Adeiladu Tai Awdurdodau Lleol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:20 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:20, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, mae tai cyngor yn rhywbeth yr ydym ni eisiau eu hannog, ac rydym ni wedi gwneud hynny yn ariannol. Nid yw'n golygu y gallan nhw ddatrys yr holl broblemau i gyd ar eu pen eu hunain, ond mae'n hynod bwysig eu bod nhw'n gallu darparu yn eu hardal leol. Roeddwn i gyda'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe, Mike Hedges, yn ddiweddar, a gwelais drosof fy hun y gwaith da y mae cyngor Abertawe yn ei wneud yn ardal Mynydd Newydd yn ei etholaeth. Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu 543 o gartrefi newydd fforddiadwy yn rhan o'i raglen partneriaeth tai. Gwn fod Ynys Môn yn bwriadu adeiladu 198 o gartrefi cyngor newydd yn ystod y pum mlynedd nesaf. Mae sir y Fflint yn gwneud cynnydd gyda'r broses o ddatblygu 200 o gartrefi cyngor newydd, ac mae sir Gaerfyrddin—hoffwn i wneud yn siŵr fod pawb yn gwybod nad wyf i'n dewis cynghorau penodol sydd o dan reolaeth pleidiau penodol—drwy ei gynllun cyflenwi tai fforddiadwy yn bwriadu darparu dros 60 o dai cyngor newydd yn ystod y ddwy flynedd nesaf, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gwaith hwnnw sy'n cael ei gyflawni yn Abertawe.