– Senedd Cymru am 3:38 pm ar 9 Ionawr 2018.
Eitem 4 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol ar God Erlyn Llywodraeth Cymru. Rwy'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, i gyflwyno'r datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gyfrifoldebau erlyn mewn cysylltiad â'i swyddogaethau. Mae'r cyfrifoldebau hyn yn ymwneud yn bennaf â lles anifeiliaid, cynhyrchu bwyd, a physgodfeydd. Pan fo cyfreithiau’n creu rhwymedigaethau rheoleiddiol a throseddau cysylltiedig, rhaid sicrhau eu bod yn cael eu gorfodi’n briodol er budd llywodraethu da, ac ni fydd yn syndod i Aelodau, felly, bod Llywodraeth Cymru yn cymryd yr angen i orfodi’r materion hyn o ddifrif.
Mae'r camau gorfodi a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru o ran lles anifeiliaid a chynhyrchu bwyd wedi arwain at erlyniadau. Yn fwyaf diweddar, er enghraifft, cafwyd erlyniad yn enw'r Cwnsler Cyffredinol am drosedd â rheoliadau CE o ran marchnata wyau a thwyll. Rwy'n falch o ddweud bod yr erlyniad hwn wedi arwain at euogfarn, dirwy a gorchymyn enillion troseddau. Mae'r achos hwn, ac eraill tebyg, yn ein hatgoffa pan fydd torcyfraith yn dod i'r amlwg—yn yr achos hwn, o fewn y diwydiant wyau yng Nghymru— y dylai troseddwyr fod yn gwbl sicr y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gynnal y gyfraith.
O ran pysgodfeydd, mae swyddogion gorfodi morol sy'n gweithredu ar ran Gweinidogion Cymru wedi ymchwilio i nifer o droseddau yn erbyn deddfau pysgodfeydd yn nyfroedd Cymru, gan arwain at nifer o erlyniadau llwyddiannus. Mae'r erlyniadau hyn yn diogelu uniondeb a chynaliadwyedd y sector pwysig hwn. Er hynny, nid yw ein cyfrifoldebau erlyn yn dod i ben gyda hynny. Mae gennym hefyd gyfrifoldebau erlyn o ran gweithgaredd a reoleiddir ym meysydd gofal cymdeithasol, gofal iechyd annibynnol a gofal plant. Felly, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n ddarparwyr cofrestredig yn un o'r meysydd hynny am dorri gofynion rheoliadol. Yn yr un modd, gellir dwyn erlyniadau yn erbyn unigolion sy'n cyflawni gweithgareddau rheoleiddiedig heb fod wedi eu cofrestru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i erlyniad teg ac effeithiol fel ffordd o gynnal cyfraith a threfn, amddiffyn unigolion, y cyhoedd a'n hadnoddau, a sicrhau bod pob un ohonom yn byw mewn cymdeithas ddiogel a chyfiawn. Mae penderfyniad i erlyn neu hyd yn oed argymell rhybudd yn gam difrifol iawn sy'n effeithio nid yn unig ar yr unigolyn sydd dan amheuaeth mewn achos, ond yn effeithio ar bawb sy'n gysylltiedig â'r achos, yn ddioddefwyr a thystion yn benodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn cadw hyder y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau o ran erlyniadau. Rhan fawr o hynny yw esbonio sut yr ydym yn gwneud ein penderfyniadau a'r egwyddorion sydd yn gymwys wrth wneud y penderfyniadau hynny. Rhaid cymryd pob penderfyniad i erlyn yn deg, yn ddiduedd ac yn ddidwyll. Rwyf felly wrth fy modd o ddatgan heddiw fy mod wedi cyhoeddi Cod Erlyn Llywodraeth Cymru.
Yn Gwnsler Cyffredinol, rwy'n gyfrifol yn gyffredinol am benderfyniadau erlyn yn Llywodraeth Cymru, er y gwneir rhai penderfyniadau erlyn yn enw Gweinidogion Cymru o dan statud. Ym mhob achos, mae angen i mi ystyried a yw'n achos sy'n addas ar gyfer ei erlyn. Hyd yn hyn, gwnaed hynny drwy gyfeirio at God Gwasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer erlynwyr y goron. Fodd bynnag, o heddiw ymlaen bydd pob penderfyniad erlyn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei wneud drwy gyfeirio at god erlyn Llywodraeth Cymru. Mae cod Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar god presennol Gwasanaeth Erlyn y Goron ond wedi ei addasu i gymryd swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru i ystyriaeth.
