– Senedd Cymru am 3:23 pm ar 10 Ionawr 2018.
Symudwn ymlaen, felly, at yr eitem nesaf.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, 'Y Llanw'n troi? Adroddiad yr ymchwiliad i ddull Llywodraeth Cymru o reoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig'. Galwaf felly ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Credaf fod trafodaethau morol yn debyg i fysiau—rydych yn aros yn hir iawn am un ac mae dau'n cyrraedd yn gyflym iawn. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar yr adroddiad gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae angen i mi ddiolch i Gadeirydd blaenorol y pwyllgor, Mark Reckless, ac aelodau o'r pwyllgor a weithiodd ar yr ymchwiliad hwn—Jenny Rathbone, Huw Irranca-Davies a Siân Gwenllian—nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor hwn bellach. Rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am y gwaith a wnaethant yn cynhyrchu'r hyn rwy'n credu sy'n adroddiad da iawn.
Dyma'r ail ddadl, fel y dywedais, a gynhaliwyd yr wythnos hon yn y Siambr ar bolisi morol. Credaf ei fod yn bolisi pwysig iawn ac mae'n briodol ei fod yn cael y lefel hon o sylw. Dywedodd rhywun unwaith na ddylem alw'r blaned hon yn ddaear, ac y dylid ei galw'n ddŵr, oherwydd mae llawer mwy o'i harwyneb wedi'i orchuddio gan ddŵr nag sydd wedi'i orchuddio gan ddaear. Felly, credaf fod angen i ni roi llawer o ystyriaeth i'r amgylchedd morol. Yr amgylchedd morol yw dros hanner arwynebedd Cymru ac mae'n gartref i rai o gynefinoedd a rhywogaethau mwyaf bioamrywiol Ewrop. Er mwyn gwneud yn siŵr y byddant yn goroesi ac o fudd i genedlaethau'r dyfodol, mae dwy ran o dair o foroedd Cymru wedi'u gwarchod mewn rhyw ffordd oherwydd eu cyflwr bregus.
Yr ymateb i'r adroddiad: gwnaeth y Pwyllgor 12 o argymhellion i gyd, a derbyniwyd 11 ohonynt yn llawn neu mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Er gwaethaf y ffaith bod ein hargymhellion wedi cael eu derbyn, fodd bynnag, mae'n aneglur beth, os o gwbl, a gaiff ei wneud yn wahanol o ganlyniad i hynny. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, ysgrifennais at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am eglurhad. Cafwyd ymateb cyn y ddadl hon ac mae'r ohebiaeth ar gael drwy agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw.
Bydd Aelodau'r Cynulliad a rhanddeiliaid yn gweld yn yr ohebiaeth fod Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â nifer fach o bryderon niferus y pwyllgor, ond mae’r rhan fwyaf o'n cwestiynau yn dal i fod heb eu hateb. Ond rwy’n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn mynd i’r afael â’r rheini heddiw. Mae ein hadroddiad, 'Y Llanw’n troi?', yn mynd i'r afael â nifer o bethau, gan gynnwys dull Llywodraeth Cymru o orfodi, argaeledd data dibynadwy a chyllid, a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig ar ôl Brexit. Ond heddiw, rwyf am ganolbwyntio ar y tri maes allweddol a ddeilliodd o'r ymchwiliad: yr angen i Lywodraeth Cymru fabwysiadu rôl arweiniol gryfach, yr angen am lefelau priodol o adnoddau, o ran arian a staffio, a'r angen am fwy o dryloywder yn y gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo.
Yn ystod ein hymchwiliad, clywsom feirniadaeth gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg arweiniad Llywodraeth Cymru. Nid yw hon yn gŵyn newydd. Clywodd y pwyllgor blaenorol alwadau am arweiniad cryfach gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012. Mae rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru roi cyfeiriad strategol clir. Byddai hyn yn sicrhau bod system reoli gydlynol ar waith ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod pawb yn ei deall. Yn syml, os yw Cymru am wireddu manteision ei hardaloedd morol gwarchodedig yn llawn, mae’n rhaid eu rheoli’n effeithiol. Mae'r pwyllgor felly wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a bod yr holl awdurdodau rheoli, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau mewn perthynas â rheoli ardaloedd morol gwarchodedig. Derbyniwyd yr argymhelliad hwn gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n amlwg o’r ymateb na fydd unrhyw strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Gobeithio fy mod wedi camddeall hynny ac y bydd yna strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig. Bydd yna gynllun gweithredu. Y pryder amlwg yw nad honno fydd y ddogfen strategol sydd ei hangen mor ddybryd. Gobeithio y bydd y term 'cynllun gweithredu' yn cael ei gychwyn gan strategaeth, ac y bydd y cynllun gweithredu yn dod o dan y strategaeth honno, oherwydd rydym angen strategaeth er mwyn bwrw ymlaen, a dylai’r cynllun gweithredu fod o dan y strategaeth honno yn hytrach na bodoli ar wahân.
Ysgrifennydd Cabinet, mae rhanddeiliaid wedi bod yn mynegi pryder am ddiffyg arweinyddiaeth ers pum mlynedd o leiaf. Mae'r rhain yn bryderon diffuant gan bobl ynglŷn â’r amgylchedd morol. Mae'r rhain yn bobl sy'n gweithio yn yr amgylchedd, pobl sydd â diddordeb dwfn yn yr amgylchedd ac sydd eisiau gweld gwelliant yn y modd y rheolir ardaloedd morol gwarchodedig. Dylid mynd i’r afael â’u pryderon. Nid yw'n glir yn eich ymateb beth, os oes rhywbeth, fydd yn cael ei wneud yn wahanol yn y dyfodol. Dyma bobl sy'n poeni o ddifrif am yr amgylchedd morol, ac er y bydd Aelodau eraill yma'n codi i areithio amdano, mae'r bobl hyn yn poeni amdano bob dydd o'r flwyddyn, ac i lawer ohonynt dyma sy'n rhoi angerdd i'w bywydau.
Yr ail faes allweddol oedd adnoddau, yn ariannol ac o ran staffio. Ni ofynnodd rhanddeiliaid am symiau enfawr o arian na chynnydd enfawr yn y niferoedd staffio. Credaf eu bod, mewn gwirionedd, yn deall eu bod yn annhebygol o gael y naill na'r llall. Roeddent yn bragmataidd iawn ac yn deall y pwysau ariannol ehangach sydd ar Lywodraeth Cymru. Ond roeddent yn glir: ni ellir rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn effeithiol heb y lefel briodol o adnoddau. Mae'r pwyllgor yn nodi bod £0.5 miliwn ychwanegol ar gael ar gyfer y môr a physgodfeydd yng nghyllideb 2018-19. Bwriedir iddo fynd i'r afael ag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys y costau sy'n gysylltiedig â nodi a dynodi pump o ardaloedd morol gwarchodedig newydd a sicrhau bod ardaloedd morol gwarchodedig yn cyrraedd ac yn parhau mewn cyflwr ffafriol. Wrth gwrs, mae’r adnodd ychwanegol hwn i'w groesawu, ond rydym wedi ceisio sicrwydd gan Ysgrifennydd y Cabinet fod yr adnodd hwn yn ddigonol i gyflawni’r nifer o flaenoriaethau uchelgeisiol sydd ganddynt. Yn syml, a oes digon o arian i gyflawni'r hyn rydym eisiau ei weld yn cael ei gyflawni?
Ni chawsom sicrwydd fod yr adnoddau staffio presennol o fewn Llywodraeth Cymru yn ddigonol i gyflawni ei chyfrifoldebau cadwraeth forol. Roeddem hefyd yn pryderu y byddai diffyg adnoddau yn cael effaith negyddol ar weithgaredd Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gysylltiedig ag ardaloedd morol gwarchodedig ar unwaith ac yn y tymor canolig. Rydym hefyd wedi gofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynigion ar gyfer cyllido dull sy’n seiliedig ar ardal, gyda swyddog penodedig i bob ardal reoli. Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod manteision i’r dull hwn, yn arbennig o ran atgyfnerthu darpariaeth leol a hwyluso cydweithrediad traws-safle, a buaswn yn dadlau, efallai yn bwysicaf oll, y dylai pobl adnabod y person y mae’n rhaid iddynt fynd i’w gweld ynglŷn â phroblem yn yr ardal. Rwy’n credu bod cael rhywun wrth y llyw, rhywun sy'n gyfrifol amdano, yn gwneud bywyd yn llawer haws. Eir i’r afael â’r materion hyn yn ein hail argymhelliad, a dderbyniwyd mewn egwyddor gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud ei bod yn anghytuno â dull sy’n seiliedig ar ardal, gan ddweud ei bod yn credu y byddai canolbwyntio ar brosiectau penodol yn fwy costeffeithiol ac yn darparu gwell gwerth am arian.
