8. Cyfnod Pleidleisio

– Senedd Cymru am 6:17 pm ar 9 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 9 Ionawr 2018

Dyma ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Os nad oes unrhyw dri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, dyma ni yn symud i'r bleidlais ar y ddadl ar 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 4. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, tri yn ymatal, 26 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Gwelliant 4: O blaid: 21, Yn erbyn: 26, Ymatal: 3

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 605 NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Gwelliant 4

Ie: 21 ASau

Na: 26 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 3 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:17, 9 Ionawr 2018

Galwaf am bleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6617 fel y’i diwygiwyd

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cyhoeddi Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni.

2. Yn gresynu:

a) bod gwerth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth (Gwerth Ychwanegol Gros) yn is-ranbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd yn dal i fod ar y gwaelod ledled y DU, ar ddim ond 64 y cant o gyfartaledd y DU - gyda Chymoedd Gwent yn ail yn unig i Ynys Môn fel yr isaf yn y DU;

b) bod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough Times Ahead? What 2018 might hold for Wales', yn nodi er y rhagwelir y bydd diweithdra yn y DU yn aros yn tua 4.3 y cant dros y flwyddyn, bod perfformiad yn annhebygol o fod yn ddigon i hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra yn uwch o lawer na ffigur y DU, megis Merthyr Tudful (7.3 y cant) a Blaenau Gwent (6.7 y cant);

c) y gohiriwyd cyflwyno rhaglen gyflogadwyedd newydd Cymru'n Gweithio Llywodraeth Cymru tan fis Ebrill 2019.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu sut y bydd yn siarad ynghylch, ymgynghori ar, dylunio a chyflwyno 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni' â phobl sy'n byw a gweithio yng nghymoedd de Cymru; Llywodraeth y DU; y sector busnes a'r trydydd sector, wrth i waith y tasglu fynd yn ei flaen.

4. Yn nodi er mwyn cael ymgysylltiad gwirioneddol â mudiad 'Creu Sbarc', i greu busnesau mwy proffidiol o Gymru sy'n sicrhau cyfoeth a ffyniant ar gyfer Cymru gyfan, y bydd angen cydweithrediad Llywodraeth Cymru gyda diwylliant sy'n cysylltu arloesi ac entrepreneuriaeth gyda'i gilydd.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:18, 9 Ionawr 2018

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 51, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 606 NDM6617 Dadl: Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: Cynllun Cyflawni - Cynnig (fel y'i diwygiwyd)

Ie: 51 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:18, 9 Ionawr 2018

Y bleidlais nesaf ar y ddadl ar y cynllun morol cenedlaethol. Rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Mae'n cymryd tipyn o amser. Mae'n flwyddyn newydd. Fe ddaw nawr.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:19, 9 Ionawr 2018

Agor y bleidlais, felly. Cau'r bleidlais. O blaid 20, neb yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod. 

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 2: O blaid: 20, Yn erbyn: 30, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 607 NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 2

Ie: 20 ASau

Na: 30 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:19, 9 Ionawr 2018

Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 17, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 3: O blaid: 17, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 608 NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 3

Ie: 17 ASau

Na: 34 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:20, 9 Ionawr 2018

Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod.

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 4: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rhif adran 609 NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 4

Ie: 24 ASau

Na: 27 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:20, 9 Ionawr 2018

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, 26 yn ymatal, pedwar yn erbyn. Ac felly, derbyniwyd gwelliant 5.

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 5: O blaid: 21, Yn erbyn: 4, Ymatal: 26

Derbyniwyd y gwelliant

Rhif adran 610 NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Gwelliant 5

Ie: 21 ASau

Na: 4 ASau

Ie: A-Z fesul cyfenw

Na: A-Z fesul cyfenw

Wedi ymatal: 26 ASau

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:21, 9 Ionawr 2018

Galwaf nawr am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Julie James. 

Cynnig NDM6616 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (WNMP).

2. Yn cydnabod ac yn cefnogi posibilrwydd ‘Twf Glas’ cynaliadwy mewn sectorau morol fel y nodir yn y cynllun drafft.

3. Yn croesawu buddsoddiad yr UE mewn ynni morol yn Sir Benfro ac Ynys Môn ac yn galw am fuddsoddiad cydlyniad rhanbarthol tebyg gan Lywodraeth y DU yn dilyn Brexit.

4. Yn gresynu at yr oedi wrth ddatblygu prosiect Morlyn Llanw Bae Abertawe fel prosiect braenaru a fyddai'n ein galluogi i ddysgu llawer iawn am botensial twf glas o ynni llanw.

5. Yn cydnabod, fel y nodir yn y cynllun drafft, bwysigrwydd ecosystemau morol Cymru a phwysigrwydd rheoli ein hadnoddau naturiol morol yn gynaliadwy o safbwynt llesiant cenedlaethol.

6. Yn croesawu ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a gweithredu cynllunio morol i Gymru.

7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ar blastig untro tafladwy i helpu i sicrhau bod moroedd Cymru'n lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:21, 9 Ionawr 2018

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 40, 11 yn ymatal, neb yn erbyn. Derbyniwyd y cynnig wedi ei ddiwygio.

NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Cynnig (fel y'i diwygiwyd): O blaid: 40, Yn erbyn: 0, Ymatal: 11

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Rhif adran 611 NDM6616 Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru - Cynnig (fel y'i diwygiwyd)

Ie: 40 ASau

Wedi ymatal: 11 ASau

Wedi ymatal: A-Z fesul cyfenw

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:21, 9 Ionawr 2018

A dyna ddod â therfyn ar ein trafodion am y dydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:21.