Part of the debate – Senedd Cymru am 6:01 pm ar 9 Ionawr 2018.
Diolch i'r Llywydd am y cyfle i ddweud ychydig o eiriau. Rwy'n teimlo fy mod i'n gorfod dweud ychydig o eiriau fel yr unig un sy'n cynrychioli ynys yma yn y Cynulliad Cenedlaethol—fel etholaeth. Rwy'n bendant yn croesawu'r ffaith fod gennym ni rŵan ddrafft o gynllun morol cenedlaethol. Rwy'n cofio yn y Cynulliad diwethaf, pan oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor economi, i gryn argraff gael ei greu arnaf i gan y ddogfen a gafodd ei chreu rai blynyddol yn ôl bellach gan Lywodraeth Iwerddon, 'Harnessing Our Ocean Wealth', ac mi ro'n i'n gallu gweld yn hwnnw y math o fodel yr oeddwn i'n dyheu am gael ei weld yn cael ei ddatblygu yng Nghymru. Rwy'n meddwl ei fod yn symptomatig o'n hagwedd ni, o bosibl, tuag at y môr ei bod hi wedi cymryd cyhyd i ni gael dogfen o'r math yma.
Mae'n swnio'n beth od bron iawn i ddweud ond, yn Ynys Môn, rwy'n teimlo'n aml iawn nad ydyn ni'n edrych digon tuag at y môr, ac mai cymdeithas y tir ydym ni yn Ynys Môn. Wrth gwrs, mae gennym ni dreftadaeth forwrol ryfeddol, o'r bad achub a hanes y Royal Charter ac ati ym Moelfre, porthladd Caergybi y bu fy nghyn-deidiau i yn gweithio ynddo fo, y diwydiant adeiladu llongau yn Amlwch, diwydiannau bwyd môr, cregyn gleision, ac yn fwy diweddar Halen Môn. Ac wrth gwrs, mae'r arfordir yn bwysig iawn o ran twristiaeth. Ond, rhywsut, mae cymdeithas yn cael ei thynnu mwy tuag at beth sy'n digwydd ar y tir ac nid beth sy'n digwydd yn y môr.
Fe allwch chi wneud cymhariaeth efo beth sy'n digwydd ym maes ynni ar hyn o bryd. Mae yna bwerdy, o bosibl, yn mynd i gael ei adeiladau ar y tir yng ngogledd Ynys Môn yn y blynyddoedd nesaf, ond llawer mwy cyffrous a llawer mwy arloesol yw'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gyfer tynnu ynni o lif y môr oddi ar arfordir gorllewinol Ynys Môn. Yn y fan honno mae'r arloesi. Minesto yw'r cwmni hwnnw sy'n gobeithio datblygu technoleg yn Ynys Môn a all gael ei hallforio i'r byd, ac mae cyffro mawr yno am barth arbrofi Morlais sydd yn cyrraedd cyfnod critigol yn ei ddatblygiad. Rwy'n gwybod fod y Gweinidog yn mynd i fod yn cael ei briffio yn y dyfodol agos, rwy'n meddwl, ar y camau tuag at sicrhau bod y cysylltiad trydan yn cael ei ddatblygu'n llawn ar gyfer Morlais. Mae yna arian Ewropeaidd wedi cael ei glustnodi, rwy'n gwybod, ar gyfer y cysylltiad hwnnw, ac mi fyddwn i'n annog y Gweinidog i wneud popeth o fewn ei gallu i wneud yn siŵr bod cyswllt Morlais yn gallu digwydd mor fuan â phosibl, a bod modelau Prydeinig newydd yn cael eu datblygu efo help Llywodraeth Cymru o bosibl i sicrhau bod hynny yn gallu digwydd.
Felly, rwy'n falch bod hwn gennym ni rŵan, ond wrth gwrs dechrau'r broses ydy'r ymgynghoriad ar y cynllun fel ag y mae o. Beth sy'n bwysig ydy bod y cydfodoli yma yn gallu digwydd fel bod ynni yn gallu cael ei dynnu allan o'r môr, ochr yn ochr â datblygiad ein twristiaeth forwrol ni, ochr yn ochr â datblygiad bwydydd, ac ochr yn ochr, wrth gwrs, â bywyd naturiol cyfoethog arfordir Cymru.
Dechrau’r daith ydy hyn. Rwy'n edrych ymlaen i chwarae fy rhan fel Aelod etholaeth, ochr yn ochr ag Aelodau rhanbarthol y gogledd dros Ynys Môn, er mwyn troi y gwreiddyn yma, rwy'n gobeithio, yn rhywbeth all fod o fudd cenedlaethol i ni.