1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 10 Ionawr 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau, a llefarydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd. Hoffwn ddychwelyd, os caf i, at fater cefnogaeth y Llywodraeth i'r diwydiant ffilm a theledu, sydd yn sector pwysig ac arwyddocaol i'n heconomi a'n diwylliant fel ei gilydd. Fis diwethaf, fe gadarnhaodd y Llywodraeth, mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, nad yw cwmni Pinewood bellach yn talu rhent nac yn denant yn stiwdio Gwynllŵg yr arwyddon nhw gytundeb rhent ar ei gyfer yn wreiddiol yn 2014. Mi wnaethoch chi, serch hynny, ein hysbysu ni bod Pinewood dal yn ymrwymedig i weithredu'r stiwdio o dan gytundeb rheolaeth, er nad yw manylion y cytundeb hynny yn y pau cyhoeddus. A ydym ni'n iawn felly i gymryd bod Pinewood yn talu Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru, a nawr rydym ni'n eu talu nhw er mwyn cynnal stiwdio yng Nghymru? Ac o ystyried nad ydyn nhw'n talu rhent, nad ydyn nhw'n denant, nad ydyn nhw bellach ag unrhyw rôl o ran y gronfa buddsoddi cyfryngol, ai stiwdio Pinewood mewn enw yn unig yw hon bellach?
Fe fyddaf i'n ateb y cwestiwn yma gan ei fod yn dod o fewn fy mhortffolio i ac fy mod wedi ateb ar y mater yma yn y gorffennol.
Mae'r newidiadau yma yn ein perthynas ni â Pinewood yn dilyn newidiadau masnachol o fewn strwythur Pinewood fel cwmni a'r cwmni sydd bellach yn gyfrifol am adnoddau Pinewood. Nid yw'n gywir i ddweud ein bod ni fel Llywodraeth yn talu i Pinewood, ond mae Pinewood wedi peidio â darparu gwasanaeth ar gyfer rheoli cyllid a chronfeydd trydydd parti. Hwnnw yw'r newid mwyaf sylweddol. Mae'r cytundeb y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ailnegodi gyda Pinewood, o fewn y cydweithrediad, yn golygu bod Pinewood yn parhau i weithredu'r stiwdio ond nad ydy Pinewood yn hyrwyddo yn yr un ffordd ag yr oedden nhw o dan y cytundeb blaenorol.
Wel, rwyf wedi'm drysu'n llwyr gan yr ateb a dweud y gwir. Rwyf i'n deall bod y newid perchnogaeth ddigwyddodd gyda grŵp Pinewodd ddwy flynedd yn ôl, wrth gwrs, yn golygu eu bod nhw wedi tynnu mas o'r busnes o gynnig cyngor—hynny yw, y gwasanaethau cynghorol ynglŷn â buddsoddi. Mi oedd y Gweinidog newydd gyfeirio at hyn. Nid yw hynny'n esbonio pam nad ydyn nhw bellach yn talu rent nac yn denant ar gyfer y stiwdio. Nid yw hynny ddim ag unrhyw berthynas gyda'r cwestiwn yna. Os nad ydyn nhw'n talu rhent, hynny yw, sut maen nhw'n cynnal y stiwdio? A yw o dan ryw fath o reolaeth—y cytundeb rheolaeth rhyfedd yma nad ydym ni'n gallu holi ynglŷn â'i fanylion?
Mae'n rhaid i mi ofyn: a oedd yna broses caffael ar gyfer cytundeb rheolaeth ar gyfer y stiwdio yma yn unol â rheoliadau caffael cyhoeddus? Pam yr anwybyddwyd y cymal o ran isafswm o flynyddoedd o denantiaeth o bum mlynedd a oedd yn y cytundeb gwreiddiol? Pam cael cymal o'r math yna os rŷch chi jest yn mynd i'w anwybyddu fe?
A oedd ystyriaeth wedi cael ei rhoi i opsiynau eraill, fel yn stiwdio Bad Wolf, sydd yn cael ei rhentu trwy les trwy Screen Alliance Wales? Pam nad ystyriwyd opsiwn radical, os caf fi ddweud, o weithredu'r stiwdio yn uniongyrchol? Mae Elstree Studios yn cael eu rhedeg gan ac yn berchen i Gyngor Dosbarth Hertsmere. Os ydy cyngor dosbarth yn Hertfordshire yn gymwys i redeg stiwdio, pam nad yw ein Llywodraeth genedlaethol ni?
