Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 16 Ionawr 2018.
Yr hyn sy'n fy mhoeni i efo hwn ydy y gallai Cymru droi yn hafan ar gyfer syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt. Mae'r Alban wedi gwahardd, mae San Steffan efallai yn mynd i wahardd, ond mae Cymru ar ei hôl hi yn y fan hyn, er gwaethaf y ffaith bod arweinydd Prydeinig eich plaid chi o blaid gwaharddiad. Felly, beth yn union sydd yn eich dal chi nôl, ac onid camgymeriad oedd cymysgu dau beth yn yr ymgynghoriad? Onid yw hi'n fater syml o ddod â gwaharddiad ar anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau i mewn, ac wedyn edrych ar beth sydd angen ei wneud o ran yr arddangosfeydd mewn ardaloedd gwledig ac yn y blaen?