2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
2. Pa asesiad y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Deddfau Uno 1535-42 ar gyfansoddiad Cymru? OAQ51493
A gaf i ddiolch am y cwestiwn? Mewn unrhyw asesiad o drefniadau neu ddatblygiadau cyfansoddiadol sy'n bodoli ar hyn o bryd neu sy'n cael eu cynnig, mae Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio'n bennaf ar y gyfraith sydd mewn grym ar yr adeg dan sylw. Er bod pwysigrwydd hanesyddol sylweddol i'r Deddfau Uno, maen nhw bellach wedi cael eu diddymu.
Diolch yn fawr am yr ateb. Rydw i wedi bod yn aros pum canrif i ofyn y cwestiwn yma, wrth gwrs, ac mae'n dda gen i gael ateb gan y Cwnsler Cyffredinol—dyna beth yw pwrpas y Cwnsler, mae'n siŵr. Ond, wrth gwrs, y peth ddigwyddodd gyda'r Deddfau Uno yw bod tywysogaeth Cymru wedi'i diddymu, ac wrth i Gymru ddod yn rhan o Loegr, i bob pwrpas, a dod o dan Goron Lloegr, fe ddiddymwyd tywysogaeth Cymru. Bellach, felly, mae sôn am dywysogaeth mewn cyd-destun cyfansoddiad Cymru ond yn rhyw fath o ffantasi rhamantwyr a ffantasïwyr brenhinol.
A fyddwch chi, felly—yn dod yn ôl at y diwrnod sydd ohono—fel Cwnsler Cyffredinol, ar ran Llywodraeth Cymru, yn addo i'r Cynulliad na fyddwch chi byth yn defnyddio'r gair 'tywysogaeth' wrth ddisgrifio statws cyfansoddiadol Cymru?
Wel, ces i gyfle, yn sgil y cwestiwn, i ail-atgoffa fy hunan o effaith Deddfau a chyfraith Canol Oesoedd Cymru—bydd yr Aelod yn bles i glywed hynny—yn cynnwys penderfyniadau cyngor Aberdyfi, statudau Rhuddlan, ac fel y gwnaeth Dai Lloyd sôn wrtha i ddoe, jest i atgoffa fy hunan o gyfraith Hywel. Nid ydw i wedi llwyddo i wneud hynny yn yr amser byr a oedd gyda fi ers hynny, yn anffodus. Ond, ar y cwestiwn penodol y gwnaethoch chi ei ofyn, am gwestiwn y dywysogaeth, y ffaith yw bod Cymru yn wlad yn ei hawl ei hun, yn rhan o'r Deyrnas Gyfunol. Mae ganddi, wrth gwrs, ddeddfwrfa a Llywodraeth etholedig, sydd yn deddfu a chreu polisïau sy'n addas i bobl Cymru. Ac nid yw cwestiwn y dywysogaeth yn rhan o bolisi Llywodraeth Cymru. Ni allaf wneud mwy o sylwadau ar sylwadau personol, efallai, a gafodd eu gwneud yn ddiweddar.