Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 10 Ionawr 2018.
Mae fy mhen-blwydd mewn mis, ac yn aml mae'n brofiad eithaf digalon wrth i chi fynd yn hŷn, oherwydd rydych yn tybio y bydd eich disgwyliadau pan yn ifanc o gynnydd diddiwedd lle bydd pobl yn ymateb i dystiolaeth a phrofiad yn llwybr tuag ymlaen bob amser. Ond mae'r ddadl hon y prynhawn yma yn cwestiynu'r rhagdybiaethau hynny. Roeddwn yn gwrando ar Desert Island Discs yn gynharach a dywedodd Charlie Brooker, y digrifwr, sydd ychydig yn hŷn na mi, ei fod yn arfer gweiddi ar y teledu pan oedd yn ei ugeiniau, ond y dyddiau hyn yn hytrach na chau ei ddyrnau a thaflu platiau o gwmpas, mae'n mynd ychydig yn ddagreuol ac yn ofidus. Ac roeddwn yn teimlo ychydig yn ddagreuol ac yn ofidus wrth ddarllen y cynnig a chlywed rhai o'r dadleuon a gyflwynwyd. Rydym yn dweud yr un peth ac yn gwneud yr un peth drosodd a throsodd, ac yn cwyno am ein bod yn cael yr un canlyniadau.
Dechreuodd Russell George gyda chatalog o dagfeydd, gorwariant ac oedi, ac eto nid oedd yn gweld unrhyw angen i ailystyried ein dull o weithredu. Roedd Adam Price yn cwyno am y gostyngiad yn y gwariant ar ffyrdd, gan ddyfynnu'r ffaith ein bod yn dal i wario cannoedd o filiynau arnynt, ac mewn gwirionedd aeth ymlaen wedyn i gyfuno damweiniau ar ffyrdd gwledig â'r ffaith nad ydym yn gwario digon, er bod y dystiolaeth yn dangos mai gyrwyr ifanc yn goryrru yw'r rhan fwyaf o farwolaethau ar ffyrdd gwledig, ac mewn gwirionedd mae nifer damweiniau ar y ffyrdd yn gostwng. Felly, nid wyf yn siŵr fod y ddadl honno'n dal dŵr. Mae Adam Price yn dweud ar ei eistedd, 'Nid yng Nghymru'. Yng Nghymru, mae'n dal yn wir mai goryrru gan yrwyr ifanc yw'r prif achos marwolaeth. Felly, oes, yng Nghymru, mae'n rhaid inni ailystyried ein dull o weithredu oherwydd ein bod yn gwneud yr un peth eto. Nid ffyrdd yw'r broblem—tagfeydd yw'r broblem, ac rydym yn taro ein pennau yn erbyn y wal a thaflu cannoedd o filiynau o bunnoedd—biliynau o bunnoedd, yn wir—at yr un ateb.
Rydym wedi clywed ers blynyddoedd am ryfel yn erbyn y gyrwyr, ond mae'r dystiolaeth yn dynodi'r gwrthwyneb. Yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld y gost o deithio mewn car dros bont Hafren yn gostwng oherwydd TAW, a chost teithio ar y rheilffyrdd yn codi. Pe baech yn teithio o Gaerdydd i Fryste mewn car byddai'n costio £275 yn llai i chi, ond bydd tocyn tymor ar y trên yn costio £100 yn fwy. Rydym yn gwneud teithio ar y ffyrdd yn rhatach a thrafnidiaeth gyhoeddus yn ddrutach. Hawdd y gall pob plaid yn y Siambr hon roi cefnogaeth arwynebol i'r angen i wella trafnidiaeth gyhoeddus tra'n buddsoddi mewn adeiladu ffyrdd fel nad oes gennym arian i'w wario ar y dewisiadau eraill. Ac nid yw'r arian sy'n mynd tuag at adeiladu ffyrdd yn cael ei reoli'n iawn, felly mae gennym y gorwariant a grybwyllwyd eisoes.
