– Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2018.
Y ddadl nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar dai i bobl ddigartref, a galwaf ar Bethan Jenkins i wneud y cynnig.
Cynnig NDM6621 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu llety i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi 'tai yn gyntaf'.
Hoffwn i ddweud ei fod yn bleser gyda ni i gael y ddadl yma heddiw, ond yn anffodus mae'n rhywbeth nad ydym yn hapus i'w gael fel trafodaeth yma heddiw, oherwydd ni ddylai rhywbeth fel digartrefedd fodoli yn ein cymdeithas ni, o feddwl bod ein cymdeithas yn un o'r rhai mwyaf cyfoethog yn y byd. Rwy'n credu bod digartrefedd yn adlewyrchu yn wael ar gymdeithas, a dylem ni wneud mwy yn ein gallu i newid yr hyn sydd yn bodoli o ran digartrefedd.
Rydym yn cael y ddadl yma heddiw oherwydd rydym yn cydnabod, fel plaid, nad yw digartrefedd yn rhywbeth ond i'w drafod yn ystod cyfnod y Nadolig pan mae yna ffocws ar ddigatrefedd a phan mae yna fwy o bwysau ar wasanaethau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i ni edrych i'r hirdymor i edrych am bolisiau sydd yn mynd i fynd at wraidd y broblem—syniadau radical y bydd rhai o'm cyd-Aelodau yn siarad amdanynt a fydd yn gallu newid yr hyn sydd yn realiti i bobl bob dydd.
Rydym wedi gweld rhai cynghorau yng Nghymru yn symud pobl oddi ar y stryd a symud nhw mewn ffordd sydd yn anghyfforddus i nifer ohonom ni. Byddwn i'n dweud, fel mae Shelter Cymru wedi dweud, na ddylid symud pobl oddi ar y stryd hyd nes bod yna rywle i roi y bobl hynny, rhywle sydd yn rhoi to uwch eu pen ac nid symud nhw i stryd arall, efallai i stryd sydd yn llai gweladwy lle nad yw'r siopau mor ddeniadol, lle maen nhw'n symud y broblem o un lle y ein cymdeithas i le arall yn ein cymdeithas. Nid hynny yw'r ateb i'r problemau.
Rydym yn gwybod, wrth gwrs, nad ydym yn gallu cael hyd i bob ateb yma yng Nghymru. Mae yna broblemau macro-economaidd, mae yna broblemau gyda'r system wladwriaeth les, ac mae angen cydnabod bod San Steffan yn gallu newid y sefyllfa hynny er mwyn hwyluso’r broblem o ddigartrefedd. Ond eto i gyd, mae yna bwerau yma yng Nghymru lle rydym yn gallu newid y system sydd ohoni a newid deddfwriaeth er mwyn ein bod ni’n helpu pobl sy’n wynebu digartrefedd.
Rwy’n siŵr bod lot o bobl wedi clywed yr ystadegau yma, ond fe wnaeth rywun ddweud wrthyf—ac roedd hyn yn taro tant—pan rŷm ni’n cael payslips, mai dim ond dau payslip ydym ni o fod yn ddigartref ein hunain. Felly mae pob un ohonom yma efallai wedi, neu’n mynd i wynebu, sefyllfa ariannol lle y byddwn ni’n wynebu digartrefedd, efallai oherwydd trais domestig, efallai oherwydd sefyllfa ariannol, efallai oherwydd bod sefyllfa gwaith yn newid. Felly, pan rydym yn trafod y materion yma, nid ydyn nhw’n faterion sydd dim ond yn effeithio ar bobl eraill yn ein cymdeithas; maen nhw’n effeithio ar bobl yn ein teuluoedd, pobl rydym yn eu hadnabod yn ein cymdeithasau lleol a phobl sydd yn agos atom ni hefyd.
Mae camau gweithredu Llywodraeth Cymru hyd yma wedi bod yn gymysg wrth ymateb i'r argyfwng cynyddol hwn. Er ein bod wedi gweld peth deddfwriaeth solet sy'n flaengar ac yn ataliol a photiau o arian wedi'u cyhoeddi dros y blynyddoedd, mae angen edrych yn fwy trylwyr ar sut y gallwn newid a gwella ein polisïau. Er enghraifft, fel y dywedais ddoe, nid yw cyhoeddi potiau o arian cyn y Nadolig yn ddigon, ac nid yw cyhoeddi cynlluniau 10 mlynedd amwys, nad oes fawr neb yn y sector digartrefedd i'w gweld yn gwybod amdanynt, heb sôn am Aelodau'r Cynulliad, yn ateb credadwy i'r broblem mewn gwirionedd.
Mae i Brif Weinidog Cymru fynd allan a dweud y bydd yn rhoi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc, tra'i fod ar yr un pryd yn cynnwys eitem cyllideb arfaethedig sy'n cael gwared ar ffrwd ariannu ar wahân a ddiogelir ar gyfer Cefnogi Pobl ac yn ei chyfuno ag eitemau nad ydynt yn gysylltiedig â thai, i'w weld fel rhoi ag un llaw a thynnu'r mat o dan draed pobl sydd mewn perygl gyda'r llall. Felly, mae angen inni benderfynu a yw Cefnogi Pobl yn flaenoriaeth sy'n rhaid ei chlustnodi a'i diogelu o ran y nod penodol hwn, neu os nad yw, mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i'r Llywodraeth fod yn glir yn ei gylch ac mae'n rhaid iddi ddweud wrthym yn awr.
Cred Plaid Cymru fod angen dau beth ar frys. Yn gyntaf, mae angen inni symud at bolisi tai yn gyntaf. Mae wedi bod yn dda gweld cynlluniau peilot ar hyn ledled Cymru, a hoffwn weld canlyniad y cynlluniau peilot hynny. Nid breuddwyd ffŵl yw hon; ceir cynlluniau peilot ar hyn o bryd ar draws y DU yn Manceinion, Newcastle, Llundain a chanolbarth Lloegr. Ac yn yr Unol Daleithiau, mae talaith Utah, un o'r taleithiau mwyaf cyson Geidwadol sy'n gogwyddo tuag at yr asgell dde, wedi gweithredu Tai yn Gyntaf ers dros ddegawd. Cafwyd gostyngiad o 91 y cant yn nifer y bobl ddigartref yn y dalaith honno rhwng 2005 a 2016, a chyflwynwyd Tai yn Gyntaf gan y Llywodraeth yn y dalaith honno am reswm syml: gyda chyllidebau o dan bwysau, roedd yn gwneud synnwyr ariannol. Credwn fod yna sylfaen dystiolaeth glir bellach y byddai'n lleihau ymrwymiadau ariannol sy'n gysylltiedig â digartrefedd yma hefyd, a bydd fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth, gobeithio, yn amlinellu manteision ariannol tai yn gyntaf yn nes ymlaen. Nid polisi i'r rhai ohonom sydd o dueddfryd gwleidyddol blaengar yn unig yw hwn. Mae'n torri ar draws llinellau plaid ac ideoleg, waeth beth fo'ch safbwynt wrth fynd i'r afael â digartrefedd.
Yn ail, mae angen inni roi diwedd ar angen blaenoriaethol. Mae pawb ohonom yn gwybod beth yw'r broblem. Mae rhywun mewn perygl gwirioneddol o ddigartrefedd ac mae'r person hwnnw'n credu y gallai fod mewn perygl, ond pan fyddant yn mynd i ofyn am gymorth, dywedir wrthynt, am nad ydynt yn deulu, am nad oes ganddynt nodweddion penodol, efallai na chânt eu hystyried yn flaenoriaeth ar gyfer y gwasanaeth penodol hwnnw. A'r hyn rydym yn ei glywed gan Shelter, gan Crisis ac eraill yw nad yw pobl yn mynd i chwilio am help yn awr am eu bod yn dadansoddi drostynt eu hunain nad ydynt yn flaenoriaeth—dynion ifanc sengl fel arfer—ac oherwydd hynny nid ydynt yn cael unrhyw gymorth o gwbl. Felly, gwelaf fod rhinwedd mawr mewn rhoi diwedd ar yr angen blaenoriaethol. Eto yn ôl—. Ymddengys fy mod yn dyfynnu Shelter—dylwn ddweud nad ydynt yn fy nhalu—ond maent yn dweud wrthym y gellir ei wneud heb ddeddfwriaeth sylfaenol, gan fod y Ddeddf Tai yn rhoi pŵer i'r Gweinidog ychwanegu neu ddileu grwpiau ag angen blaenoriaethol. Felly, mae'n rhywbeth y gellir ei wneud yn gymharol hawdd a buaswn yn barod i wrando i weld a yw hynny'n rhywbeth y byddech yn meddwl ei wneud neu'n rhywbeth y gallwn weithio gyda'r Llywodraeth i'w wneud.
Fel y dywedais, nid oes un ateb sy'n gweddu i bawb. Rhaid inni edrych ar bob achos wrth iddo ddod ger ein bron, pa un a oes gennych broblemau camddefnyddio sylweddau neu drais domestig, neu eich bod wedi cael eich diswyddo. Mae'r rhain i gyd yn unigryw, ond rhaid inni drin pawb gyda'r parch y maent yn ei haeddu. A chredaf fod pennu bod rhywun yn flaenoriaeth ac nad yw rhywun arall yn flaenoriaeth yn anesmwytho pobl yn y sector, a'r bobl sy'n ceisio cymorth gan y gwasanaethau hynny hefyd.
