– Senedd Cymru am 5:19 pm ar 9 Ionawr 2018.
Trown yn awr at eitem 7, sef dadl ar ffurf ddrafft cynllun morol cenedlaethol Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.
NDM6616 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP).
2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd 'Twf Glas' cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft.
3. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol.
4. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Croesawaf yn fawr y cyfle hwn i drafod ffurf ddrafft cynllun morol cenedlaethol Cymru a'i swyddogaeth o ran bod yn ganllaw i reoli ein moroedd yn gynaliadwy. Mae hon yn enghraifft gref o bolisi a luniwyd gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Wrth ddatblygu ein cynigion mewn cydweithrediad agos ag amrywiaeth eang o bartneriaid a rhanddeiliaid fe wnaethom ni ddangos yn glir sut i wrando ar safbwyntiau pobl Cymru ac adeiladu arnynt. Mae gan Gymru hanes morwrol balch a hirhoedlog. Mae ein moroedd yn fwy na phwysig i ni. Maen nhw'n arbennig, wedi eu bendithio â chyfoeth o adnoddau naturiol, morluniau eiconig a bywyd gwyllt ysbrydoledig, ac mae gan bob un ohonom ni ddiddordeb ar y cyd yn eu dyfodol.
Yn anffodus, ar adegau, mae modd anwybyddu eu harwyddocâd. Mae moroedd Cymru yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau sy'n cyfrannu at ecosystemau morol iach a chryf. Mae'r ecosystemau hyn yn darparu amrywiaeth eang o fanteision hanfodol sy'n cefnogi ein lles cenedlaethol. Mae ein moroedd hefyd yn cynnwys cyfoeth o adnoddau naturiol sy'n cynnig cyfle i Gymru elwa ar dwf glas.
A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ildio?
Gwnaf.
Dim ond ar y pwynt hwnnw, bydd hi'n ymwybodol bod rhai elusennau sy'n ymwneud â chadwraeth forol wedi dweud heddiw bod canlyniadau negyddol arwyddocaol i'w chynllun. A yw hi'n cydnabod bod hynny'n feirniadaeth ddilys, neu a yw'n credu eu bod wedi gorbwysleisio eu hachos?
Yn amlwg, rydw i wedi cyfarfod â llawer o'r sefydliadau a wnaeth y sylwadau. Felly, rwy'n credu eu bod o bosib ychydig yn gamarweiniol. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnod o ymgynghori. Mae'n gyfnod ymgynghori hir iawn. Gwneuthum yn sicr mai felly yr oedd hi, yn enwedig dros y Nadolig, felly gallant gyfrannu eu sylwladau, ac yn amlwg byddwn yn ystyried pob barn wrth fynd ymlaen.
I barhau, rydym yn defnyddio ein moroedd mewn llawer o ffyrdd ac mae pysgodfeydd, morgludiant a gweithgareddau hamdden hir-sefydledig yn bodoli ac yn ffynnu ochr yn ochr â defnyddiau mwy newydd megis tyrbinau gwynt ar y môr a thyrbinau tanddwr, a all ein helpu i ddatgarboneiddio ein heconomi. Fodd bynnag, wrth i'n moroedd brysuro, mae mwy o risg gwrthdaro a mwy o botensial i danseilio cadernid morol. Felly, mae cynllunio strategol morol yn hollbwysig. Drwy gynllunio effeithiol, gall ein diwydiannau morol dyfu a ffynnu a gellir diogelu ein treftadaeth naturiol werthfawr ar yr un pryd.
Fis Medi diwethaf, gosodais dargedau ynni uchelgeisiol ar gyfer Cymru, gan gynnwys bod 70 y cant o'r trydan a ddefnyddir yn deillio o ynni adnewyddadwy erbyn 2030. Gwelaf fod gan ynni adnewyddadwy ar y môr y potensial i wneud cyfraniad pwysig wrth gyrraedd y targed hwn. Gallai ynni adnewyddadwy ar y môr ddarparu amrywiaeth o dechnolegau i gefnogi'r daith tuag at gynhyrchu cynaliadwy, carbon isel yng Nghymru.
I gefnogi'r gwaith o ddatblygu ein moroedd yn gynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, rwy'n falch o fod wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar y Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru drafft. Dyma'r cynllun statudol cyntaf ar gyfer ein moroedd ac mae'n gychwyn ar gynllunio cyfundrefn forol strategol newydd. Mae'n bwysig bod gennym weledigaeth glir a hirdymor o'r hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni ar gyfer ein moroedd, yn arbennig wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Credaf ei bod yn hanfodol darparu eglurder a sicrwydd ar gyfer y rhai sy'n defnyddio ac yn elwa ar ein moroedd.
Mae'r cynllun morol yn adeiladu ar y cynnydd cadarn yr ydym eisoes yn ei wneud wrth warchod ein moroedd, gan gefnogi ein nod o gyflawni statws amgylcheddol da, cwblhau ein rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig, rheoli gweithgareddau a allai niweidio cryfder yr ecosystem forol, helpu i adfer ein stociau pysgod a bioamrywiaeth, a sicrhau bod gennym gyfundrefn gydsynio gadarn ac effeithiol.
Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud i gynnal a gwella'r manteision a ddaw i'n rhan o foroedd iach a ffyniannus. Rwy'n sicr ein bod ni i gyd wedi bod yn pryderu ynghylch straeon ar y newyddion yn ddiweddar am effeithiau dinistriol a phellgyrhaeddol llygredd plastig ar ein hecosystemau. Dengys hyn cymaint o gysylltiad sydd rhyngom ni â'n moroedd, nid dim ond yn ddiwylliannol ond o ran pa mor helaeth a pharhaus y gall effeithiau fod.
Mae'n rhaid inni barhau i weithredu mewn ffyrdd sy'n cydnabod ac yn dangos ein hymrwymiad i fod yn gyfrifol yn fyd-eang am ein gweithredoedd. O ran cysoni polisïau, rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol a'r system cynllunio defnydd tir yn ei chyfanrwydd yn cefnogi ein hamcanion morol. Drwy barhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid, byddwn yn sicrhau bod ein cyfundrefnau cynllunio tir a môr yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni eu nodau cyffredin.
Mae cyflwyno'r cynllun yn gam pwysig wrth ddwyn ynghyd ystod o bolisïau a sefydliadau i'n helpu i ganolbwyntio ar y materion hyn, edrych ar ôl ein moroedd ar gyfer y tymor hir, cydnabod a mynd i'r afael â phroblemau yn gynnar, a gweithio ar y cyd i gyflawni canlyniadau gwirioneddol. Datblygwyd y cynllun drafft yr wyf yn ymgynghori arno ar y cyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae diwydiannau, grwpiau amgylcheddol, ymchwilwyr a mwy wedi gweithio gyda'i gilydd i helpu i ddatblygu cynllun a fydd yn arwain gweithgarwch yn y dyfodol mewn ffordd gynaliadwy.
Yn 2011, lluniodd pob un o bedair gweinyddiaeth y DU gyfres o amcanion morol cyffredin. Cyhoeddwyd y rhain yn ein datganiad polisi morol 2011. Mae'n bwysig gosod amcanion sy'n parchu graddfa a natur gydgysylltiedig ecosystemau morol. Mae'r amcanion cyffredin hyn, ynghyd â nodau llesiant a'n hymrwymiad i reoli cynaliadwy ar adnoddau naturiol, yn llywio polisïau cyffredinol y cynllun, sy'n berthnasol i bob gweithgaredd yn ein moroedd.
Mae'r potensial i Gymru elwa ar y twf glas yn gyffrous ac yn sylweddol. Drwy sicrhau bod gwahanol ddefnyddwyr y môr yn ystyried gweithgareddau ei gilydd, yn ogystal â'r potensial ar gyfer y dyfodol, gallwn oll elwa. Mae'r cynllun drafft yn nodi y ceir cyfle twf penodol i nifer o sectorau: ar gyfer ynni adnewyddadwy ar y môr megis gwynt ar y môr, tyrbinau tanddwr a môr-lynnoedd llanw; ar gyfer dyframaethu, a meithrin pysgod cregyn yn benodol; ar gyfer gweithgarwch llongau, sy'n darparu cysylltiadau hanfodol i Gymru, o Gymru a thrwy Gymru; ac, yn bwysicaf oll, ar gyfer twristiaeth a gweithgareddau hamdden, sy'n gwneud cyfraniad pwysig i'n heconomi ni.