Mae gan Ysgrifennydd y Cabinet hawl i anghytuno ag argymhellion y pwyllgor wrth gwrs. Fodd bynnag, byddai'n ddefnyddiol cael gwybodaeth i egluro’r safbwynt amgen hwnnw. Bydd yr Aelodau'n gweld, yn ein gohebiaeth gydag Ysgrifennydd y Cabinet, fod y pwyllgor wedi gofyn am gael gweld unrhyw ddadansoddiad ariannol sy'n cefnogi safbwynt Ysgrifennydd y Cabinet. Nid ydym wedi derbyn hwnnw eto, ond rwy’n siŵr, unwaith eto, y bydd hwnnw’n cael ei ddarparu i ni y prynhawn yma.
Tryloywder—fe drown yn awr at ein trydydd maes allweddol. Roedd llawer o randdeiliaid yn teimlo’n gryf fod yna ddiffyg tryloywder mewn perthynas â chyfarfodydd y nifer sylweddol o grwpiau a arweinir gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r ymrwymiad a roddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet y bydd cofnodion y grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu cyhoeddi.
Cawsom wybod hefyd fod diweddariadau gan y grŵp llywio yn cael eu rhannu â grŵp cynghori a gweithredu rhanddeiliaid Cymru ar faterion morol, ac ar gael ar y rhyngrwyd. Fodd bynnag, nid yw cofnodion y grŵp hwn ar gael, dim ond eu cylch gorchwyl. Rwy’n siomedig fod ymateb Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud bod nodiadau grŵp cynghori ar bysgodfeydd môr Cymru ar gael, ond ar gais yn unig. Pam na ellir eu rhoi ar y rhyngrwyd? Mae pobl yn rhoi llawer o bethau ar y rhyngrwyd. Bydd pobl sydd â diddordeb ynddo yn gallu cael mynediad ato. Os gallwn sicrhau un peth heddiw, os gwelwch yn dda, a gawn ni ofyn i’r rheini gael eu rhoi ar y rhyngrwyd? Os ydynt ar gael i unrhyw un sy'n gofyn amdanynt, yna nid ydynt yn cael eu cadw'n gyfrinachol am unrhyw reswm penodol, felly, i arbed pobl rhag gorfod gofyn amdanynt, gadewch i ni eu rhoi ar y rhyngrwyd, a gadael i bobl gael mynediad atynt.
Ar gyfer grwpiau eraill a arweinir gan Lywodraeth Cymru, mae crynodeb o'r cyfarfodydd ar gael, ond unwaith eto, ar gais yn unig. Ac rwy’n gwneud yr un cais i Lywodraeth Cymru—peidiwch â’u darparu ar gais yn unig, gwnewch yn siŵr eu bod ar gael ar y rhyngrwyd. Nid yw hyn yn mynd i’r afael â’r pryderon sylweddol a fynegwyd gan randdeiliaid ynglŷn â diffyg tryloywder y grwpiau hyn. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam na ellir cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd y grwpiau hyn i gyd.
I gloi, mae hwn yn faes hollbwysig, o ystyried gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig i gefnogi bywyd gwyllt, ein diwydiant twristiaeth arfordirol a’n pysgodfeydd. Rwy’n ddiolchgar i bob un o’r rhanddeiliaid a’r aelodau o'r cyhoedd a gyfrannodd at waith y pwyllgor. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn i aelodau'r pwyllgor, a roddodd lawer iawn o amser ac ymdrech i’r prosiect hwn. Credaf fod hwn yn adroddiad pwysig, ond er gwaethaf y ffaith fod pob un ond un o'n hargymhellion wedi cael eu derbyn, mae’n rhaid i mi ddirwyn i ben drwy ailadrodd pryderon y pwyllgor fod diffyg eglurder ynglŷn â beth fydd yn newid yn ymarferol, ac o ganlyniad, pa un a fydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud mewn gwirionedd.
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwelsom ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol, mae hwn yn gyfnod cyffrous i bolisi morol yng Nghymru, ac mae cefnogaeth ar draws y Siambr i bwyslais newydd ar y polisi hwn. Ceir cefnogaeth ymhlith y cyhoedd, yn enwedig yn y sector gwirfoddol a sectorau eraill sydd â diddordeb yn yr amgylchedd morol a'r polisi hwn. Mae gennych lawer iawn o ewyllys da gan Aelodau yn y fan hon, a’r cyhoedd yn gyffredinol, Ysgrifennydd y Cabinet, a gobeithio y byddwch yn defnyddio'r ewyllys da hwnnw i barhau i fwrw ymlaen. Croesewais yr adroddiad morol ddoe, a chredaf fod hwnnw'n gam ymlaen. Gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i sicrhau rhanddeiliaid fod hwn yn flaenoriaeth i chi, ac y gallant ddisgwyl gweld gwelliannau ystyrlon o ganlyniad i'r adroddiad hwn. Rydym wedi aros am amser hir i’r môr wneud ei ffordd i frig yr agenda wleidyddol yng Nghymru, ac rydym wedi ei wthio yno yr wythnos hon. Gadewch i ni obeithio y gallwn wneud cynnydd sylweddol yn dilyn y ddadl hon.
A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi ein bod yn cael yr ail o ddwy ddadl ar yr amgylchedd morol yr wythnos hon? Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos y cydweithrediad agos a fydd rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus, sy'n galw am welliant sylweddol, fel y mae ein Cadeirydd, Mike Hedges, eisoes wedi nodi. Ac a gaf fi ymuno ag ef i ddiolch i bawb sydd wedi ein galluogi i gyhoeddi adroddiad mor awdurdodol—yr holl bobl sydd wedi cydweithio â ni, yn ein hymweliadau amrywiol, ac a roddodd dystiolaeth, a hefyd ein hysgrifenyddiaeth ragorol a'r staff ymchwil?
Mae'n faes arswydus o gymhleth. Mae'n rhaid i mi ddweud, drwy gydol fy amser yma fel Aelod Cynulliad, nid wyf yn credu bod fy ngallu ystadegol a dadansoddol wedi cael eu herio fwy nag wrth geisio gwneud rhywfaint o synnwyr o'n system ddynodi, o ran moroedd ac arfordiroedd o amgylch Cymru. Mae tua 50 y cant o'n moroedd, a 75 y cant o'n morlinau, wedi'u gwarchod gan ardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, fel y clywsom mewn arolwg o 727 o randdeiliaid, roedd 35 y cant yn credu bod rheolaeth aneffeithiol yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu'r amgylchedd morol. Ac os dysgais unrhyw beth o'r gwaith ar yr adroddiad hwn, rwy'n credu mai'r ffaith bod yn rhaid i ni gofio bob amser nad yw dynodiad yn golygu rheolaeth effeithiol bob tro yw hynny. A chredaf fod hynny'n ganolog mewn gwirionedd i'r hyn sydd angen i'r Llywodraeth ei gyflawni yn awr, er mwyn sicrhau bod dynodiad yn arwain at reolaeth effeithiol o'n hadnoddau morol, ac yn annog ac yn gwarchod bywyd morol.
Ddoe, yn y modd hwn, pwysleisiais yr angen am ddata a monitro da. Unwaith eto, mae'n bwynt sydd wedi'i wneud yn gryf yn yr ymchwiliad hwn, ond gan fy mod wedi gwneud hynny'n uchafbwynt yr araith a wneuthum ddoe, nid wyf am ei ailadrodd yma y prynhawn hwn. A gaf fi sôn, Ddirprwy Lywydd, am yr argymhelliad cyntaf yn yr adroddiad hwn ac rwy'n credu mai dyma'r un pwysicaf yn ôl pob tebyg? Mae'n datgan bod yn rhaid i'r Llywodraeth ddarparu arweinyddiaeth ar y mater hwn drwy ddatblygu strategaeth ar gyfer ardaloedd morol gwarchodedig a thrwy sicrhau bod yr holl awdurdodau rheoli yn chwarae rhan weithredol ac yn cyflawni eu dyletswyddau a'u cyfrifoldebau. Nawr, mae'r cynllun drafft yn bwysig iawn a bydd yn cael ein sylw mwyaf manwl. Er bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn, nid wyf yn credu bod ymatebion dilynol y Llywodraeth wedi bod yn ddigon da bob tro, er, fel rwyf wedi'i ddweud, rwyf eisiau rhoi clod i'r Gweinidog am gyflawni'r cynllun yn awr o leiaf, a gadewch i ni obeithio bod hwnnw'n fan cychwyn ar gyfer gwell perfformiad yn y maes hwn o bolisi cyhoeddus.
