Cyfansoddiad Cymru

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 10 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:28, 10 Ionawr 2018

Diolch yn fawr am yr ateb. Rydw i wedi bod yn aros pum canrif i ofyn y cwestiwn yma, wrth gwrs, ac mae'n dda gen i gael ateb gan y Cwnsler Cyffredinol—dyna beth yw pwrpas y Cwnsler, mae'n siŵr. Ond, wrth gwrs, y peth ddigwyddodd gyda'r Deddfau Uno yw bod tywysogaeth Cymru wedi'i diddymu, ac wrth i Gymru ddod yn rhan o Loegr, i bob pwrpas, a dod o dan Goron Lloegr, fe ddiddymwyd tywysogaeth Cymru. Bellach, felly, mae sôn am dywysogaeth mewn cyd-destun cyfansoddiad Cymru ond yn rhyw fath o ffantasi rhamantwyr a ffantasïwyr brenhinol.

A fyddwch chi, felly—yn dod yn ôl at y diwrnod sydd ohono—fel Cwnsler Cyffredinol, ar ran Llywodraeth Cymru, yn addo i'r Cynulliad na fyddwch chi byth yn defnyddio'r gair 'tywysogaeth' wrth ddisgrifio statws cyfansoddiadol Cymru?