Part of the debate – Senedd Cymru am 5:54 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o ymateb i'r ddadl ac yn croesawu areithiau David Melding, Siân Gwenllian—95 y cant ohoni, beth bynnag—a Caroline Jones, ac yn wir yr araith gadarnhaol gan y Gweinidog. Oherwydd rydym yn derbyn bod y Llywodraeth yn gwneud rhai pethau defnyddiol i helpu i ddatrys y prinder tai, ond o gofio y bydd gan y Deyrnas Unedig 15 miliwn arall o bobl o fewn y 35 mlynedd nesaf yn ôl tueddiadau presennol y boblogaeth, yn amlwg rydym yn mynd i wynebu problem enfawr os na chynyddwn nifer y tai a adeiladir yn sylweddol ar draws y wlad, ac mae hynny'n berthnasol i Gymru lawn cymaint ag unrhyw le arall.
Pan oeddwn yn fachgen bach iawn roedd fy rhieni a minnau'n byw mewn tŷ parod, ac roedd fy mam yn dweud bob amser, hyd at ddiwedd ei oes, mai dyna oedd ei ffefryn o'r holl dai roedd hi wedi byw ynddynt. Felly, fel y nododd David Melding, rwy'n credu bod y dyfodol, ar un ystyr, yn gorwedd yn y gorffennol ar hyn. A chredaf fod y nodyn o gonsensws a gawsom yn ystod y ddadl i'w groesawu'n fawr—ac nid yw hynny'n rhywbeth a gysylltir â fy mhlaid. Ond rwy'n falch fod Gareth Bennett wedi agor y ddadl mewn geiriau, er nad ei lais ef ydoedd. Ei araith ef oedd hi.