Fel yr esboniais i pan atebais i gwestiwn ar hyn cyn y Nadolig, y mae amodau'r cytundeb gyda'r cwmni yn gyfrinachol i bwrpas masnachol. Ond fe fedraf i gadarnhau fod y berthynas gyda'r hyn yr oedd uned Pinewood yn parhau, ond nad ydy Pinewood bellach yn gweithredu'r rôl o reolaeth cronfeydd trydydd parti. Dyna'r sefyllfa fel ag y mae hi, ac y mae'r sefyllfa yna yn parhau yn yr un modd ar hyn o bryd.
Mae'n flin gyda i, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Gweinidog nid yw'n ddigon da jest i ail-ddarllen sgript sydd wedi cael ei rhoi i chi yn y fath fodd. Mae hyn ar ben, wrth gwrs, y cwestiynau di-rif sydd wedi cael eu gosod, yn bennaf gan Suzy Davies. Nid ydym ni wedi cael atebion i'r rhan fwyaf ohonyn nhw. Rydym ni wedi gorfod—Suzy ac eraill wedi gorfod—defnyddio ceisiadau rhyddid gwybodaeth er mwyn canfod nad yw Pinewood bellach yn denant nac yn talu rhent. Rydw i'n deall bod yna bosibilrwydd y bydd yna bwyllgor o'r Senedd yn dechrau ymchwiliad i'r mater yma. Byddwn ni'n croesawu hynny, ac rydw i wedi gofyn i'r archwilydd gwneud hynny. Ond onid yw'n wir, oherwydd pwysigrwydd deuol y sector yma, nid yn unig, fel rwyf yn ei ddweud, o ran ein heconomi ni, ond o ran ein diwylliant ni, nad yw'n dderbyniol i gelu tu ôl i'r esgus yma o gyfrinachedd masnachol? Mae'n sector rhy bwysig, a dweud y gwir, i chi, fel Gweinidog, wrthod ateb cwestiynau a rhoi tryloywedd angenrheidiol i ni yn fath fodd.
Nid ydw i'n gwrthod ateb cwestiynau. Rydw i wedi cynnig cyfarfod i Suzy Davies i drafod y mater hwn a rydw i'n gobeithio y gallwn ni drefnu i wneud hynny'n fuan. Ac, oherwydd ei ddiddordeb ysol yn y pwnc hwn, mae'n bleser gen i i wahodd Adam Price hefyd i'r un cyfarfod neu i gyfarfod arall.
Mae eisiau i ddynesyddion Cymru glywed yr atebion yma.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Blwyddyn newydd dda, Ysgrifennydd y Cabinet. Dros doriad y Nadolig, bûm yn darllen eich cynllun gweithredu economaidd gyda'r nos—[Torri ar draws.] Gwneuthum lawer o bethau cyffrous eraill hefyd. Ond nid yr hyn a oedd ynddo a'm synnodd, ond yr hyn nad oedd ynddo. Felly, hoffwn siarad am rai o'r eitemau hynny heddiw.
Nawr, mae enillion yng Nghymru yn is na gweddill y DU. Mae enillion wythnosol gros i weithwyr llawn amser yng Nghymru yn £498. Mae hynny 10 y cant yn is nag yn y DU yn ei chyfanrwydd. Nawr, nid yn unig fod Cymru ar waelod y pentwr o ran cyflogau, ond mae'r bwlch rhwng Cymru a rhannau eraill o'r DU wedi lledu'n sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf. Felly, 20 mlynedd yn ôl, roedd gweithwyr yng Nghymru a'r Alban yn ennill yr un pecynnau cyflog. Heddiw, mae pecyn cyflog yng Nghymru yn cynnwys £498 a phecyn cyflog yn yr Alban yn cynnwys £547. Felly, yn fy marn i, dylai ffocws allweddol unrhyw gynllun gweithredu newydd ymwneud â chodi cyflogau ledled Cymru. Felly, a gaf fi ofyn: pam nad yw'r strategaeth economaidd newydd yn cynnwys unrhyw dargedau ar gyfer codi cyflogau ledled Cymru?
