn helpu pobl i gyllido prynu’r math yma o gartrefi. Mae pryder hefyd am oes y math yma o dai ac, unwaith eto, mae angen sicrhau bod hyn wedi cael ystyriaeth yn y trefniadau cyllid.

Yn ail, mae angen i ni wylio rhag datblygiadau tai o'r math yma: gwylio rhag ofn mai dim ond un math arbennig o dŷ a fydd yn cael ei godi—math a fyddai'n addas ar gyfer rhai trigolion yn unig. Mae cymunedau cymysg, lle mae teuluoedd o incwm amrywiol yn byw efo'i gilydd, yn cynnig gwell deilliannau cymdeithasol. Mae yna lawer o dystiolaeth o hynny. Mae angen meddwl am hynny wrth gynllunio ystadau tai newydd, a dyluniad yr ystadau rheini. Yn ychwanegol at hynny, mae angen i wasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys anghenion teithio llesol, fod yn rhan o unrhyw ddatblygiadau—ond nid dyna sydd yn digwydd, yn aml. Rydw i'n ymwybodol o un datblygiad tai sydd drws nesaf i ysgol, ac eto mae'r ysgol honno yn llawn, felly mae yna her yn wynebu'r teuluoedd sy'n symud yno i fyw.

Fe all tai modiwlaidd fod yn rhan o'r jigso sydd ei angen er mwyn ateb y galw am dai. Rhaid sôn am rannau eraill y jigso yma: i ddechrau, tai eco, er nid ydw i'n siŵr a fyddai'r blaid sy'n gwadu newid hinsawdd yn rhannu'n brwdfrydedd ni ym Mhlaid Cymru am dai eco. Yn amlwg, mae tai eco cyfeillgar efo biliau ynni isel yn ffitio categori tai fforddiadwy, ac yn ffitio categori tai o ansawdd uchel, yn ogystal â chyfrannu i leihau'r ôl troed carbon. Yn ail, mae angen tai gofal ychwanegol er mwyn ateb anghenion gofal cymdeithasol. Nid oes digon o'r math yma o dai yn cael eu codi, ac eto maen nhw'n angenrheidiol er mwyn helpu pobl sydd efo anghenion gofal i fyw yn annibynnol. 

Ac, yn olaf, mae angen cydnabod beth ydy 'fforddiadwy' mewn gwirionedd, a chydnabod bod fforddiadwyedd yn ymwneud ag incwm. Yn amlwg, mae patrymau gwaith ansefydlog, ynghyd ag incwm isel, yn ei gwneud hi'n anodd i gartrefi rhoi arian o'r neilltu ar gyfer prynu tŷ. Mae beth sy'n fforddiadwy mewn un ardal yn sicr yn wahanol iawn i beth sy'n fforddiadwy mewn ardal arall. Mae gen i aelod o'r teulu sydd yn byw yn Abersoch—mae tŷ fforddiadwy fanna ymhell tu hwnt i beth fyddai tŷ fforddiadwy mewn ardal, efallai, yn Nyffryn Nantlle yn Arfon, ac eto y tu hwnt o bob rheswm i fod yn cael ei alw'n 'fforddiadwy' mewn gwirionedd. Y brif broblem efo fforddiadwyedd ydy'r ffaith bod cyfran pobl ifanc o incwm cenedlaethol cyfartalog wedi gostwng, ac na fydd yna fawr o gynnydd gwirioneddol mewn cyflogau real, tra, ar yr un pryd, mae cyfran mwy o gyflogau yn mynd ar dalu rhent. 

Ac mae hyn yn arwain at y rhybudd olaf: os rydym ni am weld adeiladu mwy o dai modiwlaidd, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr na fyddan nhw'n cael eu prynu gan landlordiaid prynu i rentu. Mae hynny, hefyd, yn gallu creu problemau di-rif. Yn gryno, felly, oes, mae yna le i dai o'r math yma, yn sicr—ond ddim ond fel rhan o becyn cynhwysfawr o wahanol fathau o dai fforddiadwy.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:48, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu bod y ddadl hon wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac yn gadarnhaol iawn, ac rwy'n gobeithio ymateb mewn modd defnyddiol a chadarnhaol tebyg. Rwy'n wirioneddol falch o gael y cyfle hwn i siarad am y gwaith cyffrous rydym yn ei wneud i ddod o hyd i atebion newydd a chreadigol i'r angen difrifol am dai yng Nghymru. Mae ein rhaglen tai arloesol wedi'i chynllunio i brofi ffyrdd newydd o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a'u hadeiladu'n gynt, gan leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a lleihau eu costau rhedeg ar yr un pryd.

