Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 10 Ionawr 2018.
Drwy fenter Dyfodol Adeiladu Cymru Busnes Cymru a chymorth caffael rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi cydnerthedd busnesau. Mae archwiliadau diagnostig a chymorth yn sicrhau bod busnesau'n gymwys ac yn y sefyllfa orau posibl i wrthsefyll effaith materion cyffredinol neu faterion force majeure sy'n effeithio ar eu sefyllfa ariannol.