Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 10 Ionawr 2018.
Wel, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am ei gwestiwn? Mae'r cynigion i gynnwys y gwasanaeth arbennig hwnnw yn y metro yn rhywbeth a gaiff ei asesu ymhellach fel rhan o estynadwyedd y rhwydwaith o dan gamau'r metro yn y dyfodol. Ond ni ellir parhau â'r gwaith o ddatblygu prosiectau i'w cyflwyno o dan gamau'r metro yn y dyfodol tan ein bod wedi gwerthuso ateb cyflawni ein partneriaid gweithredu a datblygu ar gyfer cam 2 y metro ac wedi dyfarnu'r contract, a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf. Gallaf sicrhau'r Aelod y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf pan allaf wneud hynny.