A gaf fi ddymuno blwyddyn newydd dda i'r Aelod, a dweud pa mor falch wyf fi fod fy anrheg iddo wedi cyrraedd yn ddiogel ac mewn da bryd iddo ei ddarllen dros y Nadolig? [Chwerthin.] Edrychwch, gadewch i ni edrych ar y ffeithiau mewn perthynas ag enillion amser llawn cyfartalog. Rydych yn llygad eich lle, £484.40 yr wythnos yw'r cyfartaledd, ond rhwng 2012 a 2017, cynyddodd y cyfartaledd hwnnw 10.1 y cant, o gymharu â'r cyfartaledd ledled y DU, sef 8.8 y cant yn unig. Ac felly mae'r bwlch wedi bod yn cau, o ganlyniad i ymyriadau gan y Llywodraeth hon.
Mae'n wir, yn hanesyddol, fod y bwlch cyflog rhyngom ni a llawer o rannau eraill o'r DU yn llai, ond roedd hynny mewn cyfnod pan oedd mwy o lawer o bobl yn cael eu cyflogi mewn swyddi â chyflogau uwch, er enghraifft, yn y diwydiant dur. O ganlyniad i'r broses ddad-ddiwydiannu, heb y rhwyd ddiogelwch yn y 1980au, cafodd y swyddi da hynny—swyddi diogel â chyflogau da—eu disodli gan swyddi a oedd yn aml yn swyddi dros dro â chyflogau isel. Cododd cyfraddau diweithdra i'r entrychion. Mae cyflogaeth heddiw, y gyfradd cyflogaeth, wedi cynyddu yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU drwy gydol y cyfnod ers datganoli. Mae wedi cynyddu 6.5 y cant, o gymharu â 3.1 y cant, ac mae diweithdra hefyd wedi lleihau yn gyflymach yng Nghymru nag yn y DU yn ei chyfanrwydd yn ystod y cyfnod ers datganoli.
Felly, os edrychwch ar ein hanes diweddar, os edrychwch ar hanes y Llywodraeth Lafur hon a'r un flaenorol yng Nghymru, rwy'n credu y gwelwch, o ran enillion, ein bod yn mynd i'r cyfeiriad cywir, ac o ran cyflogaeth eto, i'r cyfeiriad cywir. Mae diweithdra'n is ac yn mynd i'r cyfeiriad iawn, ond yr her fawr sy'n wynebu ein heconomi—. Ac ni chredaf y byddai'r Aelod yn anghytuno â hyn, gan fy mod yn sicr fod yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn cytuno mai cynhyrchiant yw'r her fawr sy'n ein hwynebu fel gwlad. Ac er mwyn gwella cynhyrchiant, mae angen inni wella lefelau sgiliau. Ar ôl inni wella lefelau sgiliau, argaeledd gwaith o ansawdd uchel, byddwn yn gweld cynnydd sylweddol yn yr enillion cyfartalog a byddwn yn gweld y bwlch hwnnw'n parhau i gau.
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, fy nghwestiwn oedd pam na chafodd unrhyw beth ei grybwyll, pam na chafodd unrhyw dargedau eu crybwyll, yn y cynllun gweithredu economaidd.
Yma, mae gennyf gopi o adroddiad a gynhyrchwyd gan PricewaterhouseCoopers y llynedd—eitem arall ar fy rhestr ddarllen dros y Nadolig. Nawr, noda hwn fod nifer enfawr o swyddi mewn perygl uniongyrchol o ganlyniad i awtomatiaeth. Golyga hyn, wrth gwrs, fod Cymru'n arbennig o agored i niwed gan fod dwy o'n hardaloedd mwyaf yma yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar fanwerthu a gweithgynhyrchu—maes sydd, wrth gwrs, mewn perygl mawr o ganlyniad i awtomatiaeth. Nawr, credaf fod sicrhau bod Cymru yn barod i ymdopi â'r cyfleoedd sydd ar gael, yn ogystal â heriau awtomatiaeth dros y 10 mlynedd nesaf, yn hanfodol i gefnogi economi Cymru, a chredaf y dylem geisio manteisio ar hyn gyda thechnoleg newydd a diogelu swyddi yng Nghymru.
Ond a gaf fi ofyn pam nad yw'r cynllun gweithredu economaidd yn cynnwys unrhyw strategaeth effeithiol a arweinir gan dargedau er mwyn sicrhau bod economi Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd y mae awtomatiaeth yn eu cynnig, a pham nad yw'n cynnwys unrhyw dargedau o gwbl ar gyfer diogelu swyddi Cymru rhag heriau arloesedd technolegol?