Rwy'n cydnabod arwyddocâd yr holl sectorau sy'n gweithredu yn nyfroedd Cymru. Er enghraifft, mae agregau morol yn darparu deunydd adeiladu hanfodol i gefnogi twf economaidd. Mae pysgodfeydd yn ein galluogi i fwynhau protein iach, o ffynonellau lleol, ac mae ceblau o dan y môr yn caniatáu i symiau anferth o ddata lifo drwy ein cartrefi a busnesau ac wrth gwrs maent yn hanfodol i economi fodern. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn cytuno bod angen rheoli ein moroedd yn ofalus i ganiatáu i'r gweithgareddau amrywiol hyn barhau a, lle bo'n briodol, i dyfu ochr yn ochr mewn cytgord â'n hamgylchedd naturiol.
Mae'r cynllun yn diogelu adnoddau naturiol pwysig i leihau'r risg o golli'r cyfle i'w defnyddio yn y dyfodol. I wneud hynny, mae'r cynllun yn nodi meysydd o'r fath—meysydd adnoddau strategol—ac mae ganddo bolisïau i annog y sectorau i dyfu mewn modd cynaliadwy.
Mae cyrff awdurdod cyhoeddus yn chwarae rôl bwysig wrth wneud penderfyniadau am yr amgylchedd morol, er enghraifft wrth asesu cynigion datblygu a rhoi trwyddedau morol. Mae'r cynllun hwn yn eu cefnogi drwy nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru i helpu i lywio eu penderfyniadau, heb danseilio'r archwiliadau a'r cydbwysedd penodol i brosiect mewn unrhyw ffordd i sicrhau bod pob cynnig yn destun craffu priodol. Rwy'n disgwyl i bob prosiect unigol fodloni rhwymedigaethau statudol perthnasol cyn sicrhau cydsyniad.
Drwy gydol y gwaith o ddatblygu'r cynllun hwn, rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael a sicrhau bod hyn ar gael i bawb. Yng Nghymru, mae gennym sylfaen dystiolaeth forol sylweddol wedi'i chrynhoi yn 'Adroddiad Tystiolaeth Forol Cymru' 2015, ac mae data morol yn awr ar gael i'r cyhoedd ar ein porth cynllunio morol ar-lein. Mae hyn yn golygu y gall rhanddeiliaid ddefnyddio'r porth i ddeall y rhesymau dros ein cynigion a beth y gallai ei olygu yn ymarferol.
Mae'r amgylchedd morol yn weithle cymhleth a heriol. Mae cyflwyno system gynllunio morol newydd yn golygu buddsoddiad pwysig o ran amser ac ymdrech, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond gan lawer o randdeiliaid sydd wedi rhoi o'u hamser a'u harbenigedd i'r broses. Hoffwn gofnodi fy niolch iddynt am eu cymorth a'u brwdfrydedd.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, fforwm arfordir sir Benfro ac eraill yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau lleol o gwmpas yr arfordir yn ystod y mis hwn, a byddwn yn annog y rheini sydd â diddordeb yn nyfodol ein moroedd i fynd iddynt a dweud eu dweud.
Felly, yn gryno, Llywydd, mae hwn yn gam pwysig ar gyfer dyfodol moroedd Cymru, yn arbennig wrth inni gychwyn ar Flwyddyn y Môr Llywodraeth Cymru. Rwyf eisiau sicrhau bod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn gweithio ar gyfer Cymru. Drwy weithio gyda'n gilydd a nodi'n huchelgais yn glir a cheisio'i wireddu, gallwn i gyd gyfrannu at wneud y mwyaf o'n moroedd.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i'r cynnig ac, os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Rwy'n galw felly ar Simon Thomas i gynnig gwelliannau 1, 2 a 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 1. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit.
Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu at yr oedi o ran cyhoeddi cynllun morol terfynol Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun yr her i foroedd Cymru yn dilyn y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac os caf ddechrau drwy ddweud a nodi ein bod ni'n trafod y cynllun morol ymgynghorol heddiw a bydd gennym ni drafodaeth yfory eto ar adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd ar yr union bwnc yma, rwyf jest yn gobeithio y tro nesaf y bydd rhywbeth fel hyn yn digwydd y bydd y Pwyllgor Busnes yn gallu bod yn fwy creadigol ynglyn â chael trafodaeth ar gynigion y Llywodraeth wedi eu cymhwyso a goleuni wedi taflu arnyn nhw gan adroddiad y pwyllgor, yn hytrach na chael dwy ddadl ar wahân. Ond, wedi dweud hynny, rydw i'n falch iawn ein bod ni yn trafod yr ymgynghoriad heddiw ac, wrth gwrs, mae yn ymgynghoriad felly mae llawer o gwestiynau rwy'n mynd i ofyn efallai yn rhai a gaiff eu hateb yn ystod y cyfnod ymgynghorol ac, wrth gwrs, mae yna ambell i bwynt efallai a ddaw allan yn ystod y broses yna yn ogystal.
Hoffwn i ddechrau gyda lle rydw i'n cytuno gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, sef ar y sylfaen egwyddorol yma ein bod ni efallai fel cenedl yng Nghymru wedi troi ein cefnau ar y môr yn ystod yr hanner canrif diwethaf, ac nid ydym ni'n meddwl digon am y môr fel ffynhonnell bywoliaeth, fel ffynhonnell bioamrywiaeth, fel ffynhonnell rhai o'r pethau mwyaf economaidd y gallwn ni eu datblygu ar gyfer y dyfodol, efallai. Rwyf hefyd yn rhannu, yn y gwelliannau sydd gan Blaid Cymru i'r ddadl heddiw, ofnau ynglŷn ag oedi cyn cyflwyno yr ymgynghoriad yma, cynigion sydd wedi'u rhannu gan y Blaid Geidwadol, rwy'n sylwi, yn ogystal. Mae yna dymor cyfan o'r Cynulliad wedi pasio ers i ni glywed am y datganiad polisi morol cyn i ni weld y cynllun ar ei ffurf drafft presennol. Ac yn ystod y cyfnod yna, mae'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan y pwyllgor newid hinsawdd yn ystod ei adroddiad diweddar—y byddwn ni'n ei drafod yfory—wedi dangos yn glir bod yr ardaloedd cadwraeth morol y cyfan oll mewn cyflwr anffafriol ar gyfer y cynefinoedd a hefyd yr amrywiaeth o fywyd môr sydd i gael ynddyn nhw. Felly mae'r amser yn pasio ac mae dirywiad yn digwydd.
Gofynnais i gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag agwedd neu ymateb cyntaf rhai o'r mudiadau amgylcheddol i'r cyhoeddiad. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei yrru gan y pwyslais yn yr adroddiad ynglŷn ag ynni o'r môr, ac yn enwedig y posibiliadau o forlynnoedd llanw. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi mewn egwyddor, ond wrth gwrs, mae hefyd yn un o'r pethau a fydd yn profi defnyddio her Deddf cenedlaethau'r dyfodol wrth baratoi. Mae'n bwysig i nodi ei bod hi'n flwyddyn gyfan ers i adroddiad annibynnol Hendry gael ei gyhoeddi ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, a oedd i fod i roi yr atebion i ni i rai o'r cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y mudiadau amgylcheddol heddiw, ac sydd yn cael eu crybwyll yn yr ymgynghoriad hefyd.
Rydym ni'n gwybod bod bioamrywiaeth o dan fygythiad gan ddatblygiadau ynni o'r môr—wrth gwrs eu bod nhw—ac mae yna effaith ar ecosystemau o ddatblygu ynni o'r môr. Ond hefyd mae newid hinsawdd yn ei dro yn effeithio ar y môr, ac ar y cynefinoedd, ac ar y bioamrywiaeth yn y môr, a chadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddau beth yna oedd yr union beth a oedd i fod i gael ei ateb o leiaf yn rhannol drwy gael cynllun morlyn llanw pathfinder, fel roedd yn cael ei alw gan adroddiad Hendry. Felly, mae'n siomedig iawn bod Llywodraeth San Steffan o hyd yn trin Cymru yn y fath fodd, fel nad oes hyd yn oed penderfyniad wedi'i wneud, flwyddyn gron ar ôl cyhoeddi'r adroddiad annibynnol hwnnw.
Yr ail ran, efallai, a fydd yn denu sylw'r cyhoedd yn yr adroddiad yma yw'r pwyslais ar lygredd môr, ac wrth gwrs mae plastig yn rhywbeth rydym ni eisoes wedi'i drafod wrth ddod nôl o'r gwyliau yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw. Ond mae'n bwysig i danlinellu bod y rhai a wnaeth ymateb i'r pwyllgor newid hisawdd ar y materion hyn wedi sôn am sbwriel a llygredd yn y môr fel un o'r pethau a oedd yn eu poeni nhw fwyaf. Ac wrth gwrs, nid yn unig bod hyn yn cael effaith ar dwristiaeth a mwynhad ar lan y môr, mae'n cael effaith benodol ar fywyd môr yn ogystal. Felly, mae mynd i'r afael â llygredd plastig yn mynd i fod yn rhan bwysig o gynllunio morol cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn.