Nid wyf yn bwriadu cefnogi'r gwelliant gan Lywodraeth Cymru, oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn mynd mor bell â'r hyn rydym yn ei ddweud yma heddiw, ond rwy'n barod i wrando. Mae pawb yn y Siambr hon yn cydnabod ei fod yn fater pwysig, ond sut rydym am ei flaenoriaethu o hyn allan a sut y gallwn symud ymlaen fel nad ydym yma mewn blwyddyn yn trafod y materion hyn. Felly, edrychaf ymlaen at glywed cyfraniadau pawb arall yma heddiw. Diolch yn fawr.
Diolch. Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Julie James, yn ffurfiol.
Gwelliant 1. Julie James
Dileu pob dim a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r effaith gadarnhaol y mae fframwaith statudol Llywodraeth Cymru o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 wedi’i chael yn peri i’r system ddigartrefedd ganolbwyntio ar atal digartrefedd a’r sylfaen gref y mae hyn yn ei rhoi ar gyfer camau gweithredu pellach.
2. Yn cydnabod y pwysau cynyddol ar y system a phroblemau penodol i rai grwpiau.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu'r 'angen blaenoriaethol' o fewn y system digartrefedd a rhoi dyletswydd yn ei le i ddarparu cynnig o lety addas i bob person digartref ni waeth pam eu bod yn ddigartref, fel rhan o'r broses o symud tuag at ddull cynhwysfawr o geisio dod â digartrefedd i ben yng Nghymru, sy’n cynnwys polisi 'tai yn gyntaf'.
Yn ffurfiol.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies? David.
Gwelliant 2. Paul Davies
Dileu popeth cyn 'fel rhan o'r broses o symud tuag at bolisi "tai yn gyntaf"' a rhoi yn ei le:
'Yn nodi â phryder y cynnydd mewn digartrefedd yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu comisiwn trawsbleidiol i gytuno ar strategaeth ddigartrefedd i gynnwys dod â chysgu ar y stryd i ben erbyn 2020,'
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Mae'n bwnc pwysig iawn, ac roedd yn eithaf ingol, yr hyn a ddywedodd Bethan—wrth nesáu at y Nadolig, mae fel un o'r pethau sy'n cael sylw bob blwyddyn, ac mewn gwirionedd, mae angen mwy o uchelgais na hynny. Credaf fod defnyddio eich amser ar gyfer dadl plaid leiafrifol ar dai a digartrefedd y prynhawn yma yn ffordd dda o wneud hynny. Rwy'n meddwl, ac efallai ei fod yn adeiladu ar yr hyn a ddywedodd Bethan, fod llawer o gonsensws yn y maes hwn am y flaenoriaeth sydd angen ei rhoi i fynd i'r afael â'r broblem ddifrifol hon, ond hefyd y ffaith ei bod, o bosibl, yn mynd y tu hwnt i wleidyddiaeth plaid. Dyna pam y credaf fod y syniad o gomisiwn, comisiwn hollbleidiol, i gyfarfod a mynd i'r afael go iawn â strategaeth a allai ein huno ond a fyddai'n cael blaenoriaeth ddigon uchel o ran beth yw ein hamcanion, ac i osod targed penodol iawn hefyd i gael gwared ar gysgu ar y stryd—. Credaf fod llawer ohonom yn gweld digartrefedd a chysgu ar y stryd—maent yn creu heriau ychydig yn wahanol.
Mae cysgu ar y stryd yn warth llwyr yn fy marn i—gwarth ei fod yn digwydd. Rwy'n perthyn i genhedlaeth pan allwch ei gofio'n dechrau, mewn gwirionedd, fel ffenomen. Nid yw'n rhywbeth a fu gennym ers yr ail ryfel byd, o reidrwydd, ac roedd adeg pan nad oedd ond un neu ddau o bobl mewn trefi a dinasoedd. Credaf fod gwir angen inni edrych ar hyn. Mae'n ffenomen ddofn iawn, ac mae angen ymdrin â hi'n ofalus iawn, ond rwy'n cymeradwyo gwaith maer Manceinion, Andy Burnham, sydd wedi gosod targed ar gyfer 2020. Dyna pam ei fod yn ein gwelliant. Efallai y bydd gan eraill farn ar hynny, ond credaf y gallai comisiwn ei ystyried, ond gan ddechrau o ddifrif gyda chysgu ar y stryd a rhoi terfyn ar hynny cyn gynted â phosibl, ac yna strategaeth uchelgeisiol hefyd ar gyfer digartrefedd, a bydd yn rhaid iddi fod yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o bethau, gan gynnwys rhagor o dai cymdeithasol. Ond credaf ei bod yn bryd codi'r bar a pheidio â mynd i'r cylch hwn o drafod yn flynyddol o gwmpas adeg y Nadolig, ond mae'r broblem yn parhau, ac nid yw'n ymddangos ei bod yn mynd i'r cyfeiriad rydym eisiau iddi fynd o ran ateb cynaliadwy.
A gaf fi cyfeirio at adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar ddigartrefedd a gyhoeddwyd ddoe? Credaf ei bod yn bwysig inni fyfyrio ar hynny. Yn amlwg, rwy'n gwybod y bydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn edrych a y mater. Mae'n dechrau drwy ddweud bod hwn yn faes heriol, a dyna pam rwyf o'r farn fod angen ymagwedd drawsbleidiol hefyd. Nid yw'n ddeunydd ar gyfer colbio gwleidyddol yn fy marn i. Credaf fod angen inni fynd y tu hwnt i hynny go iawn. Caiff ei achosi gan amrywiaeth o resymau cymhleth sy'n gorgyffwrdd, ac fel y mae'r Archwilydd Cyffredinol yn dweud,
'mae a wnelo datrys digartrefedd â llawer mwy na rhoi cartref i bobl.'
Mae'n gysylltiedig â llawer o agweddau ar fywyd rhywun. Fodd bynnag, rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ymwybodol, er bod y newid a ddaeth i mewn gyda'r Ddeddf tai i droi tuag at atal wedi cael ei ganmol yn eang, nid yw awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau o dan y Ddeddf honno mewn ffordd gyson, ond hefyd, mae'n destun pryder mawr yn ôl yr Archwilydd Cyffredinol, nad ydynt yn gwneud hynny o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 chwaith, na Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, unwaith eto, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn fod gennym y statudau hynny yno a ddylai sicrhau bod yr angen hwn yn cael ei ddiwallu'n llawer mwy effeithiol, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i bob plaid ddod at ei gilydd i wthio'r agenda honno.
Credaf fod yna rai gwersi clir i awdurdodau lleol hefyd. Gall y Llywodraeth osod y fframwaith deddfwriaethol a'r blaenoriaethau a'r gyllideb, ond caiff y gwaith ei gyflawni gan awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ac asiantaethau allweddol eraill. Rwy'n credu bod yr hyn y mae'r archwilydd cyffredinol yn ei ddweud yno yn bwysig dros ben: sgiliau rheoli'r galw, yr angen i ddarparu cyngor a gwybodaeth. Ac er tegwch i'r Llywodraeth, er bod Bethan wedi sôn am gategorïau blaenoriaeth ar gyfer digartrefedd, mae gan bawb hawl i gyngor a gwybodaeth am dai, ac rwy'n credu bod llawer o'r farn mai dyna un o fanteision allweddol y ddeddfwriaeth. Mae cydweithio effeithiol yn allweddol, ac ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau hefyd, rhywbeth sy'n aml ar goll.
Mae fy amser wedi dod i ben yn awr, ond a gaf fi gymeradwyo'r model tai yn gyntaf? Mae'n sicr yn rhywbeth rydym wedi edrych arno, ac yn teimlo ei fod yn ffordd dda o symud ymlaen—. Mae'r syniad eich bod yn dechrau gydag unigolyn mewn cartref a'ch bod yn adeiladu o gwmpas hynny wedi bod yn gam allweddol ymlaen mewn rhai mannau diddorol iawn, fel y dangosodd Bethan gyda'i henghraifft yn Utah. Felly, credaf fod llawer o rinwedd mewn dilyn y llwybr hwnnw hefyd. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Rydw i am edrych ar Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a'r newidiadau sydd eu hangen. Mae David Melding wedi cyfeirio at y Ddeddf yma yn barod. Yn sicr, roedd y ddeddfwriaeth yn 2014 yn cynnwys llawer o bethau cadarnhaol. Er enghraifft, roedd hi'n ymestyn yr amser y gall unigolion ddod at awdurdod lleol pan oedden nhw o dan fygythiad o fod yn ddigartref, o 28 diwrnod i 56 diwrnod, a hefyd yn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i atal pob unigolyn rhag bod yn ddigartref. Ond, fel erioed, mae gweithredu wedi profi'n anodd, a'r wythnos yma, fe glywsom gan y swyddfa archwilio, ac yn dod i'r casgliad yma: mae awdurdodau lleol yn llwyddo, i wahanol raddau, i ymateb i'r problemau a achosir gan ddigartrefedd, ond nid oes fawr o ganolbwyntio ar atal achosion sylfaenol digartrefedd. Dywedodd 17 o'r 22 awdurdod eu bod nhw'n cael anhawster wrth drosi i'r system newydd, ac yn methu hyfforddi a rhoi sgiliau newydd i'r staff am y system newydd yma. Ac mi ddaeth y swyddfa archwilio hefyd i'r casgliad bod camau llwyddiannus gan awdurdodau lleol i atal digartrefedd wedi gostwng.
Rydw i yn ymwybodol iawn fod problemau penodol wedi codi ym Mangor, yn fy etholaeth i, er enghraifft, lle mae yna nifer cynyddol yn cysgu allan—ar y mynydd, yn aml iawn. Mae camau ar droed i ganfod ateb i'r broblem gynyddol, ac mi fyddaf i yn mynychu cyfarfod efo'r holl asiantaethau priodol—yn cynnwys cynghorwyr lleol, yr awdurdod lleol, y bwrdd iechyd a'r trydydd sector—yn yr wythnosau nesaf yma, i geisio datrysiad i'r sefyllfa benodol honno.
