Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:57 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. A gaf fi gymryd fy nghyfle cyntaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a gweddill Aelodau'r Cynulliad hwn? Blwyddyn newydd dda.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae awdurdodau lleol, busnesau a'r sector elusennol yn gwneud ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Cymru, ond mae'r cynnydd yr hoffai llawer ei weld yn fach iawn, ac mewn rhai achosion, megis tlodi plant, rydym yn mynd tuag yn ôl. Pryd rydym yn debygol o weld ein strategaethau economaidd yn sicrhau canlyniadau a fydd yn rhoi gobaith i gymunedau tlotaf Cymru?