Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 10 Ionawr 2018.
Wel, mae symud nwyddau a phobl a'i effaith ar yr economi yn swnio'n union fel y math o beth a arferai wneud i mi ddwdlan ar ymyl y ddalen pan oeddwn yn gwneud fy safon uwch. Ond mae'n gwbl hanfodol i ffyniant Cymru ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i hynny.
Credaf fod peth o'r dystiolaeth ystadegol rydym wedi'i chlywed eisoes yn y ddadl hon yn eithaf cryf. Wrth edrych ar fy rhanbarth fy hun yn unig a gweld bod Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr yn unig yn colli £86 miliwn i'r economi leol drwy dagfeydd, ac erbyn i chi ychwanegu at hynny y ffigurau gwerth ychwanegol gros ystyfnig o isel a'n cyflogau isel yng Nghymru a ffigurau cynhyrchiant, rydym yn ôl yn y rhigol lle rydym yn amlygu dau ddegawd o fethiannau gwreiddiedig Llywodraeth Cymru a'r Llywodraeth wedyn yn manteisio ar y ffaith gyfleus fod yna Lywodraeth o liw gwahanol ar lefel y DU er mwyn tynnu sylw oddi ar y broblem.
Mae'n werth inni—. Gan edrych, er hynny, ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud ar hyn yn awr, mae'n haeddu sylw yn hyn o beth, oherwydd bu'n gweithredu mewn modd pendant a meddylgar iawn gan roi arian digonol i'r rhwydwaith ffyrdd y mae'n gyfrifol amdano, nid yn lleiaf drwy strategaeth fuddsoddi ar ffyrdd 2015. A'r hyn a ddaliodd fy sylw yn y strategaeth honno oedd y ffaith bod talp mawr o'r arian sy'n ei chynnal yn mynd i'r gronfa twf lleol, sy'n ymwneud â phrosiectau trafnidiaeth lleol—cynnal a chadw priffyrdd lleol, dileu tagfeydd ac ati. Credaf mai dyma lle mae'r pwnc brawychus braidd ac enfawr hwn yn dechrau dod yn fyw ac yn berthnasol i'n hetholwyr.
Felly, nid yw cael ein seilwaith ffyrdd i weithredu'n fanteisiol yn ymwneud â ffyrdd yn unig. Hynny yw, mae Adam wedi sôn amdano ac rydych chi wedi sôn amdano hefyd, Lee. Mae'n ymwneud â newid ymddygiad yn ogystal, ond mae hynny'n eithriadol o anodd, pa mor ddagreuol bynnag rydych am fod ynglŷn â hynny, Lee. Mae angen inni helpu i gysylltu profiadau ein hetholwyr o'r tagfeydd traffig hynny—y rhwystredigaeth, y peswch disel, y bysiau'n cyrraedd yn hwyr ac anhawster gadael i injan dân neu ambiwlans basio—nid yn unig gyda methiant Llywodraeth Cymru ar draws y gwaith o gynllunio seilwaith, rhywbeth y buaswn yn hapusach pe bai rhagor o'n hetholwyr yn barod i'w wneud, ond gyda'r penderfyniadau a wnawn ein hunain ynglŷn â sut rydym yn teithio.
Treuliais rywfaint o'r toriad dros y Nadolig yng nghanolbarth Cymru— hyfryd. Mae'r gwahaniaeth mewn ansawdd aer rhwng y fan honno a fy nghartref yn Abertawe i'w synhwyro'n glir iawn, ac rwy'n golygu synhwyro go iawn. Gallwch ei weld, gallwch ei flasu; nid dim ond ei deimlo yn eich ysgyfaint. Bedwar diwrnod yr wythnos, mae fy nghar yn cropian drwy lygredd Abertawe a Phort Talbot i Gaerdydd—sydd hefyd yn un o'r rhannau mwyaf prysur a llygredig yn y wlad hon—fel y mae miloedd o bobl eraill, a barnu wrth ba mor brysur yw'r M4 a'r ffyrdd cyswllt. Mae'n cymryd bron ddwywaith cymaint o amser i mi gyrraedd y gwaith â phan ddeuthum yn Aelod Cynulliad saith mlynedd yn ôl. Ond nid wyf yn mynd i fynd ar y bws, am ei fod yn cael ei ddal yn yr un tagfeydd ac nid wyf yn mynd i fynd ar y trên, oherwydd mae'n cymryd yr un faint o amser, yn fwy costus ac nid oes gennyf opsiwn i ddod o hyd i lwybrau amgen os aiff rhywbeth o'i le neu os oes oedi neu rywbeth fel hynny.
