Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 9 Ionawr 2018.
Gallwn. Mae dau beth i roi sylw iddyn nhw yma. Yn gyntaf, rydym ni wedi comisiynu astudiaeth i asesu ymarferoldeb cynllun cyfrifoldeb estynedig ar gynhyrchwyr dros ddeunydd pecynnu bwyd a diod, gan gynnwys plastig tafladwy. Byddwn yn cael adroddiad yr astudiaeth honno ym mis Chwefror. Rydym ni hefyd yn ystyried treth neu ardoll ar blastig tafladwy, ond ceir cyfleoedd gwych yma i fusnesau Cymru ystyried sut y gallant gymryd rhan yn y diwydiant ailgylchu plastigau. Rydym ni'n gweithio, er enghraifft, gyda Jayplas i'w helpu i nodi safleoedd addas i leoli gweithfeydd yng Nghymru, a Jayplas yw arweinydd marchnad y DU ym maes ailgylchu ôl-ddefnyddio, gan gynnwys ailgylchu plastigau anhyblyg.