Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 10 Ionawr 2018.
Diolch, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw yn fawr iawn. Yn amlwg, mae pawb ohonom eisiau rhoi diwedd ar ddigartrefedd, ac rydym yn gwybod mai atal yw'r ffordd orau o gyflawni hyn. Credaf fod Rhun ap Iorwerth wedi rhannu tystiolaeth gadarn ynglŷn â pham fod y dull ataliol fel blaenoriaeth yn gwneud synnwyr. Mae ein dull blaengar sy'n canolbwyntio ar atal yn cyflawni llawer, ond rydym yn wynebu galw cynyddol, i raddau helaeth, rhaid i mi ddweud, o ganlyniad i ddiwygio lles Llywodraeth y DU. Gwyddom fod mwy a mwy o bobl yn troi at awdurdodau lleol am help, ac rydym i gyd wedi gweld y cynnydd sy'n peri pryder yn nifer y bobl sy'n gorfod cysgu ar ein strydoedd.
Mae'r ddeddfwriaeth arloesol yn Neddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno dyletswyddau i helpu i atal a lliniaru digartrefedd. Ac ni ellir dadlau ei fod wedi cael effaith ddramatig. Erbyn diwedd Medi, roedd 12,912 o bobl wedi cael cymorth i osgoi digartrefedd. Mae'n bwysig cydnabod, o dan ein deddfwriaeth, nad yw angen blaenoriaethol yn gymwys mwyach pan fydd pobl yn ceisio cymorth os ydynt yn wynebu risg o ddigartrefedd. Mae'r dyletswyddau atal digartrefedd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddod o hyd i atebion tai, yn berthnasol i bawb yn gyfartal.
Hoffwn hefyd bwysleisio mai un agwedd yn unig ar ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd er mai dyna'r agwedd fwyaf gweladwy. Yn ôl rhai amcangyfrifon, am bob unigolyn sy'n cysgu ar ein strydoedd, gallai fod cynifer â 30 neu ragor o bobl sydd fel arall yn ddigartref, mewn llety dros dro neu'n byw o un soffa i'r llall. Mae'n bwysig fod unrhyw benderfyniadau yn ystyried yr angen i sicrhau bod digon o lety dros dro o safon ddigonol. Mae ein deddfwriaeth yn anelu at newid hirdymor a chynaliadwy, ac rydym yn cynorthwyo gwasanaethau cyngor tai i weithio mewn ffordd gyfannol er mwyn helpu i ddod o hyd i atebion i'r angen am dai.
Fel roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ddoe 'Sut mae llywodraeth leol yn rheoli galw—digartrefedd' yn cydnabod, nid yw newid diwylliannol o'r fath yn digwydd dros nos, ac rwy'n ddiolchgar i David Melding am amlinellu canfyddiadau allweddol ac argymhellion yr adroddiad, y byddaf yn ei drafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae llu o resymau cymhleth pam y mae pobl yn cysgu ar y stryd, ac fel arfer maent yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a ffactorau strwythurol, a chlywsom amdanynt yn y ddadl. Hoffwn gadarnhau i'r Aelodau ein bod yn bwrw ymlaen â'n cefnogaeth ar gyfer tai yn gyntaf, a bydd yn elfen allweddol yn ein polisi i leihau achosion o gysgu ar y stryd. Yn dilyn cynhadledd ar bolisi, a noddodd Llywodraeth Cymru gyda Phrifysgol Caerdydd fis Ebrill diwethaf, rydym yn ariannu nifer o wasanaethau tai yn gyntaf. Cefnogir y rhain gan rwydwaith a gydlynwyd gan Cymorth. Byddwn yn comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r gwaith hwn yn ddiweddarach eleni.
Y gwanwyn hwn, byddaf yn derbyn adroddiadau ar yr ymchwil rydym yn ei ariannu ar effaith Rhan 2 o'r Ddeddf tai. Byddaf hefyd yn cael adroddiad gan Shelter Cymru ar ymchwil i brofiadau pobl sy'n cysgu ar y stryd, a bydd hwn yn rhoi tystiolaeth i ni ynglŷn â sut y gallwn wella canlyniadau i bobl sy'n agored i niwed.
Mae mynd i'r afael â digartrefedd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym yn cefnogi ein polisi gydag arian, gan gynnwys £2.6 miliwn yn ychwanegol yn ystod eleni. Mae ein cyllideb ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys £10 miliwn ychwanegol ar gyfer digartrefedd ym mhob blwyddyn, ac mae hyn yn rhoi £6 miliwn y flwyddyn i mewn i setliad refeniw llywodraeth leol, ac rwy'n disgwyl i'r cyllid hwn gryfhau gwasanaethau atal statudol.