Ond yma mae gennym alwad barhaus am arweinyddiaeth effeithiol ac mae'n rhywbeth sy'n mynd yn ôl yn bell. Roedd adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar yr ymchwiliad i bolisi morol yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn 2013, yn ystod y pedwerydd Cynulliad, yn nodi bod rhanddeiliaid morol yn teimlo'n aml fod gan y Lywodraeth flaenorol, ac rwy'n dyfynnu, feddylfryd 'a morol' gyda'r amgylchedd a'r economi forol yn cael eu trin fel ôl-ystyriaeth. Roedd adroddiad etifeddiaeth y pwyllgor yn 2016, a nodwyd y n ofalus iawn gennym wrth gwrs, yn nodi bod rhanddeiliaid yn pryderu bod y meddylfryd hwnnw'n parhau dair neu bedair blynedd yn ddiweddarach hyd yn oed. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hynny'n rhywbeth a welsom yn ein tystiolaeth, a gwn fod y Llywodraeth yn gobeithio gwella'r modd y mae'n cyflawni ei pholisi morol, a byddwn yn bartneriaid gweithredol wrth sicrhau eich bod yn gallu gwneud hynny, ond yn sicr rydym angen y dechrau newydd hwn.
Fel y dywedais, daw hyn yn ôl o ddifrif at sut y mae'r Llywodraeth yn gosod blaenoriaethau ac yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru a'u tebyg i gyflawni eu dyletswyddau statudol yn effeithiol, ac mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn ceisio mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas â rheoli ardaloedd morol gwarchodedig. Gadewch i mi ddyfynnu un person, yr Athro Warren, o Aberystwyth, a ddywedodd nad yw Llywodraeth Cymru, yn ddigon cryf yn ei syniadau—
Credaf fod hynny'n wirioneddol allweddol yma— o ran yr hyn y mae ei eisiau ar hyn o bryd er mwyn gallu rhoi arweiniad i bobl.
Felly, unwaith eto, rwy'n gobeithio mai dyna yw amcan y cynllun rydych wedi'i gyflwyno.
A gaf fi orffen drwy sôn yn fyr am adnoddau? Mae'r pwyllgor wedi bod yn bryderus ynglŷn â graddau cyfrifoldebau statudol cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi awgrymu, rwy'n credu, eu bod wedi'u hestyn yn llawn ar hyn o bryd. Credaf fod angen i ni fod yn fodlon fod ganddynt allu i sicrhau eu bod yn cyflawni o ran monitro ac adrodd yn effeithiol a rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn awr, oherwydd nid yw hynny wedi cael ei wneud yn y gorffennol a dyna beth sydd angen i ni ei unioni. Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd.
Mae'n briodol, mae'n siŵr, gan ein bod yn trafod y môr, fod llanw a thrai yn dod ddwywaith y diwrnod—nid wyf yn gwybod ai llanw neu drai sydd gyda ni heddiw, ond rydw i jest am danlinellu nad wyf i'n ailadrodd beth a ddywedais ddoe yn y ddadl ar y cynllun morol. Felly, os oes gwir ddiddordeb gan bobl ym mholisi Plaid Cymru ynglŷn â'r môr, mae eisiau iddynt ddarllen y ddwy ddadl gyda'i gilydd. Rydw i jest eisiau canolbwyntio yn y drafodaeth yma ar dri pheth sydd wedi dod allan o adroddiad y pwyllgor: un ynglŷn â chyllid neu adnoddau, un ynglŷn â data, sydd newydd gael ei grybwyll gan David Melding hefyd, ac un ynglŷn â'r dyfodol, sef lle rydym yn mynd o hyn ymlaen.
Roedd yn glir iawn o'r dystiolaeth a gasglwyd gan y pwyllgor nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n ymwneud â diogelu bioamrywiaeth a chadwraeth môr yn credu bod Llywodraeth Cymru'n neilltuo digon o adnoddau i fynd i'r afael â'r materion hyn. Roedd hynny'n amrywio, nid o ran beirniadaeth o staff yn benodol, ond beirniadaeth o'r diffyg syniadaeth a'r diffyg adnoddau a oedd yn cael eu rhoi. Mae hynny'n cael ei weld yn glir yn y ffaith bod y pwyllgor wedi argymell, yn glir iawn, ffordd ymlaen i Lywodraeth Cymru yn hyn o beth, sef dynodi chwe ardal glir ynglŷn â chadwraeth môr o dan y gwahanol systemau a'r lefelau roedd David Melding yn cyfeirio atynt, o ran dynodiadau cadwraeth a bioamrywiaeth, ond dynodi chwe ardal clir iawn, a gwneud yn siŵr bod arian penodol ar gyfer gweithredu ym mhob un o'r ardaloedd hynny, gan ddefnyddio, wrth gwrs, y partneriaid lleol, a chan roi Llywodraeth Cymru yng nghanol y we, fel petai, fel y bobl sy'n arwain ac yn rheoli. Ac o edrych ar y ffordd mae'r Llywodraeth wedi ymateb i'r argymhellion yna, yn y bôn, nid yw Llywodraeth Cymru yn mynd i wneud hynny. Yn y bôn, nid oes dim yn mynd i newid ar ôl i'r adroddiad yma gael ei gyhoeddi ac yn y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymateb iddo fe. Ac rwy'n credu bod hynny yn ddiffyg—diffyg sylweddol gan y Llywodraeth, ac yn ddiffyg yn y cyd-destun bod y Llywodraeth ddoe wedi cyhoeddi'r cynllun morol, ac rydym wedi ei drafod e, ac mae ymateb i'r gwahanol ardaloedd cadwraeth, yr MPAs yma, yn bwysig, rwy'n meddwl, wrth wireddu'r cynllun morol.
Yr ail reswm rwy'n bryderus yw oherwydd bod gyda ni ddiffyg data—diffyg casglu data, diffyg data dros gyfnod, lle mae modd cymharu cyfnod wrth gyfnod, sy'n ein harwain ni at y casgliad roeddem ni yn ei glywed yn y pwyllgor sawl gwaith, sef nad yw dynodiad MPA, y marine protected area—rwy'n defnyddio hwnnw fel rhywbeth sy'n cyfro holl ddynodiadau yma—yn ei hunan yn arwain at wella yn yr hyn a oedd yn digwydd yn yr ardal yna. Ac mae gyda ni brofiad tebyg yn y SSSIs ar y tir mawr, wrth gwrs. Bob tro mae yna ddynodiad, nid yw o reidrwydd yn arwain at wella'r bioamrywiaeth, neu'r statws, neu'r ardal, neu at gael gwell cadwraeth. Ond mae angen tanlinellu hynny. Ac un o'r rhesymau rydym ni'n ffeindio hynny yw'r diffyg data sydd y tu ôl iddo fe. Nid oes modd profi bod y system yn gweithio—mae mor syml â hynny—ac felly mae'n anodd cyfiawnhau gwario arian cyhoeddus arno fe, mae'n rhaid bod yn onest. Ond mae gyda chi fan hyn gwestiwn diddorol ynglŷn â pha un sy'n dod gyntaf. Mae'n rhaid buddsoddi er mwyn casglu data er mwyn dangos bod yr arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn ffordd sydd yn gwella bioamrywiaeth, gwella ansawdd ein moroedd ac yn arwain at amddiffyniad mwy cadarnhaol a mwy tymor hir.
