Part of the debate – Senedd Cymru am 5:43 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Rydw i'n symud at y pwnc dan sylw. Mae sut i ddarparu tai fforddiadwy, cost-isel yn un o’r heriau mawr sy’n wynebu’r Llywodraeth yma. Yn sicr, fe all tai modiwlaidd fod yn erfyn defnyddiol er mwyn cynyddu’r cyflenwad o dai yng Nghymru, ac mae safleoedd tir brown yn addas ar gyfer datblygiadau tai.
Ond, gair o rybudd ynglŷn ag ambell agwedd o hyn: yn hanesyddol, mae tai modiwlaidd wedi cael eu gweld fel tai o ansawdd gwael, efo gwerth cyfyngedig o ran ailwerthu. Fe all hyn, felly, greu problemau i brynwyr tro cyntaf gyda blaendaliadau isel a phroblemau o gael mynediad i gyllid. Mae’r diwydiant y ceisio newid y canfyddiad hwnnw, ond mae’n dangos bod angen rhoi ystyriaeth lawn i sut yr ydym yn helpu pobl i gyllido prynu’r math yma o gartrefi. Mae pryder hefyd am oes y math yma o dai ac, unwaith eto, mae angen sicrhau bod hyn wedi cael ystyriaeth yn y trefniadau cyllid.
Yn ail, mae angen i ni wylio rhag datblygiadau tai o'r math yma: gwylio rhag ofn mai dim ond un math arbennig o dŷ a fydd yn cael ei godi—math a fyddai'n addas ar gyfer rhai trigolion yn unig. Mae cymunedau cymysg, lle mae teuluoedd o incwm amrywiol yn byw efo'i gilydd, yn cynnig gwell deilliannau cymdeithasol. Mae yna lawer o dystiolaeth o hynny. Mae angen meddwl am hynny wrth gynllunio ystadau tai newydd, a dyluniad yr ystadau rheini. Yn ychwanegol at hynny, mae angen i wasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys anghenion teithio llesol, fod yn rhan o unrhyw ddatblygiadau—ond nid dyna sydd yn digwydd, yn aml. Rydw i'n ymwybodol o un datblygiad tai sydd drws nesaf i ysgol, ac eto mae'r ysgol honno yn llawn, felly mae yna her yn wynebu'r teuluoedd sy'n symud yno i fyw.
Fe all tai modiwlaidd fod yn rhan o'r jigso sydd ei angen er mwyn ateb y galw am dai. Rhaid sôn am rannau eraill y jigso yma: i ddechrau, tai eco, er nid ydw i'n siŵr a fyddai'r blaid sy'n gwadu newid hinsawdd yn rhannu'n brwdfrydedd ni ym Mhlaid Cymru am dai eco. Yn amlwg, mae tai eco cyfeillgar efo biliau ynni isel yn ffitio categori tai fforddiadwy, ac yn ffitio categori tai o ansawdd uchel, yn ogystal â chyfrannu i leihau'r ôl troed carbon. Yn ail, mae angen tai gofal ychwanegol er mwyn ateb anghenion gofal cymdeithasol. Nid oes digon o'r math yma o dai yn cael eu codi, ac eto maen nhw'n angenrheidiol er mwyn helpu pobl sydd efo anghenion gofal i fyw yn annibynnol.
Ac, yn olaf, mae angen cydnabod beth ydy 'fforddiadwy' mewn gwirionedd, a chydnabod bod fforddiadwyedd yn ymwneud ag incwm. Yn amlwg, mae patrymau gwaith ansefydlog, ynghyd ag incwm isel, yn ei gwneud hi'n anodd i gartrefi rhoi arian o'r neilltu ar gyfer prynu tŷ. Mae beth sy'n fforddiadwy mewn un ardal yn sicr yn wahanol iawn i beth sy'n fforddiadwy mewn ardal arall. Mae gen i aelod o'r teulu sydd yn byw yn Abersoch—mae tŷ fforddiadwy fanna ymhell tu hwnt i beth fyddai tŷ fforddiadwy mewn ardal, efallai, yn Nyffryn Nantlle yn Arfon, ac eto y tu hwnt o bob rheswm i fod yn cael ei alw'n 'fforddiadwy' mewn gwirionedd. Y brif broblem efo fforddiadwyedd ydy'r ffaith bod cyfran pobl ifanc o incwm cenedlaethol cyfartalog wedi gostwng, ac na fydd yna fawr o gynnydd gwirioneddol mewn cyflogau real, tra, ar yr un pryd, mae cyfran mwy o gyflogau yn mynd ar dalu rhent.
Ac mae hyn yn arwain at y rhybudd olaf: os rydym ni am weld adeiladu mwy o dai modiwlaidd, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr na fyddan nhw'n cael eu prynu gan landlordiaid prynu i rentu. Mae hynny, hefyd, yn gallu creu problemau di-rif. Yn gryno, felly, oes, mae yna le i dai o'r math yma, yn sicr—ond ddim ond fel rhan o becyn cynhwysfawr o wahanol fathau o dai fforddiadwy.