Cafodd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron CPS ei ddatblygu yn bennaf i'w ddefnyddio mewn perthynas â thramgwyddau troseddol prif ffrwd. Mae felly yn cymryd i ystyriaeth y math o erlyniadau sy'n cael eu cychwyn gan Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu. Mae'n anochel nad yw rhannau o god Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gymwys i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynnwys prawf trothwy sy'n gymwys i achosion dalfa. Yng ngoleuni hyn, ac ynghyd â'r ffaith bod swyddogaethau erlyn Llywodraeth Cymru yn parhau i dyfu, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru gael ei chod erlyn ei hunan. Bydd y cod hwn, sydd wedi ei deilwra'n benodol, yn sicrhau y gwneir penderfyniadau teg a chyson am erlyniadau gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r cod newydd yn pennu fy ngallu cyffredinol i ddechrau erlyniadau o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ymhellach, mae'r cod yn cynnwys y prawf erlyniad, a fydd yn berthnasol i holl achosion erlyn. Mae dau gam ar wahân i'r prawf hwn: yn gyntaf, prawf y dystiolaeth ddigonol, ac yn ail, cam lles y cyhoedd. Mae'r cam tystiolaeth ddigonol yn ei gwneud yn ofynnol i'r erlynydd gael ei fodloni bod digon o dystiolaeth i roi gobaith realistig o euogfarn yn erbyn pob un sydd dan amheuaeth ar gyfer pob trosedd. Mae cam lles y cyhoedd yn ei gwneud yn ofynnol i erlynwyr fynd ymlaen i ystyried a yw erlyniad yn ofynnol er lles y cyhoedd.
Mae’r cod yn amlinellu nifer o ffactorau penodol i'r erlynydd eu hystyried wrth benderfynu ar y budd i'r cyhoedd, sy’n amrywio gan ddibynnu ar gyd-destun yr erlyniad. Er enghraifft, yng nghyd-destun erlyniad amgylcheddol, bydd angen i erlynydd ystyried effaith y drosedd ar yr amgylchedd. Po fwyaf yw effaith y troseddu, y mwyaf tebygol yw hi y bydd angen erlyniad, ac yng nghyd-destun erlyniad gofal cymdeithasol, bydd angen i'r erlynydd ystyried a oes elfen o berygl i iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd.
Cyn y cafodd y cod hwn ei gyhoeddi, lansiodd fy rhagflaenydd a’m cydweithiwr Mick Antoniw ymgynghoriad cyhoeddus ar god drafft er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid a'r cyhoedd gyflwyno sylwadau a barn. Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i bawb wnaeth ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Cafwyd nifer o sylwadau gwerthfawr a gallaf gadarnhau y cafodd diwygiadau eu gwneud i'r cod drafft o ganlyniad i'r sylwadau hyn. Hoffwn ddiolch yn benodol i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y sylwadau ynghylch eglurder yn benodol. Mae’r cod wedi elwa ar fewnbwn y pwyllgor ac rwy’n gobeithio y bydd yn cytuno bod y cod terfynol yn gliriach oherwydd hynny. Hoffwn ddiolch, yn olaf, i Wasanaeth Erlyn y Goron am gydweithio'n agos â swyddogion Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu'r cod.
Amcan Llywodraeth Cymru drwy'r cyfan fu datblygu cod erlyn Llywodraeth Cymru sydd yn glir, yn hygyrch ac yn addas at y diben. Mae mewnbwn gan yr holl randdeiliaid wedi bod yn werthfawr wrth ddatblygu cod a fyddai'n rhoi sail glir i erlyniadau gan Lywodraeth Cymru i'r dyfodol wrth inni barhau i weithredu'r cyfreithiau yr ydym yn gyfrifol amdanynt.
Diolch ichi. David Melding.
Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn gwneud ymyriad byr, ond mae gennyf un prif ymateb, mewn gwirionedd, a hwnnw yw: beth oedd cywair yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gyffredinol? Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, fis Mai diwethaf cafodd cod drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Hyd y gwn i, ni chyhoeddwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rwy'n ymddiheuro os fy methiant TG i yw hynny, ond nid wyf wedi llwyddo i gael gafael arnyn nhw, ac nid wy'n credu bod dadansoddiad o'r ymatebion wedi bod ar gael inni. Rwyf i o'r farn y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, yn enwedig gan eich bod wedi dweud bod y cod wedi'i ddiwygio mewn gwirionedd yng ngoleuni'r ymatebion hyn. Eto i gyd, rwyf wedi gweld ymateb yr RSPCA i'r ymgynghoriad ar wahân ac roedd pryderon ynddo am y prawf erlyn, sydd, fel y dywedasoch, yn allweddol i'r ymgynghoriad gan ei fod yn culhau cymhwysiad cod Llywodraeth Cymru o'i gymharu â chod Gwasanaeth Erlyn y Goron. Yn amlwg, mae hwn yn bwynt y byddai angen ystyriaeth ofalus ohono a naill ai sicrwydd neu wrthbrawf o'ch safbwynt chi.
Yn olaf, hoffwn i ofyn a oes unrhyw asesiad o allu Llywodraeth Cymru i gyflawni'r dasg hon a gweithredu'r cod yn effeithiol. O ystyried y bydd gennym fwy o gyfraith Cymru, yn ôl pob tebyg, mae'n mynd yn fwy ar wahân, ac mae dyletswyddau erlyn yn debygol o dyfu. Rwy'n cytuno â chi yn sicr fod angen inni sicrhau gweithrediad teg ac effeithiol o'r gyfraith, ni chawn ni ein llywodraethu yn dda fel arall, ac felly yn wir mae hynny'n mynd at galon hyn. Wrth wneud hynny, rwy'n ymwybodol iawn y bydd angen ystyriaeth ofalus iawn, iawn o'r materion hawliau dynol dan sylw pan fydd pobl yn wynebu torcyfraith, ac wrth gasglu tystiolaeth a phethau tebyg, fel sy'n digwydd yn amlwg ar hyn o bryd gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Diolch. O ran cyhoeddi'r ymatebion i'r ymgynghoriad, maen nhw wedi'u cyhoeddi mewn gwirionedd, felly gwnaf yn siŵr eu bod yn cael eu hanfon eto mewn e-bost heddiw, a gwnaf yn siŵr bod yr Aelod yn cael copi. Mae e'n iawn i ddweud bod nifer o'r pwyntiau a godwyd yn ymwneud â'r cwmpas, fel petai. Roedd rhanddeiliaid yn awyddus i gael rhagor o eglurder ynghylch y sawl y mae'r cod yn berthnasol iddo, er enghraifft, ac felly gwnaed diwygiadau i egluro'n benodol ei fod yn ymwneud â swyddogaethau Llywodraeth Cymru yn unig yn hytrach na chyrff trydydd parti sydd a'u swyddogaethau erlyn eu hunain o bosib.
Roeddech chi'n sôn am y prawf erlyn yn benodol, ac, unwaith eto, mae rhanddeiliaid amrywiol wedi gwneud sylwadau ar gam lles y cyhoedd ac wedi gwneud rhai awgrymiadau penodol am welliannau i'r cam hwnnw, a rhoddwyd ystyriaeth i sawl un o'r awgrymiadau hynny.
Roeddech chi'n holi am effaith y cod ar y capasiti yn gyffredinol i fynd ar drywydd rhai o'r erlyniadau. Efallai y byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymhwyso cod erlyn Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy'n nodi ei gamau ei hun. Felly, mae hyn yn golygu rhyw fath o werthusiad o'r hyn sy'n benodol i Lywodraeth Cymru. Yn amlwg, gwneir penderfyniadau am erlyniadau ar sail ffeithiau pob erlyniad unigol, ac mae nifer yr erlyniadau yn amrywio o faes i faes, ac wrth gwrs yn amrywio dros amser. Rhan yw hynny o gyfrifo neu ddadansoddi lles y cyhoedd sy'n ymwneud â chymesuredd y penderfyniadau i erlyn, ac un o'r ffactorau yw'r gost, er na fyddech yn gwneud penderfyniad ar sail hynny'n unig.