Mae gweithredu'r Ddeddf yn un peth, ond mae yna broblemau sylfaenol efo Deddf tai 2014 o ran beth yr oedd hi'n bwriadu ei wneud, er enghraifft y profion am flaenoriaeth angen ac am ddigartrefedd bwriadol. Mae rhaid, o dan y Ddeddf yma, cynnal y profion hynny, o ran asesu a oes gan awdurdodau lleol ddyletswydd i ddarparu tai i unigolion. Ac fe gadwyd y prawf Pereira annheg, er mwyn profi bod rhywun yn fregus. Nid yn unig cafodd o ei gadw yn Neddf 2014, mi gafodd o ei osod ar wyneb y Bil, ac mae hynny'n golygu mai Cymru ydy'r unig wlad ym Mhrydain sydd yn parhau efo'r statws yma, ac mae'n rhaid profi bod rhywun yn fregus mewn cymhariaeth â bod yn unigolyn digartref arferol. Felly, mewn gwirionedd, medrir dadlau bod deddfwriaeth ers 2014 wedi mynd â ni nôl, ac yn sicr nid yw'r profion yma yn gydnaws â'r polisi cartrefi'n gyntaf yr oedd Bethan yn sôn amdano fo.
I wneud pethau'n waeth, nid oedd rhaid i bethau fod fel hyn, achos mi oedd yna Bapur Gwyn yn 2012, a ddaeth cyn y ddeddfwriaeth, a oedd yn cynnig gwneud i ffwrdd efo'r profion yna. Mi fuasai dilyn beth oedd yn y Papur Gwyn wedi bod yn gydnaws â pholisi cartrefi yn gyntaf. Ond, am ryw reswm, dewisodd Llywodraeth Cymru beidio â dilyn y trywydd yna. Petai'r system amgen honno wedi bod ar waith, yn lle cysgu allan, gallai unrhyw unigolyn digartref ers 2014 fod wedi cael llety addas dros dro, lle byddai cyfle wedi bod i osgoi'r problemau sydd yn dod efo cysgu allan yn gyson, ac fe ellid bod wedi dod o hyd i ateb tymor hir.
Yr Alban sydd wedi bod yn cymryd yr agwedd fwyaf blaengar yn y maes yma. Yn yr Alban, nid ydy awdurdodau lleol bellach yn gorfod gweithredu'r profion yr oeddwn yn sôn amdanyn nhw, ac mae Deddf 2012 yr Alban yn rhoi hawl i unrhyw un sy'n dod yn ddigartref yn anfwriadol gael llety sefydlog. Felly, mae'n amlwg ein bod ni ymhell o'r fan y mae angen inni fod os ydym am fynd i'r afael â digartrefedd—mynd i'r afael ag o mewn gwirionedd, ac yn fwriadus ac yn bwrpasol.
Rydw i'n gwybod bod y pwyllgor cydraddoldeb yn mynd i fod yn gwneud ymchwiliad i gysgu allan, ac rwy'n edrych ymlaen at gymryd rhan yn yr ymchwiliad yna. Mae angen symud yn gyflym tuag at egwyddorion cartrefi yn gyntaf. Nid ydy cyhoeddi cynlluniau 10 mlynedd yn y cyfryngau yn ffordd ymlaen. Efallai mai'r gobaith ydy, wrth gyhoeddi hynny, na fyddai neb yn sylwi ein bod ni eisoes bron â dod i ddiwedd oes y cynllun 10 mlynedd blaenorol. Nid ydy hynny yn ddigon da. Rwy'n gobeithio y medrwn ni symud ymlaen o le'r ydym ni heddiw i gael atebion hirdymor i'r broblem barhaus yma. Diolch.
Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw'n fawr, fel y mae eraill wedi'i wneud, oherwydd mae digartrefedd a chysgu ar y stryd yn faterion o bwys mawr sydd wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar. Rydym wedi gweld rhai newidiadau yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau, ac mae angen inni werthuso'r rheini ac ystyried beth arall sydd ei angen os ydym i wneud y cynnydd rwy'n siŵr y byddai pawb yn hoffi ei weld.
Credaf fod y rhai ohonom sydd â thai sefydlog, diogel, o ansawdd da fel sylfaen ar gyfer mwynhau bywyd ohoni, fel sylfaen i fentro allan oddi arni, ym mhob agwedd ar fywyd, yn ffodus iawn o'u cymharu â rhai nad oes ganddynt sylfaen o'r fath. Dylai pawb sy'n byw yng Nghymru gael sylfaen o'r fath mewn gwirionedd, ond yn anffodus, ac yn amlwg, nid felly y bo. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, Ddirprwy Lywydd, ein bod yn troi ein meddyliau fwyfwy i edrych ar sut y darparwn dai sefydlog a diogel o ansawdd da i bawb yn ein gwlad.
Ychydig fisoedd yn ôl, euthum ar daith frecwast y Wallich yng Nghasnewydd, profiad a oedd yn addysgiadol iawn. Maent yn darparu bwyd a diodydd poeth, yn atgyfeirio at amrywiaeth o wasanaethau ar gyfer rhai sy'n cysgu ar y stryd mewn gwahanol rannau o Gymru. Yn amlwg, euthum o amgylch Casnewydd gyda hwy. Roedd yn galonogol gweld ansawdd y berthynas roeddent wedi'i meithrin â'r rhai a oedd yn cysgu ar y stryd a'r ffordd roeddent yn ymgysylltu â dinasyddion yn gyffredinol. Felly, os oedd pobl yn gweld pobl yn cysgu ar y strydoedd yn gyson dros rai dyddiau, gallent roi gwybod am hynny ar wefan. Byddai'r Wallich wedyn yn gwneud y cysylltiad ac yn darganfod pa wasanaethau y gallent eu darparu i'r bobl hynny—gan gynnwys bwyd poeth, diod boeth, dillad, lloches ar ffurf pebyll, sachau cysgu ac ati—a'u hatgyfeirio at ymarferwyr cyffredinol lleol yr oedd y Wallich wedi gwneud trefniadau â hwy; ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau eraill, gan gynnwys, wrth gwrs, ceisio eu symud tuag at y llety sefydlog a diogel o ansawdd da a fyddai'n darparu atebion hirdymor. Felly, roedd yn addysgiadol iawn, ac roedd yn dda gwybod bod sefydliadau fel y Wallich allan yno'n gwneud y gwaith gwerthfawr hwn.
Aethom o amgylch canol y ddinas. Ceir llawer iawn o broblemau yno, fel mewn rhannau eraill o Gymru y byddwn yn darllen amdanynt yn rheolaidd rwy'n siŵr—pobl yn cysgu ar y stryd, yn cardota ar y strydoedd, y problemau y mae hynny'n eu creu i bobl yn yr amgylchiadau mwyaf enbyd, ond hefyd i fywiogrwydd a chynaliadwyedd canol ein dinasoedd.
A yw'r Aelod yn fodlon ildio?
Yn bendant.
Tybed a oedd yr Aelod wedi cael unrhyw adborth ar yr ymgynghoriad y mae Cyngor Dinas Casnewydd yn ei wneud yn awr ar ryw fath o orchmynion gwasgaru ar gyfer digartrefedd ac atal y digartref rhag cysgu yng nghanol dinasoedd. Mae'n ymddangos i mi mai dyna'r dull anghywir o weithredu, yn hytrach na gweithio gyda grwpiau o bobl. Yn amlwg, mae'r Aelod am weithio gyda hwy ac mae wedi gwneud hynny yn ei etholaeth leol, ond a oes ganddo rywbeth i'w ddweud am hynny, ac a yw'n credu bod yna ffordd amgen o fynd i'r afael â'r hyn a all fod yn broblem yng nghanol dinasoedd, yma yng Nghaerdydd ac yng Nghasnewydd wrth gwrs?
Mae'n broblem ledled Cymru ac ymhell y tu hwnt i Gymru, ac mae dadl fywiog yn digwydd yng Nghasnewydd, ac mewn rhannau eraill o Gymru rwy'n siŵr, ynglŷn â beth yw'r dull gorau. Rwy'n cymryd rhan yn y ddadl honno ar hyn o bryd. Un agwedd gadarnhaol ar y mater, rwy'n meddwl, yw ardal gwella busnes Newport Now, sefydliad sy'n cynnwys llawer o fasnachwyr canol y ddinas, ac sy'n datblygu cynnig ar gyfer dargyfeirio rhodd, cynnig y credaf ei fod yn gadarnhaol iawn mewn llawer o ffyrdd ac mae'n cynnwys asiantaethau gwahanol. Felly, byddai hynny'n annog pobl i roi arian i siopau sy'n rhan o'r cynllun. Byddai ganddynt bosteri'n dangos eu bod yn rhan ohono ac yna byddai'r arian hwnnw'n mynd i asiantaethau a fyddai'n darparu mwy o gefnogaeth a chymorth i'r rhai yng Nghasnewydd sy'n cysgu ar y stryd. Dyna ddewis arall, felly, yn lle rhoi arian yn uniongyrchol i bobl ar y stryd, a allai barhau eu problemau gyda chamddefnyddio sylweddau, er enghraifft. Felly, mae yna syniadau llawn dychymyg o amgylch Casnewydd, ac fel rwy'n dweud, mae dadl fywiog yn mynd rhagddi ar hyn o bryd.
