Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 10 Ionawr 2018.
A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi fod sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig—San Steffan, Caerdydd, Caeredin a Belfast—yn hollol abl i amddiffyn hawliau dynol gwladolion Prydain? Nid oes arnynt angen unrhyw gymorth gan farnwyr anetholedig yn Lwcsembwrg. Pan oedd y siarter hawliau sylfaenol yn cael ei thrafod, sicrhaodd y Llywodraeth Lafur ar y pryd drefniadau eithrio rhag ei darpariaethau drwy brotocol 30 cytuniad Lisbon, a dywedodd Llywodraeth Blair na fyddai'r DU yn rhwym i ddarpariaethau'r siarter. Ond er gwaethaf geiriad protocol 30, a oedd yn ddigon clir yn ôl pob golwg, mae Llys Ewrop, mewn enghraifft eithriadol o actifiaeth farnwrol, wedi diystyru dymuniadau'r Llywodraeth Lafur ar y pryd ac wedi cymhwyso darpariaethau'r siarter i ddeddfwriaeth Brydeinig mewn rhai meysydd pwysig iawn, fel diogelu data, er enghraifft. Mae'n bwysig iawn parchu cyfreithlondeb democrataidd, yn yr un modd ag y dylid parchu hawliau dynol, ac felly, pan fyddwn yn gadael yr UE, nid oes unrhyw reswm i gredu y bydd unrhyw un o hawliau pobl Prydain yn cael eu glastwreiddio mewn unrhyw ddull na modd.