1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
1. What are the Welsh Government’s priorities for improving public transport links for Cynon Valley residents in 2018? OAQ51518
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Dymunaf flwyddyn newydd dda iddi hi, ac yn wir, i’r holl Aelodau. Ac a gaf fi gadarnhau ein bod yn bwrw ymlaen â'n gweledigaeth uchelgeisiol i ail-lunio seilwaith a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, gan gynnwys gwasanaethau bysiau lleol, gwasanaethau rheilffyrdd drwy gontract nesaf Cymru a’r gororau, teithio llesol a phrosiect metro de Cymru, a fydd yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer trafnidiaeth integredig ledled Cymru.
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol fy mod wedi bod yn arwain ymgyrch leol yng Nghwm Cynon i wella gwasanaethau ar ddydd Sul. Ac o ganlyniad i’r ymgyrch honno, dyblodd Arriva nifer y gwasanaethau o Aberdâr yn ystod mis Rhagfyr, a chroesawyd y newyddion hwn gan lawer o fy etholwyr, a allodd fanteisio ar gyfleoedd cyflogaeth lawer ymhellach i ffwrdd o ganlyniad i hynny. Nawr, cynllun peilot ym mis Rhagfyr yn unig oedd hwn, ac rwy’n pryderu, gyda'r posibilrwydd y caiff y gwasanaeth hwn ei ddiddymu o hyn ymlaen, y bydd fy etholwyr dan anfantais, gan nad yw’r trên cyntaf yn gadael Aberdâr nes ychydig cyn 10 y bore. Felly, a wnewch chi gefnogi fy ngalwad i Arriva fod yn hyblyg ac ystyried parhau â'r gwasanaethau hyn, er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl o Gwm Cynon allu manteisio ar gyfleoedd cyflogaeth ymhellach i ffwrdd?
Gwnaf, yn sicr. Roeddwn yn croesawu penderfyniad Arriva i ymestyn gwasanaethau ar ddydd Sul. Mae diffyg trafnidiaeth briodol, ddibynadwy a fforddiadwy yn parhau i fod yn un o'r rhwystrau mwyaf sy’n wynebu pobl o ran cael mynediad at waith, ac aros mewn gwaith. Felly, roeddwn yn falch iawn fod Trenau Arriva Cymru wedi penderfynu rhoi'r gwasanaethau ychwanegol hyn ar waith, ac rwy'n gobeithio bod y cynllun peilot wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac y gallai arwain at ddarparu gwasanaethau ychwanegol yn y tymor hwy. Ond gallaf ddweud, o ran y tymor hir, ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, fod Trafnidiaeth Cymru yn asesu'r tri chynnig a gyflwynwyd ar gyfer masnachfraint nesaf Cymru a'r gororau ar hyn o bryd. Ac mae'n ofyniad sylfaenol pendant gennym fod y gwasanaethau'n cyfateb i'r rhai a ddarperir ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rydym yn cymell cynigwyr i wella gwasanaethau ar draws y rhwydwaith, gan gynnwys, yn hollbwysig yn fy marn i, ar ddydd Sul, o gofio bod llawer o bobl bellach yn gweithio ar benwythnosau, ac yn enwedig ar ddydd Sul.
Credaf fod y cwestiwn ynglŷn â mynediad yn hollol allweddol, ac mae'n golygu bod cysylltiadau rheolaidd a dibynadwy—rheilffyrdd, bysiau—yn hanfodol. Ond wyddoch chi, mae wedi bod yn broblem wirioneddol yn y gorffennol, ac nid yw'n ymwneud â mynediad at swyddi yn unig, ond at asedau diwylliannol yng Nghaerdydd, a mwynhau'r rheini. Wyddoch chi, mae gan bobl yn y cymoedd gogleddol gymaint o hawl i wneud hynny â'r rhai ohonom sydd yn byw yng Nghaerdydd a'r cyffiniau, ac mae'n rhaid inni sicrhau bod y pethau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y fasnachfraint a osodwn—y gofynion hyn.
Wel, yn sicr. Mae hierarchaeth angen Maslow yn datgan bod angen i ni deimlo ein bod wedi ein cysylltu â'n gilydd, ac nid yn ystod dyddiau'r wythnos yn unig y dylem fod wedi ein cysylltu â'n gilydd drwy drafnidiaeth gyhoeddus. Mewn gwirionedd, mae'r cynllun peilot a roddwyd ar waith gennym gan ddefnyddio gwasanaeth teithio am ddim TrawsCymru ar benwythnosau wedi bod yn anhygoel o lwyddiannus. Rydym yn parhau i fonitro perfformiad y gwasanaeth am ddim hwnnw, ond mae wedi dangos bod pobl bellach yn newid eu ffyrdd o deithio o geir preifat i drafnidiaeth gyhoeddus, a gallai hynny, o bosibl, arwain at ddefnyddio bysiau yn ystod yr wythnos hefyd. Ond yn sicr ar y penwythnos, credaf ei bod yn hollbwysig fod gweithredwyr bysiau, ein bod ni fel Llywodraeth, fod awdurdodau lleol a bod gweithredwr a phartner datblygu'r fasnachfraint nesaf yn gweithio gyda'n gilydd i wella darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus ar benwythnosau.
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod llawer o drigolion Cwm Cynon yn teithio i'w gwaith yn ardal Pontypridd a Thaf Elái. Wrth gwrs, un o'r pethau a grybwyllais ar sawl achlysur fel rhan o'r metro yw'r cysylltiad rheilffordd newydd mewn perthynas â Chreigiau i Lantrisant—datblygiad hanfodol iawn yn rhan o'r seilwaith hwnnw. Tybed a allwch roi unrhyw syniad ynglŷn â'r math o amserlen ar gyfer cynnwys y datblygiad hwnnw yn rhan o ddatblygiad y metro?
Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn? Mae'r cynigion i gynnwys y gwasanaeth arbennig hwnnw yn y metro yn rhywbeth a gaiff ei asesu ymhellach fel rhan o estynadwyedd y rhwydwaith o dan gamau'r metro yn y dyfodol. Ond ni ellir parhau â'r gwaith o ddatblygu prosiectau i'w cyflwyno o dan gamau'r metro yn y dyfodol tan ein bod wedi gwerthuso ateb cyflawni ein partneriaid gweithredu a datblygu ar gyfer cam 2 y metro ac wedi dyfarnu'r contract, a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan allaf wneud hynny.