O ran capasiti'n fwy cyffredinol, mae gan y gweinyddiaethau datganoledig eraill asiantaethau erlyn ar wahân, wrth gwrs. Yn y tymor hir, gellid ystyried hynny'n rhan naturiol o daith datganoli, sydd â chysylltiad agos â datganoli cyfrifoldebau cyfiawnder. Mae'r asiantaethau hynny yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ac rwyf am fentro dweud, dros amser, wrth i'n cyfrifoldebau erlyn ni dyfu, y bydd hynny o bosib yn rhan o'r ystyriaethau y byddwn ni'n dymuno eu cael yma yng Nghymru hefyd.
A allaf i groesawu datganiad y Cwnsler Cyffredinol? A allaf i hefyd groesawu'r bwriad a hefyd croesawu ymddangosiad cod erlyn Llywodraeth Cymru, achos mae hyn yn adeiladau ar gael pwerau deddfwriaethol yma yng Nghymru? Wrth gwrs, fe fydd y Cwnsler Cyffredinol yn rhy ifanc i gofio Deddfau Hywel Dda ar y pryd, dros 1,000 o flynyddoedd yn ôl, ond rydym wedi cael y gallu yma yng Nghymru i greu deddfwriaeth o'r blaen ac i erlyn pobl, felly rwy'n gweld hyn fel cam cyntaf i adennill y tir deddfwriaethol. Dyna pam y cewch chi groeso cynnes o'r blaid hon am eich bwriad.
Wrth gwrs, mae yna rai heriau, achos, fel rydych wedi crybwyll eisoes, ac mae'n wybyddus i bawb fod cyfiawnder troseddol fel y mae e heb ei ddatganoli, ond mae gan y Llywodraeth yn fan hyn rym i erlyn pobl sydd yn troseddu yn y meysydd datganoledig yna—fel rydych wedi crybwyll: pysgodfeydd, lles anifeiliaid, bwyd, gofal cymdeithasol a phlant. Wrth gwrs, mae yna her yn mynd i ddod pan mae'r broblem neu'r drosedd yn cael ei gweld yn fwy difrifol na beth sydd gyda ni'r pwerau i'w herlyn nhw o dan jest y meysydd datganoledig. Fe fuaswn i jest eisiau gwybod mwy am y broses, ond rwy'n croesawu'r bwriad i gael y cefndir clir yma rydych chi'n datgan i'r cod, a bod y cod yma'n mynd i fod yn glir ac yn hygyrch ac yn gymesur efo'r gwaith. Achos mae'n bwysig iawn—er taw dim ond y grym i erlyn pobl sy'n troseddu ym meysydd datganoledig sydd gyda ni ar hyn o bryd, mae'r meysydd hynny, er hynny, yn feysydd pwysig iawn. Mae diogelu ein hadnoddau naturiol yn allweddol bwysig. Mae'n bwysig felly eich bod chi fel Cwnsler Cyffredinol yn gallu cael y grym i fynd i'r afael efo'r her yna.
Rwy'n dilyn cwestiwn David Melding ynglŷn â deddfwriaeth hawliau dynol yn yr un un achos yna o feddwl sut mae materion gweddol ddifrifol mewn meysydd datganoledig yn mynd i gael eu delio efo nhw pan mae gyda chi ddau gwahanol god, fel rydych wedi awgrymu—eich cod chi a hefyd cod y CPS. Mae her yn fanna. Fe fuaswn i'n eich cefnogi chi i wthio pob maen i bob wal a sicrhau bod pob ffin yn cael ei gwthio i'r eithaf i sicrhau bod eich cod erlyn chi fel Llywodraeth yn cael digon o rym i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu gwneud beth rydym ni'n disgwyl iddo fe ei wneud. Achos ar ddiwedd y dydd, beth rydym ni eisiau gweld yn y fan hyn wrth inni gamu ymlaen a chael rhagor o ddatganoli ydy, wrth gwrs, gwasanaeth erlyn Cymreig hefyd, a hefyd awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig sydd ar wahân i awdurdodaeth gyfreithiol Cymru a Lloegr, sydd gyda ni ar hyn o bryd.
Yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth gwrs, rydym wedi bod yn craffu ar ddeddfwriaeth yn y lle yma sydd nawr yn naturiol ddwyieithog, ac mae yna her yn hynny hefyd yn sut rydym ni'n datblygu Deddfau wrth fynd ymlaen, a sut rydym ni'n erlyn pobl yn y meysydd datganoledig yma wrth fynd ymlaen hefyd. Roeddwn i'n gweld un o'r ymadroddion yn yr ymgynghoriad yn dweud, 'Wel, beth am yr iaith Gymraeg, felly?' ac 'A ydy'n bosib i herio ac i erlyn yn yr iaith Gymraeg?', a buaswn i'n gobeithio y buasech ni'n gallu cyfiawnhau a chadarnhau ei bod hi yn bosib erlyn rhywun yn y meysydd yma drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.
Wrth gwrs, wrth imi gloi rŵan, mae angen inni fod yn cysoni Deddfau newydd wrth fynd ymlaen hefyd. Rydym ni wedi cael sôn yn y Siambr hon o'r blaen am yr angen i wneud hynny—cydredeg Deddfau newydd efo'r hen rai a hefyd dod â'r agwedd ddwyieithog yma i mewn iddo fe, fel ein bod ni yn y pen draw yn gallu symleiddio pob cod cyfreithiol sydd yn mynd ymlaen. A allaf i ofyn i chi egluro faint o waith ehangach sydd yn digwydd yn nhermau yr angen i wneud yn siŵr bod cod erlyn eich Llywodraeth chi yn mynd i fod yn llwyddiannus yn hyn o beth?
Y pwynt sylfaenol, wrth gwrs, ydy eich bod wedi sôn am beth sy'n digwydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ac ati, a gyda'r holl sôn am erlyn a deddfwriaeth rydym ni ar y meinciau hyn yn gredwyr cryf yn yr angen i ddatganoli y materion hyn ta beth yn eu cyfanrwydd. Mi fuasai yn symleiddio'r broses. Fuasech chi ddim yn cael y mur yma rhwng eich cod chi a chod y CPS wedyn. Buasai'n llawer haws petai'r heddlu wedi eu datganoli yma yn y lle cyntaf, fel y mae i'r Alban a Gogledd Iwerddon, Llundain a Manceinion hyd yn oed. Pe bai'r llysoedd, y gwasanaeth prawf, carchardai ac ati i gyd wedi eu datganoli i'r lle yma, mi fuasai yn gwneud eich gwaith chi o ddatblygu'r cod erlyn yma yn llawer haws ac yn llawer cryfach hefyd. A fuasech chi yn cytuno efo'r bwriad yna taw'r ffordd ymlaen ydy gweithio yn gyson i ddatganoli rhagor o bwerau deddfwriaethol i'r Siambr yma? Diolch yn fawr.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Ar y materion olaf y gwnaeth eu codi yn ei gwestiwn, fel y bydd e'n gwybod mae'r Prif Weinidog wedi sefydlu comisiwn Thomas a fydd yn edrych i mewn i lot o'r cwestiynau a oedd ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod ynglŷn â'r siwrnai ddatganoli ynglŷn â meysydd cyfiawnder yn gyffredinol, a'r sefydliadau sydd ynghlwm yn hynny, yn cynnwys yr heddlu ac ati. Rwy'n dymuno'n dda i'r comisiwn a'i waith ac rwy'n gobeithio y bydd eglurhad a dadansoddiad a gwaith y comisiwn yn gallu dwyn y siwrnai hynny ymhellach yn ei blaen.
Fe wnaeth e hefyd sôn am y cwestiwn o hygyrchedd y gyfraith yn gyffredinol a'r system gyfiawnder. Bydd e'n gwybod efallai am waith Comisiwn y Gyfraith, sydd wedi darparu adroddiad ar hynny yn benodol, ac mae'r Llywodraeth wedi derbyn sawl un o'r argymhellion hynny. Mae'r ffaith bod y Llywodraeth yn gwneud darnau o waith ynghlwm â hynny yn hysbys iddo fe hefyd.
