Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 10 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a chydnabod y gwaith caled y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ei wneud mewn perthynas â'r cyflog byw cenedlaethol? A gaf fi dynnu sylw at y pryderon nad yw hyn yn ymwneud yn unig ag ymgysylltiad uniongyrchol Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo'r cyflog byw cenedlaethol, ond hefyd, drwy'r gadwyn gyflenwi, drwy gaffael, drwy'r holl feysydd y mae gan Lywodraeth Cymru ddylanwad arnynt, mae angen inni ddod â phobl at ei gilydd i arddel ethos a moeseg yr hyn sydd yn ei hanfod yn waith teg ac yn gyflog teg mewn perthynas â'r cysyniad o gyflog byw cenedlaethol? A all Ysgrifennydd y Cabinet wneud datganiad ac amlinellu sut y mae'n gweld y polisi hwnnw'n datblygu a rôl Llywodraeth Cymru yn y gwaith o gyflawni hynny?