Ddirprwy Lywydd, un mater arall yr hoffwn gyfeirio ato cyn i'r amser a neilltuwyd ar fy nghyfer ddod i ben yn y Siambr yw pobl sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar. Unwaith eto, rwy'n gwybod bod trafodaeth fywiog yn mynd rhagddi ar hyn. Mae newidiadau wedi digwydd mewn perthynas â'r Ddeddf tai a gafodd wared ar flaenoriaethu awtomatig ar gyfer pobl sy'n gadael carchar, a gwn fod llawer o'r sefydliadau yn y sector yn bryderus iawn am hyn. Rwyf innau hefyd yn bryderus ynglŷn â hyn oherwydd mae'n ymddangos bod yr ystadegau'n dangos cynnydd mewn digartrefedd a chysgu ar y stryd ymhlith pobl sy'n cael eu rhyddhau o'r carchar. Credaf y gallai pawb ohonom yn hawdd ddeall canlyniadau hynny o ran mwy o droseddu, mwy o ddioddefwyr troseddau, problemau i'r bobl sy'n gadael carchar a'r gymdeithas yn gyffredinol, a chostau ychwanegol yn wir i'r pwrs cyhoeddus. Felly, os yw hynny'n wir, os yw Llywodraeth Cymru yn cytuno bod y tueddiad hwnnw wedi digwydd neu yn digwydd, yna buaswn yn gobeithio'n fawr iawn ac yn disgwyl i Lywodraeth Cymru edrych ar y broblem honno ac adolygu yr hyn a wnaed efallai, a gweld sut y gallwn ymdrin â'r problemau hynny wrth inni symud ymlaen, oherwydd credaf fod hynny'n peri pryder mawr i'r sefydliadau hynny, ac i minnau hefyd yn sicr.
Rwy'n croesawu dadl Plaid Cymru heddiw a'r cyfle i gyfrannu ati.
Nid Cymru yw'r wlad gyfoethocaf yn y byd, ond rydym yn rhan ddatblygedig o'r byd gorllewinol, ac yn un o'r economïau mwyaf a chyfoethocaf yn y byd, ac eto caiff rhai pobl eu gorfodi i fod yn ddigartref, ac mae hynny'n golygu, fel cymdeithas, ein bod oll yn methu ar un o'r pethau sylfaenol. Dyna pam y mae arnom angen llawer mwy o dosturi mewn perthynas â'r cwestiwn hwn.
Rhaid i roi diwedd ar ddigartrefedd ddod yn amcan cenedlaethol, ond mae safbwyntiau anghywir ac wedi'u gorliwio yn dal i fodoli am bobl ddigartref. Rwy'n siŵr y bydd llawer ohonoch yn cofio'r Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiynau gan Blaid Cymru ychydig cyn y Nadolig, yn dweud ei bod yn amlwg
'bod rhai pobl wedi byw ar y strydoedd ers blynyddoedd, ac i rai pobl mae'n ymddangos ei fod yn ddewis y maen nhw'n ei wneud'.
Wel, mewn gwirionedd nid wyf yn ei gofio'n ei ddweud ar y pryd, ond yn ôl ym 1988, drwy gyd-ddigwyddiad, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau a ffrind Margaret Thatcher, Ronald Reagan:
Maent yn ei wneud yn ddewis iddynt eu hunain i aros yno. Ceir llochesi ymron bob dinas, ac mae llochesi yma, ac mae'n well gan y bobl hynny fod allan ar y pafin neu'r lawnt na mynd i un o'r llochesi hynny.
A welwch chi'r tebygrwydd?
Mae llochesi'n chwarae rôl hanfodol yn atal y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd rhag cynyddu ymhellach, ond mae yna resymau cymhleth pam nad yw rhai pobl yn eu defnyddio, ac yn dewis peidio â mynd i lochesi. Mae'r rhesymau hynny'n amrywio o broblemau camddefnyddio sylweddau, euogfarnau troseddol blaenorol, i ba un a yw anifeiliaid yn cael eu caniatáu mewn llochesi a pha un ai ystafelloedd sengl neu gyfleusterau cymunedol sydd ganddynt.
Felly, sut y gallwn fynd i'r afael â phroblem digartrefedd? Bellach mae angen inni weithredu'r hyn a elwir yn bolisi tai yn gyntaf. Byddai hyn yn rhoi dewis o opsiynau i bobl sy'n cysgu ar y stryd a phobl ddigartref wrth ddod o hyd i lety parhaol.
Gan droi at y mesurau sydd ar waith i atal digartrefedd, rwyf wedi dadlau ers amser hir fod angen mwy o weithredu a mwy o uchelgais. Fis yn ôl, pan heriais y Prif Weinidog ynghylch pa gamau yr oedd yn eu rhoi ar waith mewn gwirionedd, nid oedd yn swnio'n hyderus iawn yn ei atebion. Mae'n ddiddorol nodi na soniodd ar y pryd ei fod yn bwriadu buddsoddi £10 miliwn mewn digartrefedd ymhlith pobl ifanc—cyhoeddiad a wnaed oddeutu wythnos yn ddiweddarach.
Roedd yn dda gweld bod y pwysau ychwanegol hwn wedi sicrhau'r buddsoddiad o £10 miliwn ond fel y mae pethau, mae'n swm bach iawn ac mae'n dangos diffyg uchelgais go iawn. Ni chafwyd unrhyw ymgynghori ymlaen llaw, er syndod amlwg i'r sector. Hefyd, mae'n ymddangos ei fod yn anwybyddu bodolaeth polisi a sefydlwyd ers 10 mlynedd a oedd i fod i gael gwared ar ddigartrefedd erbyn y flwyddyn nesaf. Yr hyn sydd ei angen arnom yw cynllun strategol i roi terfyn ar bob math o ddigartrefedd. Ceir rhaglenni eraill da iawn allan yno: cynlluniau mwy o faint, mwy uchelgeisiol, lle y cafwyd tystiolaeth briodol o ymgynghoriadau, yn enwedig y rhaglenni y mae rhai wedi sôn amdanynt eisoes sy'n cael eu datblygu ym Manceinion.
Rwyf am droi yn awr, er hynny, at y cwestiwn o atal digartrefedd. Rydym ni ym Mhlaid Cymru yn deall gwerth y gyllideb Cefnogi Pobl. Pan fo Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru wedi argymell dileu'r cynllun, mae Plaid Cymru wedi camu i'r adwy i'w ddiogelu. Mae bron yn draddodiad bellach ein bod wedi gorfod gwneud hyn. Cytundeb y gyllideb yn ddiweddar yw'r trydydd tro y bu'n rhaid i ni ymyrryd i sicrhau bod y llif arian gwerthfawr hwn yn cael ei ddiogelu. Beth y mae'n ei ddweud ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi gorfod gwneud hyn? Rydym wedi cael sicrwydd fel rhan o'r fargen gyllidebol ddiweddar y caiff cyllid Cefnogi Pobl ei diogelu am y ddwy flynedd nesaf. Os daw tystiolaeth i'r fei o unrhyw lithriad yn y diogelwch hwnnw, bydd hynny'n torri cytundeb y gyllideb ac yn bwysicach, yn gwneud cam â phobl sydd mewn perygl yn y wlad hon, ac nid yw'r bobl hynny'n haeddu cael eu siomi ymhellach.
Ceir newidiadau polisi y gallai'r Llywodraeth eu rhoi ar waith yn awr. Gallech roi diwedd ar angen blaenoriaethol, gallech roi diwedd ar y prawf Pereira, gallech roi diwedd ar brawf bwriad, gallech greu dyletswydd gyffredinol wedi ei hariannu i ddarparu llety addas, hyd yn oed os mai lloches addas tra doir o hyd i gartref parhaol ydyw. Mae digartrefedd yn bla yn 2018. Mae'n broblem gymdeithasol gynyddol, ac mae angen ymagwedd newydd radical ar ôl bron i ddegawd o gyni. Dylai niferoedd y bobl sy'n cysgu ar strydoedd Cymru neu sy'n byw o un soffa i'r llall godi cywilydd ar bob un ohonom. A ydym yn cywilyddio digon i wneud rhywbeth ystyrlon am y broblem?
Ni ddylai'r hyn y mae Plaid Cymru yn ei amlinellu yma heddiw swnio'n rhy radical oherwydd dyma'n union a gynigiwyd ym Mhapur Gwyn y Llywodraeth yn 2012. Rydym wedi bod yn siarad am hyn ers llawer gormod o amser bellach; mae'n bryd gweithredu o ddifrif.
Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw a diolch i Blaid Cymru am dynnu ein sylw ati. Mae digartrefedd yn yr unfed ganrif ar hugain yn foesol anfaddeuol. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau, o ran y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu, fod y galw yn bodloni'r cyflenwad. Blaengynllunio yw'r enw arno. Mae rhoi diwedd ar ddigartrefedd yn un o'r rhesymau allweddol y penderfynais ddilyn gyrfa mewn gwleidyddiaeth. Yn y gwasanaeth carchardai, gwelais lawer gormod o ddynion ifanc a oedd wedi troseddu er mwyn cael to uwch eu pennau a phrydau bwyd poeth bob dydd. Mae i unigolyn gael ei arestio am gardota yn sarhad estynedig mewn sefyllfa sydd eisoes yn anffodus i'r unigolyn.
Er bod llawer o bethau'n gallu achosi digartrefedd, y prif gyfrannwr yw diffyg tai. Nid ydym yn codi digon o gartrefi newydd, yn enwedig tai fforddiadwy a thai cymdeithasol. Mae arbenigwyr yn rhagweld bod angen inni adeiladu 12,000 o gartrefi newydd bob blwyddyn. Yn anffodus, hanner y nifer hwnnw'n unig sy'n cael eu hadeiladu. Mae'r diffyg tai wedi arwain at wneud 2,652 o aelwydydd yn ddigartref rhwng mis Ebrill a mis Mehefin y llynedd, ac arweiniodd at fygythiad o fynd yn ddigartref o fewn wyth wythnos i bron 2,000 o aelwydydd.
