6. Dadl: 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni'

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 4:20, 9 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Nid cynllun ar gyfer y Cymoedd a gyhoeddwyd gennym ni yr haf diwethaf, ond cynllun gan y Cymoedd. Cafodd ei ddylunio a'i gyhoeddi o ganlyniad i sgyrsiau a gawsom ni gyda phobl ledled rhanbarth y Cymoedd. Gosodwyd amcanion clir a ddiffiniwyd gan y sgyrsiau a gawsom ni â phobl. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ym mis Tachwedd a oedd yn ceisio bryd hynny roi ymrwymiadau clir ac, eto, i sicrhau atebolrwydd yn yr hyn yr oeddem ni'n ei wneud. Nodwyd nifer o amcanion a chamau gweithredu gwahanol yn y cynllun cyflawni hwnnw. Gosodwyd terfynau amser a thargedau, pennwyd amserlenni ar gyfer cyflawni'r amcanion a'r uchelgeisiau yr ydym ni wedi gosod i'n hunain. Yn y modd hwn, rydym yn  ceisio mynd ati o ddifrif i fynd i'r afael â rhai o'r materion sylfaenol sy'n ein hwynebu yn y Cymoedd—nid er mwyn gwneud dim byd ond cynhyrchu adroddiadau ac ymarferion cysylltiadau cyhoeddus, ond i fynd i'r afael â hanfodion economi sydd wedi bod yn dirywio ers gormod o flynyddoedd, ers gormod o genedlaethau, ac yna i fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n effeithio arnom ni yn ein cymunedau a'r bobl sy'n byw yn y cymunedau hynny.

Rydym wedi buddsoddi amser yn gwrando ar bobl o bob rhan o'r Cymoedd ac yn cydweithio gyda phobl o bob rhan o'r Cymoedd. A byddwn yn parhau i weithio yn y modd hwn. Caniatewch imi roi hyn ar ddeall y prynhawn yma. Byddaf yn cyhoeddi cynlluniau pellach dros y misoedd nesaf. Bydd gan bob un o'r cynlluniau hyn amserlenni, targedau a therfynau amser clir ynghlwm wrthynt. Byddwn yn cyhoeddi cynlluniau clir ar gyfer pob un o'r canolfannau strategol yr ydym ni ar hyn o bryd yn eu hystyried ac yn ymgynghori arnynt, a byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud datganiadau pellach ac i arwain dadleuon pellach ynglŷn â phob un o'r materion hyn wrth i'r gwaith fynd rhagddo. Mae'n iawn ac yn briodol nad yw'r Llywodraeth yn ceisio osgoi atebolrwydd ond yn ein galluogi i gael ein dwyn i gyfrif drwy gyhoeddi'r holl wybodaeth sy'n sail i'n penderfyniadau.

Dirprwy Lywydd, rydym wedi cael nifer o wahanol negeseuon cryf gan bobl wrth inni gynnal yr ymarfer hwn. Rydym wedi pennu tri maes amlwg y bydd ein gwaith yn canolbwyntio arnynt: yn gyntaf, yr angen am swyddi cynaliadwy o ansawdd da a'r cyfle i hyfforddi fel y bydd pobl yn y Cymoedd yn gallu elwa o'r swyddi hyn. Rydym wedi gosod targed uchelgeisiol o helpu 7,000 o bobl ddi-waith neu bobl economaidd anweithgar sy'n byw yn y Cymoedd i gael gwaith drwy greu miloedd o swyddi newydd, teg, diogel a chynaliadwy erbyn 2021. A gadewch i mi fod yn hollol glir: pan rwy'n sôn am swyddi, rydym yn sôn am waith teg yn y Cymoedd. Yn rhy aml o lawer, gwyddom fod pobl yn ein cymunedau yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, am lawer o'r rhesymau a amlinellwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn y ddadl flaenorol. Ond maen nhw'n gweithio'n galed bob dydd, heb gael eu gwobrwyo am yr holl waith caled hwnnw. Gwyddom nad yw ein heconomi yn gweithio ar gyfer nifer yn y Cymoedd. Byddwn yn sicrhau, wrth greu gwaith, y byddwn yn canolbwyntio ar waith teg yn y Cymoedd, a byddwn yn gwneud hynny yn rhan o bopeth a wnawn. 