Mewn datganiad i'r Cynulliad ar 24 Hydref, cyhoeddodd Carl Sargeant y 22 o gynlluniau sydd i gael eu hariannu o dan gam cyntaf y rhaglen. Rydym yn gwybod bod tai fforddiadwy o ansawdd da yn hanfodol i iechyd a lles pobl, ac ni allwn dderbyn y dylai pobl yng Nghymru heddiw orfod penderfynu a ydynt yn gwresogi eu cartrefi neu'n bwyta. Mae canfod modelau tai newydd sy'n lleihau gwresogi'n sylweddol yn flaenoriaeth, ac mae cartrefi sydd hefyd yn gallu creu incwm o ynni dros ben yn bosibilrwydd go iawn bellach. Ac yn wir, mae cynlluniau a gyllidir eleni yn cynnwys y cynllun cartrefi gweithredol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n ymwneud â defnyddio cartrefi fel gorsafoedd pŵer, ac mae'r cynllun hwnnw'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â chymdeithas dai Pobl.

Rwyf am ddatblygu dulliau newydd o adeiladu sy'n cynyddu cyflenwad ac yn cyflymu cyflawniad. Rwyf am weld cartrefi fforddiadwy, o ansawdd rhagorol sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd—ac wrth wrando ar y ddadl yma heddiw, credaf ein bod yn rhannu'r weledigaeth honno. Rwy'n cytuno bod cartrefi modiwlar yn edrych yn addawol iawn, ac i'w gweld yn cynnig y math o fanteision y mae pawb ohonom yn chwilio amdanynt. Mae saith cynllun modiwlar yn cael eu hariannu yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen, gan ddarparu 91 o gartrefi a byddwn yn parhau i ariannu amrywiaeth o fodelau newydd yn 2018-19 a 2019-20.

Mae'r cynnig heddiw'n canolbwyntio ar y defnydd posibl o dai modiwlar gan unigolion sy'n adeiladu eu cartrefi eu hunain. Efallai mai dyna un agwedd ar ei botensial, ond mae canolbwyntio ar hynny'n unig yn anwybyddu'r angen am raddfa a'r cyfleoedd ehangach a geir o harneisio'r dull hwn o weithredu. Mae adeiladu modiwlar yn arbennig o gosteffeithiol pan gaiff ei gynhyrchu ar raddfa fawr, a gallai, o'i gyfuno â'n buddsoddiad mewn tai cymdeithasol newydd, ddarparu cyfle i ddatblygu diwydiant newydd llewyrchus gyda chyfres o gyfleusterau gweithgynhyrchu a swyddi newydd ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle i adfywio'r gadwyn gyflenwi tai mewn ffordd strategol, a dyna pam rwyf am brofi nifer fawr o wahanol fathau o adeiladu modiwlar dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—fel y gallwn fod yn sicr ein bod yn dod o hyd i'r atebion cywir ar gyfer Cymru. Rwy'n falch iawn o ddweud bod cyllideb y rhaglen tai arloesol bellach yn £90 miliwn ar gyfer y tair blynedd rhwng 2017-18 a 2019-20—£70 miliwn yn fwy nag a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror.

Hefyd mae deunyddiau crai yn rhan allweddol o'r gadwyn gyflenwi, ac rwy'n awyddus iawn i edrych ar sut y gallem ddefnyddio mwy o bren a dur Cymru mewn tai modiwlar. Mae gennym lawer o'r ddau ddeunydd, felly mae cyfleoedd gwirioneddol yma i ni yng Nghymru. Wrth ystyried y ddadl a gawsom yn gynharach y prynhawn yma, rwy'n synhwyro hefyd fod yna archwaeth go iawn i weld hyn yn digwydd.

Gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sicr yn awyddus i helpu i ddarparu tir ar gyfer tai a dod o hyd i ffyrdd o alluogi hunanadeiladwyr a datblygwyr bach i wneud rhagor. Ond nid ydym yn derbyn yr argymhellion penodol sydd wedi'u cynnwys yng nghynnig UKIP. Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn galw am gymhellion i nodi safleoedd tir llwyd cynaliadwy. Rwyf wrthi'n edrych ar sut y gallwn helpu i ryddhau safleoedd segur ledled Cymru, a gobeithiaf wneud cyhoeddiad ar hyn yn fuan iawn.