A'r pwynt olaf, os caf ddod i ben gyda hyn, yw bod diffyg eglurder ynghylch sut i fwrw ymlaen â hyn yn awr ar gyfer y dyfodol. Oherwydd y diffyg data, oherwydd diffyg adnoddau dros gyfnod helaeth o amser, mae dryswch llwyr, mae'n rhaid dweud, ynglŷn â sut rydym yn symud ymlaen ar ardaloedd morol gwarchodedig, a sut y mae'r ardaloedd morol gwarchodedig hynny'n rhyngweithio ag ardaloedd eraill lle rydym eisiau gweld gweithgareddau cynaliadwy, gan gynnwys pysgota, gan gynnwys cymunedau arfordirol yn elwa o'r ardaloedd hynny, gan gynnwys datblygiadau morol y buom yn eu trafod ddoe fel rhan o'r cynllun morol. Ac nid oeddem yn gallu mynd at wraidd hynny mewn gwirionedd oherwydd y diffyg tryloywder y cyfeiriwyd ato, a cheir diffyg eglurder ynglŷn â phwy sy'n gyfrifol am beth a phwy fydd yn arwain. Y neges gliriaf a ddaeth o'r dystiolaeth oedd bod y rhanddeiliaid eisiau i Lywodraeth Cymru arwain, ond nad oedd Llywodraeth Cymru yn barod i arwain, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i Ysgrifennydd y Cabinet fynd i'r afael ag ef o ddifrif a dangos awdurdod o fewn yr adran a'r ffordd y symudwn ymlaen â hyn.
Nawr, sut rydym yn bwrw ymlaen â hyn yn y dyfodol? Wel, wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth gwrs, bydd llawer o'r dynodiadau hyn yn newid. Mae llawer ohonynt o dan gyfarwyddebau cynefinoedd ac adar yr UE. Mae rhai ohonynt wedi'u dynodi'n barthau cadwraeth forol, sydd hefyd yn rhan o gyfraith yr UE, ond mae rhai'n gyfreithiau rhyngwladol—mae safleoedd Ramsar, rwy'n credu, yn gyfraith ryngwladol. Ac felly, i gloi ar hyn, os caf, Ddirprwy Lywydd, mae gennym y cymysgedd hwn o gyfreithiau a bydd rhai'n berthnasol a rhai na fyddant yn berthnasol wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae gennym hefyd yr her hon i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) ei hun o dan gonfensiwn Aarhus ynglŷn ag a ydym, mewn gwirionedd, yn ystyried pryderon rhanddeiliaid yn hyn oll. Nid wyf yn credu bod ymateb y Llywodraeth hyd yn hyn wedi mynd i'r afael â phryderon y pwyllgor mewn gwirionedd, ac rwy'n mawr obeithio y bydd y ddadl hon yn helpu i arwain at ryngweithio pellach rhwng y pwyllgor a'r Llywodraeth i sicrhau gweithredu gwell yn y maes hwn.
Hoffwn ddechrau drwy groesawu adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar ddull Llywodraeth Cymru o reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Rwy'n gyn-aelod—nid oeddwn yn aelod pan ysgrifennwyd yr adroddiad hwn, ond rwyf yn ôl ar y pwyllgor hwnnw bellach. Rwyf wedi bod yn hyrwyddwr rhywogaethau ar ran y dolffin trwynbwl ers ychydig o flynyddoedd bellach, ac rwy'n teimlo'n hynod ffodus i gynrychioli ardal sy'n gartref i'r boblogaeth fridio led-breswyl fwyaf yng Nghymru o'r rhywogaeth eiconig hon ym Mae Ceredigion. Ac ychydig dros 12 mis yn ôl cafodd rhannau o ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion eu hailagor i dreillio am gregyn bylchog. Cafodd ei atal yn y gorffennol oherwydd proses chwalu a chipio a oedd yn digwydd ar y pryd, a dyna'r ffordd orau o'i disgrifio. Cafodd gwely'r môr ei chwalu'n deilchion a chafodd y cregyn bylchog a oedd yno eu cipio ac roedd yn annymunol iawn, ond cafodd ei atal.
Felly, roeddwn yn falch o weld bod yr adroddiad yn cydnabod pwysigrwydd casglu tystiolaeth a data—ac rydym yn ôl gyda hynny eto—a bod monitro a gwyliadwriaeth yn hanfodol ar gyfer reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Oherwydd ni allwn fonitro iechyd a phoblogaeth dolffiniaid trwynbwl, a'r holl anifeiliaid morol eraill, wrth gwrs, yn yr ardal benodol honno heb ymchwil o safon uchel a monitro effeithiau posibl treillio am gregyn bylchog, traffig cychod a gweithgareddau eraill. Er bod casglu data yn rhan hanfodol o ymchwil, mae gallu dehongli'r canlyniadau hefyd yn hollbwysig. Oherwydd cyfyngiadau ariannol, clywais fod rhai sefydliadau—a hwy fyddai'r rhai a roddodd dystiolaeth i'r adroddiad hwn—yn cael trafferth mawr iawn gyda hynny.
Yn yr un modd, roeddwn yn bryderus ynglŷn â'r pwyntiau a godwyd yn yr adroddiad am grŵp awdurdod perthnasol ardal gadwraeth arbennig Bae Ceredigion ynglŷn â thynhau rheoliadau ar gyfer gweithredwyr teithiau bywyd gwyllt, a'r angen i gryfhau ymddygiad morol drwy fesurau statudol. Fe fyddwch yn gwybod bod aflonyddwch cychod yn gallu cael, ac yn cael, effaith niweidiol ar y dolffiniaid trwynbwl, ac mae hefyd yn gysylltiedig â gostyngiad yn y cyfraddau o enedigaethau byw.
Buom yn siarad llawer iawn am lygredd ddoe, ac rwy'n wirioneddol falch fod gennym gynllun clir bellach. Mae'r llygredd sy'n gallu dod oddi ar gychod yn aml iawn yn hynod niweidiol i unrhyw beth sy'n mynd i oroesi yn y môr hwnnw. Felly, rwy'n galw o ddifrif am fonitro agos iawn yn hynny o beth. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r ohebiaeth, Ysgrifennydd y Cabinet, rhyngoch chi a'r pwyllgor ym mis Tachwedd, pan ddywedoch y byddai'r adroddiadau safle dangosol ar gyfer pob un o'n hardaloedd cadwraeth arbennig a'n hardaloedd arbennig i gael eu cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Tybed a yw'r adroddiadau hynny ar gael bellach, ac os ydynt ar gael, beth yw'r canfyddiadau.
Rwy'n falch iawn o longyfarch y pwyllgor am yr adroddiad diddorol a llawn gwybodaeth hwn, sy'n gytbwys ac yn deg iawn. Un o'r pethau sydd wedi gwneud argraff arnaf ynghylch y Cynulliad hwn ers bod yma yw'r ffordd y mae'r pwyllgorau hyn yn gweithio'n effeithiol gyda safbwynt sy'n cynnig consensws trawsbleidiol yn aml iawn. Hefyd, hoffwn ganmol aelodau'r pwyllgor am eu gwaith enfawr ar lunio'r adroddiad hwn, fel y nododd David Melding. Rwyf bob amser yn gwrando ar ei areithiau, fel yn wir rwy'n gwrando ar areithiau fy nghymydog, Simon Thomas, ar y pwnc hwn gyda diddordeb mawr, ac rwy'n dysgu rhywbeth bob tro.
Ychydig sydd gennyf i'w ychwanegu at yr hyn a ddywedwyd eisoes. Cytunaf â phopeth a ddywedwyd yn y ddadl hyd yma. Mae'n bwysig iawn, wrth gwrs, i aelodau o Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn arbennig. Mae gennym fwy o arfordir a mwy o ddŵr na neb arall yn y Cynulliad hwn a fi yw'r trydydd o bedwar Aelod dros y rhanbarth i gymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac mae'r unig un arall wedi ei atal rhag gwneud hynny drwy fod yn aelod o'r Llywodraeth. Rwy'n meddwl bod hynny'n tanlinellu arwyddocâd hyn i ni. Mae rhai o'r ardaloedd arfordirol gorau yng Nghymru, a rhai o'r dyfroedd arfordirol mwyaf diddorol, yn ein rhanbarth ni. Rwy'n credu bod y rhan fwyaf o ardaloedd gwarchodedig morol yng Nghymru yn ein rhanbarth ni—mwy nag yn unman arall.
