7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:48 pm ar 13 Rhagfyr 2017.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 5:48, 13 Rhagfyr 2017

(Cyfieithwyd)

Diolch. Rwy'n credu bod y ddadl hon wedi bod yn ddefnyddiol iawn ac yn gadarnhaol iawn, ac rwy'n gobeithio ymateb mewn modd defnyddiol a chadarnhaol tebyg. Rwy'n wirioneddol falch o gael y cyfle hwn i siarad am y gwaith cyffrous rydym yn ei wneud i ddod o hyd i atebion newydd a chreadigol i'r angen difrifol am dai yng Nghymru. Mae ein rhaglen tai arloesol wedi'i chynllunio i brofi ffyrdd newydd o gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a'u hadeiladu'n gynt, gan leihau eu heffaith ar yr amgylchedd a lleihau eu costau rhedeg ar yr un pryd.

Mewn datganiad i'r Cynulliad ar 24 Hydref, cyhoeddodd Carl Sargeant y 22 o gynlluniau sydd i gael eu hariannu o dan gam cyntaf y rhaglen. Rydym yn gwybod bod tai fforddiadwy o ansawdd da yn hanfodol i iechyd a lles pobl, ac ni allwn dderbyn y dylai pobl yng Nghymru heddiw orfod penderfynu a ydynt yn gwresogi eu cartrefi neu'n bwyta. Mae canfod modelau tai newydd sy'n lleihau gwresogi'n sylweddol yn flaenoriaeth, ac mae cartrefi sydd hefyd yn gallu creu incwm o ynni dros ben yn bosibilrwydd go iawn bellach. Ac yn wir, mae cynlluniau a gyllidir eleni yn cynnwys y cynllun cartrefi gweithredol yng Nghastell-nedd Port Talbot sy'n ymwneud â defnyddio cartrefi fel gorsafoedd pŵer, ac mae'r cynllun hwnnw'n cael ei ddarparu mewn partneriaeth â chymdeithas dai Pobl.

Rwyf am ddatblygu dulliau newydd o adeiladu sy'n cynyddu cyflenwad ac yn cyflymu cyflawniad. Rwyf am weld cartrefi fforddiadwy, o ansawdd rhagorol sy'n llai niweidiol i'r amgylchedd—ac wrth wrando ar y ddadl yma heddiw, credaf ein bod yn rhannu'r weledigaeth honno. Rwy'n cytuno bod cartrefi modiwlar yn edrych yn addawol iawn, ac i'w gweld yn cynnig y math o fanteision y mae pawb ohonom yn chwilio amdanynt. Mae saith cynllun modiwlar yn cael eu hariannu yn ystod blwyddyn gyntaf y rhaglen, gan ddarparu 91 o gartrefi a byddwn yn parhau i ariannu amrywiaeth o fodelau newydd yn 2018-19 a 2019-20.

Mae'r cynnig heddiw'n canolbwyntio ar y defnydd posibl o dai modiwlar gan unigolion sy'n adeiladu eu cartrefi eu hunain. Efallai mai dyna un agwedd ar ei botensial, ond mae canolbwyntio ar hynny'n unig yn anwybyddu'r angen am raddfa a'r cyfleoedd ehangach a geir o harneisio'r dull hwn o weithredu. Mae adeiladu modiwlar yn arbennig o gosteffeithiol pan gaiff ei gynhyrchu ar raddfa fawr, a gallai, o'i gyfuno â'n buddsoddiad mewn tai cymdeithasol newydd, ddarparu cyfle i ddatblygu diwydiant newydd llewyrchus gyda chyfres o gyfleusterau gweithgynhyrchu a swyddi newydd ledled Cymru. Mae hwn yn gyfle i adfywio'r gadwyn gyflenwi tai mewn ffordd strategol, a dyna pam rwyf am brofi nifer fawr o wahanol fathau o adeiladu modiwlar dros yr ychydig flynyddoedd nesaf—fel y gallwn fod yn sicr ein bod yn dod o hyd i'r atebion cywir ar gyfer Cymru. Rwy'n falch iawn o ddweud bod cyllideb y rhaglen tai arloesol bellach yn £90 miliwn ar gyfer y tair blynedd rhwng 2017-18 a 2019-20—£70 miliwn yn fwy nag a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Chwefror.

