– Senedd Cymru am 5:55 pm ar 13 Rhagfyr 2017.
Felly, symudwn ymlaen i bleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl yr Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 ar y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd gan nifer o Aelodau'r Cynulliad. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 39, 7 yn ymatal, 1 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl UKIP ar dai modiwlar. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Gareth Bennett. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 5, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Symudwn ymlaen i bleidleisio ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 31, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1 a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM6612 fel y’i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.
2. Yn cydnabod:
a) penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddechrau adeiladu mathau newydd o dai yn 2017-18 drwy ei Rhaglen Tai Arloesol;
b) y bydd 7 o’r 22 cynllun y cymeradwywyd eu hariannu o dan y rhaglen eleni, yn cael eu hadeiladu’n defnyddio technegau modiwlaidd gyda chymorth cyfanswm o £5.6 miliwn o gyllid rhaglenni;
c) y bydd £71 miliwn pellach ar gael rhwng 2018/19 a 2019/20 er mwyn i’r rhaglen allu adeiladu hyd yn oed rhagor o gartrefi;
d) cynnydd sydd i’w groesawu yn y Gronfa Datblygu Eiddo i £40 miliwn, a fydd yn helpu BBaCh i adeiladu rhagor o gartrefi gan gynnwys tai modiwlar ac yn helpu i ddatblygu mwy o safleoedd adeiladu tai a’u symud ymlaen yn gyflymach.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 42, neb yn ymatal, 5 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.