Mae mwyafrif yr ardaloedd morol gwarchodedig wedi eu dynodi o dan ddeddfwriaeth yr UE fel ardaloedd cadwraeth arbennig neu ardaloedd gwarchodaeth arbennig, ac mae hwn yn adnodd gwerthfawr y mae'n hanfodol bwysig ein bod nid yn unig yn ei i gydnabod ac yn ei ddynodi, fel y mae adroddiad y pwyllgor yn nodi, ond hefyd mae'n bwysig ein bod yn ei ddiogelu, yn ei amddiffyn ac yn ei wella. Ymwneud â hynny y mae hyn y pen draw. Rheoli safleoedd a monitro a gorfodi yw'r cam nesaf.
Wrth sôn am orfodi, rwy'n falch iawn o weld bod y pwyllgor yn dweud y dylai'r Llywodraeth ddatblygu strategaeth orfodi sy'n seiliedig ar risgiau, oherwydd, yn anochel, mewn materion amgylcheddol, ceir buddiannau sy'n cystadlu—heb o reidrwydd wrthdaro â'i gilydd—lle gellid rhoi pwyslais gwahanol yn ôl diddordeb rhywun yn y pwnc dan sylw. Efallai y dof at hynny yn man. Rwy'n cytuno â barn y pwyllgor na ddylid dynodi unrhyw ardaloedd gwarchodedig pellach hyd nes y bydd y gyfres bresennol o ardaloedd morol gwarchodedig yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Wrth gwrs, mae'r ansicrwydd sy'n gysylltiedig â Brexit yn anochel o godi ei ben yn yr amgylchiadau hyn, ond ar ôl Brexit, bydd Llywodraeth Cymru yn gallu gweithredu ei chyfeiriad polisi ei hun, fel yr amlinellir yn adroddiad y pwyllgor, a symleiddio'r drefn bresennol. Rwy'n cefnogi system ddwy haen o ardaloedd morol gwarchodedig heb leihau lefelau'r warchodaeth, fel y mae'r pwyllgor wedi argymell. Yn hytrach na derbyn deddfwriaeth yr UE yn awtomatig, credaf ei bod yn fantais i ni yn y dyfodol fod Gweinidogion y DU a Chymru yn cael cyfle i ddynodi parthau cadwraeth morol, ac rwy'n cytuno ag argymhelliad y pwyllgor y dylai hyn fod yn flaenoriaeth os yw'n mynd i gael ei gyflawni.
Rwy'n falch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwarantu na fydd llai o gyllid ar ôl gadael yr UE, ac rwy'n gobeithio y bydd ei llythyr at Mike Hedges ar 2 Tachwedd yn cadarnhau hyn, lle mae'n dweud ei bod wedi datgan yn glir ar sawl achlysur nad yw'n disgwyl i Gymru golli unrhyw arian o ganlyniad i Brexit.
Ac rwy'n falch iawn o glywed hynny.
Mynegwyd pryderon gan rai ynghylch atebolrwydd a dulliau monitro, ond credaf fod Llywodraeth Cymru yn gwbl alluog i wneud popeth y mae'r UE yn ei wneud, a rhagor, a gobeithiaf y bydd yn gwneud hynny. Fe gyfeiriaf yn unig at dystiolaeth Cymdeithas Pysgotwyr Cymru, oherwydd pan grybwyllais yn gynharach fod angen cysoni gwahanol fuddiannau â'i gilydd i ryw raddau, mae cydbwyso rheolaeth forol â hawliau pysgota hanesyddol yn bwysig iawn wrth gwrs, fel y dywedais ddoe yn y ddadl arall. Mae angen inni ddatblygu ein moroedd a'u helpu i gyflawni eu potensial economaidd yn y dyfodol, yn enwedig gan fod rhai o'r ardaloedd tlotaf yng Nghymru mewn ardaloedd arfordirol, lle y ceir cyfle mawr bellach i'r diwydiant pysgota ehangu. Rwy'n gobeithio y gallwn wneud hynny heb beryglu mewn unrhyw fodd y manteision amgylcheddol eraill y mae'r Llywodraeth yn eu hargymell ac y mae'r pwyllgor yn awgrymu y dylem ganolbwyntio arnynt.
Felly, rwyf am orffen drwy ddweud nad yw'r UE, yn fy marn i, wedi bod yn ffrind o unrhyw fath, mewn gwirionedd, i'r rhai sy'n gweithio yn nyfroedd Cymru a Phrydain, o bysgotwyr i gadwraethwyr dros y blynyddoedd. Ac er bod record yr UE yn gwella, mae ganddo hanes dychrynllyd, mewn gwirionedd, dros y rhan fwyaf o'r cyfnod y buom yn aelod o ran y modd y mae wedi dihysbyddu ein moroedd ac ysbeilio rhywogaethau pysgota. Rwy'n falch bod camgymeriadau'r PAC yn cael sylw bellach, a phan fydd gennym reolaeth gadarn ar ein polisi pysgota ein hunain yma yng Nghaerdydd, rwy'n siŵr y byddwn yn gwneud hyd yn oed yn well nag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno'n bendant iawn â hwy y dylem fod yn falch o'n moroedd yng Nghymru ac amgylchedd arfordirol Cymru, a bod yr ardaloedd morol gwarchodedig yn bwysig ar gyfer moroedd iach a fydd yn cynnal y fantais sydd gennym, ac yn cefnogi twristiaeth, pysgodfeydd a defnyddiau eraill.
Cytunaf hefyd â'r pwyllgor, wrth gwrs, na allwch byth gymryd yr ansawdd hwn yn ganiataol, a bod cyflwr presennol ein moroedd a'n hamgylcheddau morol ac arfordirol yn galw am sylw o ddifrif gan Lywodraeth Cymru ac eraill. Mae angen i ni nodi gweledigaeth feiddgar ac uchelgeisiol, fel yr amlinellodd y pwyllgor.
Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw canolbwyntio ar un o argymhellion y pwyllgor, Ddirprwy Lywydd—argymhelliad 9—oherwydd rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn fod Llywodraeth Cymru yn asesu effaith Brexit yn ofalus gan fod llawer o'r warchodaeth sydd gennym, a'r fframwaith o warchodaeth sydd gennym, yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n falch iawn fod Ysgrifennydd y Cabinet a Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw, ac y bydd yn nodi gweledigaeth, yn wir, ar gyfer y ffordd ymlaen yn gynnar eleni. Gwn ein bod i gyd yn edrych ymlaen at hynny'n eiddgar.
O ran yr Undeb Ewropeaidd, Ddirprwy Lywydd, mae cyfarwyddeb y strategaeth forol yn hollbwysig. Cafodd ei throsi i gyfraith y DU gan reoliadau Llywodraeth y DU yn ôl yn 2010, rwy'n credu, ac o hynny daeth y strategaethau morol, gan gynnwys yr un sydd gennym yng Nghymru. Mae'n ceisio cynnal a gwarchod a chyflawni statws amgylcheddol da erbyn 2020, ac rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cefnogi hynny'n frwd ac yn cytuno â hynny. Felly, gwn fod llawer o sefydliadau yng Nghymru a grwpiau amgylcheddol yn gwerthfawrogi'n fawr yr hyn y mae ymdrechion yr Undeb Ewropeaidd wedi'i sicrhau o ran hynny, ac yn gyffredinol rwy'n credu bod y rheoliadau hyn wedi bod yn fframwaith hanfodol ac yn wir, yn rym ysgogol i'r cynnydd a welsom.
Felly, hoffwn ofyn heddiw, Ddirprwy Lywydd: a fydd rheoliadau'r strategaeth forol yn ganolog i'r weledigaeth newydd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ei gosod cyn bo hir ar gyfer ein moroedd a'n hamgylchedd arfordirol o amgylch Cymru yn dilyn gadael yr Undeb Ewropeaidd? Hefyd, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cynnal, ac y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cynnal, o ran symud y rheoliadau hyn yn eu blaen fel fframwaith wedi i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd? Oherwydd rwy'n credu'n wirioneddol, ynghyd â llawer o'r sefydliadau sy'n ymwneud yn sylfaenol â'r materion hyn, gyda'r holl angerdd a ddisgrifiodd Mike Hedges yn gynharach o ran yr hyn sy'n bwysig iddynt mewn perthynas â'n moroedd a'n hamgylchedd arfordirol, a'r hyn y maent am ei weld yn cael ei warchod ac yn wir, ei ddatblygu mewn modd cynaliadwy cywir ar gyfer y dyfodol, fod llawer o'r angerdd hwnnw yn ymwneud â'r rheoliadau: yr hyn y maent wedi ei greu a'r hyn y gallant ei gynnig os parhawn â'r dull hwnnw o weithredu yn y dyfodol. Felly, rwy'n gwybod y byddent hwy, a minnau hefyd, Ddirprwy Lywydd, yn awyddus iawn i gael sicrwydd ac ymateb y Gweinidog ar y materion penodol hynny.