Fe fydd nifer o bethau eraill yn cael eu trafod wrth i ni ymateb i'r pwyllgor newid hinsawdd yfory, felly nid wyf eisiau ailadrodd fy hunan yn ormodol mewn dau ddiwrnod. Fe wnaf i jest crybwyll y ddau beth yna fel rhai o'r heriau a fydd ar gyfer y cynllun presennol, gan nodi, wrth gwrs, ein bod ni'n dechrau ar gyfnod ymgynghorol, gan edrych ymlaen at ymateb gan y cymunedau hynny yn benodol sy'n byw ar lan y môr, a chroesawu beth ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r posibiliadau nawr o gyfarfodydd cyhoeddus a thrafodaeth gyhoeddus ar y cynllun.
Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliannau 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 3. Paul Davies
Ym mhwynt 4, dileu popeth ar ôl 'chydweithio' a mewnosod:
'ond yn gresynu at yr oedi wrth lunio Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru.'
Gwelliant 4. Paul Davies
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i economi ac amgylchedd morol Cymru yn y dyfodol.
Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod. Fel Simon, a gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr wedi cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol drafft? Dyma hanner cyntaf y ddadl a fydd yn mynd yn ei blaen yfory pan fyddwn yn trafod rhai o syniadau'r Pwyllgor yn y maes hanfodol hwn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y ddwy awr hyn o ddadl yn bwydo i'r broses ymgynghori mewn ffordd effeithiol. Rydym wedi aros yn hir, ond rydym wedi cael ein gwobrwyo ag adroddiad drafft hir iawn. Rwy'n siwr bod 300 o dudalennau, i'r rhan fwyaf ohonom sy'n talu sylw i'r maes polisi hwn a rhai sy'n gweithio yn y maes a'n cydweithwyr mewn pob math o sefydliadau anllywodraethol—roedd yn ddeunydd darllen ysbrydoledig iawn i bobl dros y Nadolig. Ond rwy'n falch ei fod gennym yn awr, ac rwy'n poeni o ddifrif ynghylch ble y mae'n ein galluogi ni i symud o ran polisi cydlynol yn y maes hwn.
Ond credaf fod angen atgoffa ein hunain bod y gallu i gael y math hwn o gynllunio yn mynd yn ôl at Ddeddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009. Cawsom y datganiad polisi morol yn 2011. Mae awdurdodaethau eraill wedi bod yn gyflymach: yn yr Alban, cafodd eu cynllun ei gyflwyno yn 2015, felly maen nhw wedi cael dros ddwy flynedd, mewn gwirionedd, o amser ychwanegol, efallai, i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r pryderon uniongyrchol o ran ecoleg yr amgylchedd morol, ond hefyd, yn bwysig iawn, sut yr ydym yn ffitio'r amgylchedd i'n gweledigaeth datblygu cynaliadwy, ac mae hynny'n wahanol iawn ac yn bwysig yn ogystal. Byddai'n rhaid inni ddweud nad yw ein hecosystemau morol presennol mewn cyflwr iechyd perffaith, cyn belled ag y gwyddom, beth bynnag; fe soniaf ychydig am ddiffygion data yn ddiweddarach. Ond dywedodd yr adroddiad ar sefyllfa adnoddau naturiol mai dim ond 29 y cant o ddyfroedd ein haberoedd a'n harfordiroedd sydd â'u statws ecolegol yn dda, felly mae'n eithaf clir bod angen llawer mwy o sylw yn y maes hwn o bolisi cyhoeddus.
Nid oes gennyf unrhyw broblemau â'r tri phrif bwynt yn y cynnig hwn. Nid oes gennyf unrhyw broblemau, ychwaith, â gwelliannau Plaid Cymru, ond ceir, rwy'n credu, synnwyr o ddifaterwch yn safbwynt y Llywodraeth, neu o leiaf mae hyn yn llithro i mewn, a dyna pam nad wyf wedi fy mhlesio'n gyfan gwbl gan bwynt 4 a'r gymeradwyaeth y mae'n ceisio ei rhoi i'r Llywodraeth. Ond yn amlwg mae angen inni nodi potensial yr hyn a elwir gan lawer yn dwf glas yn y sector morol, ac mae gennym adnoddau cyfoethog, amgylchedd morol mawr y gellir tynnu ohono, ac yn wir dylem fod yn gweld hyn yn rhywbeth canolog i'n nodau llesiant cenedlaethol. Dylem fod yn arweinwyr yn y sector a dylai fod gennym y math hwnnw o uchelgais, ac nid yn llusgo ychydig ar ei hôl hi yn y lôn araf.
Byddwn yn dweud ei bod yn iawn i gynhyrchu dogfen 300 o dudalennau os yw'n dal yn eithaf clir ac wedi'i thargedu. os nad yw hi felly, y broblem yw ei bod hi'n ymddangos braidd yn hirwyntog. O'i chymharu â fersiwn yr Alban, mae honno yn llai na hanner hyd ein cynllun drafft, ac rwy'n credu ei bod yn llawer mwy cryno a phenodol. Mewn gwirionedd, ar ben arall y raddfa, mae cynllun gweithredu polisi morol cenedlaethol yr Unol Daleithiau yn 36 o dudalennau. Credaf mai dyna'r math o groywder y mae angen inni ei weld os ydym yn mynd i gael syniad o sut y mae'r Llywodraeth yn mynd i wneud penderfyniadau a galluogi eraill i weithredu yn y maes hwn a gwybod beth sy'n bosibl o ran ceisiadau y maen nhw'n mynd i'w cyflwyno mewn gwirionedd. Mae'n bwysig iawn, Llywydd, bod angen i'r cynllun morol fod yn rhagnodol yn ofodol, yn darparu eglurder i defnyddwyr môr a rhanddeiliaid fel ei gilydd, tra'n sicrhau bod lle i fywyd morol ffynnu. Dyna, yn amlwg, yw'r cydbwysedd y mae angen inni ei osod.
Mae gennyf un pryder mawr yr wyf am ei godi heddiw. Er mwyn i'r cynigion hyn weithio, mae angen gwybodaeth effeithiol y gall cynlluniau a chynigion ei defnyddio. Mae ansawdd cyffredinol y sylfaen dystiolaeth yn wael iawn. Hefyd, mae llawer o ddryswch yn y darnio sy'n bodoli rhwng awdurdodaethau a sectorau gwahanol sydd â chyfrifoldebau amrywiol ar gyfer ein hamgylchedd morol. A chredaf fod angen inni dalu llawer o sylw i'r maes hwn fel ein bod yn gweld llawer mwy o gydweithio ar ddata rhwng awdurdodau a sefydliadau ar draws y gwahanol sectorau, a bod hyn yn cael ei weld yn rhan o'r sylfaen gadarn ar gyfer datblygu yn y dyfodol. Ond a gaf i gloi drwy ddweud mai'r dechreuad yw hyn, ac y byddwn ni'n gweithio mewn ffordd adeiladol i wella pethau a sicrhau, ar gyfer y dyfodol, fod gennym strategaeth glir iawn ar gyfer ein hamgylchedd morol? Diolch.
Rwyf i ar yr ochr gadarnhaol. Mae dyfodiad y cynllun morol cyntaf erioed ar gyfer Cymru, rwy'n credu, yn foment arwyddocaol yn hanes Cymru fel cenedl forol. Er bod system gynllunio defnydd tir wedi bod ar waith ers 70 o flynyddoedd, ni chafwyd dull gofodol a arweinir gan gynllun strategol i reoli amgylcheddau morol y DU—gan gynnwys Cymru. Nid yw hynny'n golygu bod cynllunio defnydd tir wedi bod heb ei broblemau, heb ei ddadleuon, ond o leiaf bu gennym strategaeth cynllunio. Efallai nad ydym ni bob amser wedi cytuno â'r hyn sydd wedi deillio ohoni, ond bu gennym strategaeth. Mewn ymateb i alwadau cynyddol ar y gofod ac adnoddau morol, a'r angen i gyflawni ymrwymiad bioamrywiaeth morol ochr yn ochr â dyheadau ar gyfer twf economaidd, byd-eang, mae llawer o wledydd wedi dechrau datblygu systemau ar gyfer cynllunio gofodol morol. Mae llawer ohonom yn ddigon hen i gofio pan oedd y môr yn cael ei drin fel un domen sbwriel fawr, ac roedd popeth o garthffosiaeth amrwd i wastraff diwydiannol yn cael ei anfon allan i'r môr, oherwydd byddai'r môr yn ei wasgaru— byddai popeth yn diflannu. Ac, wrth gwrs, byddai'r digonedd o bysgod fel penfras yn para am byth ni waeth faint fyddem ni'n eu dal. Mae'r ffaith nad yw'r môr yn cael ei drin mwyach fel tomen sbwriel, a physgod fel adnodd diderfyn, yn gynnydd sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf.
