Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 10 Ionawr 2018.
Wel, mae'r ymosodiad hwn ar farnwyr a'r ymosodiad ar eu didueddrwydd yn rhinwedd y ffaith eu bod yn anetholedig yn camddeall cyfansoddiad Prydain yn gyfan gwbl, mewn gwirionedd. Maent yno i weithredu'n ddiduedd ac maent yn gwneud hynny, ac yn y lle hwn dylem wrthwynebu unrhyw ymgais i danseilio'r canfyddiad hwnnw drwy honiadau o fethu â bod yn ddiduedd oherwydd eu bod yn anetholedig.
Fe sonioch am brotocol 30: nid yw'n ymwneud â Llys Cyfiawnder Ewrop yn cymhwyso hynny yn wyneb gwrthwynebiad gan y DU. Fel yr atebais yn y cwestiwn yn gynharach, defnyddiodd Goruchaf Lys y DU y siarter honno mewn achos ychydig cyn y Nadolig i ddatgymhwyso deddfwriaeth sylfaenol o ganlyniad i fethiant i gydymffurfio â hynny, ac mae'n rhy optimistaidd o lawer ynghylch lefel yr amddiffyniadau a fydd yn cael eu rhoi i hawliau dynol os na chedwir y darpariaethau hyn yng nghyfraith y DU. Unig nod Llywodraeth y DU wrth newid y darpariaethau hynny yw eu glastwreiddio, a chredaf y dylem geisio gwrthsefyll hynny ar bob cyfle yn y Siambr hon.