Rwy'n falch o gymryd rhan mewn dadl mor bwysig yma y prynhawn yma. Nawr, fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r ymchwiliad a'r adroddiad hwn yn arbennig o berthnasol i Sir Benfro, gan fod mwyafrif helaeth y môr o amgylch y sir wedi'i leoli mewn ardaloedd morol gwarchodedig. Yn wir, ar daith ddiweddar i Ynys Dewi gyda'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, gan wisgo fy het hyrwyddwr rhywogaethau, cefais gyfle i drafod yr ymchwiliad penodol hwn ac i siarad am ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi a diogelu ardaloedd morol gwarchodedig yn well yng Nghymru.
O'r drafodaeth honno ac o drafodaethau gyda rhanddeiliaid a grwpiau lleol eraill—ac rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru bellach wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar ei chynllun gweithredu morol drafft—mae'n amlwg o'r adroddiad hwn fod y cyfarwyddyd strategol hwnnw ar reolaeth forol yng Nghymru wedi bod yn ddiffygiol yn y gorffennol. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn datblygu cynllun yn awr sy'n gweithio gyda'r diwydiant morol a rhanddeiliaid, ac un y gellir ei gyflawni ar lawr gwlad. Daeth adolygiadau blaenorol o waith rheoli morol i'r casgliad yn gyson fod yn rhaid rhoi blaenoriaeth uwch i reoli ardaloedd morol gwarchodedig, ac er bod bwriadau Llywodraeth Cymru yn rhai da, fel y dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, mae angen inni weld arweinyddiaeth ar y mater hwn.
Wrth gwrs, rhan o'r broblem yw bod cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet yn dynn a bod adnoddau weithiau'n annigonol i ddiwallu'r dibenion a fwriadwyd, ac yn sicr, nid wyf yn eiddigeddus o sefyllfa Ysgrifennydd y Cabinet. Mae adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn glir iawn fod angen mwy o adnoddau o ran staffio a chyllid er mwyn gallu rheoli ardaloedd morol gwarchodedig yn gynaliadwy ledled Cymru, ac mae rhanddeiliaid wedi dweud yn glir iawn fod diffyg adnoddau yn rhwystro'r gallu i gyflawni gwaith sy'n ymwneud ag ardaloedd morol gwarchodedig. Felly, mae'n hollbwysig, wrth symud ymlaen, fod y gyllideb ar gyfer gweithgaredd ardaloedd morol gwarchodedig yn cael ei fonitro'n drylwyr. Er fy mod yn falch o weld ymateb Llywodraeth Cymru y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cadw'r gyllideb hon dan arolwg, wrth ymateb i'r ddadl heddiw efallai y gall ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau'n fwy rheolaidd ar y lefel o adnoddau a chyfeiriad strategol ei pholisïau morol.
Wrth gwrs, nid staffio ac adnoddau yw'r unig broblemau sy'n wynebu ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru. Mae argymhelliad 3 yn adroddiad y pwyllgor yn ei gwneud yn gwbl glir fod rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig ac ymgysylltu'n well â rhanddeiliaid a'r cyhoedd. Mae ardaloedd morol gwarchodedig, pan gânt eu rheoli'n briodol, yn cynnig manteision eang ac mae'r moroedd sy'n ffinio â fy etholaeth i yn Sir Benfro wedi'u dynodi ar gyfer diogelu rhywogaethau pwysig, gan gynnwys poblogaeth fwyaf y byd o adar drycin Manaw sy'n nythu a niferoedd pwysig yn rhyngwladol o'r pâl, ac rwy'n falch o fod yn un o hyrwyddwyr y rhywogaeth honno. Yn wir, bob blwyddyn, mae miloedd o ymwelwyr yn heidio i Sir Benfro i weld ein bywyd gwyllt hardd, a thra'u bod yno wrth gwrs, maent yn gwario arian yn yr ardal leol ac yn helpu i gefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhelliad 3, gan ei gwneud yn glir fod ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018 yn gyfle gwych i hyrwyddo gwerth ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fodd bynnag, rwy'n bryderus na ddangoswyd dull o godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ardaloedd morol gwarchodedig a manteision y mesurau diogelu hyn y tu hwnt i 2018 a Blwyddyn y Môr, ac ni amlinellwyd unrhyw ymrwymiadau pellach yn y llythyr dilynol ar 2 Tachwedd, yn sgil llythyr gan y pwyllgor yn gofyn am eglurhad pellach. Felly, o gofio bod ein bywyd gwyllt a'n twristiaeth yng Nghymru yn dibynnu cymaint ar iechyd ein moroedd, efallai y gallai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud ychydig rhagor wrthym ynglŷn â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hyrwyddo manteision ardaloedd morol gwarchodedig a chynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o'u pwysigrwydd y tu hwnt i ymgyrch Blwyddyn y Môr 2018.
Ddirprwy Lywydd, fel John Griffiths, hoffwn grybwyll argymhelliad 9 yn fyr, a'r effaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar ardaloedd morol gwarchodedig Cymru. Rwy'n sylweddoli bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, ni roddwyd unrhyw fanylion ynghylch unrhyw asesiadau sy'n cael eu gwneud o effaith gadael yr UE ar ein hardaloedd morol gwarchodedig. Fel y cyfeiriodd Simon Thomas, mae'r rhan fwyaf o'r môr a warchodir yn ardaloedd morol gwarchodedig Cymru wedi'i ddynodi o dan gyfarwyddebau natur yr UE o fewn safleoedd morol Ewropeaidd, gan gynnwys ardal gadwraeth forol arbennig Sir Benfro, sy'n ymestyn dros 130,000 hectar. Fel y dywedodd Neil Hamilton yn gynharach, rwy'n credu, cynlluniwyd ardaloedd morol gwarchodedig yn benodol i gyd-fynd â safleoedd morol Ewropeaidd fel rhan o system warchodaeth ddwy haen, sef cyfreithiol ac ecolegol. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymrwymo i gadw'r system warchodaeth ddwy haen hon fel y gall y rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig yn nyfroedd Cymru weithredu fel y bwriadwyd.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, ni ellir gorbwysleisio manteision ardaloedd morol gwarchodedig yng Nghymru, ond rhaid iddynt gael eu rheoli'n gywir gyda'r adnoddau priodol. Wrth symud ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo o ddifrif i ddarparu mwy o arweinyddiaeth a hybu gwerth ardaloedd morol gwarchodedig Cymru lawer yn fwy nag y mae'n ei wneud ar hyn o bryd, gan y bydd hyn, yn ddiau, yn cryfhau ein diwydiant twristiaeth yn ogystal â gwarchod amgylchedd ein moroedd yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw yn awr ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?
Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn a'r ddadl a gawsom heddiw yn fawr iawn. Fel y dywedodd sawl Aelod, mae'n dilyn yn dwt iawn y ddadl a gawsom ddoe ar y cynllun morol cenedlaethol drafft. Ond mae hefyd yn pwysleisio pa mor bwysig yw ein moroedd i ni.
Mae ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'r adroddiad a fy llythyr pellach yn dangos ein bod wedi ei dderbyn mewn ysbryd cadarnhaol iawn, ac yn dangos hefyd ein hymrwymiad i barhau i newid ffocws polisi morol a physgodfeydd a chryfhau lle bo'n briodol. Mae'r materion a godwyd yma heddiw a sgyrsiau a gaf gyda phobl ledled Cymru yn dangos pa mor bwysig yw cael amgylchedd morol iach a gwydn i bawb ohonom. Credaf fod Mike Hedges wedi gwneud pwynt pwysig iawn am ewyllys da pobl, nid yn unig yn y Siambr, ond yn ein sefydliadau anllywodraethol hefyd, ac yn sicr, maent yn rhai o'r bobl fwyaf angerddol y deuthum ar eu traws erioed—maent yn credu o ddifrif yn yr hyn a wnânt mewn perthynas â'n moroedd. Maent hefyd yn adlewyrchu pa mor bwysig yw hi ein bod yn datblygu polisïau sy'n integredig a thrawsbynciol.