Gall Banc Datblygu Cymru chwarae rôl allweddol yn datgloi safleoedd segur a dod â busnesau bach a chanolig Cymru yn ôl i mewn i'r farchnad. Dyma ddau faes arbennig rwyf wedi bod â diddordeb mawr ynddynt yn gynnar yn fy amser yn y portffolio hwn. Felly, rwyf wedi dyrannu £30 miliwn ychwanegol o arian benthyg i'r banc drwy'r gronfa datblygu eiddo. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn, byddwn yn ailgylchu ac yn ailfuddsoddi'r arian hwn dros 15 mlynedd, gan olygu y gellir cyflawni gwerth cyfanswm o £310 miliwn.

Mae gennym ymagwedd gydgysylltiedig tuag at safleoedd tir a'u defnydd i helpu i fynd i'r afael ag angen tai. Rydym yn datblygu cofrestr o'r holl dir cyhoeddus yng Nghymru ac mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn llunio rhestrau o safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer hunanadeiladwyr. Felly, rydym yn ystyried pob opsiwn. Er enghraifft, rydym yn edrych ar safleoedd lle y paratowyd y tir ymlaen llaw ar gyfer datblygu, ac mae caniatâd cynllunio yn ei le. Gall y dull hwn ganiatáu i bobl ddewis math, steil a chost y cartrefi y maent eu heisiau drwy ddewis o'r cynlluniau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Dyma un o nifer o syniadau sy'n cael eu harchwilio, ac mae'n dal ar gam ffurfiannol, ond rwy'n credu ei fod yn dangos y meddwl dwys a'r creadigrwydd rydym yn eu cyflwyno i'r her hon.

Rwy'n falch iawn, er gwaethaf y gwahaniaethau amlwg rhwng ein dulliau o weithredu, ein bod yn rhannu cydnabyddiaeth glir iawn o'r angen i ddefnyddio dulliau newydd i fynd i'r afael â'n hanghenion tai. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith o archwilio amrywiaeth eang o ddulliau. Nid wyf yn credu mai yn awr yw'r amser i ddewis un dechneg neu nodi hunanadeiladu yn unig fel y ffordd ymlaen. Rhaid inni fod yn fwy beiddgar na hynny, a mwy agored i ystod o syniadau newydd, gan ddysgu o arloesi a mireinio ein dull o weithredu wrth inni symud ymlaen. Diolch i chi.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:54, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Neil Hamilton i ymateb i'r ddadl.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl ac yn croesawu areithiau David Melding, Siân Gwenllian—95 y cant ohoni, beth bynnag—a Caroline Jones, ac yn wir yr araith gadarnhaol gan y Gweinidog. Oherwydd rydym yn derbyn bod y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau defnyddiol i helpu i ddatrys y prinder tai, ond o gofio y bydd gan y Deyrnas Unedig 15 miliwn arall o bobl o fewn y 35 mlynedd nesaf yn ôl tueddiadau presennol y boblogaeth, yn amlwg rydym yn mynd i wynebu problem enfawr os na chynyddwn nifer y tai a adeiladir yn sylweddol ar draws y wlad, ac mae hynny'n berthnasol i Gymru lawn cymaint ag unrhyw le arall.

Pan oeddwn yn fachgen bach iawn roedd fy rhieni a minnau'n byw mewn tŷ parod, ac roedd fy mam yn dweud bob amser, hyd at ddiwedd ei oes, mai dyna oedd ei ffefryn o'r holl dai roedd hi wedi byw ynddynt. Felly, fel y nododd David Melding, rwy'n credu bod y dyfodol, ar un ystyr, yn gorwedd yn y gorffennol ar hyn. A chredaf fod y nodyn o gonsensws a gawsom yn ystod y ddadl i'w groesawu'n fawr—ac nid yw hynny'n rhywbeth a gysylltir â fy mhlaid. Ond rwy'n falch fod Gareth Bennett wedi agor y ddadl mewn geiriau, er nad ei lais ef ydoedd. Ei araith ef oedd hi.

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 5:55, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, byddwn yn pleidleisio ar yr eitem hon yn y cyfnod pleidleisio. Rwy'n bwriadu symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio, oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Pawb yn hapus? O'r gorau.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.