Yn draddodiadol, y dull a ddefnyddiwyd ar gyfer rheoli morol oedd rheoli anghenion pob sector—felly, arferion pysgota, yna ynni, yna twristiaeth ac ynni—yn cael eu trafod ar wahân. Credaf ei bod yn bwysig fod cynllun morol cenedlaethol Cymru yn llwyddo i dynnu pob un ohonynt at ei gilydd, oherwydd weithiau mae ganddynt anghenion sy'n cystadlu, a bydd yn rhaid penderfynu pa un gaiff y flaenoriaeth mewn unrhyw faes penodol. Dywed mai ei nod yw dod â defnyddwyr at ei gilydd i edrych ar ardal o'r môr o ran ei nodweddion amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd, a phenderfynu ar y cyd sut y dylid ei defnyddio. Mae'r cynllun yn cyflwyno fframwaith i gefnogi penderfyniadau cynaliadwy ar gyfer ein moroedd, yn nodi gweledigaeth o amcanion strategol, yn cyflwyno polisïau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol cyffredinol, ac mae'n cynnwys polisïau sy'n benodol i sectorau sy'n gweithredu yn ein moroedd, sy'n cynnwys dyframaeth, agregau, amddiffyn, pysgota a thwristiaeth. Mae rhoi popeth at ei gilydd ac ymdrin ag ef fel hynny, rwy'n credu, yn gam cadarnhaol. Credaf y bydd y bobl sydd wedi bod yn feirniadol o'r trydydd sector yn derbyn syniad cyffredinol y polisi. Efallai na fyddant yn cytuno â'r hyn sydd yno, ac efallai y byddant yn dweud y dylid gwneud pethau'n wahanol, ond rydym yn bendant yn symud i'r cyfeiriad cywir. Unwaith y bydd gennym hyn, unwaith y byddwn wedi ymgynghori arno, gellir ei newid. Y peth gorau am gael cynllun yw bod modd ei newid. Yr anfantais o beidio â chael cynllun yw nad oes dim byd i'w newid.
Rydym wedi bod yn aros yn hir am gynllun i Gymru. Dechreuodd gyda Chyngor Cefn Gwlad Cymru yn ôl yn 2009, yn cynghori Llywodraeth Cymru ar ei dull gweithredu cychwynnol o gynllunio morol. Nid wyf yn mynd i feirniadu hynny. Mae bob amser yn well cael polisi yn iawn na chael polisi yn gyflym, felly nid wyf yn beirniadu’r amser hir; credaf ei bod yn bwysig ein bod wedi llwyddo i gael hyn yn iawn. Nid yw Cymru ar ei phen ei hun yn hyn o beth. Mae gan Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon hefyd gynlluniau sydd wedi cyrraedd gwahanol gyfnodau yn eu datblygiad, fel y dywedais yn gynharach. Credaf fod angen inni roi rhywfaint o ddiolch i waith y Comisiwn Ewropeaidd wrth yrru'r agenda hon yn ei blaen—ac o fewn yr agenda hon, mae'r DU bod yn arweiniol ac wedi cael enw da i'w hun. Gobeithiaf na fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn effeithio ar ymrwymiad pob un o'r pedair cenedl i greu cynllun hirdymor ar gyfer y môr o amgylch ein hynysoedd—ac yn enwedig Iwerddon a Lloegr. Mi fydd yr hyn y maen nhw yn ei wneud yn amlwg yn effeithio ar Gymru. Os yw cynllunio yn gweithio'n llwyddiannus, bydd yn cyflawni uchelgeisiau Llywodraeth Cymru. A chredaf fod hynny—. Yr uchelgeisiau, rwy'n credu, nid oes ganddynt gymaint o broblem â nhw, nac oes? Y ffaith yw—. Mae'n fater o rai o'r darnau yno. Credaf fod yr uchelgeisiau yn dda, a gobeithio y bydd pobl yn derbyn ac yn cefnogi'r uchelgeisiau.
A gaf i siarad ychydig am ynni adnewyddadwy? Gwn fod Simon Thomas wedi ei grybwyll yn gynharach. Credaf fod ef a minnau wedi crybwyll môr-lynnoedd llanw droeon yn y Siambr. Nid wyf yn ymddiheuro am eu crybwyll eto. Credaf fod mor-lynnoedd llanw yn anhygoel o bwysig, nid yn unig fel ffynhonnell o ynni, ond fel modd i ddatblygu diwydiant sy'n seiliedig yn y de-orllewin, ac yn manteisio ar yr holl fuddion o fod y cyntaf. Credaf ei bod yn wirioneddol bwysig inni wneud popeth yn ein gallu fel Cynulliad i roi cymaint o bwysau ag y gallwn ar Lywodraeth San Steffan i ddweud 'ie' o'r diwedd i'r morlyn llanw hwn. Fel y mae pobl yn ymwybodol, lluniodd Charles Hendry ei adroddiad. Roedd llawer ohonom yn ofni pan ofynnwyd iddo gynhyrchu adroddiad na fyddai'n ddim ond cyfle i'w ysgubo o'r neilltu. Dyma'r adroddiad mwyaf cadarnhaol a ddarllenais erioed, pan ddywed ei fod yn bolisi heb ddim gresynu—os ydych chi'n rhoi cynnig ar rywbeth a dyw e' ddim yn gweithio, o leiaf mae gennych wal fôr, i bob pwrpas. Felly, mae'n bolisi heb ddim gresynu, ac mae'n wirioneddol bwysig y cawn hynny, a chredaf ein bod i gyd o blaid cael y morlyn llanw yn Abertawe. Ystyriwch: mae'n ben-blwydd cyntaf adroddiad Hendry. Roedd llawer ohonom yn credu y byddai rhywbeth wedi digwydd o fewn y flwyddyn gyntaf. Gadewch i ni obeithio, erbyn inni gyrraedd yr ail flwyddyn, y bydd yn cael ei adeiladu.
Gaf i hefyd —? Os ydym ni'n sôn am gost môr-lynnoedd llanw, a ellir eu barnu yn ôl yr un rheolau â niwclear? Mae niwclear yn cael cymhorthdal enfawr, ac wedyn dywedir wrthynt, 'Byddwn, fe fyddwn yn talu am eich holl gostau datgomisiynu ar y diwedd'. Ni fyddai unrhyw orsaf niwclear erioed wedi ei hadeiladu pe byddai'n rhaid iddynt dalu eu hunain am eu datgomisiynu. Ni fyddai Calder Hall erioed wedi ei adeiladu pe baent wedi gorfodi dilyn yr un rheolau ag sydd gennym yn awr ar gyfer ein morlyn llanw. Credaf mai'r peth pwysicaf i'm rhan i o'r de ar hyn o bryd yw bod y morlyn llanw yn cael sêl bendith, a gobeithiaf yn fawr y bydd yn ei chael.
Hoffwn ategu'r ffaith y bu disgwyl hir a chroeso mawr i'r cynllun drafft hwn, fel y mae fy nghyd-Aelodau wedi'i grybwyll yma heddiw. Ac rwyf hefyd yn gresynu'r oedi cyn ei gyhoeddi, o ystyried y bu modd i Lywodraeth Cymru ddatblygu dull o reoli ein moroedd a arweinir gan gynllun ers cyflwyno Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009, ac er gwaethaf galwadau gan bwyllgorau blaenorol i roi blaenoriaeth i ddatblygu'r cynllun hwn. Hyd yma, rydym yn nodi bod rheoli a rheoleiddio ein hamgylchedd morol wedi bod yn ddi-drefn, ac yn cael ei wneud yn bennaf ar sail ad hoc, fesul sector. Felly, yn naturiol, rydym yn croesawu'r potensial ar gyfer dull rheoli morol mwy cydgysylltiedig yn y dyfodol.