Ni ellir ystyried rheoli ardaloedd morol gwarchodedig fel mater ar ei ben ei hun. Rhaid iddo fod yn rhan o'r dull integredig o reoli'r amgylchedd morol ehangach er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein huchelgeisiau a'n gweledigaeth ar gyfer moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol, bioamrywiol a gwydn ledled Cymru sy'n cefnogi cymunedau arfordirol bywiog. Ddoe, cawsom ddadl ar gynllun morol cenedlaethol drafft cyntaf Cymru, ac mae hwnnw bellach yn destun ymgynghoriad ffurfiol. Am y tro cyntaf, mae'r cynllun yn nodi dull cydgysylltiedig o gynllunio a rheoli ein moroedd dros yr 20 mlynedd nesaf, ac mae'n gweithio tuag at ein huchelgais ar gyfer amgylchedd morol gwydn sy'n cefnogi twf glas a physgodfeydd cynaliadwy, cynhyrchiol a llewyrchus. Yn allweddol i sicrhau ecosystemau morol gwydn, bydd angen i Gymru gwblhau ei chyfraniad tuag at rwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig a pharhau i adeiladu ar ein rhaglen waith bresennol i reoli ein hardaloedd morol gwarchodedig fel eu bod yn parhau mewn cyflwr ffafriol, neu'n cyflawni cyflwr ffafriol lle bo angen.
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl strategol i reoli ardaloedd morol gwarchodedig. Ni allwn sicrhau cyflwr ffafriol ar ein pen ein hunain, felly byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau rheoli eraill ar draws Cymru drwy'r grŵp llywio ar reoli ardaloedd morol gwarchodedig er mwyn sicrhau arweinyddiaeth a chymorth lle bo angen i allu cyflawni ein rolau a'n cyfrifoldebau gyda'n gilydd. Gofynnodd John Griffiths gwestiwn ynglŷn â pha strategaethau y byddwn yn eu cyflwyno, a byddwn yn datblygu fframwaith rheoli ardaloedd morol gwarchodedig a fydd yn nodi ein gweledigaeth strategol ar gyfer rhwydwaith wedi'i reoli'n dda.
Soniodd sawl Aelod am arian, ac fel rhan o fy adolygiad parhaus o'r cyllid, ar draws fy mhortffolio eang iawn, a chan ddarparu adnoddau lle bo'u hangen, rwyf wedi rhoi dyraniad ychwanegol o £0.5 miliwn tuag at y môr a physgodfeydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gweithio gyda fy swyddogion i weld sut y gallwn ddefnyddio'r arian hwnnw er mwyn sicrhau'r budd gorau, ac unwaith eto, rwyf am weithio gyda grŵp rheoli'r ardaloedd morol gwarchodedig mewn perthynas â hyn. Bydd hefyd yn galw, rwy'n siŵr, am arian ychwanegol wrth inni adael yr UE, ac yn amlwg, mae angen inni barhau â'r asesiadau rydym yn eu gwneud ar effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd rhan o'r arian ychwanegol hefyd yn adeiladu ar ein rhaglen waith gyfredol i sicrhau bod ein hardaloedd morol gwarchodedig yn parhau mewn cyflwr ffafriol, a lle bo angen, fel rwy'n dweud, yn cyflawni cyflwr ffafriol. Rwyf wedi gofyn i fy adran weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r grŵp llywio ar reoli i ystyried sut y gallwn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf cadarnhaol ar gyflwr y rhwydwaith o ardaloedd morol gwarchodedig.
Mae angen inni barhau i wella ein dealltwriaeth o'r amgylchedd morol a sut y mae gweithgareddau dynol yn rhyngweithio â'r amgylchedd, felly rydym yn gweithio i wella'r modd yr ydym yn monitro i ganfod newid a lle bo angen, yn ymchwilio i achos ac effaith a data gwyddonol i gefnogi a llywio polisïau a chyflawniad.
Roedd Joyce Watson yn mynegi pryderon ynglŷn â monitro effeithiau amgylcheddol, yn enwedig o amgylch y treillio am gregyn bylchog ym mae Ceredigion, ac rwy'n credu bod honno'n enghraifft wirioneddol wych o'r gwaith a wnaed. Felly, cawsom yr astudiaeth honno o ddwysedd dros ddwy flynedd dan arweiniad Prifysgol Bangor i lywio'r broses o reoli pysgodfeydd cregyn bylchog ym mae Ceredigion, sydd wrth gwrs yn ardal cadwraeth arbennig. Y gwaith hwnnw oedd y cyntaf o'i fath, ac mae wedi cael ei ganmol fel enghraifft o wyddoniaeth sy'n arwain y byd. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn parhau â hynny a'n bod yn ei gymhwyso ar gyfer unrhyw fesurau rheoli newydd.
Felly, rwy'n parhau i ystyried buddsoddi mewn gwyddoniaeth forol yng Nghymru. Wrth edrych ymlaen, mae angen inni nodi mwy o gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid megis Prifysgol Bangor i rannu'r safonau hynny, i gasglu a choladu tystiolaeth a data o amrywiaeth o ffynonellau a gweithgareddau. Mae argaeledd data, tystiolaeth ac ymchwil gadarn yn gwbl hanfodol i sicrhau rheolaeth effeithiol a defnydd cynaliadwy o'n moroedd, ac rwy'n ddiolchgar iawn am gyfranogiad parhaus rhanddeiliaid wrth ddatblygu a darparu rhaglen waith ar y môr a physgodfeydd yng Nghymru.
Mae grŵp cynghori a gweithredu Cymru ar faterion morol yn dwyn ynghyd ystod eang o grwpiau diddordeb strategol er mwyn sicrhau ymgysylltiad effeithiol ac ystyrlon mewn perthynas â darparu'r holl waith ar y môr a physgodfeydd drwy weithio cydweithredol a chydgynhyrchu. Sefydlwyd is-grwpiau lle mae angen canolbwyntio ar bynciau penodol. Sefydlwyd grŵp cyfeirio ar gynllunio morol i randdeiliaid ar ddechrau'r broses gynllunio morol er mwyn darparu cyngor, arweiniad ac adborth ar y dull o weithredu, ac mae cyd-aelodau o'r grŵp cyfeirio wedi cydweithio i gydgynhyrchu cynnwys y cynllun morol.
Dywedodd Mike Hedges mai un peth y dymunai ei gael yn fwy na dim o'r ddadl heddiw oedd gweld y cofnodion yn cael eu cyhoeddi, a rhoddais yr ymrwymiad hwnnw, rwy'n credu, pan ymddangosais gerbron y pwyllgor. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, bydd cofnodion y cyfarfod ar 30 Tachwedd, rwy'n credu mai dyna pryd ydoedd, yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd y mis hwn.
Mae ymgysylltiad cynnar â rhanddeiliaid wedi bod yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau ein bod yn nodi'r goblygiadau a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil gadael yr UE i'n sectorau. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod wedi sefydlu cyfarfodydd o gwmpas y bwrdd i randdeiliaid a nifer o is-grwpiau yn syth ar ôl y refferendwm yn ôl ym mis Mehefin 2016—rwy'n ceisio meddwl nawr. Mae un o'r is-grwpiau rhanddeiliaid yn ymwneud yn benodol â'n moroedd a'n harfordiroedd ac mae'n cynnwys cynrychiolaeth eang o'r sectorau perthnasol, felly mae'r is-grŵp moroedd ac arfordiroedd yn chwarae rhan allweddol yn ein helpu i nodi ein blaenoriaethau ar gyfer rheoli ein moroedd yn gynaliadwy ar ôl inni adael yr UE. Credaf y bydd hefyd yn ein helpu i ddatblygu set o flaenoriaethau strategol, gan gynnwys ailgadarnhau ein hymrwymiad i reoli adnoddau naturiol y môr yn gynaliadwy, bargen decach i'n diwydiant pysgota a'n cymunedau arfordirol, a dull o weithredu wedi ei arwain gan gynlluniau o ysgogi twf glas. Mae fy adran a minnau'n parhau i gyfarfod â'n cymheiriaid ar draws y DU i drafod y materion sy'n deillio o adael yr UE ac wrth gwrs, mae'r môr a physgodfeydd yn rhan o'r trafodaethau hynny. Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddiogelu ein buddiannau morol, amgylcheddol a gwledig, ac rwy'n credu y gallwn, drwy weithio gyda'n gilydd, archwilio pob cyfle i sicrhau budd i bob un o'n sectorau.
