Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 9 Ionawr 2018.
Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol y bydd penderfyniad Tsieina yn her fawr i ni o ran ailgylchu yma yng Nghymru, o ran plastigau. Trwy gomisiynu gwaith technolegau ailgylchu, a fyddai'n troi plastigau diwedd oes yn olew ysgafn, yn gwyr neu'n olew tanwydd trwm sylffwr isel, gallem greu adnodd delfrydol yma ar gyfer amrywiaeth eang o gymwysiadau diwydiant, a gallai hwn, wrth gwrs, fod yn gyfle i Gymru. A fyddech chi'n cytuno ei bod hi'n bryd nawr i ni roi terfyn ar y system bresennol o losgi plastigau ac anfon ein plastigau i safleoedd tirlenwi, ac i fod y wlad gyntaf i drin ei gwastraff plastig ei hun mewn ffordd gwbl ecogyfeillgar?