O ran yr amgylchedd, mae datganiad polisi morol y DU yn mynnu bod yn rhaid i gynllunio morol fabwysiadu dull seiliedig ar ecosystemau, gan sicrhau cydbwysedd rhwng twf economaidd a chadwraeth. Yn benodol, rydym yn gwybod bod yn rhaid i'r cynllun gefnogi gweledigaeth y DU ar gyfer cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a biolegol amrywiol. Mae'n ddiddorol braidd fy mod gyda chyd-Aelodau yma heddiw a oedd yn y Pwyllgor Deisebau y bore yma, ac rydym yn canfod bod yr holl ddadl a phryderon bellach am wastraff Hinkley yng Nghaerdydd yma—na fu unrhyw asesiad am effaith hynny ar fywyd morol, ac mae hynny'n peri llawer o bryder imi. Ymhellach, o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae gofyniad i'r cynllun helpu i reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy. Eto, fel y nodwyd gennym, ar ôl wyth mlynedd o datblygu, nid yw'r ddogfen hon yn cynnig y mewnwelediad, y cwmpas na'r manylion y byddem yn gobeithio eu gweld.
Yn fy etholaeth fy hun, mae gennyf nifer o bryderon penodol am reoli morol, ac rwy'n falch iawn i gynrychioli etholaeth sy'n gyfoethog iawn mewn bywyd morol o bob math. Byddwn yn cynghori unrhyw un, os oes gennych ddiddordeb yn beth yn union sydd o dan ein moroedd, i gael copi o ffotograffiaeth, neu'r nifer o lyfrau y mae Paul Kay wedi'u hysgrifennu a/neu hyd yn oed wylio un o'i ffilmiau. Tynnwyd sylw at y bygythiad i forloi a llamhidyddion harbwr o amgylch Bae Angel a Thrwyn y Fuwch gan gychod a cheiswyr hamdden dim ond yr wythnos diwethaf, gyda'r enghraifft drist o lamidydd wedi'i niweidio wedi ei olchi yn farw i'r lan yno. Rwy'n falch i fod yn hyrwyddwr llamhidydd yr harbwr ar gyfer y Cynulliad. Yn ogystal, mae pysgotwyr yn yr ardal wedi dweud bod stociau cregyn gleision Conwy yn lleihau, ac mae ganddynt statws rhyfeddol ers 100 mlynedd, ac mae angen eu diogelu a'u cadw. Ac eto, mae yna ostyngiad pryderus yn y lefelau o hadu flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae'r gwaith o reoli'r stoc unigryw hon wedi bod yn wael, gan arwain at gau gwelyau yn gynharach eleni fel ymgais olaf i'w diogelu. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, nid yw'r amgylchedd na'r economi yn elwa, felly mae'r cydbwysedd yr anelir ato yn y cynllun drafft hwn yn cael ei golli.
Ymhellach ar hyd arfordir y gogledd, ac yn dal i fod yn fy etholaeth i fy hun, mae pryderon am gynaeafu torfol ar gyllyll môr yn Llanfairfechan wedi eu codi dro ar ôl tro, a hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei gweithredoedd wrth roi gwaharddiad ar hynny. Roedd y rhain yn gamau a gymerwyd gennych mewn ffordd ystyrlon, ac rwy'n werthfawrogol iawn o hynny. Rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu gwaith drwy Ysgol Gwyddorau'r Cefnforoedd Prifysgol Bangor i edrych ar effaith cynaeafu a halltu ar y rhywogaethau. Rydym mor ffodus fod prifysgol o'r fath ym Mangor. Mae ganddynt enw da iawn a gaiff ei gydnabod ym mhedwar ban y byd, felly defnyddiwch yr adnodd hwnnw.
Mae'n peri pryder, fodd bynnag, y gallem fod yn anelu tuag at sefyllfa funud olaf yma, ac felly mae'n siomedig nodi bod y cynllun drafft yn datgan na all ardaloedd adnoddau strategol adlewyrchu ystyriaethau manwl sy'n benodol i safle yn llawn. Dyna beth yw gwir gadwraeth forol. Nid wyf yn ystyried fy hun yn gadwraethwraig forol fel y cyfryw, ond rwyf yn poeni o ddifrif am warchod ein hamgylchedd morol. Byddwn yn ffôl iawn i beidio â gwneud hynny.
O ystyried maint y ddogfen hon, testun sydd wedi'i grybwyll eisoes, byddai rhywun yn disgwyl llawer mwy o ystyriaeth o'n hardaloedd adfywio strategol, ac eto ymddengys eu bod wedi eu datblygu ar sail dichonoldeb technegol ac adnoddau yn unig. O gofio bod y cynllun yn nodi y gallai mwy na 50 o safleoedd gwarchodedig pwysig ar gyfer bywyd gwyllt gael eu heffeithio gan ei bolisïau, byddwn yn hoffi sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet na fydd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu tanseilio gan y cynllun hwn. Felly, er ein bod yn croesawu'r cynllun drafft hwn, byddwn yn cadw llygad ac yn monitro ymatebion i'r ymgynghoriad ac yn edrych ar nodi a chydnabod anghenion cynaliadwyedd ecosystemau, rhywogaethau a chynefinoedd bywyd gwyllt penodol. Edrychaf ymlaen at yr ymatebion, ac edrychaf ymlaen at weithio'n gadarnhaol gydag Ysgrifennydd y Cabinet i sicrhau bod gennym gynllun sy'n gweithio mewn gwirionedd ar gyfer Cymru ac ar gyfer ein hamgylchedd morol.
Neil Hamilton.
Llywydd, rwy'n falch i gael fy ngalw, efallai ychydig yn hwyrach nag y byddwn wedi'i ddisgwyl. Roeddwn yn dechrau meddwl eich bod yn drysu rhyngof i a Gareth Bennett, ond dyna ni.
Rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf—[Torri ar draws.] Jôc oedd hi i fod.
Rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf o'r hyn a ddywedwyd yn y ddadl hon hyd yma. Rwy'n derbyn y pwynt y mae David Melding wedi'i godi am hyd y cynllun hwn, ond mae gwleidydd yn cwyno am eiriogrwydd, wrth gwrs, fel morwyr yn cwyno am y môr—mae'n un o ffeithiau bywyd. Ond rwyf yn meddwl bod hwn yn arloesi, ac i'w groesawu'n fawr; y cynllun cyntaf sy'n ceisio integreiddio'r holl fuddiannau cystadleuol sy'n pryderu am yr hyn sy'n digwydd o amgylch ein harfordiroedd.
Un ffaith ddiddorol a gefais o ddarllen y ddogfen yn gyflym yw bod moroedd Cymru yn cwmpasu 15,000 o gilometrau sgwâr, a'r pwynt diddorol yw bod hynny'n 43 y cant o arwynebedd Cymru. Mae'r hyn yr ydym yn aml yn meddwl amdano fel Cymru wedi'i lywodraethu gan siâp yr arfordir, ond, mewn gwirionedd, mae llawer mwy i Gymru na'r hyn sydd ar y tir, ac mae'n iawn felly i ddechrau ar hyn drwy adlewyrchu'r ffaith hynod bwysig hon. Rwy'n croesawu, felly, hyd yr adroddiad, ar un ystyr, oherwydd mae'n ceisio rhoi trosolwg cynhwysfawr o'r buddiannau gwahanol y mae angen eu cysoni.
Yn sicr rwy'n croesawu'r pwyslais ar dwf glas, oherwydd mae adfywiad ein hardaloedd arfordirol—ac mae'r Canolbarth a'r Gorllewin, wrth gwrs, yn cynnwys mwy o arfordir nag unrhyw ranbarth arall—yn angen pwysig iawn ar gyfer y dyfodol agos yn fy marn i, a dyna un rheswm pam y credaf fod Brexit yn rhoi cyfle inni na fyddai yno fel arall, oherwydd pan fydd gennym reolaeth dros ein polisi morol a'n pysgodfeydd ein hunain, byddwn yn gallu gwneud penderfyniadau sydd wedi eu haddasu'n fwy i fuddiannau Cymru nag sy'n bosibl ar hyn o bryd.
Ond y mae, wrth gwrs, fuddiannau yn cystadlu y mae angen inni eu hystyried hefyd. Mae datblygiad economaidd ein hardaloedd arfordirol flaenaf yn fy meddwl i, ond rwy'n derbyn yr angen i fod yn sensitif i anghenion bywyd gwyllt yr amgylchedd, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd gyda Chymdeithas Cadwraeth y Môr, a gwelaf fod Clare Reed yn dweud
'Rydym yn pryderu y gall cynnwys presennol ardaloedd adnoddau strategol—ardaloedd wedi'u mapio ar gyfer twf diwydiant morol—efallai gael effeithiau negyddol sylweddol ar fywyd gwyllt morol a chynefinoedd y maent yn dibynnu arnynt.'
