– Senedd Cymru am 3:20 pm ar 10 Ionawr 2018.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Jane Hutt.
A hithau'n ganmlwyddiant y bleidlais rannol i fenywod, hoffwn dalu teyrnged i fenywod ysbrydoledig o fy etholaeth ym Mro Morgannwg, gan ddechrau gyda menyw 19 mlwydd oed o'r Barri, Hannah Tuck, y caplan rheilffordd ieuengaf erioed. Mae Hannah wedi'i phenodi i rôl sy'n cynnwys y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru a'r Gororau. Roeddwn eisoes yn adnabod Hannah cyn iddi gael ei phenodi i'r rôl hon fel un o aelodau blaenllaw fforwm ieuenctid y Fro ac fel gofalwr ifanc. Cyfarfûm â hi cyn y Nadolig yng nghaffi ac oriel Mind in the Vale yng ngorsaf tref y Barri i'w llongyfarch ar ei rôl newydd a deall beth y mae ei swydd yn ei olygu.
Dywedodd Hannah fod y swydd yn bennaf yn golygu teithio ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd, dod i adnabod staff a theithwyr, a bod ei gwaith gwirfoddol blaenorol gydag Ambiwlans Sant Ioan am wyth mlynedd wedi bod yn brofiad defnyddiol iawn wrth baratoi ar gyfer ei chyfrifoldebau newydd. Yn ei rôl newydd, mae Hannah eisoes wedi cefnogi dau yrrwr trên sydd wedi gweld pobl yn cyflawni hunanladdiad ac wedi helpu staff tocynnau sydd wedi cael eu cam-drin gan deithwyr. Penodwyd Hannah gan elusen Gristnogol, ond mae'n dweud nad ffydd yw ffocws ei gwaith. Mae'n dweud, 'Yn amlwg, mae gennym ni gaplaniaid ein ffydd, ond yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn rhoi cefnogaeth i bobl sydd ei hangen.' Am fenyw ifanc ysbrydoledig o'r Barri ac o Gymru.