Force Majeure

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:13, 10 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn. Pan welais ei fod wedi'i gyflwyno, roeddwn mewn penbleth i gychwyn, a sylweddolais wedyn fod hwn, mewn gwirionedd, yn waith y mae angen inni ei ystyried yn fwy trylwyr. Edrychais ar y cymal, ac yn benodol, ar amod 39.2, neu ran o 39.2, sy'n datgan:

'Fodd bynnag, os bydd digwyddiad o'r fath yn rhwystro'r naill Barti neu'r llall rhag cyflawni ei holl rwymedigaethau o dan y Contract am gyfnod sy'n hwy na 6 mis, caiff y naill Barti neu'r llall derfynu'r Contract drwy hysbysiad ysgrifenedig a ddaw i rym yn ddi-oed.'

Fy mhryder yw—[Torri ar draws.] Yn union, ie. Buaswn yn fwy na pharod i fynd ar drywydd y mater hwn. Os oes gan yr Aelod unrhyw wybodaeth a fyddai'n galluogi fy swyddogion i ystyried achosion o force majeure sy'n arwain at ddiddymu cymorth yn anghyfiawn o dan gontract, rhannwch y wybodaeth honno gyda mi, os gwelwch yn dda.