Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 10 Ionawr 2018.
Wel, dyna'r prawf: pa un a ydynt yn barod i neilltuo arian ar gyfer rhywbeth y dywedant eu bod yn barod i'w ystyried. Ar hyn o bryd, maent yn agored i gynigion, a dyna pam fy mod yn awyddus i sicrhau bod partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru yn datblygu set o gynigion a gweledigaeth gyffredinol sy'n gwneud achos cryf dros ddatblygu cynnig dilynol am fargen twf. Rydym yn cynnal trafodaethau gyda Swyddfa Cymru mewn perthynas â'r gefnogaeth y gallai Swyddfa Cymru ei rhoi i gynnig bargen twf, ond wrth inni ddatblygu'r cynigion hynny, rwy'n awyddus i sicrhau bod partneriaid yng nghanolbarth Cymru yn cyfarfod â Gweinidogion Llywodraeth y DU yn ogystal â minnau er mwyn bwrw ymlaen â'r agenda bwysig hon. Nid wyf yn credu y gallwn fforddio gweld canolbarth Cymru yn cael ei adael ar ôl pan fo gweddill Cymru yn datblygu o dan fargeinion dinesig a bargeinion twf. Mae'n anghyfiawn.