Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:30 pm ar 10 Ionawr 2018.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Dymunaf flwyddyn newydd dda iddi hi, ac yn wir, i’r holl Aelodau. Ac a gaf fi gadarnhau ein bod yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau rheilffyrdd drwy gontract nesaf Cymru a’r gororau, teithio llesol a phrosiect metro de Cymru, a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ledled Cymru.