Dwi ddim yn gweld o reidrwydd fod hynny'n beth drwg. Credaf fod modd cael twf economaidd heb gael effaith andwyol ar y môr. Un o'r problemau gyda'r polisi pysgodfeydd cyffredin, flynyddoedd yn ôl yn sicr, oedd ei fod wedi troi yn drychineb ecolegol oherwydd gorbysgota. Nid yw hynny'n broblem o amgylch ein harfordiroedd, wrth gwrs, oherwydd mae'r rhan fwyaf o echdynnu rhywogaethau morol o'r môr yn tueddu i fod yn bysgod cregyn—mae tua dwy ran o dair, rwy'n credu, o werth beth gaiff ei bysgota o'r môr ar ffurf pysgod cregyn. Rwy'n siŵr y gallwn wneud llawer mwy i ehangu'r diwydiant, a gallwn wneud hynny heb gael effaith andwyol ar yr amgylchedd mewn unrhyw ffordd.
Un o'm prif bryderon, wrth gwrs, yw effaith ffermydd gwynt ar ein harfordir, ac nid yw hynny'n unig oherwydd amlygrwydd yr ymwthiadau hyn, yn fy marn i, o gwmpas ein glannau, yn dinistrio golygfeydd arfordirol, ond hefyd y bygythiad i fywyd gwyllt. Gwn fod Ymddiriedolaeth Adareg Prydain yn ddiweddar wedi cyhoeddi adroddiad sy'n dweud bod 99 y cant o adar y môr yn osgoi ffermydd gwynt, ond yn sicr mae diffyg data dibynadwy yn y maes hwn, ac mae angen gwneud mwy o waith i sefydlu beth yw'r gwir sefyllfa. Oherwydd, wrth gwrs, os yw'r adar y môr yn cael eu briwio mewn melinau gwynt, nid yw'r cyrff yno i gael eu harchwilio, oherwydd gweithrediad y môr. Felly, credaf yn sicr fod yn rhaid inni fod yn sensitif i fuddiannau adar y môr yn ogystal, fel y mae llawer yn ei weld, â buddiannau ynni adnewyddadwy. Rwy'n aml wedi gwneud y pwynt, oherwydd nad yw ein cyfraniad at allyriadau carbon deuocsid yn y Deyrnas Unedig ond yn gyfran fechan iawn o gyfanswm yr allyriadau byd-eang, ac felly mae cyfraniad Cymru hyd yn oed yn fwy pitw, nid yw hyn yn rhywbeth y mae angen inni boeni gormod amdano hyd yn oed os ydych yn derbyn y damcaniaethau cynhesu byd-eang gan ddyn. Ond rwy'n credu, felly, bod angen i fuddiannau bywyd gwyllt a natur gael eu blaenoriaethu mwy nag a wnaed hyd yn hyn.
Croesawaf yr ymagwedd sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet at y maes hwn. Dwi wedi dweud o'r blaen y credaf ei bod yn ddidwyll yn ei hawydd i wrando ar bob ochr o'r dadleuon mewn perthynas â chefn gwlad a moroedd, ac rwy'n gobeithio, felly, y bydd yn darparu cynllun inni y gallwn fesur canlyniadau yn ei erbyn ar gyfer adfywiad ein cymunedau arfordirol a'n porthladdoedd yn arbennig.
Fel y mae eraill wedi'i ddweud, rwy'n credu ein bod yn ffodus iawn yng Nghymru fod gennym amgylchedd morol o ansawdd mor uchel, ac mae'n bwysig iawn inni bellach fwrw ymlaen â chynllunio morol fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig, fel bod gennym ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig, y mae, unwaith eto, Aelodau eraill wedi sôn amdano. Hyd yn hyn, rwy'n credu ein bod wedi gweld gwahanol fuddiannau penodol yn dilyn eu hagenda eu hunain o ran yr amgylchedd morol, ac yn aml mae hynny wedi arwain at rywfaint o densiwn, os nad gwrthdaro rhwng y gwahanol ddefnyddiau. Rydym wedi gweld grwpiau sy'n ymwneud â bywyd gwyllt a chynefinoedd bywyd gwyllt yn pryderu'n fawr nad oes digon o amddiffyniad na digon o gydnabyddiaeth o'u pryderon a'u materion. Rwy'n gobeithio ein bod ni yn awr yn gweld y cydbwysedd cywir a phriodol drwy'r dull gweithredu mwy cydgysylltiedig hwn.
Ond mae pryderon amrywiol sydd gan rai o'r grwpiau amgylcheddol y credaf fod angen inni eu cydnabod a mynd i'r afael â nhw. Felly, er enghraifft, wrth ddatblygu'r dull gweithredu mwy cydgysylltiedig hwn, mae angen i ni sicrhau bod gennym ddigon o ddealltwriaeth o effaith bosibl y gweithgarwch morol amrywiol ar gynefinoedd bywyd gwyllt; bod angen i ni ddiogelu yn ddigonol ein hamgylchedd naturiol a'n bioamrywiaeth drwy'r ddealltwriaeth honno a pholisïau sy'n cydnabod ac yn ymdrin â hynny; bod ein meysydd adnoddau strategol yn cael eu datblygu nid yn unig ar sail y potensial i ddiwydiannau penodol dyfu, sef yr hyn sydd wedi'i bwysleisio hyd yma, ond y ceir sgrinio cymdeithasol ac amgylcheddol digonol a phriodol ar gam priodol. Felly, mae yna bryderon, er enghraifft, pe byddai'r mapiau'n cael eu cyhoeddi ar hyn o bryd, byddai'n rhy gynnar, gan nad yw'r sgrinio hynny wedi'i wneud, ac mae angen gwaith ychwanegol ar elfennau gofodol y cynllun er mwyn sicrhau bod materion adnoddau naturiol wedi'u hymgorffori'n briodol yn narluniadau'r ardaloedd hynny, a'n bod yn diogelu bywyd gwyllt sydd dan fygythiad yn ddigonol.
Wrth gwrs, mae'n berthnasol i'r ddadl yfory ar ardaloedd morol gwarchodedig. Sut bydd cynllunio morol a'r ardaloedd gwarchodedig hynny yn rhyngweithio? Sut bydd y cynllun yn cefnogi gwarchod yr ardaloedd penodol hynny? Rydym yn gwybod nad yw'r meysydd adnoddau strategol yn y cynllun morol yn cydnabod lleoliad safleoedd gwarchodedig, ond maen nhw'n cydnabod y gallai effeithio ar y safleoedd hynny. Felly, sut bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ardaloedd gwarchod morol yn fwyfwy effeithiol o ran sicrhau a darparu'r amddiffyniad hwnnw?
Hefyd, Llywydd, mae asesiad Llywodraeth Cymru ei hun o'n cynllun morol cenedlaethol yn cydnabod y risg o niwed i'r amgylchedd, ac mae hynny'n amlwg felly'n codi'r cwestiwn ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gochel rhag y risg hwn ac yn osgoi effeithiau negyddol posibl. Wrth gwrs, mae hynny'n berthnasol hefyd i'n nodau llesiant. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob un o'r nodau llesiant hynny yn cael sylw priodol wrth daro'r cydbwysedd cywir ynghylch y buddion hyn a allai gystadlu â'i gilydd. Felly, mae'n her fawr, byddwn i'n dweud, i Lywodraeth Cymru. Mae rhai Aelodau wedi cyfeirio at yr amserlen wrth fwrw ymlaen â'r cynlluniau hyn—mae wedi bod yn broses hir—ond rwy'n cytuno mai'r her yw ei gwneud yn iawn. Mae llawer i'w ystyried wrth ei gwneud yn iawn, ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd pryderon y sefydliadau amgylcheddol a fynegwyd yma heddiw yn cael eu hystyried yn briodol gan Lywodraeth Cymru, a bod Lesley Griffiths, y gwn ei bod yn Ysgrifennydd Cabinet sy'n gwrando, yn parhau i gael y ddeialog angenrheidiol honno, oherwydd rwy'n credu'n gryf iawn mai dim ond os bydd y ddeialog honno'n parhau y bydd modd i ni wneud popeth posibl i sicrhau'r cydbwysedd cywir hwnnw.
Rhun ap Iorwerth.
Diolch i'r Llywydd am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau. Rwy'n teimlo fy mod i'n gorfod dweud ychydig o eiriau fel yr unig un sy'n cynrychioli ynys yma yn y Cynulliad Cenedlaethol—fel etholaeth. Rwy'n bendant yn croesawu'r ffaith fod gennym ni rŵan ddrafft o gynllun morol cenedlaethol. Rwy'n cofio yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor economi, i gryn argraff gael ei greu arnaf i gan y ddogfen a gafodd ei chreu rai blynyddol yn ôl bellach gan Lywodraeth Iwerddon, 'Harnessing Our Ocean Wealth', ac mi ro'n i'n gallu gweld yn hwnnw y math o fodel yr oeddwn i'n dyheu am gael ei weld yn cael ei ddatblygu yng Nghymru. Rwy'n meddwl ei fod yn symptomatig o'n hagwedd ni, o bosibl, tuag at y môr ei bod hi wedi cymryd cyhyd i ni gael dogfen o'r math yma.