Ceir tua 2,000 o aelwydydd mewn llety dros dro a dros 200 o'r rheini mewn llety gwely a brecwast. Roedd 13 y cant o'r rheini mewn gwely a brecwast yn deuluoedd â phlant, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol. Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol neu dai fforddiadwy i ddiwallu'r angen hwnnw. Mae—
A ydych chi'n fodlon ildio?
Ydw.
Diolch yn fawr iawn. Rydych wedi amlinellu'r prinder o dai cymdeithasol. A allwch weld mai un o'r problemau sy'n creu'r prinder tai cymdeithasol yw'r cynllun hawl i brynu, ac a ydych yn gwrthwynebu'r cynllun hawl i brynu am y rheswm hwnnw?
Pan oedd cynllun hawl i brynu'n bodoli, rwy'n credu y dylai'r arian a gymerwyd o'r cynllun hawl i brynu fod wedi cael ei ailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol.
Mae'r teuluoedd hyn angen cartrefi ar frys, ac eto nid oes digon o dai cymdeithasol i ddiwallu'r angen hwnnw. Mae gan Lywodraeth Cymru darged i adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi fforddiadwy y flwyddyn, ac eto, tri chwarter y swm hwnnw'n unig a adeiladwyd y llynedd ac maent yn dibynnu ar y sector preifat i adeiladu dros draean o'r tai fforddiadwy yng Nghymru drwy gytundebau adran 106. Mae datblygwyr preifat yn dweud wrthym eu bod yn cael eu llesteirio rhag adeiladu mwy o gartrefi oherwydd biwrocratiaeth a system gynllunio rhy fiwrocrataidd. Mae'n dweud hefyd nad oes cyflenwad digonol o dir, a chostau ychwanegol o ganlyniad i reoliadau adeiladu a'r dulliau sydd eu hangen i adeiladu ar ddatblygiadau newydd.
Yn syml, mae Cymru yn lle llai deniadol i adeiladu tai. Rhaid i hyn newid os ydym i roi terfyn ar ddigartrefedd. Yn Lloegr, mae'r Llywodraeth wedi dechrau edrych ar dai parod i ddatrys y mater hynod bwysig hwn. Mae'n ateb cyflym a rhad i fynd i'r afael â phrinder tai. Y defnydd o dai parod a helpodd i fynd i'r afael â phrinder tai ar ôl y rhyfel. Mae tai modiwlar parod modern yn llawer mwy datblygedig na thai parod y gorffennol. Gellir eu hadeiladu ar safleoedd tir llwyd, yn amodol ar sicrhau arolygon cywir o'r tir hwnnw. Gellir eu trawsnewid â deunyddiau ecogyfeillgar sy'n defnyddio ynni'n effeithlon iawn, gan arbed arian ar drydan a chostau gwresogi i berchnogion cartrefi. Maent yn hyblyg a gellir eu teilwra i ateb anghenion perchennog y cartref, a gellir ailgyflunio rhai mathau o gartrefi modiwlar er mwyn diwallu anghenion yn y dyfodol. Gellir adeiladu cartref dwy ystafell wely am oddeutu £50,000 a gellir ei godi mewn diwrnod. Pam rydym yn oedi? Cartrefi pecyn fflat a safleoedd tir llwyd yw'r ateb.
Fel person sy'n angerddol am fy ngwlad, ni fuaswn yn cynrychioli Cymru na'i phobl na'r bobl ddigartref pe na bawn yn tynnu sylw at y sefyllfa ganlynol o fywyd go iawn. Siaradodd gŵr bonheddig o Abertawe â mi am ei sefyllfa argyfyngus. Roedd ef a'i wraig, yn 63 oed, yn byw mewn car. Roedd wedi cael ei ddiswyddo ac wedi cael swm bach o arian—heb fod yn ddigon i dalu ei forgais. Roeddent yn byw ar yr arian a gafodd wrth gael ei ddiswyddo ac wedi gwneud ymholiadau ynghylch tai cymdeithasol. Roedd wedi ymgeisio am oddeutu 120 o swyddi. Ni ddaeth dim o hynny. Fe werthodd ei dŷ, ond nid oedd unrhyw elw, ac ar y diwedd ni allai gael tŷ cymdeithasol. Eglurodd eu bod wedi eu gadael i fyw mewn car ac roedd ei wraig yn dioddef o osteoporosis. 'Rydym wedi cael ein gadael ar ôl', meddai. 'Rhoesom ein trethi'n barod, ond pan oeddem mewn angen, ni chawsom ddim. Fe'n gadawyd i fyw ac i farw yn ein car.'
Hefyd, os yw unigolyn sy'n cael ei ryddhau o'r carchar heb unrhyw le i fynd, nid yw hynny ond yn eu helpu i fynd yn ôl i'r gymuned y daethant ohoni, ac aildroseddu o bosibl. Wrth wrando ar hyn, mae'n rhaid bod blaenoriaeth. Hyd nes y byddwn wedi dileu digartrefedd yng Nghymru a thrin pobl fel cyn-filwyr ein lluoedd arfog drwy roi parch a thai iddynt ar ôl iddynt ddychwelyd, ni allwn ddweud o ddifrif y gallwn ddal ein pennau'n uchel. Diolch.
Rydym i gyd yn y Siambr yma yn ymwneud â'r gwaith o ddatblygu polisi. Efallai bod yna ddyhead, efallai bod yna broblem rydym yn ceisio ei datrys, efallai y down o hyd i ateb weithiau, ond mae'r cwestiwn, 'Ie, ond faint mae o yn ei gostio?', yn anochel yn cael ei ofyn ac, yn aml, mae gen i ofn ei fod yn cael ei ofyn fel ffordd i atal gweithredu polisi newydd o bosibl. Ond, oes, mae yna gost ynghlwm â'r rhan fwyaf o bethau. Mae'r rhan fwyaf o feysydd polisi yn cynnwys rhyw fath o gydbwysedd rhwng costau ychwanegol a faint gaiff ei arbed, ac edrych ar bob opsiwn sy'n bwysig. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys edrych ar y gost o wneud dim. Ac mae hynny'n sicr yn wir ym maes digartrefedd.
Mae digartrefedd yn costio biliynau o bunnau i wasanaethau cyhoeddus. Mae budd-dal tai sy'n cael ei dalu am loches dros dro yn costio rhyw £2 biliwn yn y Deyrnas Gyfunol yn flynyddol. Mae rhai'n dadlau y byddai'r ffigur hwnnw ynddo'i hun yn ddigon i dalu am lefydd parhaol i gysgu rhai sy'n gorfod cysgu ar y stryd ar hyn o bryd. Wedyn, mae costau i'r NHS a'r gwasanaethau cymdeithasol, y system gyfiawnder troseddol, costau gweinyddol i awdurdodau lleol a phob mathau o sefydliadau eraill sy’n gorfod delio â chanlyniadau rhywun yn mynd yn ddigartref.
Wedyn mae yna gostau anuniongyrchol, methiant cyrraedd potensial addysgol, colli incwm drwy drethiant wrth i bobl golli eu swyddi am eu bod yn ddigartref. A beth am y costau i fusnesau lleol, sy’n ffeindio bod eu trefi nhw yn anneniadol oherwydd diffyg cefnogaeth i bobl sy’n cysgu ar y stryd? Mae’r costau ar draws cymaint o feysydd.
Yn lle gofyn faint y mae mesurau i fynd i'r afael â digartrefedd yn costio, dylem fod yn gofyn faint y mae digartrefedd ei hun yn costio. Mae'r holl ymchwil, yr holl waith modelu ariannol a wnaed ar hyn, yn dod i gasgliadau eithaf trawiadol. Mae bob amser yn rhatach i atal digartrefedd na gadael iddo ddigwydd. Mae bob amser yn rhatach i ddatrys digartrefedd yn gyflym na gadael iddo barhau. Po hiraf y bydd rhywun yn ddigartref, y mwyaf y bydd costau'n codi a bydd anghenion cymorth yn cynyddu. Mae'n rhatach fel arfer i gartrefu a darparu cymorth ar gyfer yr unigolion mwyaf problemus—wyddoch chi, yr unigolyn ystrydebol sy'n gaeth i gyffuriau gydag anghenion cymhleth—nag yw hi i adael iddynt gysgu ar y stryd.
Mae'r ymchwil ar hyn wedi bod yn helaeth iawn, cymaint felly fel y byddai'r Unol Daleithiau—gwlad nad yw'n enwog o bosibl am ei rhwyd ddiogelwch gymdeithasol hael—wedi dod i'r casgliad mai cefnogi prosiectau tai yn gyntaf yw'r ffordd ymlaen, gan gofio bod costau digartrefedd sy'n gysylltiedig ag iechyd yn is yn yr Unol Daleithiau, gan fod yr hawliau i ofal iechyd i rai heb yswiriant lawer yn is. Ond dangoswyd hyn yn dda iawn gan yr awdur Malcolm Gladwell a adroddodd stori un unigolyn digartref, Murray, y dyfynnwyd yr heddlu lleol yn dweud amdano,
Mae'n costio miliwn o ddoleri inni beidio â gwneud rhywbeth am Murray.
