Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 9 Ionawr 2018.
Hoffwn ategu'r ffaith y bu disgwyl hir a chroeso mawr i'r cynllun drafft hwn, fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i grybwyll yma heddiw. Ac rwyf hefyd yn gresynu'r oedi cyn ei gyhoeddi, o ystyried y bu modd i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull o reoli ein moroedd a arweinir gan gynllun ers cyflwyno Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac er gwaethaf galwadau gan bwyllgorau blaenorol i roi blaenoriaeth i ddatblygu'r cynllun hwn. Hyd yma, rydym yn nodi bod rheoli a rheoleiddio ein hamgylchedd morol wedi bod yn ddi-drefn, ac yn cael ei wneud yn bennaf ar sail ad hoc, fesul sector. Felly, yn naturiol, rydym yn croesawu'r potensial ar gyfer dull rheoli morol mwy cydgysylltiedig yn y dyfodol.
O ran yr amgylchedd, mae datganiad polisi morol y DU yn mynnu bod yn rhaid i gynllunio morol fabwysiadu dull seiliedig ar ecosystemau, gan sicrhau cydbwysedd rhwng twf economaidd a chadwraeth. Yn benodol, rydym yn gwybod bod yn rhaid i'r cynllun gefnogi gweledigaeth y DU ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae'n ddiddorol braidd fy mod gyda chyd-Aelodau yma heddiw a oedd yn y Pwyllgor Deisebau y bore yma, ac rydym yn canfod bod yr holl ddadl a phryderon bellach am wastraff Hinkley yng Nghaerdydd yma—na fu unrhyw asesiad am effaith hynny ar fywyd morol, ac mae hynny'n peri llawer o bryder imi. Ymhellach, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gofyniad i'r cynllun helpu i reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Eto, fel y nodwyd gennym, ar ôl wyth mlynedd o datblygu, nid yw'r ddogfen hon yn cynnig y mewnwelediad, y cwmpas na'r manylion y byddem yn gobeithio eu gweld.
Yn fy etholaeth fy hun, mae gennyf nifer o bryderon penodol am reoli morol, ac rwy'n falch iawn i gynrychioli etholaeth sy'n gyfoethog iawn mewn bywyd morol o bob math. Byddwn yn cynghori unrhyw un, os oes gennych ddiddordeb yn beth yn union sydd o dan ein moroedd, i gael copi o ffotograffiaeth, neu'r nifer o lyfrau y mae Paul Kay wedi'u hysgrifennu a/neu hyd yn oed wylio un o'i ffilmiau. Tynnwyd sylw at y bygythiad i forloi a llamhidyddion harbwr o amgylch Bae Angel a Thrwyn y Fuwch gan gychod a cheiswyr hamdden dim ond yr wythnos diwethaf, gyda'r enghraifft drist o lamidydd wedi'i niweidio wedi ei olchi yn farw i'r lan yno. Rwy'n falch i fod yn hyrwyddwr llamhidydd yr harbwr ar gyfer y Cynulliad. Yn ogystal, mae pysgotwyr yn yr ardal wedi dweud bod stociau cregyn gleision Conwy yn lleihau, ac mae ganddynt statws rhyfeddol ers 100 mlynedd, ac mae angen eu diogelu a'u cadw. Ac eto, mae yna ostyngiad pryderus yn y lefelau o hadu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r gwaith o reoli'r stoc unigryw hon wedi bod yn wael, gan arwain at gau gwelyau yn gynharach eleni fel ymgais olaf i'w diogelu. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, nid yw'r amgylchedd na'r economi yn elwa, felly mae'r cydbwysedd yr anelir ato yn y cynllun drafft hwn yn cael ei golli.
Ymhellach ar hyd arfordir y gogledd, ac yn dal i fod yn fy etholaeth i fy hun, mae pryderon am gynaeafu torfol ar gyllyll môr yn Llanfairfechan wedi eu codi dro ar ôl tro, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gweithredoedd wrth roi gwaharddiad ar hynny. Roedd y rhain yn gamau a gymerwyd gennych mewn ffordd ystyrlon, ac rwy'n werthfawrogol iawn o hynny. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith drwy Ysgol Gwyddorau'r Cefnforoedd Prifysgol Bangor i edrych ar effaith cynaeafu a halltu ar y rhywogaethau. Rydym mor ffodus fod prifysgol o'r fath ym Mangor. Mae ganddynt enw da iawn a gaiff ei gydnabod ym mhedwar ban y byd, felly defnyddiwch yr adnodd hwnnw.
Mae'n peri pryder, fodd bynnag, y gallem fod yn anelu tuag at sefyllfa funud olaf yma, ac felly mae'n siomedig nodi bod y cynllun drafft yn datgan na all ardaloedd adnoddau strategol adlewyrchu ystyriaethau manwl sy'n benodol i safle yn llawn. Dyna beth yw gwir gadwraeth forol. Nid wyf yn ystyried fy hun yn gadwraethwraig forol fel y cyfryw, ond rwyf yn poeni o ddifrif am warchod ein hamgylchedd morol. Byddwn yn ffôl iawn i beidio â gwneud hynny.
O ystyried maint y ddogfen hon, testun sydd wedi'i grybwyll eisoes, byddai rhywun yn disgwyl llawer mwy o ystyriaeth o'n hardaloedd adfywio strategol, ac eto ymddengys eu bod wedi eu datblygu ar sail dichonoldeb technegol ac adnoddau yn unig. O gofio bod y cynllun yn nodi y gallai mwy na 50 o safleoedd gwarchodedig pwysig ar gyfer bywyd gwyllt gael eu heffeithio gan ei bolisïau, byddwn yn hoffi sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet na fydd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu tanseilio gan y cynllun hwn. Felly, er ein bod yn croesawu'r cynllun drafft hwn, byddwn yn cadw llygad ac yn monitro ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn edrych ar nodi a chydnabod anghenion cynaliadwyedd ecosystemau, rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt penodol. Edrychaf ymlaen at yr ymatebion, ac edrychaf ymlaen at weithio'n gadarnhaol gydag Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod gennym gynllun sy'n gweithio mewn gwirionedd ar gyfer Cymru ac ar gyfer ein hamgylchedd morol.