Tyfu Economi Canolbarth Cymru

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:09 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:09, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn eich holi, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn â bargen twf canolbarth Cymru, oherwydd roedd gennyf gryn ddiddordeb yn y cyhoeddiad yn y gyllideb, felly ysgrifennais at Ganghellor y Trysorlys wedi'r gyllideb, a chefais ateb ar 19 Rhagfyr, sy'n dweud fel a ganlyn: fod y Llywodraeth yn agored i gynigion ar gyfer bargen twf i ganolbarth Cymru. Nid yw hynny'n gyfystyr ag ymrwymiad, a grybwyllwyd gan Russell George ac eraill, ac rwy'n awyddus i ddeall pa ymrwymiad sydd yna i fuddsoddi arian Llywodraeth y DU yng nghanolbarth Cymru. Croesawaf yr hyn rydych newydd ei ddweud ynglŷn â chronfa arian cyfatebol i ddatblygu rhai o'r syniadau a grybwyllwyd yng nghanolbarth Cymru, ond a ydym yn debygol o weld arian go iawn ar y bwrdd gan Lywodraeth y DU, ac a ydych yn cael trafodaethau i sicrhau bod yr hanner addewid gwan hwnnw yn dod yn rhywbeth y gallwn ei droi'n weithgaredd economaidd ar lawr gwlad yng nghanolbarth Cymru?