Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:12 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch. Mae'n gwestiwn anodd, a defnyddiaf y term 'force majeure' yn fwriadol iawn, oherwydd wrth gwrs, fe wyddoch fod hynny'n effeithio ar lefelau digolledu, ac mae hefyd yn rheswm pam y gall sefydliadau ddiddymu gwasanaethau. Mae busnesau bach a'r cyhoedd yn gyffredinol wedi dwyn nifer o bryderon i fy sylw lle maent yn teimlo eu bod wedi cael bargen wael, lle maent naill ai wedi methu cwblhau rhywbeth, neu heb gael eu digolledu, ac mae'r busnesau wedi defnyddio force majeure fel esgus. Mae hyn yn ymwneud yn bennaf â'r stormydd amrywiol sydd wedi ein taro dros y tri neu bedwar mis diwethaf. Tybed a oes unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i asesu neu ddadansoddi a yw'r cymal hwn yn cael ei ddefnyddio'n briodol ac i atgoffa busnesau bach o'r rhwymedigaeth honno os byddant yn rhoi'r gorau i gyflawni gwasanaeth, a'i fod yn rhywbeth lle nad oedd ganddynt sicrwydd yswiriant ar ei gyfer, a bod yn rhaid iddynt sicrhau bod y cydnerthedd busnes hwnnw ganddynt.