Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 9 Ionawr 2018.
Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Os nad oes unrhyw dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dyma ni yn symud i'r bleidlais ar y ddadl ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 4. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.