Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 31, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.