Mae'n swnio'n beth od bron iawn i ddweud ond, yn Ynys Môn, rwy'n teimlo'n aml iawn nad ydyn ni'n edrych digon tuag at y môr, ac mai cymdeithas y tir ydym ni yn Ynys Môn. Wrth gwrs, mae gennym ni dreftadaeth forwrol ryfeddol, o'r bad achub a hanes y Royal Charter ac ati ym Moelfre, porthladd Caergybi y bu fy nghyn-deidiau i yn gweithio ynddo fo, y diwydiant adeiladu llongau yn Amlwch, diwydiannau bwyd môr, cregyn gleision, ac yn fwy diweddar Halen Môn. Ac wrth gwrs, mae'r arfordir yn bwysig iawn o ran twristiaeth. Ond, rhywsut, mae cymdeithas yn cael ei thynnu mwy tuag at beth sy'n digwydd ar y tir ac nid beth sy'n digwydd yn y môr.
Fe allwch chi wneud cymhariaeth efo beth sy'n digwydd ym maes ynni ar hyn o bryd. Mae yna bwerdy, o bosibl, yn mynd i gael ei adeiladau ar y tir yng ngogledd Ynys Môn yn y blynyddoedd nesaf, ond llawer mwy cyffrous a llawer mwy arloesol yw'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer tynnu ynni o lif y môr oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Yn y fan honno mae'r arloesi. Minesto yw'r cwmni hwnnw sy'n gobeithio datblygu technoleg yn Ynys Môn a all gael ei hallforio i'r byd, ac mae cyffro mawr yno am barth arbrofi Morlais sydd yn cyrraedd cyfnod critigol yn ei ddatblygiad. Rwy'n gwybod fod y Gweinidog yn mynd i fod yn cael ei briffio yn y dyfodol agos, rwy'n meddwl, ar y camau tuag at sicrhau bod y cysylltiad trydan yn cael ei ddatblygu'n llawn ar gyfer Morlais. Mae yna arian Ewropeaidd wedi cael ei glustnodi, rwy'n gwybod, ar gyfer y cysylltiad hwnnw, ac mi fyddwn i'n annog y Gweinidog i wneud popeth o fewn ei gallu i wneud yn siŵr bod cyswllt Morlais yn gallu digwydd mor fuan â phosibl, a bod modelau Prydeinig newydd yn cael eu datblygu efo help Llywodraeth Cymru o bosibl i sicrhau bod hynny yn gallu digwydd.
Felly, rwy'n falch bod hwn gennym ni rŵan, ond wrth gwrs dechrau'r broses ydy'r ymgynghoriad ar y cynllun fel ag y mae o. Beth sy'n bwysig ydy bod y cydfodoli yma yn gallu digwydd fel bod ynni yn gallu cael ei dynnu allan o'r môr, ochr yn ochr â datblygiad ein twristiaeth forwrol ni, ochr yn ochr â datblygiad bwydydd, ac ochr yn ochr, wrth gwrs, â bywyd naturiol cyfoethog arfordir Cymru.
Dechrau’r daith ydy hyn. Rwy'n edrych ymlaen i chwarae fy rhan fel Aelod etholaeth, ochr yn ochr ag Aelodau rhanbarthol y gogledd dros Ynys Môn, er mwyn troi y gwreiddyn yma, rwy'n gobeithio, yn rhywbeth all fod o fudd cenedlaethol i ni.
Rwyf wedi edrych drwy'r ddogfen ac ni allaf weld unrhyw gyfeiriad at y diwydiant twf newydd yng Nghymru, sef gwaredu llaid niwclear yn amgylchedd morol Cymru. Fel y gwyr y Siambr, mae yna gynigion i waredu 300,000 o dunnelli o laid o'r tu allan i Hinckley Point ychydig oddi ar yr arfordir, heb fod ymhell o'r fan lle'r ydym ni'n eistedd ac yn sefyll heddiw.
Yn y Pwyllgor Deisebau heddiw, datgelwyd bod y drwydded wedi'i rhoi heb unrhyw brofion ar y dos o ymbelydredd o unrhyw sylwedd islaw 5 cm. Credaf fod werth ailadrodd hynny, oherwydd mae'r canllawiau mor llac fel y gellir rhoi trwydded heb i'r deunydd hwn gael ei brofi am y dos o ymbelydredd y gallai fod yn ei gynnwys. Nid yw effaith y llaid hwn ar yr amgylchedd morol wedi'i hasesu, felly sut gallan nhw gael trwydded?
Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn gwybod fawr ddim ynghylch lle y bydd y llaid, os caiff ei ddympio, yn mynd yn y pen draw. Y cyfan a ddywedwyd wrthym ni oedd, 'Wel, mae'r ardal yn wasgaradwy', felly gallai'r gronynnau, a allai fod yn ymbelydrol neu beidio i raddau mwy neu lai, fynd yr holl ffordd o amgylch arfordir Cymru, ac nid wyf yn credu o gwbl fod hynny'n ddigon da. Felly, yr hyn yr hoffwn i ei ddarllen yn y dogfennau hyn yw camau i gryfhau llawer mwy ar y canllawiau ar roi trwyddedau morol. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu'r cynllun, ac rwy'n credu bod y pethau hyn yn cymryd amser, ond yr un peth y bydd yn rhaid i mi gytuno â David Melding arno yn y fan hon yw diffyg data, ac maen nhw'n hynod o bwysig. Os ydym ni'n mynd i ddweud ein bod yn gwybod mewn gwirionedd beth yw cyflwr ein hamgylchedd morol, mae'n rhaid bod gennym y data sy'n ategu hynny. Rwyf i wedi cael sylwadau, fel y mae eraill yma, yn dweud bod sefydliadau yn casglu data yn ufudd, ond bod eu cyllid wedi'i ddileu neu ei leihau i'r fath raddau fel nad ydyn nhw wedi gallu parhau â'r gwaith hwnnw bellach.
Gan ein bod yn trafod mater y diffyg data, hoffwn hefyd godi'r mater o fonitro. Mae 12 mis ers ailgyflwyno'r llusgrwydo am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion. Roedd yn hynod ddadleuol ar y pryd, pan gafodd ei stopio a phan gafodd ei ailgyflwyno, ac addawyd inni, flwyddyn yn ddiweddarach, y byddem ni'n clywed rhywbeth am unrhyw ddirywiad posibl yng ngwely'r môr a allai fod wedi digwydd o ganlyniad i'r ailgyflwyno hwnnw, sef yr union reswm y cafodd ei stopio. Felly, hoffwn weld rhywbeth yn y cynllun sy'n ein cyfeirio tuag at ddeall sut yr ymdrinnir â'r monitro hwnnw yn ogystal â'r diffyg data hwnnw.
Rydym ni i gyd wedi clywed sôn yma heddiw am blastigau, ond mae angen inni hefyd ystyried microbelenni ac a ddylem ni symud i'r cyfeiriad o helpu i wahardd y rheini. Mae digon o dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd bod pysgod yn eu bwyta a'n bod ninnau wedyn yn eu bwyta a'u bod nhw'n gyffredin hyd yn oed mewn halen môr bellach. Mae'r niwed yr ydym ni'n ei wneud yn eithaf rhyfeddol yn y cyfeiriad hwnnw ac ni allwn ddweud 'Croeso i Gymru' a gwahodd pobl yma i fwynhau harddwch y môr oni bai ein bod yn edrych ar ei ôl. Mewn gwirionedd, dyna beth yr hoffwn i ei weld; hoffwn i weld y cydbwysedd. Dydw i ddim eisiau ailadrodd y materion y mae pobl wedi sôn amdanyn nhw yn y fan hon heddiw, ond hoffwn i weld y cydbwysedd sy'n rhoi hyder llwyr i ni nad yw'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn niweidiol i'r môr, oherwydd byddai'n anodd iawn dod i leoedd fel sir Benfro i fwynhau adar y môr sydd yno—y palod—yn yr adroddiad os nad ydym mewn gwirionedd wedi ystyried y niwed sy'n cael ei wneud o fewn y parth diogelu sydd, unwaith eto, yn dibynnu ar ddata digonol sy'n dweud wrthym ni, ac nid yw yno ar hyn o bryd.
Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet i ymateb i'r ddadl. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu sylwadau ac am eu cefnogaeth gyffredinol i'r cynllun drafft, a gadewch i mi ddweud mai cynllun drafft ydyw. Rydym ni wrthi'n ymgynghori, a nodwch eich barn os gwelwch yn dda ac anogwch eich etholwyr i wneud hynny hefyd. Credaf mai'r hyn yr wyf i'n ei ddeall o'r ddadl hon yw bod Aelodau yn teimlo mor gryf am foroedd Cymru a'u pwysigrwydd i'n ffordd o fyw a'n llesiant cenedlaethol ag yr wyf innau.
Mae'n gyfnod cyffrous iawn ar gyfer ein moroedd. Soniais ei bod yn ddechrau Blwyddyn y Môr Llywodraeth Cymru. Os gallaf sôn ychydig am y cynnig a'r gwelliannau, i ddechrau, cyn sôn yn benodol am sylwadau'r Aelodau, rwyf yn amlwg yn gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig. O edrych ar y gwelliannau, rwy'n derbyn gwelliant 1, i gydnabod swyddogaeth bwysig ein moroedd wrth helpu'r camau i ddatgarboneiddio ein heconomi. Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU unwaith eto i roi gwybod inni beth yw eu barn ar Hendry, fel y dywedodd Mike Hedges. Mae blwyddyn wedi mynd heibio ers hynny, ac nid ydym yn dymuno bod yn yr un sefyllfa ar yr adeg hon y flwyddyn nesaf.
O ran gwelliannau 2 a 3, dyma'r cynllun morol cyntaf ar gyfer Cymru. Mae'n rhoi darlun 20 mlynedd o sut y dylid defnyddio ein moroedd, ac mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ei wneud yn iawn. Mae'n gymhleth iawn, a gwn y dywedodd David Melding ei bod yn ddogfen hir iawn, a chredaf iddo ddweud bod un yr Alban yn gryno, ond mae gan yr Alban sawl cynllun rhanbarthol hefyd, felly, mewn gwirionedd, os ydych chi'n rhoi popeth at ei gilydd, byddai'n gwneud eu dogfen nhw yn hirach fwy na thebyg, mewn gwirionedd, na'n un ni. Unwaith eto, am y cyfnod o amser, dechreuodd Gogledd Iwerddon ar waith cynllunio morol cyn ni, ac nid ydyn nhw hyd yn oed wedi ymgynghori ar eu cynllun drafft eto.
Fel y dywedais i, mae moroedd Cymru yn bwysig i ni, ac mae'r system cynllunio morol newydd hon yn dangos fy ymrwymiad i'r rheoli cynaliadwy hwnnw. Mae fy swyddogion eisoes yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i faterion morol. Rydym ni wedi cynyddu'r gyllideb yn y maes hwn hefyd, a byddant yn parhau i wneud hynny. Mae polisïau eisoes ar waith i gefnogi adferiad ein hecosystemau, felly dydw i ddim yn cefnogi gwelliant 4.
Trof at y pwyntiau a godwyd gan yr Aelodau. Cyfeiriodd Simon Thomas at y gwaith a wnaethom ni gyda rhanddeiliaid. Rydym ni wedi gwneud swm anhygoel o waith gyda rhanddeiliaid ac mewn gwirionedd gwnaethom rannu ein drafft cyntaf o'n cynllun gyda nhw, a gwnaethon nhw ofyn am fwy o fanylion, felly rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn â nhw. Ond af yn ôl at yr hyn a ddywedais. Drafft yw hwn ac mae proses ymgynghori hir. Dydy e' ddim yn cau tan 29 Mawrth, felly mae digon o amser i bawb fynegi eu barn. David Melding, os gallaf i dawelu eich meddwl, yn amlwg, mae amddiffyniadau ar waith, er enghraifft drwy drwydded forol er mwyn sicrhau nad yw'r amgylchedd yn cael ei niweidio gan unrhyw brosiect unigol, a bod y cynllun, yn fy marn i, yn gwneud hynny yn glir iawn iawn.
Roedd Mike Hedges yn cefnogi'r hyn yr oeddwn yn dweud sef mai drafft cyntaf y cynllun morol yw hwn, a sut y mae'n faes cymhleth—mae'n bwysig ei wneud yn iawn. Daeth Brexit hefyd ag agwedd wahanol arno, ac rydym wedi gorfod edrych ar faterion penodol iawn. Ond mae'n rhaid imi ddweud, o ran Hendry, er ein bod wrth gwrs yn galw ar Lywodraeth y DU i roi'r gorau i din-droi, nad yw'r diffyg cynnydd ar Hendry wedi effeithio ar y cynllun morol drafft.
Janet Finch-Saunders, soniasoch chi ei fod wedi bod yn cael ei ddatblygu ers wyth mlynedd. Dydw i ddim yn siŵr o le y cawsoch chi'r wyth mlynedd; dechreuodd yn 2014, felly oddeutu tair blynedd yw hynny. [Torri ar draws.] Na, dechreuodd yn 2014, felly mae'n dair blynedd yn y cam cynllunio. Cytunaf yn llwyr â chi am Brifysgol Bangor. Mae'n ffynhonnell ragorol o ddeallusrwydd gwych a gwyddoniaeth sydd o gymorth mawr i ni, sy'n gwbl hanfodol wrth wneud y penderfyniadau hyn. Ac, unwaith eto, dim ond i dawelu meddwl Janet Finch-Saunders, ni fydd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu tanseilio o gwbl gan y cynllun drafft hwn.
Soniodd Neil Hamilton am ffermydd gwynt, a chytunaf ei bod yn bwysig iawn i wrando ar bob ochr. Fodd bynnag, mae'n ofynnol i ddatblygiadau gwynt ar y môr fonitro eu heffeithiau. Mae yna astudiaethau helaeth sy'n ein galluogi i ddeall yn well yr effeithiau posibl. Gwnaethoch chi gyfeirio at adar y môr. Ceir rhai nythfeydd adar môr helaeth a phwysig iawn yng Nghymru ac, wrth gwrs, byddwn yn sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn, ac, unwaith eto, bydd y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig yn sicrhau bod hynny'n digwydd.
Cyfeiriodd John Griffiths hefyd at ardaloedd morol gwarchodedig, ac rwy'n gwbl ymrwymedig i warchod ein moroedd, ac mae hynny'n cynnwys drwy reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Credaf fod y cynllun drafft yn cynnwys polisïau sy'n cadarnhau yr amddiffyniad ar gyfer y rhwydwaith o safleoedd sy'n ardaloedd morol gwarchodedig, ac mae asesiadau rheoliadau cynefinoedd helaeth wedi'u cynnal er mwyn i ni ddeall a rheoli effeithiau posibl y polisïau yn y cynllun drafft.
Gan fynd yn ôl unwaith eto, soniodd John am ddeialog gyda'n rhanddeiliaid, ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gwarchod yr amgylchedd, ac mae gwneud hynny yn sicr wrth wraidd y dull yr ydym ni'n ei arddel ar gyfer rheoli morol.
Mae Rhun ap Iorwerth yn amlwg yn cynrychioli ynys brydferth Ynys Môn ac rwy'n credu i chi wneud pwynt pwysig iawn ynghylch sut nad ydym bob amser yn ystyried y moroedd, ac roeddech chi'n dweud hynny yn eich swyddogaeth fel AC etholaethol. Credaf mai un o'r pethau sydd wedi codi o'r sgyrsiau hynny yr ydym ni wedi bod yn eu cael â'n rhanddeiliaid, wrth ddod â hyn at ei gilydd, yw pa mor bwysig yw'r moroedd ar gyfer bwyd, ar gyfer yr economi, ynni, ar gyfer diwylliant ac ar gyfer twristiaeth a hamdden. Dim ond er mwyn tawelu'ch meddwl, cefnogir parth prawf Morlais yn y cynllun, ac rydym ni'n gefnogol iawn o dechnolegau newydd hefyd.
Cododd Neil McEvoy y mater ynghylch canllawiau, ac rwy'n credu y bydd y cynllun yn helpu pobl wrth iddyn nhw geisio penderfynu ar drwyddedau. Unwaith eto, gallwn ni sicrhau drwy'r ymgynghoriad os oes unrhyw beth ar goll ein bod yn ei gynnwys.
Yn olaf, soniodd Joyce Watson am effeithlonrwydd data. Mae gwybodaeth effeithiol yn bwysig iawn, a chredaf fod y porth sydd gennym ar hyn o bryd yn adnodd rhagorol, ond wrth gwrs mae angen inni wneud mwy.
Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn, Llywydd, at ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y cynllun drafft.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth. Derbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 2? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.