Hefyd mae deunyddiau crai yn rhan allweddol o'r gadwyn gyflenwi, ac rwy'n awyddus iawn i edrych ar sut y gallem ddefnyddio mwy o bren a dur Cymru mewn tai modiwlar. Mae gennym lawer o'r ddau ddeunydd, felly mae cyfleoedd gwirioneddol yma i ni yng Nghymru. Wrth ystyried y ddadl a gawsom yn gynharach y prynhawn yma, rwy'n synhwyro hefyd fod yna archwaeth go iawn i weld hyn yn digwydd.

Gallaf eich sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sicr yn awyddus i helpu i ddarparu tir ar gyfer tai a dod o hyd i ffyrdd o alluogi hunanadeiladwyr a datblygwyr bach i wneud rhagor. Ond nid ydym yn derbyn yr argymhellion penodol sydd wedi'u cynnwys yng nghynnig UKIP. Mae gwelliant y Ceidwadwyr yn galw am gymhellion i nodi safleoedd tir llwyd cynaliadwy. Rwyf wrthi'n edrych ar sut y gallwn helpu i ryddhau safleoedd segur ledled Cymru, a gobeithiaf wneud cyhoeddiad ar hyn yn fuan iawn.

Gall Banc Datblygu Cymru chwarae rôl allweddol yn datgloi safleoedd segur a dod â busnesau bach a chanolig Cymru yn ôl i mewn i'r farchnad. Dyma ddau faes arbennig rwyf wedi bod â diddordeb mawr ynddynt yn gynnar yn fy amser yn y portffolio hwn. Felly, rwyf wedi dyrannu £30 miliwn ychwanegol o arian benthyg i'r banc drwy'r gronfa datblygu eiddo. Ochr yn ochr â'n buddsoddiad cychwynnol o £10 miliwn, byddwn yn ailgylchu ac yn ailfuddsoddi'r arian hwn dros 15 mlynedd, gan olygu y gellir cyflawni gwerth cyfanswm o £310 miliwn.

Mae gennym ymagwedd gydgysylltiedig tuag at safleoedd tir a'u defnydd i helpu i fynd i'r afael ag angen tai. Rydym yn datblygu cofrestr o'r holl dir cyhoeddus yng Nghymru ac mae rhai awdurdodau lleol eisoes yn llunio rhestrau o safleoedd tir llwyd sy'n addas ar gyfer hunanadeiladwyr. Felly, rydym yn ystyried pob opsiwn. Er enghraifft, rydym yn edrych ar safleoedd lle y paratowyd y tir ymlaen llaw ar gyfer datblygu, ac mae caniatâd cynllunio yn ei le. Gall y dull hwn ganiatáu i bobl ddewis math, steil a chost y cartrefi y maent eu heisiau drwy ddewis o'r cynlluniau y cytunwyd arnynt ymlaen llaw. Dyma un o nifer o syniadau sy'n cael eu harchwilio, ac mae'n dal ar gam ffurfiannol, ond rwy'n credu ei fod yn dangos y meddwl dwys a'r creadigrwydd rydym yn eu cyflwyno i'r her hon.

Rwy'n falch iawn, er gwaethaf y gwahaniaethau amlwg rhwng ein dulliau o weithredu, ein bod yn rhannu cydnabyddiaeth glir iawn o'r angen i ddefnyddio dulliau newydd i fynd i'r afael â'n hanghenion tai. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r gwaith o archwilio amrywiaeth eang o ddulliau. Nid wyf yn credu mai yn awr yw'r amser i ddewis un dechneg neu nodi hunanadeiladu yn unig fel y ffordd ymlaen. Rhaid inni fod yn fwy beiddgar na hynny, a mwy agored i ystod o syniadau newydd, gan ddysgu o arloesi a mireinio ein dull o weithredu wrth inni symud ymlaen. Diolch i chi.