Daeth i'r casgliad fod rhoi fflatiau a chymorth i bobl ddigartref yn rhatach na pheidio â chartrefu pobl. Ceir astudiaethau academaidd i gefnogi hynny. Olrheiniodd astudiaeth gan Raglen Gofal Iechyd i'r Digartref yn Boston 119 o'u cleientiaid a oedd yn gyson ddigartref a gwelodd fod pob un ohonynt wedi cael ei dderbyn i'r ward argyfwng 36 gwaith y flwyddyn ar gyfartaledd.
Yn agosach at adref, modelodd Crisis bedair senario a chyfrifo costau datrys pob achos yn erbyn costau peidio â'u datrys a gadael i rywun fynd yn ddigartref. Ym mhob un o'r achosion hynny, roedd yr arbedion yn sgil atal neu ddatrys digartrefedd yn gyflym yn gorbwyso costau gadael iddo ddigwydd o leiaf 3:1 a hyd at gymaint â 14:1.
Bydd manteision ariannol atal digartrefedd wedi eu gwasgaru ar draws y sector cyhoeddus, ond er bod Llywodraeth Leol yn cyfranogi o'r arbedion hynny, mae'n bwysig nodi mewn gwirionedd fod y gost ariannol gychwynnol ar gyfer atal a datrys digartrefedd yn gyflym yn syrthio ar awdurdodau lleol a'r system nawdd cymdeithasol i raddau helaeth. Felly, rhaid inni gydnabod bod rhaid cynorthwyo awdurdodau lleol i atal digartrefedd. Mae arnaf ofn na fydd torri eu cyllidebau'n gweithio; dyna pam, er enghraifft, y mae Plaid Cymru, fel y clywsom gan Leanne Wood, wedi rhoi blaenoriaeth i'r grant Cefnogi Pobl yn y trafodaethau ar y gyllideb ar dri achlysur gwahanol.
A wnewch chi ildio?
Yn bendant.
A ydych yn rhannu fy mhryder fod Llywodraeth Cymru, ar 24 Hydref, wedi ysgrifennu at brif weithredwyr yr awdurdodau lleol yn dweud y byddant yn darparu hyblygrwydd ariannu o ran Cefnogi Pobl, gyda saith yn cael 100 y cant o hyblygrwydd ariannu a'r gweddill yn cael 15 y cant o hyblygrwydd ariannu? Felly, fel y mae pethau, os yw'r gyllideb yn pasio fel yr argymhellwyd, nid oes unrhyw glustnodi arian.
Yn sicr, rwy'n ymwybodol iawn o'r pryder yn y sector yn awr ynglŷn â sut y gallant ddefnyddio'r arian a ddiogelwyd. Nawr, mater i'r Llywodraeth yw dangos ei bod yn gwrando ar y sector hwnnw drwy roi hyblygrwydd iddynt wario'r arian fel y mynnant.
Rwy'n dod i ben. Digon yw digon mewn gwirionedd. Gadewch inni beidio â gadael i drasiedi ddynol cysgu ar y stryd ddigwydd yn syml oherwydd na all gwahanol haenau o Lywodraeth weithio gyda'i gilydd. Ni all fod yn iawn gadael i'r trethdalwr dalu costau digartrefedd yn syml oherwydd bod y costau hynny wedi eu gwasgaru ar draws y sector cyhoeddus. Rwy'n credu bod egwyddor tai yn gyntaf yn cynnig ffordd ymlaen. Cawn ein hatgoffa dro ar ôl tro yn y cyfnod anodd hwn fod ein dewisiadau gwario yn gyfyngedig. Wel, ar adegau mor anodd â hyn, ni allwn fforddio peidio â gweithredu ar ddigartrefedd, a hynny oherwydd bod digartrefedd ei hun yn costio gormod.
Diolch. Julie Morgan.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, am alw arnaf i siarad yn y ddadl bwysig hon. A diolch yn fawr iawn i Blaid Cymru am godi'r materion pwysig hyn, oherwydd rwy'n credu bod llawer o gonsensws trawsbleidiol ar y materion penodol hyn. Rwy'n falch iawn o gefnogi'r gwelliant yn enw Julie James, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried diddymu angen blaenoriaethol, a hefyd i symud tuag at ddull cynhwysfawr o ddod â digartrefedd i ben sy'n cynnwys polisi tai yn gyntaf. Felly, credaf fod llawer iawn o gonsensws, mewn gwirionedd, ynglŷn â'r ffordd y dylem fynd.
Credaf y dylem ganmol Llywodraeth Cymru am ei hymdrechion i fynd i'r afael â digartrefedd yn Neddf Tai (Cymru) 2014, oherwydd credaf ei bod wedi gwneud gwahaniaeth. Yn amlwg mae gennym yr adroddiad archwilio yn awr i edrych yn fanwl arno er mwyn gweld beth fydd yr effeithiau gwirioneddol, ond mewn rhai awdurdodau lleol, credaf fod canlyniadau cadarn i'w gweld o ran gallu bwrw iddi'n gynnar a gweithio i atal digartrefedd.
Rwyf hefyd yn croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi diogelu'r grant Cefnogi Pobl, oherwydd fel y gwyddom, ac fel rydym wedi dweud yn y ddadl hon, mae gan bobl ddigartref anghenion cymhleth, sy'n llawer mwy na chael to uwch eu pennau'n unig, ond rhaid i chi ddechrau gyda tho, a dyna pam y byddem yn awyddus i gefnogi'r polisi tai yn gyntaf. Hefyd, rwy'n croesawu'r £2.6 miliwn ychwanegol, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â chysgu ar y stryd, digartrefedd ymhlith pobl ifanc ac iechyd meddwl a digartrefedd, yn ogystal â chyllid cyfalaf cynyddol ar gyfer capasiti darpariaeth frys yn y nos ar gyfer Caerdydd, Casnewydd, Wrecsam ac Abertawe.
Fodd bynnag, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn trafod beth yw'r ddarpariaeth frys briodol, a soniodd Leanne am hyn yn ei haraith. Yn sicr yng Nghaerdydd, ymddengys bod cynnydd mawr wedi bod mewn digartrefedd ar y stryd. Ond anfonodd Lynda Thorne, yr aelod cabinet dros dai yng nghyngor Caerdydd, neges allan ar 29 Rhagfyr fod 60 o leoedd ar gael ar gyfer pobl sy'n cysgu ar y stryd ar un noson benodol a chwech lle yn unig a gymerwyd. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y mae'n ei ddangos yw'r rhesymau pam y mae llawer o bobl sy'n cysgu ar y stryd yn teimlo na allant fanteisio ar leoedd mewn llochesi a llety brys, oherwydd ofnau'n ymwneud â chamddefnyddio sylweddau, rwy'n credu. Soniodd Leanne am y mater ynghylch anifeiliaid ac os oes gennych bartner, pa fath o lety a gynigir. Credaf fod nifer fawr o resymau pam fod pobl weithiau'n teimlo na allant fanteisio ar y cyfle i gael lloches. Felly, credaf o ddifrif fod angen dadl ar sut y gallwn ddarparu llety priodol ar gyfer yr holl bobl sydd ar y stryd.
I symud ymlaen at y rhestr flaenoriaethol a'r bobl a gategoreiddir fel rhai ag angen blaenoriaethol, yn amlwg mae hyn yn cynnwys pobl sydd â phlant dibynnol, menywod beichiog, pobl hŷn, pobl anabl, rhai 16 a 17 mlwydd oed, rhai 18 - 21 sy'n gadael gofal a llawer o rai eraill. Rwyf am sôn hefyd am garcharorion, y soniodd John Griffiths amdanynt yn ei araith, oherwydd mai cyn-garcharorion gyda chysylltiad lleol â'r ardal ac sy'n agored i niwed o ganlyniad i fod yn gyn-garcharor yw'r meini prawf ar gyfer cyn-garcharorion. Wrth gwrs, yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, fe newidiwyd hyn gennym mewn gwirionedd a chredaf ei fod yn fater o bryder mawr ei bod hi'n ymddangos bod peidio â bod yn angen blaenoriaethol yn awtomatig wedi esgor ar ganlyniadau gwael i garcharorion. Rwy'n siŵr fod llawer ohonom wedi gweld adroddiad Estyn ar garchar Abertawe a gyhoeddwyd ychydig wythnosau'n ôl, ac a ganfu nad yw hanner y carcharorion sy'n cael eu rhyddhau yn cael eu hanfon i lety cynaliadwy. Mae'r adroddiad yn dweud yn eu barn hwy fod y canlyniadau i garcharorion ym maes ailsefydlu wedi suddo i 'gwael', sef y categori isaf posibl, ac roedd yn dweud y gallai polisi Llywodraeth y Cynulliad o beidio â rhoi blaenoriaeth ar restrau tai i garcharorion a ryddhawyd fod wedi cyfrannu at y canlyniad hwn.
Felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ni edrych eto ar garcharorion. Nid wyf yn gwybod a oes gan y Llywodraeth unrhyw ymchwil y mae wedi ei wneud ei hun sy'n dangos bod ymdrechion i ailgartrefu carcharorion, er nad ydynt yn flaenoriaeth yn y ffordd yr oeddent, wedi arwain at rywfaint o lwyddiant, ond yn sicr mae'r dystiolaeth i'w gweld yn dynodi nad oedd hwn yn newid polisi llwyddiannus. Felly, buaswn yn gofyn i'r Llywodraeth edrych ar hynny eto, a chredaf y dylem symud at sefyllfa lle rydym yn chwilio am dai yn gyntaf ac na ddylem gael categorïau blaenoriaethol mwyach.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Tai ac Adfywio, Rebecca Evans?