Byddwn yn creu saith canolfan strategol. Rydym ar hyn o bryd wrthi'n arwain cyfres o seminarau ynglŷn â phob un o'r canolfannau hyn fel eu bod nhw'n adlewyrchu buddiannau ac anghenion yr ardaloedd y maen nhw'n eu gwasanaethu. Nid oes templed unigol a grëwyd naill ai ym Mae Caerdydd neu ym Mharc Cathays a gaiff ei weithredu'n ddidostur ym mhob un o'r lleoedd hyn. Bydd yn adlewyrchu anghenion pob ardal unigol. Byddwn yn ceisio defnyddio buddsoddiad cyhoeddus i ddenu buddsoddiad o'r sector preifat, gan greu swyddi a chyfleoedd. Byddwn hefyd yn sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau cyhoeddus gorau posib. Un o'r pwyntiau a wnaed dro ar ôl tro ar ôl tro mewn cyfarfodydd ledled y Cymoedd yw'r angen i allu defnyddio trafnidiaeth leol o ansawdd uchel. Gallwn greu faint fynnwn ni o swyddi ar goridor yr M4, ond fyddwn ni ddim yn ymdrin â phroblemau tlodi yn Nhreherbert neu Dredegar oni bai fod gennym gyfleoedd i bobl weithio yn y Cymoedd yn ogystal ag yn y coridorau deheuol. Felly, byddwn yn buddsoddi mewn cyfleoedd hyfforddiant, byddwn yn buddsoddi mewn trafnidiaeth, a byddwn yn ceisio buddsoddi mewn gweithgareddau sy'n hybu'r economi yn y Cymoedd eu hunain. Ac mae'r Ysgrifennydd Economaidd, fy nghyfaill a'm cyd-Weinidog Ken Skates, eisoes wedi gwneud nifer o ddatganiadau ynglŷn â hynny. 

Y maes a'r thema olaf y byddwn ni'n ymdrin â nhw yw'r gymuned. Yn aml iawn, rydym yn siarad am ein cymunedau mewn ffordd rhy ramantus, ac nid wyf i'n un sy'n adnabyddus am fod yn rhamantus, yn anffodus. Ond gadewch imi ddweud hyn: mae angen inni ganolbwyntio ar yr hyn mae'n ei olygu i fod yn gymuned a sut y gallwn ni fuddsoddi ym mywydau pobl yn y Cymoedd. Fel llawer o bobl, fe wnes i fwynhau gwyliau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd gyda'r teulu, gan fanteisio ar y cyfle i gerdded a mwynhau ardal y Cymoedd, ac, yn sicr, pan wyf yn mynd â'r mab a'm plant am dro o gwmpas y Cymoedd a'r broydd a Bannau Brycheiniog ac ati, rwyf bob amser yn dweud wrthyn nhw am hanes eu cynefin a hanes ein cymunedau. Mae'n bwysig mai'r hyn yr ydym yn gallu ei wneud yw rhoi modd i bobl a galluogi pobl i ymfalchïo unwaith eto yn y gymuned lle maen nhw'n byw. Mae angen inni fynd i'r afael â materion megis taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon, ond mae angen inni hefyd fuddsoddi yn nhreftadaeth a naws cymunedau de Cymru. Es i a fy mab i Flaenafon, at fedd Foxhunter, ar ddydd San Steffan, ac es ag ef ar hyd y ffordd honno ac egluro wrtho sut yr oedd y rhan hon o'r byd, lle mae ei wreiddiau a gwreiddiau ei deulu, wedi chwarae rhan yn creu chwyldro diwydiannol sydd wedi creu trefn byd newydd ac arwain at greu diwydiant ar draws y byd—ein Cymoedd, ein hanes, ein cymuned, ein treftadaeth, ac mae angen inni sicrhau bod hynny ar gael i'n holl bobl, ac y gallan nhw fyw bywydau lle maen nhw'n falch o'r hyn yr ydym ni'n gallu ei gyflawni a byw hefyd mewn cymunedau lle y gallwn ni fod yn falch o'r hyn y gallwn ni ei gyflawni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd tasglu'r Cymoedd yn gatalydd ac yn ein helpu i gyflawni llawer o'r amcanion hynny, ac edrychaf ymlaen at y ddadl y prynhawn yma.