Part of the debate – Senedd Cymru am 5:28 pm ar 9 Ionawr 2018.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac os caf ddechrau drwy ddweud a nodi ein bod ni'n trafod y cynllun morol ymgynghorol heddiw a bydd gennym ni drafodaeth yfory eto ar adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd ar yr union bwnc yma, rwyf jest yn gobeithio y tro nesaf y bydd rhywbeth fel hyn yn digwydd y bydd y Pwyllgor Busnes yn gallu bod yn fwy creadigol ynglyn â chael trafodaeth ar gynigion y Llywodraeth wedi eu cymhwyso a goleuni wedi taflu arnyn nhw gan adroddiad y pwyllgor, yn hytrach na chael dwy ddadl ar wahân. Ond, wedi dweud hynny, rydw i'n falch iawn ein bod ni yn trafod yr ymgynghoriad heddiw ac, wrth gwrs, mae yn ymgynghoriad felly mae llawer o gwestiynau rwy'n mynd i ofyn efallai yn rhai a gaiff eu hateb yn ystod y cyfnod ymgynghorol ac, wrth gwrs, mae yna ambell i bwynt efallai a ddaw allan yn ystod y broses yna yn ogystal.
Hoffwn i ddechrau gyda lle rydw i'n cytuno gyda'r Ysgrifennydd Cabinet, sef ar y sylfaen egwyddorol yma ein bod ni efallai fel cenedl yng Nghymru wedi troi ein cefnau ar y môr yn ystod yr hanner canrif diwethaf, ac nid ydym ni'n meddwl digon am y môr fel ffynhonnell bywoliaeth, fel ffynhonnell bioamrywiaeth, fel ffynhonnell rhai o'r pethau mwyaf economaidd y gallwn ni eu datblygu ar gyfer y dyfodol, efallai. Rwyf hefyd yn rhannu, yn y gwelliannau sydd gan Blaid Cymru i'r ddadl heddiw, ofnau ynglŷn ag oedi cyn cyflwyno yr ymgynghoriad yma, cynigion sydd wedi'u rhannu gan y Blaid Geidwadol, rwy'n sylwi, yn ogystal. Mae yna dymor cyfan o'r Cynulliad wedi pasio ers i ni glywed am y datganiad polisi morol cyn i ni weld y cynllun ar ei ffurf drafft presennol. Ac yn ystod y cyfnod yna, mae'r dystiolaeth a dderbyniwyd gan y pwyllgor newid hinsawdd yn ystod ei adroddiad diweddar—y byddwn ni'n ei drafod yfory—wedi dangos yn glir bod yr ardaloedd cadwraeth morol y cyfan oll mewn cyflwr anffafriol ar gyfer y cynefinoedd a hefyd yr amrywiaeth o fywyd môr sydd i gael ynddyn nhw. Felly mae'r amser yn pasio ac mae dirywiad yn digwydd.
Gofynnais i gwestiwn i'r Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn ag agwedd neu ymateb cyntaf rhai o'r mudiadau amgylcheddol i'r cyhoeddiad. Rwy'n credu bod hynny wedi cael ei yrru gan y pwyslais yn yr adroddiad ynglŷn ag ynni o'r môr, ac yn enwedig y posibiliadau o forlynnoedd llanw. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y mae Plaid Cymru yn ei gefnogi mewn egwyddor, ond wrth gwrs, mae hefyd yn un o'r pethau a fydd yn profi defnyddio her Deddf cenedlaethau'r dyfodol wrth baratoi. Mae'n bwysig i nodi ei bod hi'n flwyddyn gyfan ers i adroddiad annibynnol Hendry gael ei gyhoeddi ar y morlyn llanw ym mae Abertawe, a oedd i fod i roi yr atebion i ni i rai o'r cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y mudiadau amgylcheddol heddiw, ac sydd yn cael eu crybwyll yn yr ymgynghoriad hefyd.
Rydym ni'n gwybod bod bioamrywiaeth o dan fygythiad gan ddatblygiadau ynni o'r môr—wrth gwrs eu bod nhw—ac mae yna effaith ar ecosystemau o ddatblygu ynni o'r môr. Ond hefyd mae newid hinsawdd yn ei dro yn effeithio ar y môr, ac ar y cynefinoedd, ac ar y bioamrywiaeth yn y môr, a chadw'r ddysgl yn wastad rhwng y ddau beth yna oedd yr union beth a oedd i fod i gael ei ateb o leiaf yn rhannol drwy gael cynllun morlyn llanw pathfinder, fel roedd yn cael ei alw gan adroddiad Hendry. Felly, mae'n siomedig iawn bod Llywodraeth San Steffan o hyd yn trin Cymru yn y fath fodd, fel nad oes hyd yn oed penderfyniad wedi'i wneud, flwyddyn gron ar ôl cyhoeddi'r adroddiad annibynnol hwnnw.
Yr ail ran, efallai, a fydd yn denu sylw'r cyhoedd yn yr adroddiad yma yw'r pwyslais ar lygredd môr, ac wrth gwrs mae plastig yn rhywbeth rydym ni eisoes wedi'i drafod wrth ddod nôl o'r gwyliau yn ystod y Cyfarfod Llawn heddiw. Ond mae'n bwysig i danlinellu bod y rhai a wnaeth ymateb i'r pwyllgor newid hisawdd ar y materion hyn wedi sôn am sbwriel a llygredd yn y môr fel un o'r pethau a oedd yn eu poeni nhw fwyaf. Ac wrth gwrs, nid yn unig bod hyn yn cael effaith ar dwristiaeth a mwynhad ar lan y môr, mae'n cael effaith benodol ar fywyd môr yn ogystal. Felly, mae mynd i'r afael â llygredd plastig yn mynd i fod yn rhan bwysig o gynllunio morol cyn belled ag y mae'r Llywodraeth yn y cwestiwn.
Fe fydd nifer o bethau eraill yn cael eu trafod wrth i ni ymateb i'r pwyllgor newid hinsawdd yfory, felly nid wyf eisiau ailadrodd fy hunan yn ormodol mewn dau ddiwrnod. Fe wnaf i jest crybwyll y ddau beth yna fel rhai o'r heriau a fydd ar gyfer y cynllun presennol, gan nodi, wrth gwrs, ein bod ni'n dechrau ar gyfnod ymgynghorol, gan edrych ymlaen at ymateb gan y cymunedau hynny yn benodol sy'n byw ar lan y môr, a chroesawu beth ddywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ynglŷn â'r posibiliadau nawr o gyfarfodydd cyhoeddus a thrafodaeth gyhoeddus ar y cynllun.