Hefyd, rwyf wedi dweud yn glir iawn na fydd unrhyw leihad yn y modd y gwarchodwn yr amgylchedd yng Nghymru pan fyddwn yn gadael yr UE. Mae rhwydwaith cydlynol yn ecolegol o ardaloedd morol gwarchodedig wedi ei reoli'n dda yn rhan allweddol, nid yn unig o fod yn barod o'r cychwyn cyntaf, ond hefyd o reoli a gwydnwch ein moroedd am flynyddoedd i ddod. Felly, erys fy ffocws ar barhau i ddarparu manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol allweddol i Gymru. Diolch.
Galwaf ar Mike Hedges i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i David Melding, Simon Thomas, Joyce Watson, Neil Hamilton, John Griffiths, ac Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd rhan yn y ddadl hon—a Paul Davies am gymryd rhan yn y ddadl hon? Ac rwy'n credu ei bod hi'n wirioneddol—. Credaf ei bod hi'n wirioneddol bwysig fod gennym nifer o bobl nad ydynt yn aelodau o'r pwyllgor sydd â diddordeb yn yr adroddiad pwyllgor hwn. Credaf fod pawb ohonom wedi gweld, yn llawer rhy aml gydag adroddiadau pwyllgor, y pwyllgor yn siarad â'r prif gorff yn ein plith, ac mae'n braf iawn gweld cynifer o bobl â diddordeb. A gaf fi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet, fy mod yn credu eich bod heddiw wedi gweld yr ewyllys da a'r gefnogaeth sydd i'r pwyllgor gan Aelodau ar draws y Siambr, a chredaf eich bod yn gwybod bod gennych hynny gan y sefydliadau anllywodraethol ac yn bwysicach efallai, gan y cyhoedd, a mae'r rhain oll yn awyddus i sicrhau bod ein hamgylchedd morol yn cael gofal da?
Credaf fod eich ymateb yn gadarnhaol iawn. Fe sonioch chi am amgylchedd morol gwydn a rôl strategol Llywodraeth Cymru a chredaf fod bron bob Aelod a siaradodd wedi sôn am rôl strategol Llywodraeth Cymru; credaf fod hynny'n allweddol—fod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y strategaeth. Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod wedi sicrhau bod yr holl ddogfennau ar gael ar gais—eu bod, ar gais, i gael eu rhoi ar y rhyngrwyd yn awr; rwy'n cymryd bod hynny'n golygu ar wefan Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n croesawu'r parodrwydd i weithio gyda phartneriaid, oherwydd maent yn awyddus iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru. Nid ydynt am ymladd gyda chi. Nid ydynt am anghytuno â chi. Maent am weithio gyda chi er mwyn sicrhau amgylchedd morol gwell.
A gaf fi ailadrodd yr hyn a ddywedodd Paul Davies? A allwn gael diweddariadau rheolaidd? Nid yn unig i'r pwyllgor, gan ei bod yn braf fod yr wyth ohonom yn gwybod amdano, ond byddai i'r 60 ohonom wybod amdano yn y Cyfarfod Llawn gymaint yn well. A chredaf, mewn gwirionedd, fod pobl wedi sôn am yr un pethau ar hyd yr amser. Soniodd David Melding fod y rheolaeth aneffeithiol yn fygythiad, nid yw dynodi bob amser yn golygu rheoli effeithiol, a phwysigrwydd data da a monitro. A dywedodd Simon Thomas fwy neu lai yr un peth gan ddefnyddio geiriau gwahanol. Ond mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â sicrhau bod y data'n iawn, gwneud yn siŵr fod y dynodiadau'n gywir ac yn cael eu hariannu'n effeithiol, a bod popeth yn gweithio'n iawn. Rydym eisiau amgylchedd morol llwyddiannus. Pe baem yn cael pleidlais arno, 'A ydym eisiau amgylchedd morol llwyddiannus?', byddai gennym 60 llaw yn codi, neu 60 o bobl yn pwyso'r botwm 'ie'.
A gaf fi groesawu Joyce Watson yn ôl i'r pwyllgor? Oherwydd credaf fod ei diddordeb yn yr amgylchedd morol ac ardaloedd gwledig yn gryf iawn. Rhoddwyd diwedd ar dreillio am gregyn bylchog. Roedd hynny o ddiddordeb i nifer o fy etholwyr, yn ogystal â phobl sy'n byw yng ngorllewin Cymru. Cyfeiriodd at bwysigrwydd bywyd morol, a chredaf weithiau ein bod yn sôn am yr amgylchedd morol ac efallai nad ydym bob amser yn meddwl y tu hwnt i bysgod—yr holl fywyd sydd i'w gael yn y môr heblaw pysgod.
Credaf fod y pryder ynghylch llygredd cychod yn rhywbeth nad ydym yn rhoi digon o sylw iddo, o bosibl. Rydym yn sôn am beryglon ceir mewn ardaloedd trefol, ond mae gennych gychod yn mynd allan yno, yn aml gyda diesel, cychod hŷn weithiau sy'n gollwng diesel—dim ond ychydig. Gall effaith hynny ar yr amgylchedd morol fod yn enfawr.
Credaf fod Neil Hamilton, unwaith eto, wedi pwysleisio'r consensws trawsbleidiol a strategaeth orfodi sy'n seiliedig ar risg. Credaf fod hynny'n rhywbeth a dderbyniwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet yn ogystal.
Mae John Griffiths yn falch o foroedd Cymru a'r amgylchedd arfordirol. Credaf fod hynny'n rhywbeth arall—. Gallem roi hynny i lawr fel penderfyniad trawsbleidiol. Credaf fod hwnnw'n un arall lle byddem yn cael 60 'ie'. Mae pobl yn falch, ac mae angen inni adeiladu ar y weledigaeth uchelgeisiol.
Brexit—mae hynny'n mynd i ddigwydd. Credaf fod angen inni wneud yn siŵr ein bod yn cadw'r gorau o'r hyn a fu ac yn cyflwyno'r hyn sy'n newydd. Credaf nad oes unrhyw bwrpas galaru ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n ymwneud â dweud, 'Fe gadwn bopeth sy'n dda ac ychwanegu ato a'i wneud yn well.'
Unwaith eto, gyda thrafodaeth Paul Davies gyda rhanddeiliaid, mae'n bwysig iawn ein bod i gyd yn siarad â rhanddeiliaid. Credaf mai un o gryfderau mawr y ffaith ein bod yma yn hytrach nag yn Aelodau Seneddol yw ein bod yn cael mwy o amser yn ein hetholaethau a chyfle i fynd a siarad â phobl yn ein hetholaethau, i drafod y materion hyn. Mae angen inni weithio gyda rhanddeiliaid oherwydd maent i gyd yn awyddus i hyn weithio. Nid oes neb yn ceisio tanseilio'r amgylchedd morol. Nid oes neb yn ceisio tanseilio'r cynllun morol. Nid oes neb yn ceisio'i ddifrodi. Mae pawb yn awyddus iddo weithio. Mae gwir angen inni roi blaenoriaeth uchel i ardaloedd morol gwarchodedig, fel y dywedodd Paul Davies.
A gaf fi orffen drwy ofyn am—? O ystyried mai'r peth cyntaf y gofynnais amdano pan ddechreuais, a gaf fi ofyn am yr ail un eto? A gawn ni ddiweddariadau rheolaidd os gwelwch yn dda, efallai bob blwyddyn, i'r corff hwn, nid yn unig i'r pwyllgor? Credaf eich bod wedi gweld heddiw faint o ddiddordeb sy'n bodoli, nid yn unig ymysg yr wyth ohonom ar y pwyllgor, ond ymysg llawer o bobl nad ydynt ar y pwyllgor, pobl sy'n cynrychioli ardaloedd sydd â chryn dipyn o arfordir, lle mae'n fater sy'n effeithio arnynt, yn effeithio ar eu hetholwyr, ac yn fater a gaiff ei ddwyn i'w sylw yn rheolaidd. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y Pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.