Part of the debate – Senedd Cymru am 4:30 pm ar 9 Ionawr 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddweud ar y dechrau, drwy ymateb i’r Ysgrifennydd Cabinet, fy mod i yn dymuno yn dda iddo fe gyda gwireddu amcanion clodwiw y strategaeth yma? Nid wyf am eiliad, a dweud y gwir, yn amau ei ddiffuantrwydd ef a’i commitment personol i’r dasg honno.
Lle mae yna anghytundeb rhyngom ni, wrth gwrs, yw’r graddau y gallwn ni ddisgwyl i’r strategaeth yma gael ei gwireddu, oherwydd un peth sydd yn wir: os ydym ni’n edrych nawr dros hanes y Cymoedd yn mynd yn ôl i 1930au’r ganrif ddiwethaf, mae wedi bod yn frith o strategaethau clodwiw, a dweud y gwir, a bron ym mhob cenhedlaeth rydym wedi gweld gosodiad polisi gan y Llywodraeth ar y pryd sydd yn ceisio gwneud yn iawn am ddiffygion y blynyddoedd cynt. Gallech chi fynd yn ôl i’r dechrau, a dweud y gwir, a’r polisi rhanbarthol yn y 1930au, yn y chwalfa, a llyfr Hilary Marquand, South Wales Needs a Plan. Mae dal yn wir, a dyna’r drasiedi, ac rwyf i yn gobeithio mai dyma fydd y cynllun a fydd yn troi’r cornel i’r cymunedau rŷm ni’n eu cynrychioli.
Ond, os ŷm ni’n edrych yn ôl dros amser, y patrwm yr ydym ni’n ei weld ydy, o ddyfynnu Saesneg Idris Davies,
‘The great dream and the swift disaster’.
Hynny yw, rŷm ni’n gwybod am gynllun y Llywodraeth Geidwadol ddiwedd y 1980au, a dwy fenter y Cymoedd—y Valleys initiatives—ond hyd yn oed ers datganoli, roedd yna gynllun yr un mor glossy wedi cael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Lafur Cymru 12 mlynedd yn ôl: ‘Turning Heads: A Strategy for the Heads of the Valleys 2020’. Geiriau da, syniadau da, a rhai ohonyn nhw yn debyg, a dweud y gwir, i rai o’r syniadau sydd yn y cynllun yma—yn lle parc tirwedd ar gyfer y Cymoedd, parc rhanbarthol ar gyfer y Cymoedd.
Mae’n rhaid gofyn cwestiwn: pam ŷm ni bob rhyw 10, 15, 20 mlynedd yn gorfod cael strategaeth newydd, gorfod cael tasglu newydd, neu beth bynnag rŷm ni'n ei alw fe? Oherwydd bod polisi wedi methu â mynd i'r afael â phroblemau dwfn, strwythurol y Cymoedd. Rydw i'n deall y pwynt, wrth gwrs. Rydw i'n cytuno â'r Ysgrifennydd Cabinet; nid oes dim eisiau cwango. Ond trasiedi'r cymoedd yw—ac rydym ni'n sôn, wrth gwrs, am ranbarth sydd yn cynnwys poblogaeth o ryw 750,000 o bobl—nid oes yna ddim siâp strwythurol, sefydliadol wedi bod iddo fe. Nid oes yna ddim endid rhanbarthol o ran llywodraethiant wedi medru mynd i'r afael â phroblemau'r ardal yna.
Mae'n debyg iawn, a dweud y gwir, i ardal y Ruhr yn yr Almaen, sy'n ardal faith iawn, llawer mwy—miliynau o bobl—ond sydd hefyd wedi methu â chael undod a chysondeb o ran polisi, oherwydd mae yna ryw 53, a dweud y gwir, awdurdod lleol yn yr ardal yna. Beth maen nhw wedi'i wneud yn y Ruhr, wrth gwrs, yw: ar droad y mileniwm, y flwyddyn 2000, fe wnaethon nhw greu corff datblygu economaidd ar gyfer y Ruhr am y tro cyntaf. Mae'n dal mewn bodolaeth heddiw. Rydw i'n credu mai dyna un o'r rhesymau pam fod y Ruhr wedi medru troi'r cornel—bod gyda nhw gorff, a chorff, gyda llaw, sydd yn atebol yn ddemocrataidd, nid yn gwango. Mae'n atebol i'r 53 o ddinasoedd a threfi o fewn y rhanbarth. Ond mae wedi medru nid yn unig llunio y strategaeth, ond gwneud yn siŵr ei bod hi wedi cael ei gwireddu. Dyna fy ngofid i, a dweud y gwir: ein bod ni hefyd yn mynd i gael yr un drafodaeth mewn 10 i 15 mlynedd eto—strategaeth dda, ond heb gael ei gwireddu oherwydd nad oedd y cyfrwng yna ar gyfer sicrhau hynny.