Fe wnaeth e ofyn am enghraifft o sut mae'r penderfyniadau i erlyn yn cael eu cymryd ar hyn o bryd. Gan ddefnyddio enghraifft o fyd pysgota a physgodaeth, bydd swyddogion ar lawr gwlad yn paratoi ffeil i Weinidogion ystyried hynny. Bydd hynny yn dod ataf i gydag argymhelliad i ddwyn achos. Byddaf i wedyn yn asesu'r achos i sicrhau bod y profion yn cael eu hateb—y profion rwyf wedi sôn amdanyn nhw yn y datganiad yn barod—ac wedyn yn penderfynu ar sail y cod newydd beth yw'r penderfyniad iawn i'w gymryd. Felly, dyna'r ffordd mae'n digwydd ar y cyfan.
Fe wnaethoch chi sôn am y berthynas rhwng y cod hwn a gwaith y CPS yn gyffredinol. Fe wnaf i ailddweud: dim ond i benderfyniadau y Llywodraeth yng Nghymru ar erlyn y mae'r cod hwn yn berthnasol. Mae cod y CPS yn annibynnol ond, wrth gwrs, mae cynnwys y cod hwnnw yn debyg iawn i gynnwys cod Llywodraeth Cymru, gyda'r newidiadau pwysig rwyf wedi sôn amdanyn nhw. O bryd i'w gilydd, mae'n agored i Lywodraeth Cymru i basio rhywbeth ymlaen i'r heddlu neu i'r CPS. Yn yr amgylchiadau hynny, o dan god y CPS y byddai'r materion hynny yn mynd yn eu blaenau. Mae hefyd yn bosib i'r CPS gymryd drosodd erlyniad gan Lywodraeth Cymru neu gan Lywodraeth yn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Eto, o dan yr amgylchiadau hynny, cod y CPS fyddai'n berthnasol.
Diolch am y cod a gaiff ei gyhoeddi heddiw. Mae arnaf ofn nad wyf i wedi ei weld ac efallai y bydd rhai o'r cwestiynau yr wyf yn eu gofyn eisoes wedi eu hateb, ac ymddiheuriadau am hynny.
Y cwestiwn cyntaf yw hyn: a ydyw'r cod, fel y'i cyhoeddir, yn eglur o ran y mannau y mae'n gwyro oddi wrth y cod Gwasanaeth Erlyn y Goron presennol er mwyn inni allu gweld yn glir ymhle mae'r gwahaniaethau yn bodoli. Y rheswm am ofyn y cwestiwn hwn yw, pan drafodwyd y cynnig am ddeddfu ychwanegol ar gyfer Cymru yn y Cynulliad diwethaf, yn enwedig yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, cawsom sicrwydd clir gan y Prif Weinidog ar y pryd, na fyddai egwyddorion y gyfraith, os gallaf ei roi fel hynny, yn wahanol i Gymru a Lloegr. Felly, er enghraifft, nid yw'r hyn sy'n gyfraith droseddol yn wahanol yn y ddwy awdurdodaeth botensial; nid yw'r hyn sy'n ffurfio contract yn wahanol. Felly, nid yw'n fater o droseddau penodol, mae a wnelo â'r hanfodion hynny—wyddoch chi, y pethau yr ydym yn eu dysgu yn ysgol y gyfraith, yn y bôn. Felly, rwy'n ceisio cael rhywfaint o sicrwydd yma, wrth lunio'r cod sy'n ymdrin â gweithrediad cyfraith a gweinyddu'r gyfraith, nad oes dim ynddo, sy'n anfwriadol efallai, yn baglu dros y terfyn hwnnw ac a fyddai'n arwain at gyfres o ffeithiau am drosedd yn cael eu trin mewn ffordd wahanol iawn ar y naill ochr i'r ffin a'r llall. Ni fyddwn i'n disgwyl gweld gwahaniaeth mewn canlyniad pan ddaw'n fater o gyfraith droseddol lle mae'r ffeithiau yr un peth ar y naill ochr i'r ffin a'r llall.
