Y Cyflog Byw

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:17, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Yn sicr, a hoffwn ailadrodd bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r cyflog byw, ac y bydd yn parhau i annog pob rhan o economi Cymru i fabwysiadu'r cyflog byw. Ym mis Mawrth, rwy'n credu, y llynedd, fe gyflwynasom y cod ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi. Mae'r cod hwn yn ymrwymo sefydliadau sector cyhoeddus, sector preifat a thrydydd sector i gyfres o gamau gweithredu sy'n mynd i'r afael ag arferion cyflogaeth anghyfreithlon ac annheg. Disgwylir i bob sefydliad sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru, naill ai'n uniongyrchol neu drwy grantiau neu gontractau, ymrwymo i'r cod, ac wrth gwrs, mae sefydliadau eraill yng Nghymru yn cael eu hannog i wneud hynny. Yn ogystal, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, ac yn arbennig y contract economaidd, rydym yn benderfynol o weld arferion gwaith teg yn cael eu mabwysiadu ar draws y gweithlu.