Yn gyntaf, mae'r cynllun gweithredu yn cynnwys—yn ganolog iddo mae'r contract economaidd ac yna'r galw dilynol am weithredu, gyda'r contract economaidd yn ddrws blaen—ewch drwy hwnnw ac yna drwy brism y galw am weithredu a bydd modd i chi fanteisio ar gefnogaeth sy'n cydweddu â'r prif achosion neu'r prif ffactorau sy'n dylanwadu ar welliannau o ran cynhyrchiant. Un o'r rheini yw diogelu busnes at y dyfodol o ran bygythiad a chyfleoedd awtomatiaeth ac o ran ffyrdd modern o weithio. Felly, yn ganolog i'r cynllun gweithredu, ceir dyhead i sicrhau bod busnesau yn cael eu diogelu at y dyfodol ac i sicrhau ein bod yn croesawu ac yn manteisio i'r eithaf ar ddiwydiant 4.0.
Cyfeiriaf yn ôl at y cwestiwn ynglŷn â thargedau eto, oherwydd mewn gwirionedd mae'r Aelod yn llygad ei le, penderfynais beidio â chynnwys y targedau penodol hynny a amlinellodd yn ei gwestiwn cyntaf, oherwydd yn aml, pan osodir targedau, daw cyrraedd y targedau'n obsesiwn. Ac o ran enillion, yr hyn y gallwch ei wneud yw tyfu economi mewn un rhan o wlad neu ddwy ran o wlad a sicrhau bod y cyfoethog yn mynd yn gyfoethocach wedyn cau'r bwlch, ond yr hyn nad ydych yn ei wneud yw cau lefel yr anghydraddoldeb rhwng y cyfoethocaf a'r tlotaf. Mae'n well gennyf, drwy'r ymyriadau a amlinellwyd gennym—gweithio rhanbarthol, canolbwyntio ar sicrhau cyflogaeth ddiogel o ansawdd uchel—. Credaf ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn parhau i wella lefelau cyfoeth yng Nghymru, yn ogystal â lleihau'r lefelau o anghydraddoldeb ledled y wlad.
Wel, rwy'n gwerthfawrogi eich ateb, ond wrth gwrs, mae'r targedau yn ein cynorthwyo ni fel Aelodau yn y Siambr hon i graffu ar gynlluniau'r Llywodraeth, a heb dargedau, mae'n gwneud ein gwaith ni, wrth gwrs, yn anos. Nawr, mae rhan olaf yr hyn rwyf am ei godi yn ymwneud â chaffael. Mae caffael, wrth gwrs, yn rhan allweddol, yn arf allweddol y gall y Llywodraeth ei ddefnyddio i gefnogi twf ar draws economi Cymru yn y tymor hir. Credaf fod hanes blaenorol Llywodraeth Cymru, o ran caffael cyhoeddus i gefnogi busnesau Cymru, yn arbennig o wael. Nawr, mae gennyf gopi yma o adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru o ddiwedd y llynedd, 'Caffael Cyhoeddus yng Nghymru'. Mae'r adroddiad yn dweud yn glir eu bod wedi canfod yng Nghymru fod yna le amlwg i wella o ran y modd y mae awdurdodau'n caffael gwasanaethau ar lefel genedlaethol. Felly, a gaf fi ofyn pam fod y cynllun economaidd yn cynnwys cyn lleied o fanylion effeithiol ar ddiwygio arferion caffael cyhoeddus ledled Cymru ar lefel y Llywodraeth? Ymddengys bod y cynllun gweithredu economaidd newydd yn gyfle da a gollwyd, yn fy marn i, i ddiwygio caffael ledled Cymru fel y gallwn gefnogi busnesau a chefnogi caffael cyhoeddus yn well.
