4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:45 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 3:45, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Amcan Llywodraeth Cymru drwy'r cyfan fu datblygu cod erlyn Llywodraeth Cymru sydd yn glir, yn hygyrch ac yn addas at y diben. Mae mewnbwn gan yr holl randdeiliaid wedi bod yn werthfawr wrth ddatblygu cod a fyddai'n rhoi sail glir i erlyniadau gan Lywodraeth Cymru i'r dyfodol wrth inni barhau i weithredu'r cyfreithiau yr ydym yn gyfrifol amdanynt.