Ffordd Blaenau'r Cymoedd: roedd i fod i gostio £44 miliwn y filltir—y filltir. Bellach mae'n mynd i gostio £54 miliwn y filltir, gorwariant o 23 y cant, nid i greu ffordd newydd ond i ychwanegu tamaid at y ffordd bresennol i'w deuoli, dyna i gyd. Ddwy flynedd yn ôl roedd pobl yn dweud y byddai'r llwybr du newydd yn costio ymhell o dan £1 biliwn. Dywedwyd wrth yr ymchwiliad cyhoeddus y byddai'n costio £1.1 biliwn, ac mae'r fargen sydd wedi'i chyhoeddi gydag Associated British Ports er mwyn iddynt dynnu eu gwrthwynebiad yn ôl gan arwain at roi £136 miliwn o arian cyhoeddus i'w cwmni preifat i wneud gwaith yn nociau Casnewydd, yn golygu y bydd cost y prosiect hwnnw'n codi, yn ogystal â'r oedi.
Felly, hoffwn i Ysgrifennydd y Cabinet adael inni wybod beth yw'r amcangyfrif o'r costau erbyn hyn ar gyfer y llwybr du, ac a yw'r ffigur hwnnw'n cynnwys TAW. Ond rwy'n eithaf sicr nad yw'n mynd i aros ar y ffigur o £1.1 biliwn yn hir, ac o ystyried y gorwariant ar lwybr Blaenau'r Cymoedd, ychydig iawn o hygrededd sydd i'r ffigur hwnnw yn y diwydiant. Bydd yn llawer iawn agosach at £1.5 biliwn, ac o bosibl i £2 biliwn yn y pen draw.
Yn y cynnig gan y Ceidwadwyr, mae pwynt 3 yn cydnabod pwysigrwydd rhwydwaith ffyrdd addas at y diben sy'n gweithredu'n briodol ar gyfer datblygiad hirdymor economi Cymru. Wel, buaswn yn dweud, Lywydd, fod iechyd hirdymor economi Cymru yn dibynnu ar sawl ffactor, nid yn lleiaf gweithlu iach sy'n ddiogel rhag llygredd aer a gordewdra, a hinsawdd sefydlog heb lifogydd sydyn a thywydd eithafol wrth i'r tymheredd godi. Mae rhai o'r heriau economaidd mwyaf a wynebodd Cymru erioed yn dod tuag atom yn eithriadol o gyflym, ac yn hytrach na wynebu'r heriau hyn yn uniongyrchol, rydym yn clymu ein hunain wrth syniadau uniongred sy'n bodoli'n barod, syniadau nad yw eu ffeithiau erioed wedi cael eu gwirio. Pan adeiladir ffyrdd yn seiliedig ar y niferoedd anhygoel a ddyfynnwyd y prynhawn yma, nid oes byth unrhyw werthusiad ar ôl y digwyddiad i weld a ydynt yn dal dŵr ai peidio. Y gwir amdani yw nad ffyrdd sy'n adeiladu economïau, syniadau sy'n gwneud hynny. Felly, ni allaf gefnogi'r cynnig hwn ac ni allaf gefnogi gwelliant 3, oherwydd er nad yw Plaid Cymru yn fodlon gwario'r arian hwn ar y llwybr du, maent yn hapus i'w wastraffu ar y llwybr glas, a fydd nid yn unig yn creu gofid i filoedd o bobl yng Nghasnewydd ond ni fydd yn ateb y broblem sylfaenol.
Lywydd, cyhoeddodd Radio 2 heddiw eu bod yn ymestyn eu slot cymudo am awr ychwanegol i 8.00 yr hwyr. Pa arwydd cliriach a allai fod o gynnydd mewn tagfeydd? Ar y gyfradd hon, bydd Simon Mayo ar yr awyr tan hanner nos a bydd pawb ohonom yn gweiddi am ragor o ffyrdd hyd yn oed bryd hynny.