Diolch, ac rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw yn fawr iawn. Yn amlwg, mae pawb ohonom eisiau rhoi diwedd ar ddigartrefedd, ac rydym yn gwybod mai atal yw'r ffordd orau o gyflawni hyn. Credaf fod Rhun ap Iorwerth wedi rhannu tystiolaeth gadarn ynglŷn â pham fod y dull ataliol fel blaenoriaeth yn gwneud synnwyr. Mae ein dull blaengar sy'n canolbwyntio ar atal yn cyflawni llawer, ond rydym yn wynebu galw cynyddol, i raddau helaeth, rhaid i mi ddweud, o ganlyniad i ddiwygio lles Llywodraeth y DU. Gwyddom fod mwy a mwy o bobl yn troi at awdurdodau lleol am help, ac rydym i gyd wedi gweld y cynnydd sy'n peri pryder yn nifer y bobl sy'n gorfod cysgu ar ein strydoedd.
Mae'r ddeddfwriaeth arloesol yn Neddf Tai (Cymru) 2014 wedi cyflwyno dyletswyddau i helpu i atal a lliniaru digartrefedd. Ac ni ellir dadlau ei fod wedi cael effaith ddramatig. Erbyn diwedd Medi, roedd 12,912 o bobl wedi cael cymorth i osgoi digartrefedd. Mae'n bwysig cydnabod, o dan ein deddfwriaeth, nad yw angen blaenoriaethol yn gymwys mwyach pan fydd pobl yn ceisio cymorth os ydynt yn wynebu risg o ddigartrefedd. Mae'r dyletswyddau atal digartrefedd, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddod o hyd i atebion tai, yn berthnasol i bawb yn gyfartal.
Hoffwn hefyd bwysleisio mai un agwedd yn unig ar ddigartrefedd yw cysgu ar y stryd er mai dyna'r agwedd fwyaf gweladwy. Yn ôl rhai amcangyfrifon, am bob unigolyn sy'n cysgu ar ein strydoedd, gallai fod cynifer â 30 neu ragor o bobl sydd fel arall yn ddigartref, mewn llety dros dro neu'n byw o un soffa i'r llall. Mae'n bwysig fod unrhyw benderfyniadau yn ystyried yr angen i sicrhau bod digon o lety dros dro o safon ddigonol. Mae ein deddfwriaeth yn anelu at newid hirdymor a chynaliadwy, ac rydym yn cynorthwyo gwasanaethau cyngor tai i weithio mewn ffordd gyfannol er mwyn helpu i ddod o hyd i atebion i'r angen am dai.
Fel roedd adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ddoe 'Sut mae llywodraeth leol yn rheoli galw—digartrefedd' yn cydnabod, nid yw newid diwylliannol o'r fath yn digwydd dros nos, ac rwy'n ddiolchgar i David Melding am amlinellu canfyddiadau allweddol ac argymhellion yr adroddiad, y byddaf yn ei drafod gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Mae llu o resymau cymhleth pam y mae pobl yn cysgu ar y stryd, ac fel arfer maent yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a ffactorau strwythurol, a chlywsom amdanynt yn y ddadl. Hoffwn gadarnhau i'r Aelodau ein bod yn bwrw ymlaen â'n cefnogaeth ar gyfer tai yn gyntaf, a bydd yn elfen allweddol yn ein polisi i leihau achosion o gysgu ar y stryd. Yn dilyn cynhadledd ar bolisi, a noddodd Llywodraeth Cymru gyda Phrifysgol Caerdydd fis Ebrill diwethaf, rydym yn ariannu nifer o wasanaethau tai yn gyntaf. Cefnogir y rhain gan rwydwaith a gydlynwyd gan Cymorth. Byddwn yn comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r gwaith hwn yn ddiweddarach eleni.
Y gwanwyn hwn, byddaf yn derbyn adroddiadau ar yr ymchwil rydym yn ei ariannu ar effaith Rhan 2 o'r Ddeddf tai. Byddaf hefyd yn cael adroddiad gan Shelter Cymru ar ymchwil i brofiadau pobl sy'n cysgu ar y stryd, a bydd hwn yn rhoi tystiolaeth i ni ynglŷn â sut y gallwn wella canlyniadau i bobl sy'n agored i niwed.
Mae mynd i'r afael â digartrefedd yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon, ac rydym yn cefnogi ein polisi gydag arian, gan gynnwys £2.6 miliwn yn ychwanegol yn ystod eleni. Mae ein cyllideb ar gyfer y ddwy flynedd nesaf yn cynnwys £10 miliwn ychwanegol ar gyfer digartrefedd ym mhob blwyddyn, ac mae hyn yn rhoi £6 miliwn y flwyddyn i mewn i setliad refeniw llywodraeth leol, ac rwy'n disgwyl i'r cyllid hwn gryfhau gwasanaethau atal statudol.
A ydych chi'n fodlon ildio?
Ydw.
Un o'r cyfryngau pwysicaf ar gyfer atal digartrefedd yw'r gyllideb Cefnogi Pobl, a byddwch wedi clywed gan bobl yn y sector am eu pryderon ynglŷn â rhoi diwedd ar glustnodi'r gyllideb honno. A wnewch chi gydnabod y pryderon hynny heddiw a chytuno i barhau i glustnodi'r arian, a hefyd a wnewch chi gytuno i sicrhau y ceir llinell wariant ar wahân yn y gyllideb ar gyfer cyllid Cefnogi Pobl fel bod modd olrhain lle mae'n mynd yn y dyfodol?
Wel, rwy'n credu bod achos clir dros greu ffrydiau ariannu mwy o faint a mwy hyblyg sy'n lleihau biwrocratiaeth ac yn cynnal cyfunioniadau mwy strategol i'r rhaglen i ddiwallu anghenion lleol, ond yn yr un modd, rhaid i mi ddweud ei bod yn bwysig iawn cydnabod na wnaed unrhyw benderfyniad terfynol. Mae gennym brosiectau braenaru sy'n edrych ar beth y byddai'r grant mwy hwnnw yn ei olygu yn ymarferol, a cheir yr hyblygrwydd ariannu y cyfeiriodd Mark Isherwood ato hefyd mewn mannau eraill. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw y byddaf yn gwneud penderfyniad pan gawn ganlyniadau'r prosiect braenaru, ac ni chaf fy ngwthio i wneud penderfyniad hyd nes y bydd gennyf y dystiolaeth o fy mlaen i mi allu asesu beth sy'n bwysig. Yr hyn sy'n bwysig i mi yw canlyniadau i bobl sy'n agored i niwed.
Bydd y £4 miliwn arall yn galluogi ein rhaglen grantiau atal digartrefedd i adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac fel rydym wedi trafod yn y ddadl hon eisoes, bydd £10 miliwn pellach yn 2019-20 ar gyfer digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Bydd hyn yn cefnogi ein hymrwymiad i weithio gydag ymgyrch End Youth Homelessness. A hoffwn ddweud, o ran sut y gwerir yr arian hwnnw, cafwyd cyfarfod rhwng swyddogion a rhanddeiliaid o'r sector gwirfoddol a llywodraeth leol y bore yma a gasglodd rai safbwyntiau cynnar iawn ar sut y gellid gwario'r arian hwnnw, gan mai cyllid ar gyfer 2019-20 ydyw wrth gwrs. Cyflwynwyd nifer o syniadau o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw heddiw, ond rwyf yr un mor awyddus yn bersonol i wrando ar safbwyntiau pobl ifanc ddigartref, fel y gwneuthum yn ddiweddar pan ymwelais â phrosiect digartrefedd ymhlith pobl ifanc Abertawe. Felly, rwy'n gwrando ar syniadau da o ble bynnag y dônt, a gwn y bydd Aelodau yn y Siambr hon hefyd â syniadau ynglŷn â beth sy'n rhaid ei wneud i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Felly, byddaf yn cyhoeddi cynlluniau pellach ar gyfer fy mholisi digartrefedd ddechrau mis Chwefror, gyda'r bwriad o wneud datganiad ar lafar, a byddaf yn rhoi fy ymrwymiad i'r Siambr hon fod mynd i'r afael â digartrefedd yn flaenoriaeth drwy gydol y flwyddyn i mi, nid rhywbeth y soniwn amdano adeg y Nadolig yn unig, fel sydd wedi cael ei ddweud unwaith neu ddwy yn ystod y ddadl hon. Buaswn yn disgwyl i'r Aelodau fy nwyn i gyfrif ar hynny.
Rydym yn parhau i gefnogi gwasanaethau rheng flaen, gan gynnwys allgymorth, llochesau nos, cynlluniau bond, cyfryngu teuluol a chyngor tai, ac fel rwy'n dweud, rydym wedi cynnal ein buddsoddiad ar gyfer Cefnogi Pobl am ein bod yn cydnabod ei bwysigrwydd yn atal digartrefedd. Rydym yn buddsoddi'r lefel uchaf erioed o arian yn ystod y tymor hwn: bydd £1.3 biliwn i gefnogi'r sector tai a'r 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol y byddwn yn eu darparu, y cynnydd yn nifer y tai a adeiladwn a rhoi diwedd ar yr hawl i brynu, buddsoddi mewn tai arloesol, sy'n ateb rhai o'r meysydd a ddisgrifiwyd gan Caroline Jones yn ei chyfraniad, a gweithio hefyd gyda'r sector rhentu preifat i gyd yn help i sicrhau bod gan aelwydydd fynediad at dai diogel o ansawdd ar draws y gwahanol fathau o ddeiliadaethau.
