Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 16 Ionawr 2018.
Na. Rwy'n credu bod beth sydd wedi cael ei wneud yn yr ymgynghoriad yn iawn, ac wrth gwrs, rydym ni'n moyn symud ymlaen. Nid ydym ni ddim yn moyn bod yn hafan. A gaf i jest ddweud hynny wrth yr Aelod? Nid ydym ni'n moyn bod yn hafan lle mae anifeiliaid gwyllt yn gallu dod i Gymru er bod yna waharddiad yng ngwledydd eraill y Deyrnas Unedig, a hyd yn oed Gweriniaeth Iwerddon. Felly, nid hynny yw'r bwriad. Beth rydym ni'n ei ystyried nawr yw beth yw'r ffordd orau ymlaen er mwyn sicrhau lles yr anifeiliaid hyn.