Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 9 Ionawr 2018.
Byddwch yn ymwybodol, Prif Weinidog, bod Tsieina, yr wythnos diwethaf, wedi gwneud cyhoeddiad na fyddant yn mewnforio gwastraff plastig o'r DU mwyach, ac allforiodd Cymru dros 4,000 o dunelli dim ond y llynedd. Gwyddom hefyd fod cyfanswm y plastig sy'n cael ei gynhyrchu a'i waredu yn tyfu bob un blwyddyn, ac mae'r rhan fwyaf o hwnnw'n blastig untro ar gyfer lapio bwyd. Felly, a allem ni fanteisio ar hwn fel cyfle efallai, yma yng Nghymru, i wneud dau beth: un, i leihau cyfanswm y bagiau plastig untro yn y lle cyntaf; ac yn ail, pan nad yw hynny'n bosibl, y gallwn ni ailgylchu plastig ein hunain—a cheir rhai enghreifftiau da iawn o bobl yn gwneud hynny yma yng Nghymru—a thyfu'r diwydiannau hynny?