Felly, credaf ei bod yn iawn inni fod yn falch o'n cynnydd, ond rydym hefyd yn cydnabod ei derfynau, a rhaid inni edrych yn awr i weld sut y gallwn ddarparu diogelwch pellach i rai mewn angen. Dyna pam rwy'n croesawu'r cynnig heddiw ar angen blaenoriaethol. Mae gennyf gydymdeimlad go iawn â'i fwriad ac rwy'n cytuno â'r bwriad hwnnw. Rwyf wedi cynnig gwelliant sy'n ymrwymo i adolygiad llawn o angen blaenoriaethol gan fy mod eisiau deall y goblygiadau a phrofi am unrhyw ganlyniadau anfwriadol, a bydd y gwaith hwn yn ystyried yn llawn y manteision posibl i bobl sy'n agored i niwed yn ogystal â sut y gellid rheoli unrhyw newid mewn asesiad realistig o'r adnoddau sydd ar gael. Bydd swyddogion yn edrych ar y mater gyda'u cymheiriaid yn yr Alban a hefyd gyda'n hawdurdodau lleol yma yng Nghymru.
Nid wyf yn cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, er fy mod yn cydnabod y consensws a fu ar y mater hwn yn y Siambr heddiw ac ar adegau eraill. Y rheswm am hynny yw fy mod yn credu y byddai'r comisiwn hollbleidiol yn oedi'r gwaith sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru eisoes. Er enghraifft, rydym eisoes yn datblygu cynllun gweithredu cenedlaethol ar gysgu ar y stryd yn seiliedig ar waith gyda phartneriaid, a bwriadaf ddweud rhagor am hyn yn y dyfodol agos iawn.
Mae ein hymrwymiad i fynd i'r afael â digartrefedd yn seiliedig ar gyllid sylweddol ac arbenigedd amlasiantaethol traws-sector. Mewn gwirionedd, y dull partneriaeth ymarferol hwn yw'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'r gwaith y mae pawb ohonom yn cytuno bod angen ei wneud. Ond yn y cyfamser, buaswn yn annog y Ceidwadwyr i ymuno â ni i bwyso ar Lywodraeth y DU i atal y newidiadau lles y gwyddom eu bod yn gyrru llawer o'r cynnydd mewn digartrefedd.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Bethan Jenkins i ymateb i'r ddadl?
Diolch i chi, a diolch i bawb am gyfrannu. Roeddwn yn meddwl ei bod yn ddadl ystyriol a diddorol. Fe ddechreuaf gyda'r hyn rwy'n cytuno ag ef: yr hyn a ddywedodd y Gweinidog mewn perthynas â'r comisiwn. Rwy'n cytuno na fyddai angen unrhyw oedi wrth weithredu gwaith yn y dyfodol ar y maes hwn, ac o glywed yr hyn a ddywedodd David Melding mewn perthynas â thai yn gyntaf, beth sydd o'i le ar fwrw iddi yn awr ar hynny? Mae gennym lawer o gomisiynau a llawer o lefydd i siarad yng Nghymru, a chredaf ei fod yn ymwneud â rhoi'r syniadau hynny ar waith yn awr. Felly, roedd yn braf clywed eich cefnogaeth yn hynny o beth.
Yr hyn na chlywais gydag argyhoeddiad gan y Gweinidog, mae arnaf ofn, yw'r mater sy'n ymwneud â chlustnodi arian Cefnogi Pobl. Clywsom Leanne Wood yn ymyrryd ac yn gofyn i chi a oeddech wedi penderfynu clustnodi. Cawsoch eich gwthio i egluro ond rydych yn dal i fod heb benderfynu. A chredaf y byddai'r rhai yn y sector a ninnau ar y meinciau hyn yn bryderus ynglŷn â hynny, oherwydd o ble rwy'n eistedd—neu'n sefyll ar hyn o bryd—dyna pam y cytunasom i'r cytundeb hwnnw ar y gyllideb, gan wybod bod y sector wedi dweud yn benodol fod angen inni glustnodi'r arian hwnnw. Gallwn sôn am effeithiolrwydd rhaglenni a phethau felly, ond mae clustnodi hwnnw'n gwneud synnwyr o ran gallu sicrhau bod yr arian yn mynd i'r mannau cywir. Rydym yn gwybod o brofiad mewn mannau eraill, os caiff ei roi mewn cyllideb gyffredinol, gallai gael ei ddefnyddio mewn mannau eraill, a gallai wedyn—mae gennyf y gair Cymraeg yn fy mhen, glastwreiddio—gallai leihau effaith y bwriad polisi. Felly, bydd yn rhaid inni fynd ar drywydd hyn unwaith eto, mae arnaf ofn.
Clywaf yr hyn a ddywedodd David Melding mewn perthynas ag adroddiad yr archwilydd cyffredinol a'i fod yn faes heriol, a chredaf y dylai pawb ohonom ddarllen yr adroddiad hwnnw ac ystyried y materion cymhleth hynny sy'n gorgyffwrdd, yn enwedig mewn perthynas â Deddf cenedlaethau'r dyfodol.
O ran cyfraniad Siân Gwenllian, rwy'n falch y bydd cyfarfod yng Ngwynedd i edrych ar rai o'r atebion hyn mewn perthynas â chysgu ar y stryd. Mae'n dangos ein bod yn rhoi dull rhagweithiol ar waith, eich bod chi fel Aelod Cynulliad lleol yn ceisio mynd i'r afael â hynny'n uniongyrchol.
Mewn perthynas â'r hyn a ddywedodd John Griffiths, nid wyf byth yn amau eich ymrwymiad i'r mater hwn ac rwy'n falch y bydd y pwyllgor yn edrych ar gysgu ar y stryd, ond nodaf yr hyn a ddywedodd Simon Thomas o ran ei ymyriad a'r ffordd y gallai Cyngor Dinas Casnewydd wasgaru pobl ddigartref yng nghanol Casnewydd. Fe fyddwch yn gwybod bod Jeremy Corbyn wedi ymosod ar y cyngor Torïaidd am wneud yn union hynny yn ddiweddar iawn, felly efallai y dylai fod gennym ymagwedd gyson. Os yw hyn yn mynd i ddigwydd mae'n beth drwg lle bynnag y mae'n digwydd a dylid ei gondemnio fel y cyfryw. Ac rwyf wedi cymryd rhan yn rhai o'r profiadau hynny, ac rwy'n credu bod peth o'r gwaith arloesol gan y Wallich yn rhywbeth y dylem roi ystyriaeth lawer mwy difrifol iddo.
Unwaith eto, soniodd Leanne am dai yn gyntaf a'r rhestr o opsiynau y gallai eu darparu, a Cefnogi Pobl a'r ymyriadau a wnaethom fel plaid—y trydydd tro i ni ymyrryd i geisio sicrhau bod yr arian hwnnw wedi'i glustnodi. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn dweud hynny dro ar ôl tro.
Soniodd Caroline Jones am garcharorion a chyn-garcharorion, fel y gwnaeth Julie Morgan, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn dileu'r angen blaenoriaethol am yr union reswm hwnnw. Mae angen inni sicrhau, pan fydd pobl yn disgyn allan o angen blaenoriaethol y gallant hwythau hefyd gael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ein cymdeithas. Soniodd Julie Morgan hefyd, rwy'n credu, am neges destun a anfonodd un o gynghorwyr Llafur at bobl ynglŷn â lloches. Tybed faint o bobl na lwyddodd i'w gweld o bosibl am nad oedd ganddynt y dechnoleg briodol, a gafodd y neges ei hanfon dros y ffôn, a sut y gellir gwneud hynny mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Nid wyf eisiau ei wneud yn ormod o fater gwleidyddiaeth plaid, ond fe ddarllenais ar y pryd fod un cynghorydd yn dweud wrth bobl am beidio â phrotestio, ond i gymryd rhan mewn ymgyrch elusennol. Wel, nid wyf yn meddwl bod digartrefedd yn fater o naill ai/neu. Os yw pobl am brotestio oherwydd bod y materion hyn yn bethau y maent yn teimlo'n angerddol yn eu cylch, dylent allu gwneud hynny, yn ogystal â helpu Shelter a Wallich a pha gorff bynnag arall sydd allan yno. Ac nid wyf yn credu ei fod yn sylw defnyddiol iawn i fod wedi ei wneud ar y pryd.
Soniodd Rhun am y costau wrth gwrs, a chredaf ei fod wedi dweud yn huawdl iawn fod goblygiadau costau digartrefedd yn gorbwyso'r manteision yn helaeth, felly mae angen rhoi arferion ataliol a chamau ataliol ar waith fel y bydd yn costio llai yn y tymor hir, ac mae defnyddio'r enghreifftiau nid yn unig o America ond o adref yn dangos y gellir gwneud hynny.
Credaf mai'r hyn sydd gennym yma heddiw yw ymrwymiad gan bawb i ddangos bod hyn yn flaenoriaeth, ond mae angen inni roi'r gwaith hwnnw ar y gweill ar y cyd, a gobeithio bod hynny'n rhywbeth y gall pawb ohonom ei wneud. Hefyd, credaf y dylem ystyried sut rydym yn ymgysylltu â'r bobl sy'n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd, ac sydd ar ein strydoedd ar hyn o bryd. Roeddwn yng Nghaerdydd yr wythnos o'r blaen a rhoddais rywfaint o fwyd i unigolyn digartref, a chyn gynted ag y'i rhoddais iddo, daeth plismon a'i symud o'r ganolfan siopa dan sylw. Os ydym yn mynd i'w symud, rwy'n credu bod angen inni sicrhau ein bod yn gwybod i ble maent yn mynd, ac nad ydynt yn mynd i rywle a allai fod yn fwy niweidiol iddynt yn y tymor hir o bosibl. Diolch yn fawr iawn.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, symudaf ymlaen yn syth at y cyfnod pleidleisio. Iawn, mae hynny'n iawn.