Mae llawer o'r bobl ar yr M4 yn y bore yn yr un sefyllfa'n union, a hyd yn oed os ydym yn derbyn, fel rwyf fi'n derbyn mewn gwirionedd, yr holl ddadleuon ynghylch gweithio mwy o adref os oes gennych fand eang, y mesurau teithio llesol, y dystiolaeth bwerus iawn sydd gennym ynghylch llygredd aer, rydym yn dal i fynnu defnyddio ein ceir oherwydd nad yw'r dewisiadau eraill yn well ar hyn o bryd, neu oherwydd nad oes dewisiadau eraill ar gael. Rwy'n hyderus, dros amser, y caiff rhagor ohonom ein hannog i beidio â bod yn gwbl ddibynnol ar y car, ac yn sicr yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach o ran y ceir butrach, ond rwy'n tybio y bydd maint y traffig yn dal i dyfu.
Efallai y gallaf ddeall pam ein bod yn edrych ar y llwybrau mwy strategol yn y ddadl hon. Gallaf daflu ffiasgo arbrawf cyffordd 41 at y rhestr o fethiannau Llywodraeth Cymru ar hynny, ond ein ffyrdd lleol yw mân-wythiennau'r seilwaith hwn. Mae'n fy rhyfeddu faint o wahaniaeth mewn gwirionedd y mae gosod cylchfan yn lle goleuadau traffig ar waelod fy ffordd, ar waelod ffordd Santes Helen yn Abertawe lle rwy'n byw— y gwahaniaeth y mae hynny'n unig wedi ei wneud i dagfeydd. Er fy mod yn cefnogi'r syniad o ddatganoli creu cyfoeth lle y gallwn, mae polisi rhanbarthol yn datblygu o amgylch canolfannau poblogaeth mwy sy'n bodoli eisoes, ac mae angen i rwydweithiau ffyrdd lleol allu ymdrin â hynny heb fannau cyfyng, ochr yn ochr â thrafnidiaeth gyhoeddus nad yw'n seiliedig ar ffyrdd a drafodwyd gennym yma o'r blaen.
Rydym yn un o nifer lai a llai o wledydd sy'n gwrthsefyll tollau ar ffyrdd. Credaf fod stori pont Hafren yn ein hatgoffa ein bod yn dal i fod yn derfysgwyr Beca yn ein calonnau, ac nid wyf yn credu ein bod yn debygol o fod yn talu am ein gwelliannau ffyrdd yn y ffordd honno'n fuan iawn. Ond hoffwn wybod faint o ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i gymhellion i gyfuno cyllidebau sector cyhoeddus, neu gymhellion i gyfuno buddsoddiadau busnes lleol yn y seilwaith ffyrdd lleol a'r seilwaith lleol nad yw'n cynnwys ffyrdd, oherwydd credaf eu bod yn mynd law yn llaw.
Rwy'n gobeithio bod digon yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol i olygu bellach nad ffigur ar gyfer awdurdodau lleol, gyda swm ychwanegol yn awr ac yn y man gan Lywodraeth Cymru, yw'r lefel honno rwy'n ei thrafod o seilwaith sy'n seiliedig ar le. Mae iechyd a lles, adfywio, creu gwaith, tlodi a datblygu economaidd oll yn cael eu heffeithio gan gysylltedd, ac ni allaf weld pam na ellir cysylltu'r arian yn yr un modd. Diolch.