Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 10 Ionawr 2018.
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl strategol i reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Ni allwn sicrhau cyflwr ffafriol ar ein pen ein hunain, felly byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau rheoli eraill ar draws Cymru drwy'r grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig er mwyn sicrhau arweinyddiaeth a chymorth lle bo angen i allu cyflawni ein rolau a'n cyfrifoldebau gyda'n gilydd. Gofynnodd John Griffiths gwestiwn ynglŷn â pha strategaethau y byddwn yn eu cyflwyno, a byddwn yn datblygu fframwaith rheoli ardaloedd morol gwarchodedig a fydd yn nodi ein gweledigaeth strategol ar gyfer rhwydwaith wedi'i reoli'n dda.
Soniodd sawl Aelod am arian, ac fel rhan o fy adolygiad parhaus o'r cyllid, ar draws fy mhortffolio eang iawn, a chan ddarparu adnoddau lle bo'u hangen, rwyf wedi rhoi dyraniad ychwanegol o £0.5 miliwn tuag at y môr a physgodfeydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweithio gyda fy swyddogion i weld sut y gallwn ddefnyddio'r arian hwnnw er mwyn sicrhau'r budd gorau, ac unwaith eto, rwyf am weithio gyda grŵp rheoli'r ardaloedd morol gwarchodedig mewn perthynas â hyn. Bydd hefyd yn galw, rwy'n siŵr, am arian ychwanegol wrth inni adael yr UE, ac yn amlwg, mae angen inni barhau â'r asesiadau rydym yn eu gwneud ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd rhan o'r arian ychwanegol hefyd yn adeiladu ar ein rhaglen waith gyfredol i sicrhau bod ein hardaloedd morol gwarchodedig yn parhau mewn cyflwr ffafriol, a lle bo angen, fel rwy'n dweud, yn cyflawni cyflwr ffafriol. Rwyf wedi gofyn i fy adran weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r grŵp llywio ar reoli i ystyried sut y gallwn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf cadarnhaol ar gyflwr y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig.
Mae angen inni barhau i wella ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morol a sut y mae gweithgareddau dynol yn rhyngweithio â'r amgylchedd, felly rydym yn gweithio i wella'r modd yr ydym yn monitro i ganfod newid a lle bo angen, yn ymchwilio i achos ac effaith a data gwyddonol i gefnogi a llywio polisïau a chyflawniad.
Roedd Joyce Watson yn mynegi pryderon ynglŷn â monitro effeithiau amgylcheddol, yn enwedig o amgylch y treillio am gregyn bylchog ym mae Ceredigion, ac rwy'n credu bod honno'n enghraifft wirioneddol wych o'r gwaith a wnaed. Felly, cawsom yr astudiaeth honno o ddwysedd dros ddwy flynedd dan arweiniad Prifysgol Bangor i lywio'r broses o reoli pysgodfeydd cregyn bylchog ym mae Ceredigion, sydd wrth gwrs yn ardal cadwraeth arbennig. Y gwaith hwnnw oedd y cyntaf o'i fath, ac mae wedi cael ei ganmol fel enghraifft o wyddoniaeth sy'n arwain y byd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau â hynny a'n bod yn ei gymhwyso ar gyfer unrhyw fesurau rheoli newydd.
Felly, rwy'n parhau i ystyried buddsoddi mewn gwyddoniaeth forol yng Nghymru. Wrth edrych ymlaen, mae angen inni nodi mwy o gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid megis Prifysgol Bangor i rannu'r safonau hynny, i gasglu a choladu tystiolaeth a data o amrywiaeth o ffynonellau a gweithgareddau. Mae argaeledd data, tystiolaeth ac ymchwil gadarn yn gwbl hanfodol i sicrhau rheolaeth effeithiol a defnydd cynaliadwy o'n moroedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am gyfranogiad parhaus rhanddeiliaid wrth ddatblygu a darparu rhaglen waith ar y môr a physgodfeydd yng Nghymru.
Mae grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol yn dwyn ynghyd ystod eang o grwpiau diddordeb strategol er mwyn sicrhau ymgysylltiad effeithiol ac ystyrlon mewn perthynas â darparu'r holl waith ar y môr a physgodfeydd drwy weithio cydweithredol a chydgynhyrchu. Sefydlwyd is-grwpiau lle mae angen canolbwyntio ar bynciau penodol. Sefydlwyd grŵp cyfeirio ar gynllunio morol i randdeiliaid ar ddechrau'r broses gynllunio morol er mwyn darparu cyngor, arweiniad ac adborth ar y dull o weithredu, ac mae cyd-aelodau o'r grŵp cyfeirio wedi cydweithio i gydgynhyrchu cynnwys y cynllun morol.
Dywedodd Mike Hedges mai un peth y dymunai ei gael yn fwy na dim o'r ddadl heddiw oedd gweld y cofnodion yn cael eu cyhoeddi, a rhoddais yr ymrwymiad hwnnw, rwy'n credu, pan ymddangosais gerbron y pwyllgor. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd cofnodion y cyfarfod ar 30 Tachwedd, rwy'n credu mai dyna pryd ydoedd, yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn.
Mae ymgysylltiad cynnar â rhanddeiliaid wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn nodi'r goblygiadau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil gadael yr UE i'n sectorau. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi sefydlu cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd i randdeiliaid a nifer o is-grwpiau yn syth ar ôl y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016—rwy'n ceisio meddwl nawr. Mae un o'r is-grwpiau rhanddeiliaid yn ymwneud yn benodol â'n moroedd a'n harfordiroedd ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth eang o'r sectorau perthnasol, felly mae'r is-grŵp moroedd ac arfordiroedd yn chwarae rhan allweddol yn ein helpu i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer rheoli ein moroedd yn gynaliadwy ar ôl inni adael yr UE. Credaf y bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu set o flaenoriaethau strategol, gan gynnwys ailgadarnhau ein hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol y môr yn gynaliadwy, bargen decach i'n diwydiant pysgota a'n cymunedau arfordirol, a dull o weithredu wedi ei arwain gan gynlluniau o ysgogi twf glas. Mae fy adran a minnau'n parhau i gyfarfod â'n cymheiriaid ar draws y DU i drafod y materion sy'n deillio o adael yr UE ac wrth gwrs, mae'r môr a physgodfeydd yn rhan o'r trafodaethau hynny. Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddiogelu ein buddiannau morol, amgylcheddol a gwledig, ac rwy'n credu y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd, archwilio pob cyfle i sicrhau budd i bob un o'n sectorau.
Hefyd, rwyf wedi dweud yn glir iawn na fydd unrhyw leihad yn y modd y gwarchodwn yr amgylchedd yng Nghymru pan fyddwn yn gadael yr UE. Mae rhwydwaith cydlynol yn ecolegol o ardaloedd morol gwarchodedig wedi ei reoli'n dda yn rhan allweddol, nid yn unig o fod yn barod o'r cychwyn cyntaf, ond hefyd o reoli a gwydnwch ein moroedd am flynyddoedd i ddod. Felly, erys fy ffocws ar barhau i ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol i Gymru. Diolch.