A'r ail gwestiwn yw hyn: pa ystyriaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i droseddau o atebolrwydd caeth neu droseddau lle mae baich y prawf i'r gwrthwyneb? Fel arfer, mae baich y prawf i'r gwrthwyneb yn y troseddau hynny sy'n neilltuol i Gymru. Yr enghraifft a ddaw i'r meddwl yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016—nid wyf am ailadrodd yr holl beth yma—ond yn sicr mae trosedd yn y Ddeddf honno sydd yn troi baich y prawf yn y fan honno i'r gwrthwyneb. Pan drafodwyd mater hawliau dynol, roedd Ysgrifennydd y Cabinet ar y pryd o'r farn y bodlonwyd y prawf hawl i gael achos teg, ond byddwn i wedi dadlau y ceir tystiolaeth i hynny yng nghyfraith Cymru a Lloegr drwy'r egwyddor o fod yn ddieuog nes y cewch eich profi'n euog. Felly, eto, rwy'n holi tybed a fyddech chi'n gweithredu'r cod hwn i deddfwriaeth ar gyfer Cymru yn unig yn wahanol i'r gyfraith sy'n gymwys yng Nghymru a Lloegr am drosedd sy'n digwydd yng Nghymru?
Fe wnaethoch chi ofyn am eglurhad o'r gwahaniaethau gyda chod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyffredinol. Ceir nifer o wahaniaethau allweddol: maen nhw'n ymwneud yn bennaf â natur gwahanol y troseddau y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau erlyn drostynt. Un o'r prif wahaniaethau yw hyn: yn wahanol i god Gwasanaeth Erlyn y Goron, nid yw cod erlyn Llywodraeth Cymru yn cynnwys cyfeiriad at brawf trothwy, sef, er enghraifft, fel yr ydych efallai yn gwybod, pan geir trosedd sy'n golygu carchar a lle bod risg mechnïaeth sylweddol gyda'r un dan amheuaeth. Nid yw hynny'n berthnasol i'r troseddau y mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i'w herlyn yn gyffredinol. Felly, er enghraifft, nid yw hynny wedi'i gynnwys.
Cafodd cod Gwasanaeth Erlyn y Goron ei addasu i adlewyrchu'r swyddogaethau erlyn yn fwy penodol. Nodwyd crynodeb o alluoedd erlyn y Cwnsler Cyffredinol yn y cod, ac nid yw hyn yn amlwg yn ymddangos yng nghod Gwasanaeth Erlyn y Goron am resymau amlwg. Soniais yn fy ateb cynharach am fater prawf lles y cyhoedd, gan roi enghreifftiau penodol o sut y gallai prawf lles y cyhoedd weithredu o fewn cyd-destun y troseddau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu herlyn. Ceir hefyd rai newidiadau allweddol o ran cwestiynau lleoliad ar gyfer treial ac o ran datrysiadau y tu allan i'r llys. Eto, mae'r rheolau'n wahanol ar gyfer y mathau o droseddau y byddai Llywodraeth Cymru yn eu herlyn i'r cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gyffredinol. Mae cod Gwasanaeth Erlyn y Goron yn berthnasol, wrth gwrs, i'r gyfraith droseddol yn gyffredin, os mynnwch chi, sydd yn gyd-destun gwahanol o weithredu i'r hyn y mae cod erlyn Cymru Llywodraeth Cymru yn gymwys iddo.
Ar y cwestiwn o faich y prawf ac sut mae rhywun yn asesu a ddylid bwrw ymlaen â throseddau unigol lle bod hynny'n wir: eto, yn y cod, nodir y prawf tystiolaeth ddigonol, i bob pwrpas, sy'n cynnwys y gofyniad i ragweld dadleuon ar y naill ochr a'r llall o'r achos. A bydd hynny'n cynnwys gwerthusiadau o dderbynioldeb y dystiolaeth, dibynadwyedd y dystiolaeth a'i hygrededd, ac mae hynny'n berthnasol i'r dystiolaeth yn ei chyfanrwydd.
Fe wnaethoch chi godi mater deddfwriaeth hawliau dynol, ac yn wir y mae Aelodau eraill wedi codi hynny. Mae'r cod yn ei gwneud hi'n glir ei bod yn rhaid i erlynwyr gymhwyso darpariaethau'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn unol â Deddf Hawliau Dynol 1998, ac mae'n benodol glir yn y cod ei bod yn rhaid i erlynwyr roi sylw i ofynion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sydd wrth gwrs wedi'i weithredu ymhellach yng Nghymru yn benodol.
Diolch i chi, Cwnsler Cyffredinol.