Credaf y byddai'r Aelod, pe bai'n ei ailddarllen, yn gweld bod—mae ar dudalen 18, o bosibl. Efallai nad yw, ond credaf ein bod yn sôn ar dudalen 18 am ddadgyfuno contractau mawr, ac mae hynny'n arbennig o bwysig ar gyfer busnesau llai o faint. Yn enwedig o ran y sector adeiladu, gwelsom gynnydd sylweddol yn nifer y cwmnïau yng Nghymru sy'n gallu ennill contractau drwy gaffael cyhoeddus yng Nghymru. Ond rydym yn dymuno galluogi mwy o gwmnïau, yn enwedig mentrau llai a chanolig eu maint, i ennill rhannau o gontractau mawr nad oes neb ond y cwmnïau mawr yn unig, ar hyn o bryd—cwmnïau o Loegr yn aml, neu hyd yn oed ymhellach i ffwrdd—yn gallu cynnig amdanynt, oherwydd materion yn ymwneud â chapasiti neu arbenigedd. Mae'r cynllun gweithredu economaidd yn ymdrin â'r cwestiwn hwnnw yn uniongyrchol. Efallai nad yw ar dudalen 18, ni allaf gofio ble yn iawn, ond mae'n cyfeirio'n benodol at yr angen i ddadgyfuno cydrannau prosiectau seilwaith mawr fel y gallwn roi mwy o waith i gwmnïau yng Nghymru a chodi gwerth y bunt gyhoeddus yng Nghymru.
Llefarydd UKIP, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. A gaf fi gymryd fy nghyfle cyntaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, a gweddill Aelodau'r Cynulliad hwn? Blwyddyn newydd dda.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae awdurdodau lleol, busnesau a'r sector elusennol yn gwneud ymdrechion gwirioneddol i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu Cymru, ond mae'r cynnydd yr hoffai llawer ei weld yn fach iawn, ac mewn rhai achosion, megis tlodi plant, rydym yn mynd tuag yn ôl. Pryd rydym yn debygol o weld ein strategaethau economaidd yn sicrhau canlyniadau a fydd yn rhoi gobaith i gymunedau tlotaf Cymru?
Mewn sawl ffordd, fel yr amlinellais wrth Russell George, mae'r dull o weithredu a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth hon ac a fabwysiadwyd gan y Llywodraeth flaenorol eisoes wedi arwain at y lefel isaf erioed o ddiweithdra, y lefelau uchaf erioed o gyflogaeth, y lefelau isaf erioed o anweithgarwch, ond yr hyn y mae angen inni ei wneud yw sicrhau bod mwy o bobl yn cael gwaith fel nad ydynt yn cael eu dal mewn magl tlodi, magl tlodi a wnaed yn waeth drwy, faint, wyth mlynedd erbyn hyn o fesurau cyni. Y llwybr i mewn i waith yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a'n nod yw sicrhau nad ydym ond yn creu mwy o swyddi i bobl sydd allan o waith yn unig, ond ein bod yn creu mwy o swyddi o ansawdd uchel. Ond wrth gwrs, yn ychwanegol at hynny, er mwyn i bobl gael mynediad at y swyddi hynny, mae angen inni ddymchwel y rhwystrau eraill, rhwystrau sy'n ymwneud â gofal plant a diffyg trafnidiaeth briodol i gludo pobl i ac o'r gwaith. Ond drwy un o'r cynigion gofal plant mwyaf uchelgeisiol yn Ewrop, a thrwy ddiwygiadau i wasanaethau bysiau cyhoeddus lleol a'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd, rwy'n hyderus y gallwn fynd i'r afael â'r ddau rwystr mawr hynny i sicrhau bod pobl yn cael gwaith ac yn aros mewn gwaith.
Wel, unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod yr amser lle gallwn barhau i feio cyni yng Nghymru am ein diffyg cynnydd wedi dod i ben. Unwaith eto, ar ôl 17 mlynedd, mae pobl Cymru yn wynebu addewid arall o bethau gwych ddod. Dywedodd y Prif Weinidog, cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016, ei fod 'wedi dechrau'r gwaith bum mlynedd yn ôl, ac mae arnaf angen pum mlynedd i'w orffen.' Yn yr etholiad nesaf, yn 2021, bydd y Blaid Lafur wedi bod mewn grym ers 23 o flynyddoedd. A fydd addewidion y Prif Weinidog wedi cael eu cadw, neu a fyddwn yn dal i fod mewn ras at waelod pob un o'r dangosyddion economaidd?
Wel, dylem ddechrau canu clodydd Cymru ac economi Cymru, yn enwedig yn y meysydd hynny lle rydym yn cael cryn lwyddiant. Mae'r Aelod sy'n cynrychioli gogledd Cymru, wrth ymyl David Rowlands, yn chwerthin ar hyn, ond mae'r Aelod yn byw mewn sir lle mae gennym y lefelau uchaf erioed o gyflogaeth, lle mae gwerth ychwanegol gros y sir yn uwch nag unrhyw sir arall yng Nghymru fwy neu lai, ac yn agos at y cyfartaledd ar gyfer y gogledd, ac yn codi, lle rydym wedi buddsoddi mewn cwmnïau yn ddiweddar, megis Hotpack, lle rydym wedi gweithio gyda chwmnïau fel Tata Steel, lle rydym wedi gweithio'n barhaus gydag Airbus a chyflogwyr pwysig eraill i sicrhau cymaint â phosibl o gyfleoedd cyflogaeth ac i greu swyddi newydd o ansawdd uchel. Byddwn yn parhau i wneud hynny dros y blynyddoedd nesaf, a byddwn yn hybu cyfleoedd cyflogaeth mewn diwydiannau gwerth uwch a diwydiannau yfory, gan ddefnyddio'r cynllun gweithredu economaidd fel sail ar gyfer creu economi newydd ar sail technolegau newydd, technolegau sy'n datblygu a thwf gwyrdd.
Unwaith eto, diolch i Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n rhannu, i ryw raddau, eich cred efallai fod pethau'n newid, ond nid yw popeth yn mynd yn dda, yn enwedig i'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas. Mae'r baich ar y trethdalwr yn 2018 yn debygol o gynyddu. Bydd polisi rhenti Llywodraeth Cymru yn gweld cynnydd o £200 ar dai cymdeithasol ar gyfer pob cartref dwy ystafell wely. Ac yn yr un modd, nid yw'r cynnydd cymedrol a ragwelir mewn diweithdra yn y DU yn debygol o hybu'r rhannau hynny o Gymru lle mae diweithdra ymhell uwchlaw cyfartaledd y DU. Ac nid yw'n debygol ychwaith o gynorthwyo'r 13.1 y cant o oedolion ifanc di-waith. Rhagwelir y bydd chwyddiant yn gwneud unrhyw gynnydd mewn enillion yn ddiystyr mewn termau real, ac y gallai tlodi cymharol yn hawdd godi i 27 y cant ar gyfer pobl o bob oed, ac i oddeutu 40 y cant mewn perthynas â phlant, wrth i safonau byw pobl ddod o dan bwysau pellach. Gofynnaf i Ysgrifennydd y Cabinet: ai hon yw'r Gymru rydym yn dymuno'i chael? Ac a ydych yn hyderus y bydd eich polisïau economaidd yn lliniaru'r caledi hwn yn y tymor byr a'r tymor hir?
Gallaf ddweud wrth yr Aelod mai'r Gymru rydym yn dymuno'i chael, rwy'n credu, yw Cymru lle na adewir unrhyw un ar ôl. Tynnodd yr Aelod sylw at yr her sydd wedi wynebu llawer o bobl iau dros y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas â chael mynediad at swyddi. Nid oedd yr Aelod yn Aelod o'r Cynulliad blaenorol, lle rhoddwyd Twf Swyddi Cymru ar waith gennym, ond mae honno'n raglen benodol sydd wedi arwain at roi cyfle i 17,000 o bobl ifanc yng Nghymru weithio, ac ennill y sgiliau a'r profiad i aros mewn gwaith. Ac o ganlyniad i hynny, credaf fod dros 70 y cant wedi mynd ymlaen i gael cyflogaeth amser llawn neu hyfforddiant pellach sydd wedi arwain at swyddi amser llawn, diogel. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi prosiectau megis Twf Swyddi Cymru a'r cynllun cyflogadwyedd newydd i sicrhau y gall pobl ifanc, ac yn wir, pobl sydd mewn gwaith eisoes, gael mynediad at swyddi o ansawdd uwch. Ond dylid nodi hefyd fod Cymru yn un o ychydig iawn o wledydd sydd â gweledigaeth gref o waith teg, o wlad lle mae cyflogwyr yn mabwysiadu cyflog byw addas a phriodol, lle caiff undebau llafur eu cydnabod, lle gall pobl ddisgwyl cyflog teg am eu gwaith, a lle gall pobl ddisgwyl urddas a pharch yn y gweithle.